Neidio i'r cynnwys

Clasuron Rhyddiaith Cymru (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Clasuron Rhyddiaith Cymru (testun cyfansawdd)


golygwyd gan Edward Edwards, Aberystwyth
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Clasuron Rhyddiaith Cymru

CLASURON
RHYDDIAITH CYMRU



CLASURON
RHYDDIAITH CYMRU



WEDI EU DETHOL, GAN

EDWARD EDWARDS, M.A.

ATHRAW HANES YNG NHOLEG CYMRU, ABERYSTWYTH


Bangor
JARVIS & FOSTER, LORNE, HOUSE
MDCCCXCVII



CYNNWYSIAD

RHAGYMADRODD.

Fe gyhoeddwyd o dro i dro amryw gasgliadau o Farddoniaeth Gymreig, ond nid oes neb eto, hyd ag y gwn i, wedi dwyn allan yr un gyfrol fer a chryno o bigion rhyddiaith glasurol Cymru.

Fy amcan gyda'r gyfrol fechan hon ydyw dangos i ieuenctyd Cymru,—yn enwedig i ddisgyblion уг Ysgolion Canolraddol a'r Colegau,—fod y fath beth yn bod a Chymraeg cadarn, ystwyth, safonol, wedi ymddangos yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg; ac nid oes well athraw i ddysgu arddull dlos mewn ysgrifennu a siarad Cymraeg na darllen yn fanwl weithiau digymar yr hen awduron Cymreig.

Ceisiais gyfyngu darnau y llyfr hwn i ysgrifennwyr sy'n cael eu cydnabod gan lenorion yn gyffredinol fel awduron safonol. Credaf nas beiir fi am un darn sydd ynddo: feallai y'm beiir am adael rhannau allan a ddylent fod i mewn. Ond fy esgus barod ydyw fod gennyf awydd cryf am i'r llyfr fod yn fychan, ac felly yn isel ei bris, fel ag i fod yn hawdd o fewn cyraedd pawb a'i myn.

Rhoddais nodyn i mewn ar amser a bywyd y gwahanol ysgrifennwyr,—i ddangos yr adeg y buont byw, a'r helynt a'u cynhyrfodd i gyfansoddi. Os caiff y gyfrol fechan yma dderbyniad gweddol gynnes, bwriadaf ddwyn un arall allan yn cynnwys pigion o ryddiaith ddiweddar,—o lythyrau Goronwy Owen i lawr i ganol y ganrif hon.

Cefais aml gyngor caredig gan gyfeillion lu,caredigion addysg Cymru. Ond nid enwaf ond tri, —fy nghyd-athro Edward Anwyl a fy nghyfeillion. R. E. Jones a J. H. Davies—a roddasant i mi bob cymorth trwy adael i mi chwilio allan am drysorau eu hen lyfrau Cymraeg.

EDWARD EDWARDS.

TANYBRYN,
ABERYSTWYTH.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Mabinogi
ar Wicipedia

Y MABINOGION.

Dyma i ddechreu ychydig ddetholioa o ben ystoriau a adroddid gan yr hen Gymry gynt, ac a drosglwyddwyd i lawr o dad i fab a mam i ferch hyd nes eu hysgrifennu yn "Llyfr Coch Hergest" rywbryd yn y drydedd ganrif ar ddeg. Nid oes dim rhyfeddach a mwy dymunol erioed wedi ei ysgrifennu na'r hen hanesion hyn, a fy anhawsder i ydyw gwybod pa rannau i'w pigo allan gan ddifyred a thlysed yr oll o honynt.

Mae Gwenogfryn Evans wedi cyhoeddi rhai o'r Mabinogion mewn llyfr destlus hanner coron, fel y maent i'w cael yn yr hen lawysgrifau, a J. M. Edwards (Hughes a'i Fab), wedi troi y pedair caingc hynaf, Pwyll, Branwen Ferch Llyr, Manawyddan Fab Lłyr, Math Fab Mathonwy,—i Gymraeg diweddar mewn llyfr bychan hardd o bris swllt.

Cedwais mor agos ag y medrwn at iaith a llythyren "Llyfr Goch Hergest" yn y dyfyniadau, ond rhaid oedd newid tipyn er mwyn eu gwneud yn rhwydd eglur.


Y cwn a welodd Pwyll.Yna edrychodd Pwyll ar liw y cŵn, heb feddwl edrych ar y carw. Ac ar a welsai efe o helgwn y byd, ni welsai gwn unlliw a hwynt. Sef y lliw oedd arnynt oedd claerwyn llathraidd, a'u clustiau yn gochion; ac fel y disgleiriai gwynder y cŵn y disgleiriai cochter eu clustiau. Ac ar hynny at y cŵn y daeth ef. A gyrru ymaith y cwn a laddasai y carw, a llithio ei gwn ei hunan ar ol y carw. Ac fel yr oedd yn denu y cŵn, efe a welai farchog yn dyfod ar ol y cŵn ar farch erchlas mawr, a chorn canu am ei wddf a gwisg o frethyn llwyd am dano yn wisg hela.



Y Gaer a'r
Cawg
Pa hyd bynnag y buant ar y ffordd, hwy a ddaethant i Ddyfed a chyrchasant i Arberth. Cynneu tân a wnaethant, a dechreu bwyta a hela a threulio mis felly, a chynullasant eu cŵn atynt gan aros felly yno flwyddyn. A bore gwaith, codi a wnaeth Pryderi a Manawyddan i hela, a pharotoi eu cŵn a myned oddiwrth y llys i hela. Sef a wnaeth rhai o'r cwn, cerdded o'u blaen a myned i berth fechan a oedd ger llaw. A chydag yr aethant i'r berth, ciliasant yn ol yn gyflym gan godi eu gwrychyn a dychwelyd at y gwyr.

"Nesawn" ebe Pryderi "at y berth i edrych beth sydd ynddi." A nesau parth a'r berth a wnaethant, a phan nesasant, dyma faedd coed claerwyn yn codi o'r berth. Sef a wnaeth y cŵn rhuthro arno trwy hyssio o'r gwyr. Hyn a wnaeth yntau, sef gadael y berth a chilio encyd oddiwrthynt, ac hyd na byddai y gwyr yn agos iddo, cyfarthai ar y cŵn heb gilio rhagddynt, a phan agoshai y gwyr y ciliai eilwaith ac y torai ar ei gyfarth. Ac ar ol y baedd y cerddasant hyd oni welent gaer fawr aruchel, a gwaith newydd arni, mewn lle na welsent na maen na gwaith erioed. A'r baedd a gyrchodd yn fuan i'r gaer a'r cŵn ar ei ol

Ac wedi myned y cŵn a'r baedd i'r gaer, rhyfeddu a wnaethant weled y gaer yn y lle ni welsent gaer erioed cyn hynny. Ac o ben yr orsedd. edrych a wnaethant ac ymwrando ar y cŵn. Pa hyd bynnag y byddent felly, ni chlywent un o'r cwn na dim oddiwrthynt.

"Arglwydd " ebe Pryderi "mi a af i'r gaer i geisio hanes y cŵn."

"Dioer" ebe yntau "nid da dy gyngor fyned i'r gaer hon nas gwelaist erioed, ac os gwnei fy nghyngor i, nid ei di iddi,—a'r neb a ddodes hûd ar y wlad a beris fod y gaer yma."

"Yn wir" ebe Pryderi "ni fynnaf fi golli fy nghŵn." A pha gyngor bynnag a gai efe gan Fanawyddan i'r gaer y cyrchodd. Pan ddaeth i'r gaer, na dyn nac anifel na'r baedd na'r cŵn na thy nac annedd nis gwelai. Efe a welai ar ganol llawr y gaer, ffynnon a gwaith o faen marmor o'i chylch. Ac ar lan y ffynnon, cawg aur uwch ben llech o faen marmor, a chadwynau yn ymestyn i'r awyr, at phen draw nis gwelai iddynt. Ac ymlawenhau a wnaeth yntau wrth deced yr aur a daed gwaith y cawg. A dyfod a wnaeth at y cawg a gafael ynddo. Ac fel yr ymafaelodd yn y cawg, glynodd ei ddwylaw. wrth y cawg a'i draed wrth y llech yr oedd y cawg yn sefyll arni collodd ei lafar fel nas gallai ddweyd un gair, a sefyll a wnaeth felly.



Y forwyn deg a'r amherawdwr A hwy a welsant y forwyn yn eistedd mewn cadair o ruddaur. A gostwng ar ben eu gliniau a wnaeth y cenhadau.

"Ha, wyrda," ebe y forwyn, "ansawdd gwyr dyledog a welaf arnoch ac arwydd cenhadau. Pa watwar a wnewch chwi am danaf fi ?"

"Ni wnawn, Arglwyddes, un gwatwar am danat. Namyn Amherawdwr Rhufain a'th welodd drwy ei hûn. Hoedl ac einioes nid oes iddo am danat. Dy ddewis, arglwyddes, a geffy genym ni,—ai dyfod gyd a ni i'th wneuthur yn amherodres yn Rhufain ai dyfod yr amherawdwr i'th gymryd yn wraig iddo."

"Ha, wyrda," ebe y forwyn, "amheu yr hyn a ddywedwch chwi nis gwnaf fi, na'i gredu hefyd yn ormod. Namyn os myfi a går yr amherawdwr, deued hyd yma i'm nhôl."

A rhwng dydd a nos y cerddodd y cenhadau yn ol, ac fel y diffygiai eu meirch y prynent rai newydd. Pan ddaethant i Rufain, cyfarch gwell i'r amherawdwr a wnaethant ac ebr hwynt

"Ni a fyddwn gyfarwydd iti, arglwydd, ar for ac ar dir, hyd lle y mae y wraig a geri fwyaf, a ni a wyddom ei henw a'i thras a'i bonedd."

Ac yn ddiymdroi yr aeth yr amherawdwr, a'r gwyr yn gyfarwydd iddo, ar ei lwydd. Parth ag Ynys Prydain y daethant dros for a gweilgi..

a daeth rhagddo hyd yn Arfon, ac adnabu yr amberawdwr y wlad fel y gwelodd hi. A phan y gwelodd gaer Aber Seint "Wel di accw" ebr ef "y gaer y gwelais i y wraig fwyaf a garaf ynddi." A daeth i'r gaer ac i'r neuadd.

A'r forwyn a welodd trwy ei hûn yn eistedd mewn cadair o aur, ac ebr efe

Amherodres Rhufain, henffych well."



Olwen. Dyfod a wnaeth hithau, a gwisg o sidan flamgoch am dani, a thorch ruddaur am wddf y forwyn a pherlau gwerthfawr ynddi a rhudd emau. Melynach oedd ei phen na blodau y banadl, gwynnach oedd ei chnawd nag ewyn y don. Na golwg hebog, na golwg gwalch nid oedd decach na'i golwg hi. Gwynnach oedd ei dwyfron na bron alarch gwyn, cochach oedd ei dwy rudd na'r ffuon cochaf. Y sawl a'i gwelai, cyflawn fyddai o'i serch. Pedair o feillion gwynion a fyddai ar ei hol pa ffordd bynnag y delai, ac am hynny y gelwid hi Olwen.



Owain a'r sarff a'r llew a Lunet. Ac ymaith yr aeth Owain, a'i wahodd a wnaeth yr iarles, ef a'i holl nifer. Ac ni fynnai Owain namyn cerdded rhagddo i eithafoedd byd a diffeithwch. Ac fel yr oedd yn cerdded, efe a glywail ysgrech uchel yn y coed,—a'r ail a'r drydedd,—a dyfod yno a wnaeth Owain. A phan ddaeth. yno, efe a welai glogfryn mawr yng nghanol y coed a chareg lwyd yn ystlys y bryn. A hollt oedd yn y garreg, a sarff yn yr hollt, a llew du du a oedd yn ymyl y gareg. A phan geisiai y llew fyned oddiyno, y neidiai y sarff iddo i'w frathu. Ac Owain a dynnodd allan ei gleddyf a nesaodd at y gareg. Ac fel yr oedd y sarff yn dyfod o'r gareg, ei tharo a wnaeth Owain a chleddyf oni fai yn ddau hanner, a sychu ei gleddyf a dyfod i'r ffordd fel cynt.

A gwelai y llew yn ei ganlyn, ac yn chwarei o'i amgylch fel milgi a fagasai ef ei hun, a cherdded a wnaethant ar hyd y dydd hyd y nos.

A phan fu amser gan Owain orffwys, disgyn oddiar ei farch a wnaeth, a gollwng ei farch mewn dol goediog wastad, a chynneu tân a wnaeth. A phan oedd barod y tân gan Owain yr oedd gan y llew ddigon o gynnyd hyd ymhen teirnos. A diflannu a wnaeth y llew oddiwrtho. Ac yn fuan y daeth y llew ato a iwrch mawr teleidiw ganddo. A'i fwrw ger bron Owain, a myned am y tan ag ef, a chymerodd Owain yr iwrch ac a'i blingodd, a dododd olwython. ar farau haiarn o gylch y tån, a rhoddodd yr iwrch, oddigerth hynny, i'r llew i'w ysu.

Ac fel yr oedd Owain felly, efe a glywai waedd uchel—a'r ail a'r drydedd yn agos iddo. A gofyn a wnaeth Owain "Ai dyn yn perthyn i'r byd hwn?" "Ie," ebe'r dyn. "Pwy wyt tithau?" ebe Owain. "Dioer," ebe hi, "Lunet wyf fi, llawforwyn Iarles y Ffynnon." "Beth a wnei di yma ?" ebe Owain. "Fy ngharcharu," ebe hi, "y maent, o achos marchog a ddaeth o Lys Arthur i fynnu yr Iarles yn briod."

A phan fu boeth y golwython, eu rhannu a wnaeth Owain yn ddau hanner rhyngtho a'r forwyn, a bwyta a wnaethant. Ac wedi hynny ymddiddan a wnaethant onid oedd ddydd dranoeth.



Yr hyn a
welodd Peredur.
Yna y cyfarfu ef yn ar ben crug y wraig decafa welsai erioed. "Mi a wn dy hynt," ebe hi, "myned yr wyt i ymladd a'r addanc, ac ef a'th ladd,—ac nid o'i ddewredd namyn o'i ystryw. Ogof y sydd iddo, a philer o faen sydd ar ddrws yr ogof. Ac efe a wêl bawb ar a ddel i mewn ac nis gwêl neb ef. Ac a llech-waew wenwynig o gysgod y piler y lladd efe bawb. A phe rhoddit ti dy grêdi mi i fy ngharu yn fwyaf gwraig, mi a roddwn it' faen fel y gwelit ef pan elit i mewn, ac ni welei efe dydi." "Rhoddaf fy nghrêd i ti," ebe Peredur. "Er pan y'th welais gyntaf mi a'th gerais." Ac yna y diflannodd y forwyn wedi rhoddi y maen yn llaw Peredur. Ac yntau a ddaeth rhagddo tuag at ddyffryn afon, a gororau y dyffryn oedd goed, ac o bob tu i'r afon weirgloddiau gwastad. Ac ar un tu i'r afon y gwelai lu o ddefaid gwynion, ac o'r tu arall lu o ddefaid duon. Ac fel y brefai un o'r defaid gwynion y deuai un o'r defaid duon drosodd, ac y byddai yn wen, ac fel y brefai un o'r defaid duon y deuai un o'r defaid gwynion ac y byddai yn ddu.

A phren hir a welei ar lan yr afon. A'r naill hanner o hono a oedd iddo yn llosgi o'i wraidd hyd ei flaen, a'r hanner arall a dail ir arno. Ac uwch law hynny y gwelai fachgen yn eistedd ar ben bryn, a dau filgi brithion bronwynion yn gorwedd gerllaw iddo, a'r bachgen mwyaf cydnerth oedd a welsei Peredur erioed.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Gruffydd Robert
ar Wicipedia

GRUFFUDD ROBERTS.

Ychydig o hanes Gramadegwr boreuaf Cymru sydd ar gael. Cyhoeddwyd ei brif waith,

"DOSPARTH BYRR AR Y
rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg
lle cair llawer o bynciau an-
hepcor i un a chwen-
nychai na doedyd
y gymraeg yn ddilediaith, nai
scrifennu'n iawn,"

yn 1567, ym Milan: fel y gellid tybied ei fod ym mlodau ei oes раn ddechreuodd y Frenhines Elisabeth deyrnasu. Yr oedd felly yn gyd-oeswr a William Salsbri, a megis mai Protestant poeth oedd cyfieithydd y Beibl, felly Pabydd llwyr oedd awdwr y Gramadeg. Feallai fod y ddau yn adnabod eu gilydd, canys mae'n sicr mai brodor o Ogledd Cymru oedd Gr. Roberts. Y mae dullwedd ei iaith a'r mynych gyfeiriadau at rannau o'r Gogledd yn profi hynny. Dywed mewn un man am ei hiraeth am "lan y Ddyfrdwy" a "llawr Dyphryn Clwyd." Mewn lle arall, pan y mae ef a'i ddisgybl yn ymddiddan am scrifennu gramadeg, dywed ei ddisgybl (mae'n debyg Rhosier Smyth, o Lan Elwy), Mi a'm clown fy hun yn cynhessu oddimewn a'm calon yn cyrchneittio yn fynghorph o wir lawenydd wrth wrando ar draethu Bruttaniaeth yn 'r Eidal megis pe buaswn ynghanol Gwynedd." Fe scrifennodd Gruffudd Roberts amryw lyfrau eraill —yr oll at wasanaeth pabyddion Cymru,—pan yr oedd yn gyffeswr i Cardinal Borromeo, ym Milan.

Yr wyf yn cyhoeddi rhannau helaeth o'i "Ddosparth Byrr" oherwydd prydferthwch ei arddull ac ystwythdar ei iaith. Yr oedd ei gariad at Gymru a'i hanes a'i hachos yn angerddol, a gwnaeth wasanaeth dirfawr i'r Gymraeg trwy ei serifennu mewn dull mor ddeniadol ac eglur. Canmolir ei arddull a'i iaith yn uchel gan Morus Kyffin, yr hwn a ddywed ei fod "yn ddarn o waith dyscedig ynghelfyddyd gramadec, mor buraidd, mor lathraidd ag mor odidawg ei ymadroddiad na ellir damuno dim perffeithiach yn hyny o beth."

Cyhoeddwyd, yn 1883, adargraff o'r hen Ramadeg gan Henri Gaidoz a D. Silvan Evans. Yn y darnau hyn newidiais ei sillebiaeth er mwyn ei wneud yn haws i'w ddarllen, oherwydd yn y gwreiddiol ceir I, d, ac u am ll, dd, ac w, ac wrth ben a yn fynych mae hirnod pan y saif am un. Cywirais ambell i air hefyd lle yr oedd cam-argraff amlwg, canys cwyna Gruffudd Roberts ei hun

nad oedd yr Italiaid ym Milan yn deall eu gwaith na iaith ei lyfr.

GRAMADEG GRUFFUDD ROBERTS.

YR IAITH GYMRAEG
yn erchi gan dduw, lwiddiant a hyfryd
gynnydd mewn gras, anrhydedd, a
gogoniant i'w hanrhydeddusaf
bennadur, ai diball nodded
Wiliam Harbart
Iarll o Benfro
ag Arglwydd o Gaer dydd.

Y Gymraeg yn erfyn nodded Wrth fyngweled fyhun, er ysllawer o flynyaddoedd, heb bris gan neb arnaf trwy ynerfyn dir Cymru, na chwaith ddim gennyf mewn scrifen na phrwyth ynddo i hyphorddi mewn dysg a dawn fyngharedigion bobl: mi a dybiais (f'anrhydeddfawr Bennaeth) mae da oedd ymy fyned trwy wledydd Ewropa i edrych ymysc ieithoedd eraill. a gaid yrun cyn ddiystyred i chyflwr a mi, ag mor ddiles i'r bobl sy'n i doedyd. Ond wedi ymy gerdded o fraidd benn yr Hyspaen trwy Phraingc, Phlandria, ag Alemania, a'r Eidal hyd eithaf Calabria tan ymofyn ymhob lle am gyflwr, braint, a helynt yr ieithoedd sydd tu draw i hynny, ni fedraisi weled na chwaith glowed oddiwrth yrun na bai уп cael gwneuthur yn fawr of honi ymysc pawb sydd o naturiaeth yn ei doedyd. Ag wrth fod pob un o honynt yn cael i'mgeledd a'i pherchi gen i phobl, hithau drachefn, i wneuthur iawn am y caredygrwydd a gafodd, sy'n traethu i'w phobl bob peth a fo gwiw i wybod, hyfryd i glowed, a gogoneddus i wneuthur. Canys nyd oes nag ystori i ddyscu henafiaeth na chylfyddyd o enw a lles na gwybodaeth o ddim a dalai i ddysgu nas darfu i'r Hyspaniaith, Phrangeg, a'r Eidaliaith i tanu, ai hau ymysc gwyr i gwlad i dalu am i magwriaeth ai'mgeledd. Pan welais innau hynny, e fu ryfedd iawn genyf fod y cymru mor ddiddarbod am danaf, a minnau mor ddifudd iddynhwythau; yn anwedig wrth weled fod fynghymru i, o athrylith a synwyr yn abl i'mgystadlu a'r rhai gorau yn imysc nhwy, a minnau mor llawnllythr im scrifennu cyn gyfoethocced o eiriau, cyn hyned fynechreuad a'r falchaf o'r ieithoedd a henwais. Ynol hir ymgynghori a dyfal fyfyrio e farnwyd nad oedd fodd i mi godi fynghefn i fynu i wneuthur lles i'r gwyr imtrefnodd duw iddynt, nes cael onof yn ganllaw ag yn nodded ym, wr ai ewyllys yn damuno da ymy, ag ai bwyll yn abl i weled y phordd a fyddai im dyrchafu, a hefyd, o rym. yn gallu dwyn i benn y peth a ddamunai ag a farnai yn dda ar fy lles. Felly wrth fwrw fy llyfrau ag edrych ple cawn y fath ganllaw a gynghorwyd ymmy i cheisio, mi a welaf fod yn ych arglwddiaeth chwi bob un o'r tri phwnc sydd anghenraid i mi wrthyn. Canys e wyr holl Gymru a Lloegr faint ych serch i'r fruttaniaith, pryd na ddoedech wrth Gymro ond Cymraeg, ie, ymysg penaduriaid y deyrnas, mal y clowais fagod o wyr yn doedyd, tan fawr ddiolch i Dduw, weled i pennaeth mewn gradd, a lle cyn uched, yn dangos dirfawr serch of wlad naturiol ar i'mddygiad ai'madrodd. A bid diau gennych (farglwydd. urddassol) fod calon pob gwir Gymro yn crychnneittio yn i gorph o wir lawenydd pan glowo wr o'ch anrhydedd chwi yn doedyd i iaith: canys nid oes dim i ennill calonnau adeiliaid yn gystal ag ymgeleddu i hiaith a siarad wrthyn bob un yn i iaith naturiol. Hynny a wnaeth fod Mithridates mor enwog,—gwr oedd a dwy deyrnas arhugain tano,—ag yntau yn medru ymddiddan a phawb yn i dafod ihun. Hynny a wnaeth i Garolus y bumed fod cimaint i allu am nad oedd raid iddo wrth un ieithydd i'mddiddan ai holl adeiliaid er i bod o amrafael genedloedd. Hyn a wnaeth ich anrhydedd chwithau fod cimaint i gariad ynghymru am ych bod mor gariadus i'r Gymraeg ag yn i medru mor hyfedr. Tu ag at am bwyll i ddyfeisio phyrdd i'm gossod i rhagof, a grym i wneuthur y peth a welech yn dda, mae pawb yn gwybod nad oes moi diphig ynoch; gan fod yn eglur, nid o fewn Lloegr yn unig, eithr ymhob mann y mae son am dani, nad oes dim a phrwyth ynddo yn perthynu at stad y deyrnas mewn heddwch a rhyfel ond a luniwyd trwy'ch cyngor, ag a wnaethbwyd trwy'ch grym a'ch cymorth a'ch anorphwys lafur. Am hynny y mae gennyfobaith yrowron, y byddwch ymy yn arglwydd da i'mdiphin rhag argowedd a drwg, ag i'm helpu wrth geisio ymossod allan i ddangos f'wyneb ymyse yr ieithoedd eraill nid ydynt well i braint no minnau: ond cael o honynt imgeledd ai mowrhau gan bennaduriaid a boneddigion i gwlad, ag wrth hynny gadel llawer arnafi a fum cyd heb nag ymgeledd na mowrhaad. Etto pe cawn ynawr ddechrau'mdrwsio tan ych aden chwi, a gweled o bawb fod wyneb yn pennaeth tu ag attaf, e fyddai bob Cymro barod im studio, im cyfoethogi agi'm gwneuthur yn hylwybr ac yn berffaith. Yrhwnn beth os cenhiada ych daioni chwi ymy, mi a obeithiaf, cyn nemawr o ennyd y gwelir o'mgwaithi ymysg y cymru lawer pwnc o ddysg a gwybodaeth ni ellais 'moi ddangos iddynt hyd yn hynn. Canys wrth y cydnabod a gefais ag ieithoedd eraill, yn hwyr yrowron mi allaf pan fynnwyf gael genthynt bob peth a berthyn at gampau a chynneddfau gwyr rhinweddol, gynghordioledd gramadeg, flodeuau retorigyddiaeth, ystriw dialectigyddiaeth, cowreinrhwydd meddygon, pwylledd dinasswyr, gwybodaeth philosophyddion, gorchestion milwyr, duwioldeb theologyddiaeth i ddyscu, helpu, diddanu a pherpheiddio gwyr fyngwlad ymhob peth a fo golud iddynt, hyglod yngolwg y byd, a chymradwy gar bron Duw. Yn hynn o orchwyl, os ych anrhydedd chwi a fydd awdur, nodded a chynhorthwy ymy, chwi a gewch yn ddiogel glod tra barha iaith y Bruttaniaid, a gwasanaeth ufudd didwyll genthynt i chwi a'ch etifeddion yn y byd yma, a thal didranc gan Dduw yn y byd sy'n dowad, yrhwn a danfono iwch rwydddeb, a chynnyrch ymhob llawenydd a daioni wrth fodd ach caro

Ych phyddlonaf law forwyn

yr iaith gymraeg




IAITH GAMBR YN
annerch yr hygar ddarlleydd.

Anerch
y Gymraeg
Aristoteles, gwr o ragoriaeth mewn dysc a gwybodaeth a ddowad am bob celfyddyd mae bychan ag anrhefnus fydd it dechreuad; ac yna bob ychydig tyfy ag ymdacclu a wna, nid ar unwaith, ond o amser i amser trwy fod eraill yn gweled ag yn bwrw at y dechreuad ryw beth nis canfu na'r cyntaf na'r ail. Er bod y dechrau fynychaf yn llai no'r ddarn a roesswyd wrtho; etto mae'n galettach ag yn fwy clod ddychmygu ychydig o newydd nog yw trefnu hyny ai chwanegu yn helaethwych. Am hynny na fid diystr na diflas gennyt fyngweled i yn ymddangos mor ddisas ac anhylwybr, canys honn yw'r awr gyntaf yr amcanwyd fynwyn i lwybr celfyddyd. Yr ydoedd y beirdd rhyd Cymru yn ceisio fynghadw rhag colli ne gymyscu a'r Saesnaeg. Ond nid oedd genthynt ffordd yn y byd, nag y ddangos yn fyrr ag yn hyffordd yr odidowrwydd sydd ynof rhagor nog mewn llawer o ieithoedd, na chwaith i fanegi rhessom am fagod o ddirgelion a gaid i gweled, ond chwilio yn fanwl amdanynt, mal y mae gramadegrwyr da yn gwneuthur, pawb ini iaith ihun. O herwydd hynn, gan nad wyf ond dechrau etto, rhaid itti (ddarlleydd howddgar) pan welych ar hynn o gais ddim a allesid i ddoedyd wedi adel allan ne ryw beth wedi gyfleu allan oi ddyledus le, ne ddiphig mewn rhyw phordd arall, beidio a gwradwyddo'r neb, o ewyllys da ymy, a'mcanodd fynwyn i fraint celfyddyd. Eithr os perpheiddid di y peth a ddechreuawdd ef, heb ddoedyd iddo mor absen nes dwyn hynny i benn, mae ytty fawr ddiolch gennyfi a chantho yntau; canys nid ydyw ef yn tybied fod hynn yn agos i'r perffeiddrwydd y gweddai iddo fod, eithr i geisio denu rhai ai medrai yn well ef a wnaeth orau gallodd yn y drafferth ar blinder y mae ynddo heb gael ennyd im taclusi mal y damunai: a heb genfigen wrth neb a wnelo yn well nog ef, ond diolch yn gynt iddo am ddwyn i ben y peth a wnaethai ef ihun pes gallasai. Na ryfedda chwaith weled cimaint o fiau wrth brintio, canys yr ydoedd y dynion oedd yn gweithio heb fod nag yn gyfarwydd yn yr iaith nag уп ddisceulus ar i gorchwyl, nag yn rhowing of trin ag i gweirio'r pethau a fethai genthynt. Heb law hynn, yr oedd arnynt eisie llythrennau ag amryw nodau afuasai raid wrthynt i brintio yn gyflawn bob pwnc a berthynai attaf. Rhaid i mi ddamuno ar bob Cymro bonheddig a rhowiog na bo mwy annaturiol i mi nog yw pobl eraill i iaith i mammau.

E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geisio ymwrthod a mi ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim [o] honi. Canys chwi a gewch rai yn gyttrym ag y gwelant afon Hafren, ne glochdai Ymwithig a chlowed Sais unwaith yn doedyd "good morow," a dechreuant ollwng i Cymraeg dros gof ai doedyd yn fawr i lediaith Cymraeg a fydd saesnigaidd, ai Saesneg (Duw a wyr) yn rhy gymreigaidd. A hyn sy'n dyfod naill ai [o] wir pholder, yntau o goeg falchder a gorwagrwydd: canys ni welir fyth yn ddyn cyweithas rhinweddol mo'r neb a wado nai dad nai fam nai wlad nai iaith. Eithr mi a obeithia o hynn allan trwy nerth Duw, athrylith, diwydrwydd a gwiw fyfyrdod fynghymru cariadus, y bydd genthyn nhwy fwy o serch i mi, a chan innau fwy o ddiddanwch a golud iddynt hwythau: oblygyd hynn ydwyf yn adolwg i bob naturiol Gymro dalu dyledus gariad i'r iaith Gymraeg: fal na allo neb ddoedyd am yr un o honynt mae pechod oedd fyth i magu ar laeth bronnau Cymraes am na ddamunant well i'r Gymraeg.

Bydd wych.

Y PRYLOG NE'R RHA-
gddodiad yn cynnwys yr achos a fu
i son am y Gymraeg ag i'mrys-
symu ynghylch y gra-
madeg.

Gr. Mae yn esmwythach arnom o beth, ag yn lai'r boethfa, er pan ddoethom i'r winllan hon nog ydoedd tra fuom yn ty gartref. Canys yno'roedd gwres anosparthus i'n poeni a myllni (o eisieu awyr a gwynt) ddygon i fygu dynnion; Ond yma, mae cangau a dail y gwinwydd i'n cadw rhag pelydr yr haul, a'r gwynt arafaidd o'r gogledd yn oeri, ag yn difyllu y rhodfa a'r eisteddfa hon, fal na bo cyn flined. arnom ganol dydd, ag a fu y dyddiau a aeth heibio.

Mo. Er bod yn deg y fangre lle'r ydym, ag yn hyfryd gweled y dail gwrddleision yn gyscod rhag y tes, ag yn ddigrif clowed yr awel hon or gogleuwynt yn chwythu tan frig y gwynwydd i'n llawenychu yn y gwres anrhysymol hwn sydd drwm wrth bawb a gafodd i geni ai meithrin mewn gwlad cyn oered ag yw tir Cymru: etto mae arnaf hiraeth am lawer o bethau a gaid ynghymru i fwrw'r amser heibio yn ddifyr ag yn llawen wrth ochel y tés hirddydd haf. Canys yno, er poethed fai'r dymyr, ef a gaid esmwythdra a diddanwch i bob bath ar ddyn. Os byddai un yn chwennychu digrifwch e gai buror ai delyn i ganu mwyn bynciau, a datceiniaid peroslau i ganu gida thant, hwn ai fynnychwi ai mawl i rinwedd ynta gogan i ddrwgcampau. Os mynnych chwithau glowed arfer y wlad yn amser ein teidiau ni, chwi a gaech henafgwyr briglwydion a ddangossai iwch ar dafod laferydd bob gweithred hynod a gwiwglod a wneithid trwy dir Cymru er ys talm o amser. Ond os myfyrio a ddamunych ne ddarllain ar ych pen ych hun, chwi a gaech ddewis lle cymwys i hynny, er maint fyddai boethni'r tes,—naill ai mewn tai gleision hafaidd ne gar llaw'r dyfr rhedegog mewn glyn ag irgoed, ne mewn dyphryn llysseuawg, ne ar ael doldir meillionawg ne mewn cadlas o fedw ne o ynn planedig, ne ar fynydd amlwg awelog, ne mewn rhyw gyfle arall lle ni byddai na blinder na lludded wrth wres yr hinon. Ond ynghylch y dref hon nid oes dim tebig; canys os i ogo y cyrchwch ne i gilfach heb haul yn towynnu un amser arni, chwi a gewch oerfel angheuawl, os yntau mewn lle amlwg y trigwch y brydni a dawdd frain ac adar; os aros a wnewch yn ty chwi a fygwch gen fyllni, a'r gwinIlannau o'r fath yma, er i bod yn deg yr olwg arnyn ag yn hyfrydach aros ynddyn nog mewn mannoedd eraill o'n hamgylch, etto ni chynhessa calon Cymro wrthynt megis y gwnai wrth lan Dyfrdwy ne lawr Dyphryn Clwyd; ne wrth aml i leoedd a fedrwn i henwi o faenol Dewi i Gaergybi ym Mon. A phe bai'r lle o hono ihun yn gystal ar fan ore ynghymru, eto e lawenychai fynghaloni yno yn gynt wrth glowed y gog yn canu nog a wnai yma wrth glowed perbynciau'r eos ne fwynlais bronfraith ne lathreiddgan mwyalch ne pe gwnaid musig cysson cyfangan o gydlais paradwysaidd holl adar y byd yn yr unlle.

Gr. Ych dirfawr gariad i'r wlad sydd yn peri hynny gwir felly a ddowad y phylosophydd na bydd uniawn barn lle bo cariad ne gas yn rheoli. Canys digassedd a wyl fai lle ni bo, a chariad weithiau a farna'r bai yn rhinwedd. Wrth hynny, tra for cimaint ych serch i Gymru anodd iwch fod yn ustus cyfiawn rhyngthi ag estronwlad yn y byd. Felly am fod cyn hophed gennych y wlad ar bobl, ni welwn i ddim well i ddifyrru'r amser na siarad am bethau cymreig, ag edrych beth a wnai les iddynt a fyddai ar ych llaw chwi i ddwyn i ben.

Mo. Gwir iawn a ddoeduch, am hynny moesswch weled a fyddai bossibl i ni wneuthur mal y gwnaeth llawer o'r Groegwyr a'r Lladinwyr gynt pan yrrid nhwy ar darfysc i ryw gilfach neulltuawli dario: yno'r scrifonnent hwy riw beth i hyphorddi gwyr it gwlad mewn rhinwedd dysc ne bethau eraill a fyddai lles, urddas a gogoniant iddyn, fal y gwnaeth Tullius i lyfrau o philosophyddiaeth gan mwyaf i gyd.

Gr. Nid gwiw ini edrych am wneuthur yn debig i'r gwyr o'r amser a'r gwledydd hynny gan nad oes yn y to sydd heddiw un synwyr abl i'm gystadlu ar athrylith oedd genthynt hwy. . . . A ninnau sydd heb yrun o'rhain gennym, na chwaith (am yn bod суп belled oddi cartref) fodd i graphu ar yr iaith sathredig ymysc y cyphredin. O herwydd hyn pe gallem gael gwybodaeth wrth ddarllen llyfrau o ieithiau eraill am lawer o bethau a dalent i dyscu ai treuthu, etto, e fydd caledi mawr pan geissier cyfieuthu a throi yr unrhiw bethau i'r Gymraeg, am fod уп brin y geiriau gennym er bod yr iaith ohoni ihun cyn gyfoethocced ag un arall.

Mo. Gedwch iddo, er nas gallom wneuthur yn gystal ag y damunem; ef alle y bernir yn ewyllys ni yn dda am wneuthur a allem, canys lle pallo'r grym, ewyllys da a haedda glod. Hefyd gwell, rhag bod yn segur, ag i ddifyrru'r amser, siarad am y Gymraeg yn gynt nog am oferedd gan na ad y brydni anfeidrawl i ni yr owran studio dim a phrwyth ynddo.

Gr. Yn enw Duw, gyfynnwch y peth a fynnoch, minnau a'ttebaf yn orau mettrwyf. Ond, yn fy marni, gorau oedd yn gyntaf son am ramadeg. Canys oddyno byddau ddechrau os mynnem i'r iaith gynnyddu yn llwyddiannus.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Morgan (esgob)
ar Wicipedia

WILIAM MORGAN.

Fel cyfieithydd yr holl Feibl i'r Gymraeg yr anwylir enw Wiliam Morgan, a gweddus iawn oedd codi cofadail iddo, ac yscrifennu ei hanes yn fanwl ar dri chan mlwydd y Beibl yn yr iaith Gymraeg. Daeth yr argraffiad o'r holl Y'scrythur Lån allan yn 1588,—blwyddyn fawr gorchfygu llynges Yspaen a gallu y Påb,

Nid Wiliam Morgan oedd cyfieithydd cyntaf yr Yscrythur i'n iaith ni. Credir fod gan yr hen Gymry ran—gyfieithiad o hono mewn yscrifen: daeth cyfieithiad Wiliam Salsbri, cymydog Wiliam Morgan o'r Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Gyffredin allan yn 1567, mewn Cymraeg lled afrosgo ac esgymiog. Yr oedd y Beibl yn llaw y Saeson yn gyffredin erbyn yr adeg hon, canys ymddangosodd y Testament Newydd wedi ei droi i'r Saesneg gan Wiliam Tyndal mor foreu a 1526, a bu aml argraffiad o hono gan fawr awydd y werin am wybodaeth yscrythurol. Daeth yr holl Feibl, sef Beibl Miles Coverdale, allan yn 1535, dan awdurdod y Goron, ac yn 1560 wele gyfieithiad arall o'r Beibl, sef Beibl Geneva, gan y Cristnogion Seisnig aeth ar ffo i Geneva—cartre Calfiniaeth rhag creulon lidiog erledigaeth y Frenhines waedlyd Mari.

Ond 1588 ydyw'r flwyddyn fawr yn hanes cyfieithiad y Beibl Cymraeg, a fel hyn y mae ei deiti:

Y Beibl Cyssegr-Lân, Sef yr Hen Destament a'r Newydd
Imprinted at London by the Deputies of Christopher Barker,
Printers to the Queen's most Excellent Majestie.
1588."

Ganwyd Wiliam Morgan tua 1547, yn y Wybrant,—lle tlws, rhamantus ar gyffiniau plwyfi Penmachno a Dolyddelen yn Nant Conwy,―lle oedd yn nodedig am nifer o ddynion dyscedig a fagwyd eisoes ynddynt. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Ioan Sant yng Nghaergrawnt, lle y graddiodd yn D.D., ac yn 1575 fe'i gwelir yn ficer y Trallwm. Bu yno am flynyddoedd yn gweithio yn galed a gonest gyda'i gyfieithiad a'i bregethu, ond yn 1585 fe'i gwysiwyd o flaen Archesgob Whitgift i ateb amryw gyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn. Nid yn unig fe'i profwyd yn ddieuog, ond daeth yr Archesgob yn un o'i brif gefnogwyr i ddwyn allan yr oll o'r Beibl, canys rhyfeddodd at ei ddysceidiaeth ac at ei onestrwydd diwyrni a'i gariad mawr at ei genedl oedd eto heb gael yr Yscrythur yn ei hiaith. Yn ei lythyr cyflwyniad i'r Frenhines Elisabeth, dywed Morgan i Whitgift fod yn un o'i brif noddwyr, —ac enwa hefyd Wm. Hughes, Esgob Llanelwy, Hugh Bellot, Esgob Bangor, Gabriel Goodman, Deon Westminster, Dr. Powell, yr Archddiacon Edmund Prys, a Richard Fychan, Esgob Llundain.

Gwaith cariad oedd cyfieithu'r Beibl i Wiliam Morgan,—eto cafodd ychydig o dal mewn swyddi Eglwysig am ei fawr lafur, canys yn 1595 cafodd Esgobaeth Llandaf, ac yn 1601 fe'i hetholwyd yn Esgob Llanelwy, lle y bu farw yn 1604, a lle codwyd colofn gôf ar ei fedd yn 1888.


Mae'n hawdd yscrifennu llawer ar fywyd llawn gwaith a llafur a llwyddiant yr Esgob Morgan, ond mae yn barod amryw gofiannau iddo, gan Charles Ashton a chan y Parch. Wiliam Hughes, Llanuwchllyn, sy'n rhoddi ei hanes yn llawn.

Y mae ei Gymraeg yn cael ei gydnabod gan bawb yn Gymraeg safonol, yn ystwyth, yn feistrolgar, a byw. Creodd ymddangosiad ei Gymraeg ef ddull newydd a gwell o yscrifennu, canys y mae y gwahaniaeth rhyngddo ef a'r rhan fwyaf o'r llyfrau a brintiwyd o'i flaen yn ddirfawr.

Copiais y ddwy bennod o lob ac Esay a'r tair Psalm yma o gopi o'r Beibl sy'n llyfrgell Coleg Aberystwyth, a maent fel yr yscrifennodd Wiliam Morgan hwynt. Pigais y rhannau lled wybyddus yma er mwyn i'r rhai a'u darllenno gael eu taro gan y gwahaniaeth rhyngddynt a Chymraeg presennol ein Beibl. Y mae llyfr Iob wedi ei ddwyn allan eisoes gan Mr. Gwenogfryn Evans, a gobeithio yn fawr y caiff y cyfleustra yn fuan i gyflawni ei addewid o ddyfod a rhannau eraill allan yn ei ddull campus ei hun.

IOB XXIX.

Iob yn hiraethu am y gwynfyd gynt. 12 Yn datcan ei fuchedd. 21 Ac yn mynegu ei barch.

1. YNa Iob a barablodd trachefn, ac a ddywedodd,

2. Oh na bawn i fel yn y misoedd o'r blaen: fel yn y dyddiau pan gadwe Duw fyfi.

3. Pan wnae efe iw oleuni lewyrchu uwch fy mhen: wrth oleuni yr hwn y rhodiwn drwy dywyllwch.

4. Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuengtid, ac ymgeledd Duw ar fy mhabell.

5. Pan [oedd] yr Holl-alluog etto gyd a mi a'm llangciau o'm hamgylch.

6. Pan olchid fy nhraed ag ymenyn: a [phan] dywallde y graig arnafi afonydd o olew.

7. Pan awn i allan i'r porth trwy'r dref: parwn baratoi fy eisteddfa yn yr heol.

8. Llangciau a'm gwelent ac a ymguddient: a henuriaid a gyfodent, ac a safent.

9. Tywysogion a attalient eu ymadroddion: ac a osodent [eu] llaw ar eu genau.

10. Pendefigion cymmen a ymguddient: ai tafod hwy a lyne wrth daflod eu genau.

11. Canys y glust [a'm] clywe a'm bendithie: a'r llygad [a'm] gwele a destiolaethe o honof.

12. Canys gwaredwn y tlawd yr hwn a fydde yn gweiddi a'r ymddifad, a'r [hwn] ni [bydde] gynnorthwy-wr iddo.

13. Bendith y colledig a ddeue arnaf: a gwnawn it galon y wraig weddw lawenychu.

14. Gwiscwn gyfiawnder, a hithe a wisce am danafi: a'm barn [fydde] fel mantell a choron.

15. Llygaid oeddwn i'r dall: a thraed oeddwn i'r cloff,

16. tâd oeddwn i'r rhai anghenog: a'r cwyn [yr hwn] nid adwaenwn, a chwiliwn i allan.

17. Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn: a gwnawn iddo ef fwrw'r sclyfaeth allan o'i ddannedd.

18. Am hynny y dywedwn, byddaf farw yn fy nŷth: a byddaf morr aml [fy] nyddiau a'r tywod.

19. Fyng-wreiddin [oedd] yn agored i'r dyfroedd: a'r gwlith a arhosodd yn fy mrig.

20. Fyng-ogoniant oedd ir gyda mi a'r bwa a adnewydde yn fy llaw.

21. Hwynt a wrandawent arnaf, ac a ddisgwilient: distawent am fyng-hyngor.

22. Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy ailwaith: canys fy ymadrodd a ddifere arnynt hwy.

23. A hwy am disgwilient i fel glaw: ac a agorent eu genau fel [am] y diweddar-law.

24. Chwarddwn arnynt hwy [ond] ni chredent: ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio.

25. Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu: megis yr hwn a gyssuro rai galarus.



IOB IX.

Iob yn cydnabod gallu, cyfiawnder a doethineb Duw: a diffig dyn, ac er hyny yn cwyno rhac ei adfyd.

I. AC Iob a atebodd, ac a ddywedodd,

2. Yn wir mi a wn mai felly [y mae:] canys pa fodd y cyfiawnheuir dŷn, [o chyd-ystyrir ef] a Duw?

3. Os myn efe ymryson ag efo: nid ettyb iddo ef [am] un [peth] o fil.

4. Y mae efe yn ddoeth o galon ac yn alluog o nerth: pwy a galedodd [ei galon] yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd ?

5. Yr hwn sydd yn symmud mynyddoedd heb wybod iddynt yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint.

6. Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaiar allan o'i lle: fel y cryno ei cholofnau hi.

7. Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr.

8. Yr hwn sydd yn tanu y nefoedd unic: ac yn sathru ar donnau y môr.

9. Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac stafelloedd y dehau.

10. Yr hwn sydd yn gwneuthur [pethau] mawrion anchwiliadwy a rhyfeddodau aneirif.

11. Wele efe aiff trosofi, ac nis gwelaf: ac efe a aiff heibio, ac ni chanfyddaf mo honaw.

12. Wele efe a sclyfaetha, pwy a wna iddo dalu? pwy a ddywed wrtho ef, pa ham y gwnei di [felly ?]

13. Ni thrŷ Duw ei ddigllonedd ymmaith: tano ef y crymmwyd cynhorthwy-wŷr balchder.

14. Pa faint llai'r attebaf iddo ef? [ac] y gallaf ddewis fyng-eiriau [iw dywedyd] wrtho ef?

15. I'r hwn pe bawn cyfiawn nid atebwn, eithr ymbiliwn a'm barn-wr.

16. Os galwn, a phe atebe efe i mi, ni chredwn y gwrandawe efe fy lleferydd.

17. Yr hwn a'm dryllio a chôr-wynt: ac a amlhâ fy archollion уп ddi-achos.

18. Ni ddioddef efe i mi gymmeryd fy anadl attaf: canys efe a'm lleinw a chwerwder.

19. Os am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am gyfraith, pwy a ddadleua trosofi ?

20. Os myfi a ymgy fiawnhaf fyng-enau a'm barn yn euog: [os] perffaith [y cymmerwn i arnaf fy mod] efe a'm barn fi yn drofaus.

21. Pe byddwn berffaith [etto] nid adwen i fy enaid: ffaidd gennif fy enioes.

22. Dymma un peth, am hynny y dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith fel уг annuwiol.

23. Er lladd o honaw ef a ffrywyll yn ddisymmwth: a watwar efe am benn cospedigaeth rhai dinwed.

24. Y ddaiar a roddwyd yn llaw'r annuwiol, efe a fwrw hûg dros wynebau ei barn-wŷr hi onid e, pa le [y mae efe a] phwy [yw efe a ddengys y gwrthwyneb ?]

25. A'm dyddiau mau fi fuant gynt na rheddeg-wr: ffoasant heb wêled daioni.

26. Aethant heibio [megis] gyda llongau buan: megis yr eheda eryr at ymborth.

27. Os dywedaf, gollyngaf fyng-hwyn dros gof: mi a adawaf fy nigllondeb, ac a gryfhâf.

28. [Yna yr] ofnaf fy holl ddoluriau gwn na'm berni yn wirion.

29. [Os] euog fyddaf: pa ham yr ymflinaf felly yn ofer ?

30. Os ymolchaf mewn dwfr eira: ac [os] glanhaf fy nwylaw yn lân:

31. yna di a'm trochi mewn pwll: a'm dillad a'm drewant.

32. Canys nid gŵr fel myfi [ydyw yr hwn] ymae yn rhaid i mi ateb iddo ef, [pan] ddelom yng-hyd i'r farn.

33. Nid oes rhyngom ni ddyddiwr [yr hwn] a osodo ei law arnom ein dau.

34. Tynned ymmaith ei wialen oddi arnaf: ac na ddychryned ei ddychryn ef fi.

35. Yna y dywedaf, ac nid ofnaf ef: canys nid ydwyfi felly ynof fy hun.



PSALM XCI.

1. YR hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf a erys yng-hyscod yr Holl-alluoc.

2. Dywedaf wrth yr Arglwydd, fyng-obaith a'm hamddeffynfa [ydwyt,] yn fy Nuw y gobeithiaf.

3. Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr, [ac] oddiwrth haint echryslon.

4. Ai ascell y cyscoda efe trosot, a thann ei adenydd y byddi ddiogel ei wirionedd [fydd] darian ac astalch [i ti].

5. Nid ofni rhag dychryn nôs, [na] rhag y saeth a cheto'r dydd.

6. [Na] rhag yr haint yr hwn a rodio yn y tywyllwch, [na] rhag y dinistr a ddinistrio hanner dydd.

7. Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng-mil wrth dy ddeheulaw: ond ni ddaw yn agos attat ti.

8. Etto canfyddi a'th lygaid, a gwêli dal y rhai annuwiol.

9. Canys ti o Arglwydd [wyt] fyng-obaith, uchel y gosodaist dy bresswylfa.

10. Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw plâ yn agos i'th babell.

11. Canys efe a orchymyn i'w angelion am Matth.4.6 danat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.

12. Ac ar eu dwylo i'th ddygant, rhag taro dy droed wrth garrec.

13. Ar y llew, a'r asp y cerddi ar genew llew, a'r ddraig y sethri.

14. Gwaredaf ef hefyd am roddi o honaw serch arnaf: derchafaf ef am adnabod o honaw fy enw.

15. Efe a eilw arnaf, a mi ai gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gyd ag ef, y gwaredaf ef, ac y gogoneddaf ef.

16. Digonaf ef â hir ddyddiau: a dangosaf iddo fy iechydwriaeth.

PSALM XXXIII.
Psalm Dafydd.

1. EIDDO' yr Arglwydd y ddaiar, a'i chyflawnder y byd, ac a bresswylia ynddo. Boreuol weddi

2. Canys efe a'i seiliodd ar y môroedd: ac ai paratodd ar yr afonydd. Deut. 20. 14.

3. Pwy a escyn i fynydd yr Arglwydd, a phwy a saif yn ei lê sanctaidd ef? Iob 28.12, I Cor. 10.28

4. Y diniwed [ei] ddwylo, a'r glân [ei] galon: yr hwn ni dderchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo [ei gymmydog].

5. Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iechydwriaeth.

6. Dymma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef, [sef] y rhai a geisiant dy wyneb di ô Iacob. Selah.

7. O byrth derchefwch eich pennau, ac ymdderchefwch ddrysau tragywyddol: a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

8. Pwy yw yr brenin gogoneddus hwnnw? уг Arglwydd nerthol a chadarn: yr Arglwydd. cadarn mewn rhyfel.

9. O byrth derchefwch eich pennau, ac ymdderchefwch ddrysau tragywyddol, a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

10. Pwy yw'r brenin gogoneddus hwnnw? Arglwydd y lluoedd, efe [yw] brenin y gogoniant. Selah.

PSALM LXXXIII.

At y pen-cerdd ar y Gittith. Psalm i feibion Corah.

1. MOr hawddgar [yw] dy bebyll di o Arglwydd y lluoedd.

2. Fy enaid a chwênychodd, ac a fysiodd hefyd am. dy gynteddau di o Arglwydd: fyng-halon a'm cnawd a orfoleddant yn Nuw byw. 3. Aderyn y tô hefyd a gafodd dŷ, a'r wennol nŷth iddi, lle y gesid ei chywion: sef dy allorau di ô Arglwydd y lluoedd fy Mrenin a'm Duw.

4. Gwynfyd preswylwyr dy dŷ yn wastad i'th foliannant. Selah..

5. Gwyn ei fyd y dŷn y mae ei gadernid ynot, [a'th] ffyrdd yn ei galon.

6. Y rhai sydd yn myned trwy ddyffryn wylofain a'i gosodant yn ffynnon, a'r glaw a leinw y llynnau.

7. Aant o nerth i nerth, [ac] ymddengys [pob un] ger bron Duw yn Sion.

8. O Arglwydd Dduw'r lluoedd clyw fyng-weddi, gwrando o Dduw Iacob. Selah.

9. O Dduw ein tarian gwel, ac edrych wyneb dy eneiniog.

10. Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw o flaen trigo ym-mhebyll annuwioldeb.

11. Canys haul a tharian yw'r Arglwydd Dduw, yr Arglwydd a rydd râd a gogoniant: ni attal efe ddaioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.

12. O Arglwydd y lluoedd gwynfyd y dyn a ymddiriedo ynot.



ESAY.
PEN. XL.

Efangylaidd gyssur i'r Eglwys. 3 Galwedigaeth Ioan fedyddiwr. 12 Gallu Duw i gyflawni y cyssur uchod. 18 Ofered yw pob delw. 22 Duw'n unic sydd Ollalluog.

1. CYssurwch, cyssurwch fy mhobl, medd eich Duw.

2. Dywedwch wrth fodd Ierusalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth: canys maddeuwyd ei hanwiredd, oherwydd derbyniodd o law'r Arglwydd yn ddau ddyblyg am ei holl bechodau.

3. Canys llêf sydd yn llefain yn yr anialwch, paratoiwch ffordd yr Arglwydd, inionwch lwybr ein Duw ni yn y diffaethwch.

4. Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a brynn a ostyngir, y gwŷr a fydd yn iniawn, a'r anwastad yn wastadedd.

5. A gogoniant yr Arglwydd a ymeglura fel y cydwelo pob cnawd mai genau'r Arglwydd a lefarodd [hyn].

6. Llef a ddywedodd [wrth y prophwyd,] gwaedda di, yntef a ddywedodd, beth a waeddaf, [bod] pob cnawd yn wellt, a'i holl odidawgrwydd fel blodeun y maes.

7. Gwywodd y gwelltyn [a] syrthiodd y blodeun, canys Yspryd yr Arglwydd a chwythodd arno, gwellt yn ddiau [yw] 'r bobl.

8. Gwywodd y gwelltyn, syrthiodd y blodeun, a gair ein Duw ni a saif byth.

9. Dring rhagot yr efangyles Sion i fynydd uchel, derchafa dithe dy lef trwy nerth ô efangyles Ierusalem: derchafa nac ofna, dywed wrth ddinasoedd Iuda, wele eich Duw chwi.

10. Wele'r Arglwydd Dduw a ddaw'n erbyn y cadarn, a'i fraich a lywodraetha arno ef, wele ei obrwy gyd ag ef, a'i waith o'i flaen.

11. Fel bugail y portha ef ei braidd, a'i fraich y cascl ei ŵyn, ac [a'i] dwg yn ei fonwes, ac a goledda y mamogiaid.

12. Pwy a fessurodd y dyfroedd yn ei ddwrn? ac a fessurodd y nefoedd ài rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaiar mewn messur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwys, a'r brynnau mewn cloriannau?

13. Pwy a gyfarwyddodd Yspryd yr Arglwydd? ac yn ŵr o'i gyngor a'i hyfforddiodd ef? 14. A phwy'r ymgynghorodd efe, ie [pwy] ai hyfforddiodd ac a'i dyscodd mewn llwybr barn? ac a ddyscodd iddo wybodaeth, ac a gyfarwyddodd iddo ffordd deallgarwch?

15. Wele'r cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel brychewyn oddi wrth gloriannau wele fel brychewyn y bwrw efe ymaith yr ynysoedd.

16. Ac nid digon Libanus yn dân, nid digon ei fwyst-filod ychwaith yn boeth offrwm.

17. Yr holl genhedloedd [ydynt] megis diddim ger ei frô ef, yn llai na dim, ac [na] gwagedd y cyfrefwyd hwynt ganddo.

18. I bwy gan hynny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch chwi i fynu iddo ef?

19. Y saer a lunia gerf-ddelw, a'r aurych a'i goreura, ac a dawdd gadwyni o arian.

20. Yr hwn sydd arno eisieu offrwm a ddewis bren heb pydru, cais ef atto saer cywraint i baratoi cerf-ddelw yr hon ni syfl.

21. Oni ŵyddoch, oni chlywch, oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad, oni ddeallwch sciliad y ddaiar?

22. [Myfi ydwyf] yr hwn a eistedd ar amgylchoedd y ddaiar, (pan [yw] ei thrigolion fel locustiaid) yr hwn a estyn y nefoedd fel cortyn, ac a'i lleda fel pabell i drigo [ynddi].

23. Yr hwn a rydd lywodraeth-wŷr yn ddiddim, fel gwagedd y gwnaeth efe farnwŷr y tir.

24. Ac ni phlannwyd hwynt, ni's hauwyd ychwaith, ei foncyff hefyd ni wreiddiodd yn y ddaiar, eithr efe a chwythodd arnynt, ac hwynt a wywasant, a chorwynt a'i dwg hwynt. ymmaith fel us.

25. I bwy gan hynny i'm cyffelybwch, ac i'm cystedlir, medd y Sanct?

26. Dyrchefwch eich llygaid yn uchel, ac edrychwch pwy a greawdd y rhai hyn, yr hwn a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi, efe a'i geilw hwynt oll wrth eu henwau drwy amlder [ei] rym [ef,] a'i gadarn allu ni phallhâ dim.

27. Pa ham y dywedi Iacob, ac y lleferi Israel? cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr Arglwydd, a'm barn aiff heibio i'm Duw.

28. Oni wyddost, oni chlywaist na ddiffygia, ac na Alina Duw tragywyddoldeb? yr Arglwydd a greawdd gyrau'r ddaiar, ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef.

29. Yr hwn a rydd nerth i'r deffygiol, ac a amlhâ gryfder i'r dirym.

30. Canys llangciau a ddeffygiant ac a flinant, a gwŷr ieuaingc gan syrthio a syrthiant.

31. Eithr y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a wellhânt o nerth, ehedant fel eryrod, rhedant ac ni flinant, rhodiant ac ni ddeffygiant.

PEN. LV.

Duw yn annog y bobl i ffydd, ac i edifeirach trwy ei efangylaidd addewidion.

1. O Deuwch i'r dyfroedd bob un y mae syched. arno, ie yr hwn nid [oes] arian ganddo, deuwch prynwch, a bwyttewch, ie deuwch prynwch. win, a llaeth heb arian, ac heb werth.

2. Pa ham y telwch arian am [yr hyn] nid [ydyw] fara? a'ch llafur am [yr hyn] nid [yw] yn ddigonoldeb? gan wrando gwrandewch arnafi, a bwyttewch yr hyn sydd dda: ac ymhyfryded eich enaid mewn brasder.

3. Gogwyddwch eich clustiau a deuwch attaf, gwrandewch fel y byddo byw eich enaid, ac mi a wnaf gyfammod tragywyddawl â chwi [sef] siccr drugareddau Dafydd.

4. Wele rhoddais ef yn dyst i'r bobl, yn Psalm 132.ii. flaenor, ac yn athro i'r bobloedd.

5. Wele cenedl nid adweini a elwi, a chenhedlaeth nid adwaenant ti a redant attat, er mwyn yr Arglwydd dy Dduw, ac o herwydd Sanct Israel: canys efe a'th ogoneddodd.

6. Ceisiwch yr Arglwydd tra caffer ef: gelwch arno tra fyddo yn agos.

7. Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r gwr anwir ei amcannion, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymmer drugaredd arno, ac at ein Duw ni o herwydd y mae efe yn barod iawn i faddeu.

8. Canys nid fy amcannion i [yw] eich amcannion chwi ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i medd yr Arglwydd.

9. Canys [fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaiar, felly uwch yw fy ffyrdd i na'ch ffyrdd chwi, a'm amcannion i na'ch amcannion chwi.

10. Canys fel y descyn y glaw, a'r eira o'r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dwfrhâ y ddaiar, ac a wna iddi darddu a thyfu fel y rhoddo hâd i'r hau-wr, a bara i'r bwytta-wr.

11. Felly y bydd fy ngair yr hwn a ddaw o'm genau ni ddychwel attaf yn wag: eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda lle'r anfonwyf ef.

12. Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd i'ch arweinir [i mewn,] y mynyddoedd a'r brynnau a floeddiant ganu o'ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo.

13. Yn lle drain y cyfyd ffynnid-wŷdd, yn lle danadl y cyfyd myrt-wŷdd, a [hyn] fydd i'r Arglwydd yn enw ac yn arwydd tragywyddol yr hwn ni thorrir.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Siôn Dafydd Rhys
ar Wicipedia

SION DAFYDD RHYS.

MAE hanes y gwr dyscedig hwn, o'i febyd i'w fedd, yn rhamant ddyddorol. Garddwr oedd ei dad, Dafydd Rhys, a ddaeth i Wynedd o Forgannwg gyda Syr William Griffith pan briododd ferch Thomas Stradling, o Gastell St. Donat's. Dafydd, ynteu, yn ei dro a briododd wasanaethyddes i'w feistr, ac un o St. Donat's oedd hi. Ganwyd iddynt un mab,—Sion: a buan wedi ei eni bu farw ei dad a hefyd Syr William. Gan nad oedd i'w fam unrhyw berthynas yn y Gogledd, penderfynodd droi yn ol i'r De, a chan mai ifangc a gwan oedd y bachgen bach, gorfod iddi ei gario ar ei chefn agos yr holl ffordd i Forgannwg. Profodd hyn yn ormod o waith iddi, a bu farw yn union wedi cyrhaedd ei hen gartref, gan adael ei phlentyn diymgeledd yn unig ag amddifad.

Ond gwenodd rhagluniaeth arno, gan i Syr Edward Stradling ei gymeryd i'r Castell, a chafodd yr un meistri ofalu am ei ddysgeidiaeth ag a ddysgai fab y boneddwr caredig. Anfonwyd y ddau i'r Eidal, i Brif Athrofa Sienna, lle y cawsant bob cyfleustra i ymberffeithio yn yr Italaeg a'r Lladin. Pan ddaethant yn ol, gwnawd Sion Dafydd Rhys yn athro teulu Stradling: a phan gofir iddo achub bywyd yr etifedd rhag boddi yn y môr pan oedd pawb arall wedi methu, hawdd yw canfod paham y bu i'r Stradlingiaid estyn pob cymorth i Sion ar hyd ei oes. Aeth i'r Eidal drachefn, i Sienna, a gwnawd Sion yn Ddoctor Meddyginiaeth gan Gyngor y Brifysgol. Erbyn hyn, yr oedd wedi penderfynu byw yn fynach, ond gan fod yr holl fynachlogydd wedi eu dinystrio yn amser Harri'r Wythfed, prynodd Sion Dafydd Rhys etifeddiaeth fechan iddo ei hun a elwir y Clyn Hir, ar eithaf Cwm Llwch, o dan gysgod Bannau Brycheiniog, lle y bu farw yn hen wr aml ei ddyddiau yn 1609.

Ysgrifennodd amryw lyfrau yn ei ddydd,—un ar "Reolau i Ddeall уг Iaith Lladin" yn Italaeg a argraffwyd yn Venis,—un ar yr iaith Italaeg, yn Lladin a gyhoeddwyd ym Mhadua, ond ei lyfr mawr a orffennodd yn nhawelwch y "Clan Hir" ydyw ei Ramadeg Cymraeg. Y mae hwn yn llyfr mawr dyscedig, yn Lladin gan mwyaf, ond gydag Annerch miniog Cymraeg. Rhoddaf yma ddarnau o'r Annerch, ac er mwyn ei wneyd yn lled hawdd i'w ddarllen rhaid oedd newid tipyn ar ddull yr hen ddysgawdwr o lythyrennu. Oherwydd mae ganddo ei ddull ei hun o sillebu, canys defnyddia am f, dd, ng, ngh, l, y llythyren wreiddiol ac h, fel hyn, bh, dh, gh, ghh, lh, yr hyn a rydd olwg ddifrifol ar ei lawysgrif. Ond er hyn ac ychydig newid arall, cedwir ei arddull a grym ei Gymraeg yn gyflawn. Mae teitl ei Ramadeg yn Lladin, ond o'i gyfieithu dyna yw,—"Elfennau ac Egwyddorion y Gymraeg Brydeinig, wedi eu traethu yn ofalus, ac, hyd y gellid, yn fanwl a llawn, &c., 1592" Amlwg yw mai i'r bobl ddyscedig y bwriadai Rhys ysgrifennu, canys y mae ei fater a'i ddull o drin ei bwngc ymhell uwchlaw cyraedd amgyffred y werin.

"At Bendefigion, a' Phrydyddion, a Chymreigydd-
ion, ac at eraill o m' Anwylieid o Genedl
Gymry, ac eraill amgen no'r hain, Annerch a
Llwyddiant."




Nyd oes nemor o iaith (hyd y gwn i) ynn Europa a'i hynysoedd na's cafas ei hymgeleddu a'i choledd gan ei Ieithyddion a'i Gwladwyr ihun, o amser i gilydd; onid ein hiaith ni y Cymry. Yr honn ynawr yn hwyr, ac o braidd, a ddechreuawdd gaffael pêth gwrtaith gan 'wyrda dyscedig o'n hamser ni; a hynny yn enwedic o rann cymrec-hâu corph yr yscrythur lân. Canys o's golygwch arr genhedloedd a' phobloedd eraill megys y Groecieit, a'r Lladinieit; chwi a 'ellwch ganfod nadd oes nebryw wybodaeth na chelfyddyd dann yr haul o'r a ddichon bôd mywn dyn, na's caffer ei gweled yn amlwc ynn ei hiaith a'e llyfreu hwy, yn gyn amled, a' bod hôll Europa yn gyflawn o'i hiaith a'e llyfreu hwy, yn tragwyddoli moliant a' gogoniant i'r gwledyth hynny, ac i'r Awduriaid ac i Ymgeleddwyr yr ieithoedd hynny hyd tra byddo byd. A' gwedi yr hein hynn, y dilynasant yr Ieithoedd cyffredin megys yr Italieith, yr Hyspanieith, y Phrangec, yr Almanieith, y Saesônec, Scotieith, a' ieithoedd eraill heb law hynny a fedrwn eu hadrodd ony bei rhac ofn 'ych trablino. A'r ieithoedd hynn oll a gyfarfûant o amser i amser a Ieithyddion a Ieithymgeleddwyr hawddgaraf o'r byd, ac ewyllysgaraf i ymgeleddu a' choledd, a mawrhâu bob un o honynt ei iaith 'i hun: hyd ynn y diwedd nadd oes cymeint ac un meddir o'r holl ieithoedd cyffredin uchod na bod ynddei holl gelfyddodeu'r byd wedi eu cyfleu a'i cymhennu yn brintiêdic mywn. collyfreu, a barhâont hyd tra byddo ffurfâfen. Yr hyn beth a fagodd ddirfawr barch a' mawrhad tragwyddawl, nyd yn unic i'r leithyddion, a'r Gwrteithwyr, a'r Awduricit; ond hefyd i'r Gwladwyr a'r cenhedloedd hynny. Eithr ninheu y Cymry (mad gweision gwychion) rhai o honon' ynn myned morr ddiflas, ac mor fursenaidd, ac (yn amgenach nog un bobl arall o'r byd) mor benhoeden, ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedyd cyn hiaith. eyn hunain; ief a gwynn eyn byd ryw rai o honom. fedru bod mor findlws, a cymerud arnam ddarfod inni o gwbl abergôfi y Gymraec, a' medru weithion (malpei) ddoedyd Saessnec, a' Phranghec, ac Italieith, neu ryw iaith alltudaidd arall parywbynnac a fô honno oddieithr Cymraec, cytboet wir ynn y cyfrwng hynn, na's medrom y ganfed rann o'r ddieithriaith at gymherasam arnam ei gwybod a'i doedud mor hyfedr. Eithr nid yw y fursenaidd sorod hynn o Gymry (os teg doydud y gwir) onyd gohilion a llwgr, a' chrachyddion y bobl, a'i brynteion; a megys cachadurieit y wlad. Ac ynn yr un orseddfa a chadeir a'r rhai hynn y dylid llehau a gosod y rhai a' fynnynt doddi a' difa holl iaith y Cymry, a chyfleu a' dodi iaith y Sacson yn ei lle hi: Yr hynn beth yssydd ymhossibl i gwblhau a'i berffeithio, heb ddifa yn llwyr holl genedl y Cymry a'i gwneuthur yn Seisnic.




Hanes ysgrifennu'r Gramadeg"A mwyaf parth o'r llyfr yma a fyfyriwyd ac a feddyliwyd yn gyntaf, yn Nhy y Pendefic M. Morgan Meredydd o ymyl y Bugeildy ynn Nyffryn Tafida o fywn Swydd Faesyfed: ynn y lle lawer gwaith y bu fawr fy nghroeso, a'm hansawdd o fwyt a' llynn, gan y gwrda a'r 'wreicdda. Eithr diweddbarth y Llyfr hwnn a fyfyriwyd dann berthi a' dail gleision. mywn gronyn o Fangre i mi fyhûnan a 'elwir y Clûn Hir, ym mlaen Cwm y Llwch, a' thann 'Odreuon Mynydd Bannwchdenni. Rhai a'eilw y Mynydd hynn [Bann Arthur,] eraill [Moel Arthur]. Dann grib y Foel honn, ac yn ei harffet, y mae Llynn digon 'i faint, ac yn afrifed ei ddyfnder, ac yn rhyfedd ei ansawdd; o ethryb [mal y cerddant chwedleu] ny 'welspwyt eirioet ederyn o'r byd yn cyrchu nac iddo, nac atto, nac yn nofiaw arno: onyd yn hollol ymwrthod oc êfo: a rhai a ddywedant, na's gnotáynt nag anifeilieid na milod o unrhyw, yfed ddim dwfr o hono. A' llawer o enrhyfeddôdau eraill (ac o rann canfod arr brydieu betheu dieithr dros benn yn nghylch y Llwch yma) a ydys ynn eu hadrodd gann gyffredin y "Wlad honno: ac yn enwedic gann y sawl a arfêrynt o ymgyrchu i'r Moelydd a'r Banneu hynny er mywn bugeila. A'r Llyn neu'r Llwch hynn a 'elwir Llynn Cwmm y Llwch. Eithr ymchwêlwn bellach i adrodd taw ym mha le bynnac y dechreuwyd, nac y cenôlwyd, nac y diwêddwyd y Llyfr yma; nag ym mha fann bynnac y myfyriwyd un dim arno, i chwi, ac er eych mwyn chwi y gwnaethpwyd hynn oll. Ac o'r ethryb hynny, odd oes dim ynddo a fâ tebyc i wneuthur dim llês nag i'r Iaith, nag i chwitheu y Pendefigion a' Boneddigion Gwlad Gymry, y mae yn dda iawn gann fy nghallon; onyd ef, gadawer heibio mal diffrwythbeth, a dechymyger ryw beth arall a fó gwell nog ef, a' charer fi (o's mynner) am fy ewyllys da, er i mi o ddamchwain fôd (a hynny of eisieu gallu) yn ddyffygiol (scatfydd) o barth perffeithio fy ngorchwyl. A' hynn a ddywedaf wrthych' cynn ymado o honof â chwi, na 'wnaethpwyt ernioed ddim. yn y byd yma yn gyn gystadled, nac yn gyn berffeithied, na's gallei ryw ddyn cynfigennus, a 'drwc ei ewyllys, o'r ddrwc dafawt, gymryt arno anurddo y pêth da hynny a'i 'eiriau duon marwaraidd, o damwheiniei iddo ar adêgeu ymgyfarfod ac undyn arall. anneallus a fwriei ei goel arno, ac a gredei i'r pêth a ddywetei. Weithion rhac tra gormodd blino arnoch', yma cymhêraf fy nghennad ganwch', gan ddeisyf ynn fy ngweddi rhât y Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryt Glân i'ch plîth oll уп 'wastad. Amen.

"O'r Clûn Hir y chweched dydd o fis Tachwedd, oedran eyn Harglwydd Iesu Grist, mil a' phymcant a' deuddec a phedwar ugeint.

"Yr eiddoch' oll, ac yn holl yr eiddoch

"I.D.R."

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Morris Kyffin
ar Wicipedia

MORUS KYFFIN.

MAE amser geni a marw Morus Kyffin yn anhysbys. Credir mai ail fab oedd i Richard Kyffin, o'r Glasgoed, Llansilin, Sir Ddinbych. Ymha ysgol ac ymha goleg y bu nid oes hanes, ond mae'n amlwg oddiwrth ei waith ei fod yn hyddysg mewn amryw ieithoedd ac wedi derbyn addysg a diwylliant da. Ei brif waith yw "Deffyniad Ffydd Eglwys Loegr" a gyhoeddwyd yn 1594 (neu yn of Charles Edwards yn 1595) a chydnabyddir gan bawb sy'n abl i farnu fod ei Gymraeg, o ran dullwedd a chystrawen, gyda'r Cymraeg goreun ysgrifennwyd erioed. Gwelir ei fod yntau yn un o'r band gweithgar, gwladgarol, awyddus am daenu gwybodaeth o'r Scrythyr drwy Gymru a flodeuent yn amser Elisabeth, ac mae'n debyg mai un rheswm am rymusder a chadernid eu hiaith ydyw iddynt fod yn llygad—dystion o'r ymdrech fawr rhwng Lloegr a Spaen, rhwng Protestaniaeth a Phabyddiaeth am y llaw uchaf

Cyfieithiad o'r Lladin ydyw "Deffyniad y Ffydd" o waith Dr. Jewel, esgob duwiol dyscedig Salisbury, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1562, dan yr enw "Apologia Ecclesiae Anglicance." Ei enw yn llawn yn y cyfieithiad Cymraeg ydyw, "Deffyniad Ffydd Eglwys Loegr; lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ac anghywirdeb Crefydd Eglwys Rhufain: Anghenrheidiol i bawb ei ddeallda madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw. Wedi ei gyfieithu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin."

Ar ddechreu'r llyfr y mae "Annerch at yr howddgar ddarlleydd Cristnogawl," a charwn i bawb ei ddarllen a'i ddwys ystyried.

"DYMMA iti ar les d'enaid, yn hyn o lyfr, sylwedd a chrynodeb y Ffydd wir Gatholic, i'th hyfforddi a'th berffeithio yn llwybr gwasanaeth Duw ag iechydwriaeth dyn. Wrth ddarllen hwn y cei di wybod hanes a deall gwirionedd y Grefydd Gristnogawl, a chyda hynny ddanghossiad a datguddiad amhuredd crediniaeth Pâb Rhufain. Rhoed y Goruchaf Dduw iti ochel y drwg a chalyn y da.

Mi a dybiais yn oref adel heibio'r hen eiriau cymreig yr rhai ydynt wedi tyfu allan o gydnabod a chydarfer y cyffredin, aga ddewisais y geiriau howssaf, rhwyddaf, a sathredicca 'gallwn, i wneuthur ffordd yr ymadrodd yn rhydd ag yn ddirwystrus i'r sawl ni wyddant ond y gymraeg arferedig. Eithr am ryw air angenrheidiol, yr hwn ni ellid dangos sylwedd ei rym na sylwedd ei arwyddocad yn gymraeg, e ddarfu i mi yn ôl arfer yr iaith Saesonaeg, Ffrangaeg, iaith Itali, iaith Spaen, a bagad o ieithoedd eraill, gymryd y cyfryw air o'r Groeg, neu o'r Lladin yn y modd mae'n gynefin gan—mwyaf ymhob gwlad ynghred er ystalm o amser. Nid oes nemawr o'r fath eiriau ag o'r rhai rheitiaf di a gei hysbysrwydd a deonglad ar eu penneu eu hun ar ol diwedd hyn o Ragddoediad. Er maint fu fy ngofal am myfyrdod yn hyn o beth, etto mi a wna gyfri gael fy-marnu a beio arnaf gan ryw fath a'r goeg ddynion, y rhai a graffant ar ymbell air ymma ac accw, ag a ddoedant yn y fan, "wele, geiriau seisnigaidd a geiriau lladingaidd yw rhain yn dwyno'r gymraec:" f'atteb i'r rheini ydyw'r ddihareb, "Ni Wyr, ni Welodd, ni Ddysc." Druain gwerin, ychydig a wyddant, llai a welsant, ag nid gwiw sôn am ddyscu iddynt. My fi a faddeual i'r rhai hyn eu hanwybodaeth a'u ffolineb, ag adawaf i rai eraill chwerthin am eu penneu. Hawdd yw gwybod am ryw eiriau seisnig, nad oes ag na bu erioed eiriau cymreig i'w cael: a hefyd may geiriau yn dyfod o'r Ffrangaec yw'r rhan fwyaf o'r rhai y mae'n hwy yn tybied eu bod yn seisnigaidd. Ag am y geiriau lladingaidd, pwy nis gwyr nad yw'r iaith Gymraec yn ei herwydd, ddim amgen, onid hanner ladin drwyddi. Mi' allwn pe bae gennyf hamdden wneuthyr llyfr digon ei faint o'r geirieu cymreic arferedig a fenthycciwyd, nid yn unig o'r Lladin a'r Ffrangacc, eithr o iaith Itali ag iaith Spaen hefyd; heblaw'r dafod Roeg, ag Ebryw, a'r cyfryw. Rhyw rai diddysc, di-synwyr, a ddoedant ddarfod i'r Ieithoedd hynny fenthyccio gan y Gymraeg, ac nid yr iaith Gymraeg genthyn-nhwy. Nid gwiw mor ymrysymmu a'r fath ynfydion cynhwynol, namyn eu gadel mewn anwiredd ag oferedd. Yn wir, chwith iawn. yw dal sylw ar lawer o wyr Eglwysig cymreig yn byw ar bris eneidieu dynion, a bagad ereill o Gymry yn cymeryd arnynt eulun dysc a goruchafiaeth heb genthynt fri'n y byd ar iaith eu gwlad, eithr rhusso ddoedyd a chwylyddio i chlywed, rhag ofn iss-hau ar eu gradd a'u cymeriad: heb na medry darllen na cheisio myfyrio dim a fae a ffrwyth yntho'n gymraeg, fegis mynny onynt i bobl dybied fod cymaint eu rhagor-fraint nhwy, na wedde iddynt (f'eneidieu gwnnion) ostwng cyn issed ag ymyrryd ar ddim addysc cymreig. Telid Duw iddynt ddaed eu cyneddfeu. Amdanaf fy hun, mi allaf ddoedyd, er dwyn onof y rhan fwyaf o'm byd hyd yn hyn o'm hoes ymmhell oddiwrth wlad Gymry, etto wrth fod ymysc Ieithoedd dieithr, a darfod i mi dreulio f'amser am hastudrwydd mewn petheu eraill, ni bu fwy fy ngofal ar fyfyrio a dal i'm cof un iaith no'r Gymraec; gan ddamuno allu o honof wneuthyr rhyw lês i'r iaith a'r wlâd lle ym ganwyd, yn ol athrawiaeth Plato'r Athrho mawr a phenadur llawer o philosophyddion dyfnddysc, yr hwn a ddoedodd "Ortus nostri partem Patria, partem Parentes vendicant, partem Amici," sef yw hynny, "y mae rhan o'n genedigaeth ni yn ddyledus i'n gwlad, a rhan yn ddyledus i'n Tadeu a'n Mammeu, a rhan arall yn ddyledus i'n hoffddynnion."

Duw a wyr e fuase yn howsach i mi o lawer, a hynodach i'm henw, scrifenny'r cyfryw beth mewn iaith arall chwaethach nóg yn Gymraec: Ond mi a welaf bob peth (onid antur) ymhob iaith yng-Hred, mor bybyr ag mor berffaith, drwy ddysc a diwdrwydd gwyr da, nad rhaid iddynt (yn ei herwydd) wrth ddim ychwaneg. O'r tu arall, prin y gwela'i ddim (ond llyfr Gair Duw'n unig) yn y Gymraeg, a dim ffrwyth rhinwedd ynddo, i ddyscy ag i hyfforddi yr rhai annyscedig. Doctor Wiliam Morgan a gyfieythodd y Beibl drwyddi yn hwyr o amser,--gwaith angenrheidiol, gorchestol, duwiol, dyscedig, am yr hwn ni ddichyn y Cymry fyth dalu a diolch iddo gymaint ag a haeddodd ef. Cyn hynny hawdd yw gwybod may digon llesc oedd gyflwr yr iaith gymraeg, pryd na cheid clywed fynychaf ond y naill ai cerdd faswedd ai ynte rhyw fath arall ar wawd ofer heb na dysc na dawn na deunydd ynddi. O ddamweinie i ryw brydydd, ryw amser, geisio brâs-naddu ychydig dduwioldeb ar gerdd, ef a balle mewn llawer pwnc eisieu dysc a gwybodaeth ; gan hynodi i'r bobl ryw hen chwedl neu goel gwrach ar gwrr y barth, a hynny wedi ei dynny allan (y rhan fwyaf) o lyfr y Myneich celwyddog gynt yr hwn a elwid Legenda aurea, ag a ellir ei alw Traethawa y Celwydd. Y mae'n fy meddiant i beth o'r fath gerdd i'w dangos, ag y mae'n dostur iawn gan fynghalon i feddwl ddarfod twyllo ac anrheithio enaid llawer dyn drwy'r fath erchyll ynfydrwydd. E ddarfuesid cyfieuthu'r Testament newydd ynghylch yr wythfed neu'r nowfed flwyddyn o Deyrnas eyn harglwyddes frenhines Elizabeth, ond yr oedd cyfled llediaeth a chymaint anghyfiaith yn yr ymadrodd brintiedig na alle clust gwir Gymro ddioddef clywed mo'naw'n iawn."

Ac yna a ymlaen i ddymuno yr hyn ni chafodd ef egwyl i'w gyflawni,—

"Gwaith rheidiol iawn fydde troi'r Psalmeu i gynghanedd Gymraeg, nid i gânghanedd Englyn, nag Owdl, na Chowydd, nag i fath yn y byd ar gerdd blethedig; herwydd felly ni ellir byth troi na'r Psalmeu, na dim arall yn gywir. Eithr i'r fath fesur a thôn canghanedd ag sydd gymeradwy ymhôb gwlad, a ddiwygwyd drwy dderbyniad discleirdeb yr Efengel: ag fal y gwelir yn Seison-aeg, Scotiaith, Ffrancaeg, iaith Germania, iaith Itali a'r cyfryw : fal y gallo'r bobl ganu i gyd ar unwaith yn yr Eglwys: yr hyn beth a fyddai ddifyrwch a diddanwch nefawl iddyn yn y Llan a chartref. Pette gennyf y seibiant a'r hamdden sydd gan lawer, cyntaf peth, a chwannocca poen a gymerwn i arnaf, fydde tueddu at hyn o waith, ar ôl cyd-siarad a dysgedigion Cymry ynghylch pa ddull a math ar ganghanedd, a debygid oref a chymessuraf i hyn o Dduwioldeb."

I'R GWIR URDDASOL
A'M CAR ANWYL
Wiliam Meredydd.

Annerch
M. Kyffin
i'w Noddydd.
Mi a welaf may peth arferedig yn yr hen oesoedd gynt ymhlith y Groegwyr a'r Lladinwyr penna'i dysc a'u cymeriad, ydoedd gwneuthyr anrhegion o'u gorchwilion dyscedig i'r sawl oedd nessaf iddynt a hoffaf genthynt: fal y gallent, drwy'r cyfryw fodd adel hyspysrwydd i'r oesoedd a ddele ar eu hol nhwy am rinwedd a rhaglyddiad y gwyr hynny rhagor eraill. Nid anghymmwys i minne ddilyn yr un llwybr wrth ossod allan cyfieythiad hyn o addysc, yr hwn yr wyf yn ei orchymyn i'ch nodded. Oblegig, fegis nad oes neb byw fwy ei serch a'i ewyllis ar wneuthyr mowr-les i'ch gwlad na chwi'n unig; felly nid oes neb dayarol a haedde gael hyn gennyf o'ch blaen chwi'ch hunan. Ag er mwyn nad amheuthyn gennych ddim a aller ei fyfyrio a'i anrhegu i chwi yn Saesonaeg, neu'n Lladin: (yn yr hyn ieithoedd y buoch er ioed gynefin a phob rhyw ddysc ag athrawiaeth) hefyd gan i ni eyn dau ddwyn eyn byd allan o Gymru a bod mor anghynefin i mi scrifenny ag yw i chwithe ddarllen dim yn yr iaith Gymraeg; hynny a wnaeth i mi, ydwyf wir gymro a gwir går o'r eyddoch, ddewis eych annerch a'ch anrhegu yn Gymraeg chwaethach nog mewn un iaith arall. Pa gymro bynnag a gaffo wellaad dysc neu gynyddiad gwybodaeth oddi wrth y llyfr hwn, diolched i Dduw yn gyntaf, ag i chwithe yn ail. Ef a ddengys hwn y llwybr i'r anghyfarwydd. A chyda hyn, pettid yn pregethu Efengyl Crist yng-Hymry fal y gwelsoch chwi a minne mewn gwledydd eraill, diau nad oes Genedlaeth yng-Hred a alle ragori ar y Cymry mewn Crefydd a Duwioldeb; gan eu bod nhwy o athrylith a naturiaeth yn chwannog i ddyscu pob Rhinwedd a Dayoni, ond cael ei ddangos a'i ddeongl iddynt. Ag yna, ni bydde gymmaint câs, cenfigen, brâd a bwriad drwg yn eu mysc nhwy; lle nid oes yr owr'on, soweth, ddim cyffredinach (medd pawb) nog ymdrechu ymgyfreithio ag ymgrafangu, drwy gam, trowssedd a dygassedd, i ddwyn o ddaiar bawb ei eiddo. Etto o'r diwedd pe cae gwir Grefydd a Gwasanaeth Dduw ddechre'i goledd a'i ossod allan yn hylwybr; a gweled unwaith o'r cyffredin-bobl fod wynebeu a llown-fryd pendefigion Cymru y ffordd honno, e fyddai bob Cymro barod i studio ag i wrando gair Duw yn ddyfal: a gobeithio, cyn nemmawr o ennyd, y ceid gweled ym-mysc gwyr eyn gwlad ni lawer pwnc o ddysc a dawn a diwdrwydd ar ni welwyd hyd yn hyn. Yr hwn beth caniattaed y Goruchaf Dduw iddynt ag i chwithe lwyddiant a llawenydd wrth fodd

eych câr ffyddlonaf

M. KYFFIN.

RHAN O GYFIEITHIAD M. KYFFIN. Dim terfysc
yng ngwlad
Efengyl.
"Elont, ydolwg, i'r manneu hynny lle yr ydis drwy ddayoni Duw yn pregethu'r Efengyl: ym-mha le mae mwy braint a llai trowssedd y Tywysogion? ym-mha fan rydis yn rhoi mwy o anrhydedd i'r Pennaeth? Pa le mae'r bobl yn llai eu hafrol? Ac ym-mha fan y mae llywodraeth y cyffredin a'r Eglwys yn howddgarach ?

Nid hwyrach y doedwch chwi wneuthyr o bobl y wlad gynnhwrf a therfysg ymhob man yngGermania wrth ddechreuad athrawiaeth yr Efengyl. Gedwch i hynny fod; etto Martin Luther, cyhoeddwr yr athrawiaeth hon, a scrifennodd yn owchlym iawn ag yn bagraidd dros-ben yn eu herbyn hwynt, ag a'u dygodd nhwy drachefn drach-gefn i heddwch ag ufudd-dod.

Ond lle mae dynion anghyfarwydd yn doedyd weithie'ngwrthwyneb i hyn, dan sôn am newidiad llywodraeth y Swisseriaid, lladdiad Leopoldus y Duc o Awstria a dad-roddi rhyddid i'r wlad; e wnaethpwyd hynny fal y testiolaetha'r holl ystoriaeu ychwaneg i ddeucant a thrigain mlynedd i heddyw dan y Pab Bonefacius yr wythfed pan oedd fwyaf rhwysc a phennaf llywodraeth Pab Rhufain, ynghylch deucan mlynedd cyn yr un o'r ddau na dechreu o Huldericus Zuinglius bregethu'r efengyl na'i eni ef ychwaith. Ac er y pryd hynny etto, e fu pob peth genthynt hwyn yn heddychlawn ag yn dangnefeddol heb na thwrwf gelynion dieithr na therfysc yn eu plith eu hunain. Ag os ydoedd hyn bechod yn y Swisseriaid ryddhau onynt eu gwlad eu hun oddi dan lywodraeth estron genedl, ag yn enwedig pan oeddynt yn cael eu gorthrechu drwy ddirfawr falchder a throwsder; etto anghyfiawn ag anrhesymmol yw bwrw beieu rhai eraill arnom-ni, neu fwrw arnynt hwytheu feieu eu henafiaid.

Gofynion i'r
Pab.
Eithr o Dduw tragwyddol! wrth hynny ynte, a gyhudda Pab Rhufain nyni o dranturiaeth? A ddysc ef i'r bobl ymufuddhau a rhyngy bodd i'w Pennaethiaid ? neu yw ef yn gwneuthur bri yn y byd am fraint a mowredd Twysogion? Paham y mae ynte (y peth ni wnai yr un o hen Escobion Rhufain gynt) yn gadael iw wenieithyddion ei alw ef yn Arglwydd yr Arglwyddi, fegis mynny ono-fo i'r holl frenhinoedd a'r Twysogion pwy bynnag ydynt a ph'le bynnag y maent, fod yn weision chwibanogl iddo ef? Pa ham y mae ynte yn gwneuthur ffrost may Brenhin y Brenhinoedd ydyw ef, a fod iddo frenhinol lywodraeth ar ei ddeiliaid? Pa ham y mae ef yn peri i'r holl Ymerodreu a'r Twysogion roi llwf ffyddlondeb ag ufudd-dod iddo ef? Pa ham y mae ef yn ffrostio fod yn uwch ei radd ef no gradd yr Ymerodr agos y deucan cymaint: a hynny'n enwedig oblegid i Dduw wneuthyr dau oleuad yn y Nef, ag er mwyn iddo wneuthur y Nef a'r ddayar nid mewn dau ddechreuad ond mewn un? Pa ham y darfu iddo ef a'i ganlynwyr, yn ol dull Anabaptistiaid a'r Libertiniaid, fwrw'r Iau heibio ag ymryddhau oddi dan pob awdurdod yn y byd, fel y gallent hwy foelstotta'n benrhyddach, ag yn ddiogelach? Pa ham y mae gantho ef Gennadwyr, sef yw hynny Spiwyr ffel iawn, yn dirgel-ddisgwyl o fewn llysoedd, cynghorau, a chyfrinach stafelleu pob brenin ? Pa ham y mae ef, pan fynno fo, yn rhoi'r Twysogion Cristnogaidd yn erbyn eu gilydd, ag wrth ei chwanteu ei hun, yn aflonyddu'r holl fyd drwy gynnhwrf a chynhenneu? Pa ham y ef yn escumuno ag yn cymeryd fal Ethnig a Phagan pob Twysog o Gristion a ymwrthodd a'i lywodraeth ef? A pha ham y mae ef yn addo enaid rhydd a phardyneu cyn haeled a chyn helaethed i bwy bynnag ar a laddo un o'i elynion ef, mewn ffordd yn y byd? a ydyw ef yn cynnal Ymerodraetheu a Brenhiniaetheu, neu yw ef unwaith yn chwennychy heddwch cyffredin? Tiaddylid, ddarlleydd duwiol, fadde i ni, er dy fod yn tybied adrodd o honom-mi y petheu hyn yn chwerwach ag a geiriau duach nog a wedde i wyr Eglwysig eu harfer; oblegid mae'r destyn mor wradwyddus, ag awydd y Pab i ddwyn rhwysc yn y byd mor anrhaith-ddioddef ag na ellir traethu hyn yn llareiddiach nag a geirieu amgenach."

Ar ol gofyn rhes o gwestiynau duon, aiff y cyfieithydd ymlaen i osod tipyn o hanes y Pab,— ffeithiau nas gallai eu gwadu:—

"Blin ydym yn adrodd y fath betheu ar rhain, a phoenus iawn fydde goffau holl gampau gwchion Pabau Rhufain. O ba blaid, ydolwg, oedd y sawl a wenwynodd yr Ymerodr Henri'r 7-fed wrth Gymuno? ag a wenwynodd y Pab Victor yn derbyn y caregl? ag a wenwynodd Ioan brenin y deyrnas ymma wrth yfed diod? Pwy bynnag, ag o ba blaid bynnag yr oeddynt, dieu nad oeddynt hwy na Lutheriaid na Zuingliaid. Pwy heddyw sy'n cynnwys Brenhinoedd a Thwysogion galluawg i gussanu ei draed bendigaid ef? Pwy sy'n peri i'r Ymerodr sefyll wrth ben ei farch; ag yn gorchymyni Frenin Ffrainc ddal y warthol iddo? Pwy a rwymodd mewn cadwyni Francis Dandalus, yr hwn ydoedd Ddûc o Venis, brenin Creta a brenin Cypres, ag a'i taflodd ef dan ei fwrdd i gnoi escyrn ymhlith cŵn? Pwy, nid ai law, ond a'i droed, a goronodd yr Ymerodr Henri'r 7-fed, ag a'r un troed a fwriodd y goron oddiar ben yr Ymerodr gan ddoedyd allu o hono-fo wneuthyr ymerodreu, a'u dad-wneuthyr hwynt fal y mynne efe? Pwy a barodd i Henri'r mab godi mewn arfeu yn erbyn yr Ymerodr Henri y pedwerydd ei dad ef, ag a wnaeth i'r mab ddal ei dad ei hun yn garcharor; a phwy wedi cneiffo a dirmygu'r Ymerodr a wnaeth ei fwrw ef mewn Mynachlog, lle, drwy newyn a nychdod a thrymder, y bu efe farw? Pwy mor frwnt aruthrawl a rodd dan ei draed wddf yr Ymerodr Frederic, a rhag na bae hynny ddigon trahaus, ef a draethodd yn y chwaneg y geirieu hyn o'r Psalmeu, "Ar yr Asp a'r Basilisc y cerddi, a thi a sethri dan dy draed y Llew a'r Ddraic :" y fath ddirmyg a diystyrwch ar fraint a mowredd Twysog ni chlywyd son am dano mewn oes yn y byd, na chynt na chwedi; oddieithr y peth a wnaeth Tamberlan brenin Scithia, yr hwn ydoedd wr ffromwyllt di-ddysc diddawn, neu'r hyn wnaeth Sapores, Brenin Persia.

Pabau ydoedd y rhain cymain un, a phob un yn cadw eisteddle Pedr Abostol, a phawb o honynt oeddynt Sancteiddiolaf, a hefyd rhaid cymeryd amryw eirieu pob un o honyn fegis amriw Efengylon."

Dyma etto ddarn sy'n ymosod ar allu ag awdurdod y Pab:

"Ond y mae arnaf fi chwant ymliw ychydig a'r Pab ei hun, a doedyd hyn wrth ei wyneb ef. Doedwch chwithe ini (sancteiddiol Bab) gan eych bod chwi yn ffrostio cymaint o henafiaeth ag yn bostio fod pawb yn rhwymedig yn unig i chwi, pwy er ioed o'r holl hen Dadeu a'ch galwodd chwi'n Brelat uchaf, neu'n Escob pennaf trwy'r holl fyd, neu'n ben ar yr Eglwys? Pwy onynt er ioed a ddoedodd ddarfod rhoddi'r ddau gleddyf i chwi? Pwy o honynt er ioed a fynegodd may iawn i chwi, a bod awdurdod gennych i ddyfyn Cymanfa-Gynghorau? Pwy onynt er ioed a soniodd nad yw'r holl fyd onid eych Dioces chwi? Pwy onynt a grybwyllodd ddarfod i'r holl Escobion dderbyn o'ch cyfiawnder chwi? Pwy onynt a yngenodd ddarfod rhoddi i chwi holl alluawgrwydd yn y nef yn gystal ag ar y ddayar? Pwy onyn a draethodd na alle na Brenhinoedd na'r holl wyr Eglwysig na'r holl fyd ychwaith mo'r barnu arnoch'i? Pwy onynt a ddoedodd fod Brenhinoedd ac Ymerodreu, drwy ewyllys a gorchymyn Crist, yn cymryd eu hawdurdod gennych? Pwy onynt, drwy mor ystrowgar gyfrwyddid mathematicaidd, a ddangosodd eych bod chwi ddeng-waith a thrugain saith-waith mhwy no'r Brenhinoedd mwyaf? Pwy onynt a fynegodd ddarfod rhoi i chwi mwy o allu ag awdurdod nag i'r Patrieirch eraill? Pwy o honynt a sonniodd may chwychwi yw'r Arglwydd Dduw? neu, nad oeddych yn unig o rywiogaeth dyn, eithr rhyw sylwedd wedi ei wneuthyr ai dyfu ynghyd o Dduw ag o ddyn? Pwy o honynt a grybwyllodd may chwychwi yw prif ffynnon holl Gyfraith? Pwy o honynt a yngenodd fod ichwi alluowgrwydd ag awdurdod ar y Purdan? Pwy o honynt a draethodd y gellwch'i orchymyn Angylion Duw fal y mynnoch eych hunan? Pwy onynt er ioed a ddoedodd may chwychwi yw Brenin y Brenhinoedd ag Arglwydd yr Arglwyddi?

Ar ddiwedd y llyfr, ceir rhybudd dwys a bygwth llym:—

"Eu holl nad a'u trin ydyw am gadw drwy gywilydd a gwarth a enillasant hwy drwy wradwydd. Achwyn arnom-mi'r pryd hyn y mae Pardynnwyr y Pab, a'i Roddwyr, Ardrethwyr llattaion, ag ereill yr rhai sy'n tybied may elw bydol yw duwioldeb, heb wasanaethu Crist eithr eu bolieu eu hun. Gynt gyntoedd y bu elwaniannol i'r fath ddynion a rhain, a thybied y maent eu bod nhwy'n colli beth bynnag y mae Crist yn ei ennill. Am hynny mae'r Pab yn cwyno ddarfod i gariad perffaith oeri a fferru, er mwyn nad ydis yn talu ardreth iddo ef cyn helaethed ag y byddid arfer. O ran hyn y mae ef yn peri'n cassau ni fwya ddim fyth a'r allo, gan regu arnom a'n bwrw yn euog o Heresi, fegis y tybio y sawl nid ydynt gydnabyddus a'n hachos nad byw mo'n gwaeth ni. Etto er hyn y gyd, yn y cyfamser, nid oes mor cywylidd arnom ac ni ddylem mor cywylyddio o achos yr Efengyl. Herwydd mwy gennym am ogoniant Duw nog am fri dynion. Nyni a wyddom mai gwir yw'r holl betheu rydym-mi'n ddyscu, ag ni allwn-ni na mynd yn-nerbyn eyn cydwybodau eyn hunain, na dwyn tystiolaeth yn-nerbyn Duw. Canys o gwadwn-ni ddarn yn y byd o Efengyl Iesu Grist geyr-bron dynion, ynte a'n gwada ninne geyr bron ei Dad. Ag od oes rai a fynnant fyth gymryd achos anfodlondeb ag na allant ddioddef athrawiaeth Crist, deillion (meddwn-ni) a thwyswyr deillion yw'r rhai hynny; etto, nid anllai, rhaid i ni bregethu a gossod allan y gwirionedd o flaen pob peth, a hefyd ddisgwyl trwy ddioddefgarwch am farn Duw. Yn y cyfamser, edryched y gwyr hyn beth a wnelont, a meddyliont am eu hiechydwriaeth, peidiont a chassau ag erlid Efengyl mab Duw rhag ofn iddynt gael di-wygwr a dialwr onaw ef yn ei achos ei hun. Ni ddioddefa Duw mo'i watwar. Y mae dynion yn canfod er ysdyddieu bellach, beth yr ydis arno. Am y fflam yma, pa fwyaf y cedwer hi lawr, fwy fwy y cyfyd ag y cynnydda hi. Ni wna eu hanffyddlondeb nhwy mo ffyddlon addewid Duw yn ofer. Ond os nhwy ni fynnant roi heibio hyn o galedrwydd calon a derbyn Efengyl Crist, diau ynte yr aiff Publicaniaid a phechaduriaid o'u blaen nhwy i wlad teyrnas nef.

Duw, Tad eyn Harglwydd Iesu Grist a egoro eu llygeid nhwy y gyd i allu gweled y gobaith sanctaidd i'r hwn y darfu eu galw, fal y gallom-mi y gyd yn un, ogoneddu'r un hwnnw sydd wir Dduw a'r un Iesu Grist, yr hwn a ddanfonodd ef i lawr attom o'r Nef: i'r hwn, ynghyd a'r Tad a'r Yspryd Glan y rhodder holl anrhydedd a gogoniant yn ollawl dragowydd. Amen." TERFYN.

Ar ddiwedd y cyfieithiad y mae ol-nodyn:—

"Yr araaithy fyddei yn fynech yn-geneu Sanct Asaph Episcop llan Elwy, DXC,—Y sawl a wrthladdant air Duw, cenfigenu y maent wrth iechyd eneit dyn."

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Kyffin
ar Wicipedia

EDWARD KYFFIN.

YCHYDIG iawn sydd ar gael o hanes Edward Kyffin. Ond y mae un peth sicr am dano, sef iddo gyhoeddi rhannau o'r Salmau ar gân yn 1603, a phleser yw darllen ei ragymadrodd llithrig i'w lyfr. Teitl y llyfr yn llawn ydyw,

"Rhann o Psalmae Dafydd Brophwyd i'w canu ar ôl y dôn arferedig yn Eglwys Loegr. Simon Stafford a'i Printiodd yn Llundain dros T.S. 1603."

Yr oedd Edward Kyffin felly ym mlodau ei ddyddiau adeg cyfieithiad y Beibl i'r Gymraeg, yng ngwanwyn deffroad Cymru am addysg ysgrythyrol. Ei ran ef yn y deffroad yma oedd cyfieithu rhai o'r Salmau,—mewn Cymraeg glân, cadarn, ac mae'n fwy na thebyg mai ei ddymuniad cryf yn ei ragymadrodd am i ŵr mwy cymhwys nag ef gymeryd y gwaith i fyny a ysgogodd feddwl yr Archddeon Edmwnd Prys i droi Salmau Dafydd ar gân.

Credir fod Edward a Morus Kyffin yn ddau frawd; yr oeddynt yn byw yn yr un adeg, mae dull eu hiaith yn debyg iawn i'w gilydd, a roedd y ddau wedi meddwl am wneyd yr un gwaith o gynghaneddu llyfr y Salmau (gweler Morus Kyffin, tud. 57).

RHAGYMADRODD EDWARD KYFFIN I'W PSALMAU CAN.

"At fy ngharedigion wlâd-wyr y sawl a garant Ogoniant yr Arglwydd, ag ymgeledd eu gwlad-iaith.

Wrth weled mor ofalus ydyw ieithyddion eraill am ei gwlad-iaith, a chynnydd yr efengyl drwy oll grêd, a bod y Saeson mor gymwynascar i'w gelynion y Spaeniaid ag iddynt brintio bagad o lyfre yn yr Yspaen-iaith a'u danfon ymysg y gelynion ar feddwl eu hynill at Dduw; a'r rhai a aeth a'r llyfre rheini at y gelynion, a fentriasant nid yn unig eu dâ a'u trafael ond eu hoedl hefyd ar fedr gwneuthur lles i Estrongenedl.

Pa faint mwy y dylem ni ymgeleddu ein hiaith ein hunain, yr honn a ddeffynodd y Goruchaf Dduw yn yr unlle yn y deyrnas honn ers seithgant ar hugain o flynyddoedd, ag ychwaneg ymysc cynnifer o amrafaelion cenhedloedd, terfyscoedd a dinystroedd a fu i'n mysg er yr amser hwnnw i geisio difa a dinystrio yr iaith a'i phobl yn llwyr. Yr hynn beth ni all yn nasiwn nag iaith ar sydd dan Grêd a Bedydd heddyw ddoedydd y cyffelyb. Am yr hynn yr ydym ni yn fwy rhwymedig i'r Arglwydd nag oll Bobloedd y byd: ag nyni yn olaf ag yn ddiweddaraf am osod allan Ogoniant Duw yn ein hiaith ein hunain.

Ag wrth weled a chlywed mor brydferth ag mor hyfryd rydys yn moliannu Duw yn yr holl Eglwysi lle mae'r Efengyl yn cael rhyddid, ond Ynghymru yn unig, wrth ganu Psalmae Dafydd, hynny a wnaeth i mi (Er Gogoniant i'r Arglwydd a Chariad i'm Gwlad), ddangos fy ewyllys dâ yn cychwyn hynn o waith ar ddechre cynghanedddu hynn o Psalmae yn nesa ag ellais at feddwl yr Yspryd Glân, fel y cefais hwynt yn scrifennedig yn y Scrythurau.

Mi a rois y Psalmae prés ar gyfer y cynghanedd, ag a adewais lê rhwng pôb vers ai gilydd o'r cynghanedd, fel y gallo rhai celfyddach gymhennu a pherffeithio hynn a wneuthym i ofras-naddiad, er praw yn unig, ag er annog eraill (a fedrant yn well) ei hail-ddiwygu hwynt. Gan ddymuno arnoch bawb yn ol ei allu hyfforddi fy wyllys da i a'ch cyngor a'ch cymorth, i amlygu i'r byd eych serch a'ch cariad i Dduw a'ch Gwlad. Yr hynn bêth os gwnewch, chwi a ogoneddwch yr Arglwydd, chwi a fawrhewch eych gwlad, ag a'm cyssurwch innau, nid yn unig i fynd trwodd a holl gorff y Psalmae yn yr un rhyw gynghaneddiad (yr hwnn fesur gynghanedd sydd gymwysaf ei ganu gann yr holl Gynlleidfa ar un-waith) ond hefyd i léshâu fyngwlâd ymhellach ar ôl hynn mewn pethau duwiol eraill o'r Scrythur làn drwy obeithio gann gadw o Dduw nyni a'n hiaith mor gryno ag mor ddilwgr dros gyd o amser, fôd gann yr Arglwydd Dduw ryw orcheswaith a goruchafiaeth tu ag at amlhad ei ogoniant ei hûn ym-mysc yr hên Frutaniaid a gadwodd ef mor wyrth-fawr mewn rhyddid a diogelwch hyd yn hynn.

A chann eyn bod yn byw yn yr oes honn dann ardderchockaf Vrenhineso'n gwlâd eyn hunain, yr honn sydd yn canhiadu i ni gael y Scrythur lan yn ein hiaith eyn hunain, ag oll gyfreidiau eraill ar a ddamunem er cael tu ag at amlhau Gogoniant Duw, a mawrhad eyn hiaith: (yr hynn bêth ni a attolygwn i Dduw ei hir-gynnal i ni rhag-llaw). O fy anwyl wladwyr tra fo Duw yn canhiattau i ni y rhwydd-deb, yr heddwch, a'r rhyddid y rydym yr rowron yn ei gael, na chollwn yr amser presennol, ond yn hytrach gwaredwn yr hîr-amser a gollasom yn barod, a dangoswn i'r byd eyn bod yn prisio mwy am ogoniant Duw, am orchafiaeth a derchafiad eyn gwlâd a'n hiaith ag am ddi-dranck lywenydd ag iechydwriaeth eyn Eneidiau eyn hunain nag yr ydym am ddarfodedig fwnws y byd hwnn, yr hynn nid oes i ni ond byrr amser iw fwynhau.

Ag ar hynn mi a ddymunwn ar bob gwir Gymro na rodde hun iw lygaid, na heppian iw amrantau (fel y doedodd y prophwyd Dafydd) nês gweled Gogoniant yr Arglwydd, drwy hy-hyfforddi gorffenniad y Gorchwyl duwiol yma yn ei wlad-iaith ei hunan.

Yr oll-alluawg Dduw yr hwn yn unig a roes y meddwl ynof i gychwyn hynn o waith a gynhyrfo ynoch chwithau wyllys i gymhorth yr unrhyw, tu ag att helaethiad Gogoniant Duw, mawrhad eyn priod-iaith, a chyssur eyn Eneidiau erbyn y dydd a ddaw.

Yr eiddoch iw orchymyn yn-Christ Iesu.

EDWARD KYFFIN."

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward James
ar Wicipedia

EDWARD JAMES.

MAE tywyllwch dudew yn aros ar hanes a bywyd Edward James, cyfieithydd medrus "llyfr yr Homiliau." Brodor o'r De ydoedd, derbyniodd ei addysg ym mhrif athrofa Rhydychen, ond ni wyddir a dderbyniodd urddau Eglwysig. Rhaid ei fod ym mlodau ei ddyddiau ddiwedd teyrnasiad y frenhines Elisabeth, canys cyhoeddwyd yr "Homiliau" yn 1606, a gwelodd yntau felly y Beibl yn Gymraeg a Phrotestaniaeth wedi cael y llaw uchaf ar y Babyddiaeth yn Lloegr, a gallu teyrnas Spaen wedi ei dorri. Fe ddwg amryw lenorion dystiolaeth uchel i werth ei waith. Dywed Gwilym Lleyn, Golygydd "Llyfryddiaeth y Cymry," am dano, " Y mae ei gyfieithiad o'r 'Homiliau' yn gyfieithiad rhagorol dros ben, ac yn teilyngu sylw pe na bai ond er mwyn ei briodedd wir Gymreig yn unig. Saif Edward James ar orsaf uchel fel gwasanaethwr ei gyd-genedl, yn ymyl Gwilym Salsbri, yr Esgob Morgan, a'r Esgob Parri; ac fel ysgrifenwr Cymraeg dilediaeth, nid yw yn ol i un o honynt." Pa bryd y bu farw, nis gwyr neb, ac os cafodd gareg fedd, y mae mwswg a glaswellt wedi tyfu drosti.


"Pregethau a osodwyd allan trwy awdurdod i'w darllein ymhob Eglwys blwyf a phob capel er adeiladaeth i'r bobl annysgedig. Gwedi eu troi i'r iaith Gymraeg drwy waith Edward James.
Robert Barker, printiwr i odidowgaf fawrhydi y Brenin, ai printiodd yn Llundain. Anno Dom. 1606."

Wele'r Rhagymadrodd:—

"Y mae'r Apostol Paul yn tystiolaethu yn oleu na all neb alw neu weddio ar Dduw heb gredu ynddo, na all neb gredu heb wrando, na neb wrando heb fod rhai a bregetho air Duw iddynt. Am hyny, pan ystyriodd y brenhin ieuangc duwiol Edward VI. pa mor anaml oedd gwir bregethwyr gair Duw o fewn ei deyrnas ef, y rhai a fedrai addysgu'r bobl i gredu yn Nuw, i alw arno, ac i gadw ei orchymynion sanctaidd ef, efe a barodd wrth gyngor ei gyngoriaid i wŷr duwiol dysgedig, cyfarwydd yngair Duw, gynnull a scrifenu yr Homiliau duwiol yma, allan o'r Ysgrythyrau sanctaidd; unig ffynnon pob doethineb; unig ymborth yr eneidiau; unig dywysog ac arweinydd, a rhinwedd, a duwioldeb; unig ddiwreiddydd pob chwyn gwenwynig; unig wrthladdydd pob anwybodaeth; ac unig gyferbyn yn erbyn pob athrawiaeth dwyllodrus, yr hon sydd yn tywys i ofer-goel, trawsopiniynau, a delw addoliad. Yn yr Homiliau hyn y cynhwysir y prif byngciau o'n ffydd ni, ac o'n dyled tu ag at Dduw a'n cymmydogion; fel y gallai adrodd, datgan, a darllain yr Homiliau hyn, bregethu i'w pobl wir athrawiaeth; ac fel y gallai pawb o'r bobl wrth wrando, ddysgu'n union ac yn iawn anrhydeddu ac addoli'r Hollalluog Dduw, a'i wasanaethu yn ddiwyd. Yr Homiliau hyn hefyd, am eu bod mor fuddiol, a orchymynodd yr ardderchog Frenines Elizabeth eu hargraffu eilwaith [yn Saesneg, bid sicr]; a hi a roddodd yr un gorchymyn am eu darllain hwy ag a roisai ei brawd duwiol yn y blaen. Ac megis na ellir dywedyd bod ar y ddaear erioed Dywysog a ddangosodd ymhob peth arall fwy o zel Dduw, ac o ofal dros ei ddeiliaid, na'r Brenhin godidog ardderchog duwiol James ein Grasusaf Frenhin a'n Llywydd; felly yn y peth hyn ni ddangosodd efe ddim llai o'r fath zel a gofal nag a ddangosasai y Brenhin Edward VI., a'r Frenhines Elizabeth o'i flaen ef. O herwydd yntau trwy gyfraith eglwysig (fel y gellir gweled yn y 46 Canon a wnaeth y Gymmanfa Esgobion ac Eglwyswyr, a gynhaliwyd yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad ef ar Brydain, Ffrainc a'r Iwerddon, yr hon a gadarnhaodd ei fawrhydi ef a'i awdurdod goruchel brenhinol) a rois orchymyn caled ar fod i bob Person, Ficar, a Churat, ddarllain yr Homiliau hyn bob Sul a gwyl (o ddiffyg pregeth) ymhob Eglwys Blwyf a Chapel o fewn ei deyrnas; fel y gallai y rhai ni chlywant lafar pregethwr ond yn anaml, wrth arfer o glywed darllain y pregethau duwiol dysgedig hyn yn fynych ddysgu mewn amser gredu yn Nuw yn union ac yn ffyddlon, galw arno o ddifrif, ac yn deilwng, gwneuthur y cwbl o'u dyled tu ag at Dduw a'u cymmydogion, ac ymddwyn felly yn y byd hwn yn ol gwybodaeth, fel y caffont fwynhau bywyd tragwyddol yn y byd a ddaw trwy ein Iachawdwr Iesu Grist. Etto er nad oedd rheitiach i un wlad wrth y fath ynhorthwy nag i wlad Cymru, am fod pregethwyr mor anaml ynddi, ni ewyllysiodd Duw i ni gael neb o'r Homiliau hyn na'r fath eraill yn yr iaith Gymraeg hyd yr amser hyn. Ond wele, y Cymro, hwy yn awr yn dy iaith di dy hun, fel y medrech dithau wrth eu gwrando eu deall hwy, Duw a wnelo wneuthur i ti fawr lles, ac a'th wnelo dithau yn ddiolchus i Dduw am ei fawr ddaioni. Amen."

Dyma eto ddarn byr o'r argraffiad cyntaf, 1606, i ddangos ei ddull clir a'i feistrolaeth ar gyfieithu:—

"Megis nad yw gwir ystyr yr athrawiaeth ymma: yr ydys yn ein cyfiawnhau ni yn rhâd, heb weithredoedd, neu fe'n cyfiawnhau'r ni trwy ffydd ynghrist yn unic: nid yw yr ystyr, meddaf, mai'n gorchwyl ni yn credi ynghrist, neu ffydd Grist yr hon sydd ynom ni, sydd yn ein cyfiawnhau ni, ac yn haeddu ini gyfiawnhad (o herwydd ni byddai hynny onid ein cyfrif ein hunain yn gyfiawn drwy ryw weithred neu rinwedd ynom ein hunain). Ond gwir ystyr a meddwl yr athrawiaeth hon, yw, er ein bod ni'n gwrando gwir air Duw, ac yn ei gredu, er bod yn om ffydd, gobaith, cariad, edifeirwch, ac ofn Duw, ac er ein bod ni'n gwneuthur llawer o weithredoedd da, etto rhaid ini ymwrthod a holl haeddiant y rhinweddau ymma, ffydd, gobaith, cariad, a phob rhinweddau eraill ar a wnaethom, neu a allwn eu gwneuthur, megis pethau o lawer yn rhy weinion, yn rhy analluog, ac yn rhy anghyflawn i haeddu ini ollyng dod o'n pêchodau, a chyfiawnhâd, ac am hynny rhaid ini ymddiried yn unic ynnhrugaredd Duw, a'r aberth a wnaeth ein Archoffeiriad, a'n Ceidwad Christ Iesu mâb Duw a offrymmodd ef unwaith drosom ni ar y groes, i hebrwng ini trwy hyny râd Duw a gollyngdod, cystadl o'n dechreuol bechodau cyn bedydd, ac o'n pechodau gweithredol y rhai a wnaethom ar ol bedydd, os ni a wir edifarhawn, ac a drown yn ddiragrith atto ef."

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Morgan Llwyd
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llyfr y Tri Aderyn
ar Wicipedia

MORGAN LLWYD.

AMSER blin ac ystormus oedd tymor bywyd Morgan Llwyd. Gwyddom adeg ei farw, y trydydd o Fehefin, 1659, blwyddyn ar ol marw Olifer Cromwel, a blwyddyn cyn dychweliad Siarls yr Ail; ac er mai gwir i Forgan Llwyd farw yn ddyn ieuanc deugain oed, gwyddai yn dda am erchylldra y Rhyfel Mawr rhwng Siarls I. a'r Senedd. Mae sicrwydd bron mai yng Nghynfael, Maentwrog, Sir Feirionnydd, y'i ganwyd, a'i fod yn berthynas i Huw Llwyd, cyfaill calon Edmwnd Prys. Ni fu erioed yn yr un brif-athrofa, eto cafodd addysg dda. Feallai mai yng Ngwrecsam y bu yn yr ysgol; beth bynnag, yno y cafodd droedigaeth dan bregeth Walter Cradoc, yn 1634. Ar ol ei ddychweliad at grefydd, ymdaflodd Morgan Llwyd o ddifrif i'r gwaith o efengyleiddio Gogledd Cymru, a pharhaodd i weithio a'i holl egni tan ddiwedd ei oes. Teithiol, yn ddiameu, oedd dull ei weinidogaeth, a rhaid fod iddo gyfarfod a llawer o anhawsterau, gan fod Gwynedd yn hynod yr adeg yma am ei dallbleidiaeth i Babyddiaeth a'r Frenhiniaeth. O dan Weriniaeth Cromwel, ymgartrefai Morgan Llwyd yng Ngwrecsam, ac yn ei deithiau pregethu oddiyno, sefydlodd Eglwysi Ymneillduol cyntaf y rhandir hon.

Ym mlynyddoedd olaf ei oes, o 1653 1 1659, ymroddodd i ysgrifennu llyfrau,—llyfrau ddangosant ei fod yn wr o allu anghyffredin iawn a'i fod yn feistr ar arddull ysgrifen. Ei waith pwysicaf yw "Llyfr y Tri Aderyn," gyhoeddwyd yn 1653, neu yn ol ei lawn deitl, "Dirgelwch i rai i'w ddeall ac eraill i'w watwor, neu lyfr Tri Aderyn." Dangoswyd gwerth a phwysigrwydd y llyfr yma gan Dr. Edwards mewn ysgrif nodedig yn y Traethodydd, 1848, ac yn ei ragymadrodd penigamp i'r un llyfr, dywed y Parch. Owen Jones, B.A., mai dyma yr unig lyfr o waith Morgan Llwyd sy'n hollol wreiddiol, tra mai lledgyfieithiad yw y gweddill. Ac er mwyn esbonio natur ac amcan "Llyfr y Tri Aderyn," dyfynaf y frawddeg hon:—"Nis gallasai ddethol tri mwy cymhwys o holl adar y nefoedd na'r Eryr, y Golomen, a'r Gigfran i osod allan Cromwel a'i ddidueddrwydd teg; y Diwygwyr Puritanaidd ac Anghydffurfiol, eu hegwyddorion a'u hysbryd, ym mha oes bynag; a'r Eglwys Sefydledig, fel yr oedd Laud a'i greaduriaid wedi ei darostwng yn ei rhagfarn, ei llygredigaeth, a'i hysbryd creulon ac erlidgar." Gallwn fentro rhoi taer a chynnes wahoddiad i bob un ddymuno ddarllen Cymraeg pur diledryw ac ymgodymu a meddyliau uchel a godidog i brynnu "Llyfr y Tri Aderyn," fel y mae wedi ei argraffu yng Nghyfres y Ceinion (Isaac Ffoulkes, Lerpwl). A disgwylir y bydd i hyn o bigion o hono symbylu llawer i ddarllen yr holl waith.

LLYFR Y TRI ADERYN.

Dirgelwch i rai i'w ddeall, ac i eraill i'w watwor; sef, Tri Aderyn yn ymddiddan—yr ERYR, a'r GOLOMEN, a'r GIGFRAN—neu Arwydd i Annerch y Cymry yn y flwyddyn mil a chwechant a thair ar ddeg a deugain, cyn dyfod 666.

Ymgydnabod
yr Adar.
Eryr. O BA le'r wyti (y Gigfran ddu) yn ehedeg?

Cigfran. O dramwy'r ddaiar, ac o amgylchu'r gweirgloddiau i ynnill fy mywyd.

Eryr. Onid tydi yw'r aderyn a ddanfonodd Noah allan o'i long na ddaeth yn ol fyth atto drachefn?

Cigf. Myfi yn wir yw'r Aderyn hwnnw, ac mae arnai dy ofn di, brenin yr Adar.

Er. Pam na ddoit ti yn ol at yr hwn a'th ddanfonodd?

Cigf. Am fod yn well gennif fwytta cyrph y meirwon na bod dan law Noah ai feibion.

Er. Di wyddost (O, Gigfran!) i'r golomen ddychwelyd yn ol, ai deilien wyrdd yn ei phig.

Cigf. Beth er hynny? nid yw hi ond aderyn gwan ymysg ehediad y ffurfafen; rwi fy hun yn gryfach, ac yn gyfrwysach o lawer.

Er. Ond yr wyti yn bwytta cig y meirwon, ac yn ymborth ar y budreddi annaturiol.

Cigf. Felly yr wyt tithau (O, Eryr!) weithian, er dy fod yn falch, ac megis yn frenin.

Er. Gwir yw hynny: Ond galwn am y golomen i wrando beth a ddywed hi am dani ei hun ac am danom ninnau.

Cigf. Ni ddaw hi i'n cwmni ni rhag ofn, ac ni feiddia hi ddywedyd ei meddwl lle bwyfi.

Er. Nage. Rhaid wrth gynghor y golomen. Gwrandawn ar bawb, a dewiswn y gorau. Pa le yr wyti (O, golomen!) yn lloches y grisiau? Gad i ni glywed dy lais dithau.

Col. Os cair cennad (ac onide) mae ewyllys i ddangos dirgelwch y dwfr diluw, a'r hen fyd a'r newydd; da gennif ddwyn y ddeilien lâs, a newydd da i'r rhai a achubir. Ac mi ddylwn gael cennad i ddywedyd y gwir yn llonydd am danaf fy hunan ac am bob aderyn arall.

Er. Dos rhagot. Ni rwystra neb di: di gei gennad i fynd ymlaen.

Col. Mae gennifi etto lawer ynghylch yscrythurau ac eneidiau dynion, ynghylch teyrnasoedd a rhyfeloedd, Arch y dystiolaeth a chodiad y seren ddydd, Haul y cyfiawnder, a dydd y farn, diwedd y byd hwn, a dechrau'r byd arall, naturiaeth Duw a natur dyn, nef ac uffern, a llawer o fatterion eraill. Ond mae'r gigfran yn anhywaith, ni chair son am ddim daioni o'i bodd hi.

Er. Ond mae Noah wedi peri i mi, 'r Eryr, lonyddu'r Gigfran, a chadw heddwch ymysg Adar: ac fel yr ydym ni, 'r Eryrod, yn gryfach na'r cigfrain, felly mae'r da yn gryfach na'r drwg.

Col. Beth a fyn yr Eryr i wybod? ac am ba'r y newydd y mae yn ei feddwl ymofyn?

Er. Mi fynwn wybod genniti pa beth yw dirgelwch Arch Noah; a chan fod y dychryn, a'r diluw, a'r rhyfel, a'r rhwystrau, a'r gwae, a'r gwagedd, a'r camwedd wedi parhau cyhyd ar y ddaiar; pa bryd y ceir diwedd?

Col. Cyfrinach yw Arch Noah iw ddangos i rai, canys nid yw'r adar drwg, nag yn deilwng, nag yn ewyllysgar iw glywed: ond am y ddeilien wyrdd, a'r newydd da, fe baid y dwfr diluw pan bregether yr efengyl dragwyddol drwy'r holl ddaiar.

Er. Onid yw'r pregethwyr yn i phregethu hi ymhob plwyf yn barod ar i rhedeg, ac yn parablu, ac yn darllain yr efengyl i ni yn ein sefyll?

Col. Nag ydynt, gan mwyaf: Nid adwaenant Dduw, mwy nag y mae'r twrch daiar yn adnabod yr haul, neu blant Eli yr hwn ai gwnaeth.

Er. Ond mae nhwy yn dywedyd mai pregethu'r efengyl y maent i gyd.

Col. Ie, os yr un llais sydd gan y gigfran a'r golomen, neu os yr un fath yw cyfarthiad cŵn a lleferydd angelion. Ac nid un o ddefaid yr Oen nefol yw'r hwn ni ŵyr nad blaidd yw bugail, ac nad bugail yw'r blaidd.

Cweryl.Cigf. Na feia ormod arnafi: pa warrant oedd genniti, os gwiw gofyn, i dori pen y Brenin, ac i symmud Parliamentau wrth dy bleser dy hun, fel na wyr fawr yr awron i bwy yr ymostwng i dalu teyrnged. Ac mi welaf fod teyrnas heb reolwyr fel corph heb ben, a phawb yn gwneuthur a fynno ef ei hunan.

Er. Geirwon yw geiriau'r Gigfran. Ond gwrando er hynny ar reswm. Mae yspryd rheolaeth fyth yn parhau, a'r sawl na phlycco iddo a ddryllir. Mae Noah yn rhoi rheolaeth i'r sawl a fynno; yn gostwng y naill, ac yn codi'r llall o'r dommen i reoli. Nid oedd Gideon, a Saul a Dafydd, ond gwŷr gwael ar y cyntaf yn y byd. Ac o'r tu arall, y mae efe yn chwythu ymmaith bennaethiaid y byd, fel llwch y llawr dyrnu i'r dommen, canys nid yw efe yn derbyn wynebau dynion; nid yw'r holl ddaiar ond stôl draed iddo. Mae efe yn rhychwantu y ffurfafen, ac yn dal y môr mawr ar gledr ei law, ac yn pwyso y mynyddoedd mewn cloriannau; ac os bydd un gwr mawr yn rhy yscafn, mae efe yn i roddi heibio; ond y mae efe yn edrych ar yr isel, ac yn cynnal y galon dorredig.

Cigf. Mi welaf y teyrnasoedd yn berwi fel ped faent grochanau ar y tân. Ond beth a ddaw, dybygi di, O! Eryr, ar ol hyn?

Er. Ni wn i fy hun, mi gaf wybod gan y golomen: ond rwi'n tybied y ceir etto fyd gwell nag a gaed erioed, canys yn y nef a'r ddaiar newydd fe erys cyfiawnder.

Cigf. Ond oni weli dy hunan fod y byd yn myned waeth waeth, a chariad perffaith yn treio?

Er. Na sonia di am gariad perffaith, O! gigfran amherffaith. Beia arnat dy hun yn gyntaf, ac yna mae gobaith o honot. Oni weli di fod yr haul yn cledu'r clai? a pha dwymna y tywynno ar y dommen, brynta fydd: mae'r da yn myn'd well—well ymhob oes erioed, a'r drwg yn mynnu mynd yn waeth-waeth.


Athroniaeth
y Golomen
Cigf. Mae Noah wedi fy ngwrthod i,ac nid gwaeth i mi beth a wnelwyf os . gwrthodedig ydwyf.

Er. Nid efe a'th wrthododd di, ond dydi ai gwrthaist ef, ac a aethost ymmaith. Cariad ac ewyllys da yw efe, ac nid oes dywyllwch ynddo: hawdd ganddo faddeu i'r gwaethaf; anhawdd ganddo ddigio, a gwych ganddo hir-ymaros.

Cigf. Ond mae llawer yn dywedyd i fod ef wedi gwrthod llawer, a dewis rhai cyn i geni.

Er. Mae hyn tu hwnt i'm dysg i: fe alle y gŵyr y golomen y dirgelwch hwn. Beth a ddywedi di?

Col. Anhawdd dywedyd, ac anhawdd deall pa fodd y mae'r dyfnder hwn yn Noah. Ond mi ddarllenaf i chwi yr A, B, C, cyntaf fel hyn. Mae ynghragwyddoldeb dri yn un, sef ewyllys, cariad, a nerth, a'r naill yn ymgyrhaeddyd erioed a'r llall, ac yn ymborth ac yn ymgenhedlu yn i gilydd byth. Oni bai fod pleser cariad trag wyddol i borthi'r ewyllys anfeidrol, ni byddai neb yn gadwedig. Ac oni bai fod cynhyrfiad yr ewyllys cyntaf yn dân lloscadwy, ni byddai neb yn golledig. Ac oni bai fod y tri fel hyn yn cydweithio, ni buasai na dyn, nag angel, nag anifail, na dim arall wedi i wneuthur. Mae rhai wedi ymesgor erioed yn y cariad drwy yscogiad yr ewyllys, yr hwn sydd yn i gwasgaru fel gwreichion allan o hono ei hun, ac yn i tymheru yn nwfr y difyrwch, yr hwn yw'r Arch, nid yw gwreiddyn y tri ond cariad ynddo ei hun, heb gashau neb. Ond yn yr ewyllys gweithgar hwnw mae'r ysgogiad yn tewychu y peth sydd ynddo, ac yn gadel heibio (fel pren ei ddail, neu ddyn ei boeryn) y peth nad yw un ag yspryd y galon. Wele, nid yw'r cigfrain yn adnabod tarawiad y tant ymma yn y delyn nefol. Ond deall di, O Eryr, ac fe a ddeall y colomennod hyn fwyfwy. Canys fel dymma wreiddyn y matter, a ffynnon pob peth. Dymma fôn derwen yr holl fyd gweledig hwn. Dymma y cynhyrfiad tragwyddol sydd yn achosi pob symmudiad ymysg yr holl greaduriaid. Ond nid yw'r adar ar ganghenau'r pren yn meddwl pa fodd y mae'r gwreiddyn yn cynnal ei naturiaeth, a nhwythau ynddi. Yr ewyllys cyntaf yw gwreiddyn pob un (fel y mae'r wreichionen yn dyfod o'r garreg) ac mae efe ei hun yn ymgyrchu yn wastad i fonwes y Mab, ac yn ymlonyddu yno yn y cariad; ond mae llawer o'r gwreichion heb fynnu ymoeri felly ond yn ehedeg gyda Luciffer yn erbyn y goleuni a'r tawelwch tragwyddol, ac yn aros yn yr yscogiad tanllyd, heb gael esmwythdra byth, eisiau dyfod iw geisio allan o'i naturiaeth ei hunain. Mae gallu yn yr ewyllys i ysgog, ond nid oes mor ewyllys gyda gallu i ddychwelyd (fel y dywad y gigfran o'r blaen ran o'r gwir). Am hynny, mae llawer yn i gwrthod ei hunain, ac yn achwyn ar Noah. Ac er bod i fonwes ef yn i chwennych, mae ei monwes danllyd hwynt yn i dal yn ei teyrnas ei hunain. Ond, O Eryr, os cofi di ofyn ymhellach am hyn, pan fôm ni wrthym ein hunain yn y distawrwydd, mi ddangosaf yn helaethach wreiddyn pob dirgelwch. Ond yr awron dos ymlaen i chwedleua a'r gigfran.


Dau Esboniad.Er. Nid rhyfedd wrth hyn fod llawer yn golledig, os yw pob dyn fel nythod o nadroedd yn llawn o feddyliau cnawdol. Ond beth a ddywaid y från wrth hyn ?

Cigf. Dymma daro at y gwreiddyn. Os drwg gynghorwr, drwg ganlynwr. Os tywyll goleuni rheswm, mae'r holl gorph yn dywyll, a phob gair ar a ddywedais i erioed yn ofer. Ond (om rhan i) rwi'n tybied fod rheswm ymhob peth, ac mai rheswm naturiol yw'r goleuni gorau. Dymma wreiddyn y pren a blannwyd yn ddwfn. Diwreiddied y golomen ef, os gall.

Col. Mi wn mai dymma Salomon y byd, ond mae yspryd gwirion y golomen yn fwy na Salomon yn ei holl ogoniant ai ddoethineb. Ond i ddangos i ti ddoethineb ddaiarol y frân, ei synwyr hi yw hyn, Dalied pawb ei eiddo, cippied pawb a allo; safed pob dyn ar ei waelod ei hun; na ddyweded mor gwir mewn cariad, ond mewn creulondeb; na ddringed uwchlaw rheswm dyn; canlyned y byd ei arfer ; maged ei naturiaeth, ai gnawd, ai waed, a gwaried ei amser mewn trythyllwch. Bwyttaed ac yfed, a bydded lawen; bodloned bawb er i fwyn i hun; bydded ganddo ddau wyneb yn barod, ai galon yn ddauddyblyg; bydded gall drosto ei hunan, onid e marw a wna. Ond dymma ffolineb y byd, dymma ynfydrwydd pen agored, canys nid call y dyn ai ceisio ei hun. Y sawl sydd a dau wyneb gantho, mae un o'r ddau yn gythreulig: y neba wenhieitho i ddynion sydd bwdr yn ei galon. Hawdd yw bwytta, yfed, a chwarae gormod, a dawnsio yn y cnawd ar ôl pibell yr ysbryd drwg. Ysbryd y gwaed yw cwmmwl y meddwl. Arfer y byd yw'r porth llydan i ddestryw. A'r sawl na ddringo uwch ei law ei hun, ni eistedd fyth yn y Nefoedd. Mae'r dyn difyr, chwerthinog, allan o'i gôf ei hun, ac o'r tu fewn i gôf y sarph. Amser dyn yw ei gynnyscaeth, a gwae ai gwario yn ofer. Rhaid yw dofi yspryd y cnawd, a magu bywyd ysbryd yr uchaf. Boddi a wna'r dyn na nofia yn erbyn ffrwd y wlad. Y rheswm uchaf yw'r afreswm isaf. Ni saif neb ond un arno ei hun. Nid eiddo neb ei hunan. Cadwed pawb ei galon at Dduw. Adrodded pob un ei gydwybod yn ddoeth. Cladded dyn ei reswm ei hun. Ond dyma iaith nad oes nemmor yn ei ddeall. Nag ofned neb arall cymmaint ag ef ei hun. Oni fedri roi taw ar eraill, distawa dy hun. Pan fo mwyaf swn yn y byd, bydded lleiaf yn dy galon. Nac ofna ddiafol na châr y pechod ac na chynnwys dy hun. Na ddalied ysbryd y creadur di, ond nofia i Ysbryd y Creawdwr. Cyfrif y da o'th flaen yn berl, a'th waith o'th ôl yn dom. Melys i'r cnawd yw siwgwr diafol, ond bwytta di y manna dirgel. Mochyn yw Luciffer yn ymdreigio ynghawd dyn. Crochan hwn yw calon fudr yn berwi ar dân uffern. Gwyniau'r cnawd ynt feirch o ryfel; descyn oddi arnynt ac nag oeda. Perthen o ddrain yw rhesymmau dyn, ai gwado ei hun a ddiangc o honi. Portha dy chwant, ac fe a'th ladd. Llei mae dynion mae angelion, llei mae angelion y bydd dynion. Y sawl sy'n byw ynddo ei hun sy'n byw allan o fonwes y Tad. Oni elli achub eraill, diange dy hun oddiwrthit dy hun. Gwell yw adnabod y galon yn y byd ymma, nai bod hi yn adnabod digofaint byth. Pa fodd y gelli fod yn llonydd oni byddi ar y graig. Nid gwaeth beth a ddywedo ffyliaid, nid ei gair nhwy y saif. {[lein|5em}}

Newid,
y pwnc.
Er. Oni ŵyr y pechadur pwy sydd yn aros ynddo?

Col. Na ŵyr, mwy nag y mae'r muriau meirwon yn adnabod y trigianydd. Canys ni fỳn dyn weled y carnlladron o bechodau sydd yn llechu ynddo fel y gweli di y genegoegion a'r pryfed mewn pwll drewllyd.

Er. Gâd hyn heibio yr awron. O ba le y daeth yr holl ddwfr i foddi yr holl fyd?

Col. Allan o drysorau y Goruchaf. Efe a rwygodd y dyfnder mawr ynghalon y greadwriaeth oddi tanodd, ac a egorodd ffenestri element y dwfr oddiarnodd ; a rhwng y ddau ddwfr yn un, fe orchfygwyd pob cnawd er dewred oedd. Ac ar ddydd y farn olaf, fe ddaw tân ysbrydol, a thân naturiol, i farnu ac i brofi'r byd, oddiwrth y Goruchaf, yr hwn sydd ganddo yn ei drysordŷ y tân, a'r gwres, a'r gwynt, a'r glaw, a'r ôd, a'r rhew. Ac ni all un cnawd aros na'î wres na'i oerni ef. Ac fel y gwnaed corph dyn o bedwar defnydd (sef tân, awyr, dwfr a daiar), felly ni all un corph cnawdol spario yr un o'r pedwar, na byw ar awyr heb ffrwyth y ddaiar, nag yn y gwres heb ddwfr, nag yn y dwfr heb y tri eraill: am hyny fe foddwyd pob peth a'r yr oedd anadl y bywyd ynddo, ac fe ddygwyd ysbryd pob cnawd nad oedd yn yr Arch dan gaethiwed y dwfr.

Er. Pam y deuai y dwfr ymma i foddi dynion druain, heb roi rhybudd i fod yn dyfod fel y gallent i ochel?

Col. Nhwy gawsant rybydd i gyd gan Noah (pregethwr cyfiawnder): ond roedd yr holl fyd yn chwerthin am ei ben ef, er bod pob dyrnod morthwyl yn bregeth yn galw ar y byd cyndyn i'r Arch.


Dim ofn
marw
.
Er. Rwyti yn sôn yn fynych am Baradwys, wyddost ti pwy sydd yno?

Col. Dod gennad i mi i son yn ddifyr am fy ngwlad a'm bro fy hunan. Rhaid i bawb son am ei gartref. Rwi (mewn rhan) ynddi yn barod, a'r colomennod gyda'm fi, fel y dywedais i ti.

Er. Ond beth ped fawn i yn dy ladd di yr awron, i ba le yr ait ti?

Col. I mewn ymhellach i'm gwlad; canys ni ellir mo'm gwthio i allan o'm naturiaeth: a naturiaeth nefol yw paradwys.

Er. A wyddosti beth yr wyti yn i ddywedyd?

Col. Gwn, er na fedrai beri i ti ddeall.

Er. Onid oes arnat ti ofn marw er hyn i gyd?

Col. Nag oes, mwy nag ar un sydd wedi blino, fynd iw wely i orphwys. Cennad yw angau oddi wrth fy Nhad i'm dwyn i adref allan o yscol y byd hwn, fel allan o garchar y cnawd.

Er. Ond mae ofn marw ar eraill?

Col. Mae iddynt hwy achos, canys pan fo angau yn marchogaeth attynt hwy, mae uffern yn ei scîl ef.

Er. Pam nad oes arnat tithau ofn marw?

Col. Am fod Un arall wedi marw drosofi, a hwnnw yw fy Meichiau i. A digon yw naill ai iddo ef ai i minnau farw.

Er. Oni bu efe farw dros bob un arall cystal a thithau?

Col. Fe fu farw dros bawb, ac mae pawb yn cael llès oddiwrtho dros amser. Ond nid ydynt hwy yn i garu ef, ond yn ymollwng oddiwrtho i fyw ac i farw fel Balaam. Ac oni bai iddo erioed ymroi a chytuno i farw, ni buase y byd ymma yn sefyll munud awr ar ol cwymp Adda.

Er. Ond bu efe farw lawer blwyddyn ar ol hynny?

Col. Ond deall di, O! Eryr, iddo addo, a bwriadu marw, er sylfaeniad y byd; a'r peth a fwriado efe, mae hynny fel ped fai wedi i wneuthur yn barod.


Rhy ddwfn
i'r Eryr.
Er. Er a ddywettech di, nid yw hyn yn mynd im pen i, nag im calon chwaith. Ar pen yw drws y galon. Pa fodd y mae i ddyn feddwl heb gam feddwl am y pethau hyn?

Col. Ni all fod ond un anfesurol; a hwnnw am i fod ef yn berffaith, rhaid iddo fod ymhob man ar unwaith, ac yn llefaru wrth bawb yn wastad, yn clywed ac yn cynnal pob peth ar unwaith. Nid rhan o hono sydd ymma, a rhan accw, canys nid oes mor rhannau ynddo. Ond mae fe i gyd, ac yn gwbl, ac yn hollawl ymhob man ar unwaith. Am hynny y galle Moesen chwedleua âg ef wyneb yn wyneb, canys yr oedd yr holl Dduwdod o flaen ei lygaid ef. Ond ni wêl neb hyn ond y meddwl ysprydol, fel naellir gweled yr haul ond yn ei oleuni ei hunan. Pwy sydd yn gweddio? neu pwy sydd yn pregethu? neu yn rhoi tro yn y byd, ac yn gweled fod yr holl Dduwdod i gyd, sef y Duw mawr, ai holl olwg arno? ac yn deall mai lle y mae ei gariad ef, yno y mae bywyd a pharadwys; ac lle mae ei ddig ef, yno y mae angau ac uffern. Hwn yw'r Duw anfesurol, bendigedig byth, yn ymlonyddu ynddo ei hunan, ac iddo fe bo'r clod ym mhob man yn dragywyddol. Ni ddyle ddyn son am ei enw ef heb barch a chrynfa, canys ynddo y mae pawb yn son am dano. Oi flaen ef y mae'r nefoedd yn diange, a char ei fron ef y mae'r angelion sanctaidd yn ymguddio; ond mae dynion fel anifeiliaid direswm, uffernol, yn rhuo, yn anghofus, yn cablu, yn camarfer y gair, yn tyngu, yn drwg- feddwl, yn melldithio, yn rhegi eraill ai heneidieu ei hunain, heb weled fod y tân aniffoddadwy wrthynt ac ynddynt. Ac mae rhai eraill (druain) yn edrych am Dduw o hirbell, ac hefyd yn gweiddi am dano oddiallan, heb weled fod ffynnon, a gwreiddyn ynddynt, yn ceisio tarddu a thyfu drwyddynt. Canys mae fe gyda phob dyn, er cynddrwg yw, yn goleuo pob dyn ar sydd yn dyfod i'r byd; ond er i fod ef drwy bawb, nid yw fe yn cael aros ond yn ymbell un. Y sawl sydd gantho glust i wrando, gwrandawed.

Er. O Golomen, onid wyti yn blino bellach a siarad am y pethau hyn? Ni fynnwn i mo'th flino di chwaith.


Ofn yr
Eryr.
Er. Ond pa fodd y caiff dyn adnabod dydd ei iechydwriaeth?

Col. Tra fo'r adar yn canu—tra fo'r felin yn troi —tra fo'r gwynt yn chwythu—tra fo'r haiarn yn dwymyn—tra fo'r awr hon yn parhau—tra fo'r meddwl yn ymgeisio—tra fo'r gydwybod yn rhybuddio. Cyn diffyg yr anadl—cyn cau porth y ddinas—cyn hedeg or enaid—cyn torri o'r edef—cyn cwympo'r pren—cyn caledu'r ewyllys—cyn serio'r gydwybod—cyn diffodd y ganwyll—cyn passio'r farn—cyn i heddyw ddarfod cyn i'r munud ymma fyned heibio. Dychwelwch, O! blant dynion. Pa hyd yr oedwch gymmeryd bywyd.

Er. Mae llawer yn son am gael i dal ai cymmeryd ar awr dda. Onid oes awr dda i bob un oddiwrth y Planedau?

Col. Mae'r Planedau yn rheoli y meddwl anifeilaidd cnawdol, nes iddo fynd allan o'r corph oddi tan yr haul. Ond mae'r dyn difrif ysbrydol uwchlaw'r holl blanedau yn ei feddwl yn barod, er bod ei gorph ef etto fel anifail. Ir dyn cyndyn nid oes un awr dda, nag i'r dyn nefol un awr ddrwg.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Charles Edwards
ar Wicipedia

CHARLES EDWARDS.

Yr wyf yn pigo cryn lawer o ddarnau o "Hanes y Ffydd," prif waith Charles Edwards, a brintiwyd yn 1671. Ychydig o hanes yr awdwr sydd ar gael. Bernir, ar sail a ddywed Gwallter Mechain, iddo gael ei eni yn Rhydycroesau, ym mhlwyf Llansilin, Sir Ddinbych, a dengys ei Gymraeg mai ar odreu Gwynedd y'i magwyd. Mae'n siwr ei fod ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1644, - gan iddo gael ysgoloriaeth yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, ond nis daliodd hi yn hir oherwydd i ystorm y rhyfel fawr rhwng y Brenin Siarls I. a'r Senedd dori ar y Brifysgol. Yn 1648, daeth yn ol i Rhydychen, yn ysgolor yn awr o Goleg yr Iesu, ond trwy gweryl a'i gymrawdwyr, ymadawodd am Gymru, ac yn 1653 fe'i gwelir ym mywoliaeth Llanrhaiadr.

Ystormus fu ei fywyd ar ei hyd. Pan ddaeth y brenin yn ol yn 1660, collodd ei fywoliaeth. Ba yng ngharchar am dymor, ac mewn iselder ysbryd rhoddodd i fyny ei bregethu. Ar ol bywyd priodasol hapus o un mlynedd ar bymtheg, ymadawodd a'i wraig a'i deulu drwy gydsyniad cariadus. Trodd yn ol am Rydychen, ond yr oedd achos Cymru o hyd yn agos at ei galon. Yma, mewn hiraeth dwfn ac mewn tlodi cyfyng ag afiechyd hir, gwnaeth ei oreu tuag at ei fam-wlad trwy ysgrifennu llyfrau Cymraeg, a gweddus oedd i Gymru gael hanes y "Ffydd Ddiffuant" pan oedd, erbyn hyn, yn dechreu dyfod yn gydnabyddus a gwirion- eddau'r efengyl. Gwnaeth lawer o waith arall, ond dyma ei brif waith, yr hwn gafodd ddylanwad mawr ar feddwl Cymru, ag a adargraffwyd lawer gwaith. Treuliodd lawer o amser llafurus yn ei ysgrifennu, ag mae ei Gymraeg mor ystwyth a thlws a Chym- raeg neb byd. [Am hanes ei fywyd, a'i bryder, a'i iselder ysbryd, gweler ysgrif ddyddorol gan Ysgrifennydd Prifathrofa Cymru yn y Traethodydd am 1886].

AT Y DARLLEYDD.

Annerch
Charles
Edwards,
Gras, trugaredd, a thangneddyf a liosogo ti trwy Grist Iesu. Wrth ystyried mor gynnorthwyawl i'm gwladwyr a fyddai hyspysrwydd o'r pethau a ganlynant, ac nad adwaenwn i un llyfr i'w gyfieithu ydoedd yn wahanredol yn amgyffred y cwbl o honynt, ymosodais i'w pigo allan o amryw lyfrau; a chymerais gwrs y wenynen i sugno llawer llysieuyn i wneuthur hyn o ddilyn. Cyd-ddwg ditheu a'r fath grwybyr ac sydd ynddo.

Cawn weled yma siamplau pobl Dduw, a'r modd y carasant ei ewyllis ef, ac y cadwasant ei orchymyn- nion ef; fel y bo i ni ganlyn y brisc a dorrasont hwy drwy lychfeydd profedigaethau'r byd dryc-hinog hwn; a cherdded y llwybr cul sydd yn arwain i orphywystra tragywyddol. . . . Ni a ddeuwn i borfeydd gleision, os awn rhagom ar hyd ol praidd y gwir fugail. Na fyddwn fuscrell, eithr dilynwyr i'r rhai drwy ffydd ac ammynedd sy 'n etifeddu yr addewidion, yn enwedig byddwn ddilynwyr i'n henafiaid megis y buont hwythau i Grist. Dodwn hawl i fraint a bonedd ein hen deidiau, sef purdeb ffydd efangylaidd, a grym duwioldeb. Er mwyn hynny, fy ngwladwyr anwyl, y rhoddais hyn o ddiwydrwydd ar yscrifennu attoch am yr iechydwriaeth gyffredinol, gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a roddwyd unwaith i'r sainct, ie ym mhlith y Britanniaid. Yr oedd Paul yn hoffi Timotheus yn hytrach wrth alw i'w gof y ffydd ddi-ffuant ydoedd ynddo ef, yr hon a drigodd yn gyntaf yn ei nain Lois, ac yn ei fam Eunice. Eled y Cymro yn hoff gan Dduw yn yr unrhyw fodd. Ac fel y dylem ddilyn rhinweddau yr ychydig o rai da ym mysc ein henafiaid, felly hefyd gochelyd pechodau y llaweroedd o honynt ydoedd ddrwg, a ddug arnynt ddialedd dwys, ac a wnaethont na bu Duw foddlon i'r rhan fwyaf o honynt, canys cwympwyd hwy yn nhir eu ganedigaeth. A'r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwennychem ddrygioni, megis ac y chwennychasant hwy; ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd miloedd o honynt; ac na themtiwn Grist, megis ac y temtiodd rhai o honynt hwy, ac a'i destrywiwyd. A'r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy, ac a scrifenwyd yn rhybydd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd. Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y prophwydi arnynt, gan ddywedyd,—"Dychwelwch oddiwrth eich ffyrdd drwg," ond ni chlywent, ac ni wrandawent, nes i fwgythion Duw eu goddiwes hwynt.

Darllen yn astud, a chydnabyddi nad yw ffydd beth newydd, eithr hen; na pheth dychymygol, eithr sylweddol; a sicrwydd y pethau nid ydis yn eu gweled. Y rhai sydd ystyriol ar eiriau a gweithredoedd Duw, ac yn byw yn rasol, a dderbyniant gyflawn hyder yn ei ffyrdd ef. Arfera sanctaidd ddiwydrwydd er mwyn llawn siccrwydd gobaith hyd y diwedd. I'w blant ufudd, ac nid i'w elynion anghymmodol, y mae'r Duw doeth yn adrodd ei gyfrinach. . .

Y mae i mi achos arbennig i glodfori enw yr Hollalluog am ddwyn fy ngorchwyl i hyn o hyd, ac i'w alw Eben Ezer, a dywedyd,—"Hyd ymma y cynnorthwyodd yr Arglwydd fi." Adolwg na ddigio neb wrth hyn o lyfran, eithr ei dderbyn a'r un ewyllis ac yr wyf inneu yn ei ddanfon. Na friwa'r llaw a estynno it arwydd o garedigrwydd, er gwaeled fyddo. Nid yw ddiarwybod i mi fod eraill yn y wlad a fedrasent wneuthur y rhan fwyaf o hyn yn well. Ond ni rediff y sûg o'r aeron,—er pereiddied a chyflawned fyddont,—nes eu dryllio a'u gwascu. Os digwydd i'r cyfryw, a nhwy yn gwybod ofn yr Arglwydd, ymosod i berswadio dynion, y mae iddynt er hyn ddigon o waith, a lle i'w wneuthur. Ac ni hwyrach i ryw un o gariad iti, neu o genfigen i mi, yscrifennu ychwaneg ynghylch yr unrhyw bethau; pa fodd bynnag gwna'r defnydd goreu o bob cynnorthwy. Yr oedd yn o—anhydyn genifi fyned trwy'r daith hon, i geisio it hyn o hanes am beth gwerthfawr a fu ar goll, ac i hel ynghŷd hyn o dystion yn achos Duw, nes i'w wialen ef fy ngyrru, ac i'w ragluniaeth ef osod angenrhaid arnafi; ac i gariad Crist fy nghymell. O cofiwn yr hwn a fu farw tros bawb, fel na byddei i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw trostynt, ac y gyfodwyd. Bu fodlon gan baganiaid wasanaethu eu pobl drwy ddirfawr boen, a chaledi; ac os bu i'r cyfryw chwysu a gwaedu dros eu gwlad, nid ydyw ond peth bychan i Gristianogion yscrifenu er ei mwyn. Y Cymro caredig, o chei lessad wrth ddarllain, treulia ymbell ddeigryn mewn gweddi dros un a dreuliodd lawer mynudyn mewn rhyw fath a'r orchwylion er dy fwyn di, ac felly tal y pwyth ith

gydwladwr anwiw

CHARLES EDWARDS.

Llundain, mîs
Ebr, 1677.

Helynt
Cymru.
Wrth a draethwyd y gwelwn gael o'r Britaniaid yr unrhyw rybuddion ac y gafas yr Israeliaid gynt o flaen eu caethiwed, ac ynghylch yr un modd y gwrthodasant hwynt, ac ynghylch yr un fath gystudd a ganlynodd: ac nid heb ei haeddu. Yr achos amlwg o'r destryw ydoedd hollawl bechadurieth pob gradd ar ddynion,—sef barnwyr, eglwyswyr, a chyffredin, a'r ymlygriad a fagodd oddiwrth ymbleidiau yr Arriaid a'r Morganiaid. Pan gymerodd ymddadlau opiniwnus le pregethau iachus, parasant lid yn lle duwioldeb. Aml ryfeloedd hefyd a ostegasant gyfreithiau dinasol ac ysprydol; ac a wnaethant bechaduriaid yn hyfach, a ffrwythlondeb y tir a'u gwnaeth yn wresoccach. Y Britwn fel Jeshurun a aeth yn fras, ac a wingodd, pwyntiodd, yna efe wrthododd Dduw yr hwn a'i gwnaeth. Am hyny cafodd ei gystwyo, a chollodd y wlad a halogodd. Ac ni wnaeth Arglwydd y winllan mo'r cam fwrw allan denantiaid anniolchgar,—yr hwn yn ei ddoethineb a'i gyfiawnder a ganhiadodd i'r un fath beth ddigwydd mewn llawer o wledydd eraill ynghylch yr un amser, gan laccio ffrwyn cenhedloedd y gogledd, y rhai oeddent bob amser, pan lanwent eu gwledydd oerion eu hunain, yn deirion am ymhyrddu i leoedd cynhesach. Heidient am bennau rhai ereill pan lenwent eu cychod eu hunain. Y cyfryw oedd y Phichtiaid y ddaethant i'r Albain, y Gothiaid, a'r Fandaliaid a ymgyrchasant i'r Ital a'r Affric a'r Hispaen ychydig cyn yr amser hwn; a'r Lwmbardiaid a breswyliasant yn yr Ital. A'r Ffranconiaid yn nghylch hyn a arhosasant yn Gallia, ac a'i galwasant hi Ffrainc. Ac ychydig wedi hyn daeth y Twrciaid a'r Tartariaid i gymeryd meddiant o'r gwledydd gorau yn yr hollfyd, sef Asia Leiaf, Arabia, yr Aipht, a Syria. Ymhob oes torrodd Duw genhedloedd pechadurus i lawr fel glaswellt; a hynny i'w ymddiffyn ei hun a'i anrhydedd yn erbyn pechaduriaid afreolus. Pan addfedeu eu hanwireddau, troseddwyr a gyd—ddestrywid, weithiau drwy'r elfenau, sef drwy ddwfr yn amser Noah, a thrwy dân yn amser Lot; weithiau drwy ddynion, megis y Cananeaid yn amser Joshua ; a'r Israeliaid drwy'r Assyriaid a'r Caldeaid.


Rheswm
am
wendid
Cymru.
Yr achlysur o wanhychiad ein gwlad ydoedd rheoliad y Rhufeiniaid arni, a'u hymadawiad hwy o honi i ddiffyn yr Ital. Megis mewn dychryn pan gilio'r gwaed o'r wyneb a'r aelodau at y galon i'w diddanu hi, digwydd glesni a llescedd ynddynt hwy. Ni adawodd ei hen feistriaid fawr o'u hol, ond amryw eiriau Ladin yn gymyscedig a'n iaith ni. A phlanniad y Britaniaid yn Llydaw a eiddilodd lawer ar eu cenedl gartref, ac a'u cymwysodd i dderbyn yr un mesur gan y Saeson, ac a roddasent hwythau i'r Letafiaid. Anghydfod y penaethiaid hefyd a agorodd adwyau i ollwn aflwydd i'r ynys. Pan aeth Fortigern, duwc Cerniw, yn frenin drwy frad gwaedlyd, rhoddodd fwy ymddiried yn y Saeson y gyflogasai nag yn ei ddeiliaid ganedigol. Gorfu i'r brenin Arthur ryfela a'i wladwr Melfas, tywysog gwlad yr haf, i ddial trais ei frenhines Gwenhwyfar. A chwedi iddo ynnill deuddeg brwydr oddiar y Saeson, trwy anfodlonrwydd ei nai, Modred, cafodd ei farwolaeth ; a chydag ef syrthiodd llwyddiant ei genedl; a'r deyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddwyd. Hefyd tra yr oedd Prydain yn wan, yr oedd hi yn brydferth, a'i glendid y barodd i gymaint o ddieithriaid ei threisio hi. Ni chafodd lonydd gan yspeilwyr wrth fod ei thir mor gyfoethog. Ffrwythlondeb y pren afalau y wnaiff ergydio cymmaint o bastynau atto, yn enwedig os bydd heb gae yn ei gylch. Aeth ei hymddiffynfeydd fel ffigyswydd a'u blaenffrwyth arnynt, pan yscydwyd hwynt, syrthiasant yn safnau y bwyttawyr. Pe buasai yn addoli Duw yn ddyladwy, ni chawsai neb chwennychu mo'i thir, er anamled ei gwrrywiaid; ac os buasai rhuthr iddi, creuasai'r Arglwydd amddiffyn ar ei holl ogoniant. Ond wedi iddi ddigio Duw, aeth ei golud hi yn obrwy i'r sawl a'i lladdent hi. Plannasei'r Arglwydd winllan, sef ei eglwys, ynddi, a disgwyliodd iddi ddwyn grawnwin o weithredoedd grasol, a hitheu a ddug rawn gwylltion o foesau drwg, sef trais yn lle barn, ac yn lle cyfiawnder gwaedd. Am hynny tynnodd ymaith ei chae amddiffyn fel y porrid hi, a thorrodd ei magwyr fel y byddai yn sathrfa; a gosododd hi yn ddifrod, ac i'r cwmylau y gorchymynnodd na lawient law arni, gan atal oddiwrthi neu brinhau ei ordinhadau a moddion gras. Cyn pen nemawr ar ol yscrifen Gildas bu agos i bla a elwid y Fall Felen a dibynnu gweddillion y Britaniaid, y rhai wedi hynny a gollasant Gaerloiw, a'r Bath, a'r cwbl o orllewin Lloegr, oddieithr Cerniw. A deleodd y Saeson y grefydd Gristnogol, a throesant yr eglwysydd yn demlau eulynnod paganaidd drwy eu harglwyddiaethau oll.


Moddion
gwella
Cymru.
Gwelwn yma mor aflesol fu i'n henafiaid amcanu bwrw cystudd oddiwrthynt cyn troi at Dduw drwy edifeirwch. Prifiodd y gwrthryfel hwn, fel un Zedeciah, yn achos o gaethiwed Babilonaidd. Darfu i'r daroganau eu siomi nhw hefyd. Cnawd i bob cenedl dan orthrymder goelio pob bruttiwra'r addaworyddhad iddynt. Cresawai'r Israeliaid y prophwydi gwenhiethus, ond deuai'r peth yn y gwrthwyneb i'r boblanwireddus. Pandorrodd Hananiah y gefyn pren, rhoddes Duw yn ei le iau o haiarn ar eu gwarrau. Dull yr amseroedd Pabaidd hynny, a chystudd gydag hiraeth am warediad, a wnaeth ein henafiaid ni yn dueddol i roi lle i feddyliau ofergoelus. Y newynog a'r sychedig a freuddwydia am lunieth, ond pan deffro gwag a deffygiol fydd ei enaid. Pan gafodd y brenin Arthur y briw marwolaeth i ynys Wydren i'w ddiweddu, er mwyn celu ei farwolaeth, rhag llawenychu ei elynion, na digaloni ei ddeiliaid. Am hynny bu ein gwladwyr ni, gantoedd o flynyddoedd gwedi, yn tybied na buasai ef farw, ond yn brithgoelio y caent ef eilwaith i lywodraethu arnynt fel y taer ddymunent. A phan aeu tywysogion Cymry a'r maes oddiar y Saeson mewn dwy frwydr neu dair, ymhyfaent yn aruthr, gan ddisgwyl cyflawni bruttiau'r prydyddion am gael o'r Britaniaid ail gorescyn yr ynys. A hynny a wnaeth i'r Saeson, o ran gwawd, wisco coron am ben Llewelyn y dorrasent oddi ar ei gorph ef, wrth ei osod ar y tŵr yn Llundain.


A dyma fel y cyfieitha Charles Edwards lythyr yr Esgob Morgan at y Frenhines a Thy'r Cyffredin :

"I'r ardderchoccaf Frenhines Elizabeth, gras a bendith yn yr Arglwydd.

Pa gymaint y mae eich mawrhydi chwi, odidoccaf dywysoges, yn nylêd y goruchaf Dduw, nid yn unic ei ryfeddol amddiffin ef yn tarfu y gelynion creulon yn ddiweddar, eithr hefyd y duwioldeb rhagorol, clodfawr drwy'r hollfyd, a pha un yr addurnodd ef eich mawrhydi, sy'n eglur dystiolaethu. A hyn a ddengis pa radlawn ofal ydoedd gan eich mawrhydi chwi am eich Britaniaid, nid amgen na'ch ordinhad drwy awdurdod Parliament y deyrnas i droi yn Gymraeg yr ddwy yscrifen o sanctaidd air Duw, sef yr hen a'r newydd. Yr hyn hefyd sy'n datcan ein syrthni a'n esgeulysder ni, gan nad allai y fath athrwm angenrhaid ein cynhyrfu ni, na chyfraith mor llesol ein cymell ni, fel nad arhosai peth mor bwysfawr, mwy na pha un nis gallai dim fyth fod, cyhyd heb ei gymeryd mewn llaw. Canys y Testament Newydd yn unic a drôdd escob Menyw yn Gymraeg er ys ugain mlynedd, gyda chynorthwy William Salisbury, gwr a haeddai yn dda ar law ein eglwys ni. Nid hawdd mynegi faint o leshad y wnaeth ef i'n gwlad ni wrth y gorchwyl hwnw. Canys y pryd hynny prin y medrai ymbell un bregethu yn Gymraeg, o herwydd bod y geiriau rheidiol i egluro sanctaidd ddirgeledigaethau yr Scrythyr lân yn Gymraeg wedi myned ar aball, megis wedi eu golchi ymaith a dwfr Lethe; neu wedi eu claddu dan lwch anarfer; mal nas gallau na'r dyscawdwyr agor yn ddigon amlwg yr hyn a ewyllysient, na'r gwrandawyr eu deall; na dirnad pa rai oedd geiriau'r scrythyrau, a pha rai oedd esponiadau o honynt. Yn ddiau pan ymgasclent yn chwannog at bregethau, a bod yn ddyfal ynddynt, etto yn anhyspys ac yn amheus y byddai y rhan fwyaf yn ymadel, megis wedi cael tryssor mawr nis gallent gloddio atto, neu fod mewn gwledd fawr heb gael bwytta o honaw. Ond yn awr, drwy ddirfawr ddaioni y Goruchaf Dduw, a llafur y cyfieithydd hwn, y mae genym fwy o bregethwyr a pharottach, a gwrandawyr hyddyscach. Fel y mae'r ddau beth hyn yn dda gan y duwiol, etto nid yw'r un o'r ddau hyd yn hyn yn gyfattebol i'w dymuniad hwy. Canys gan fod ar ein gwlad ni eisiau yr yscrifen gyntaf honno o air Duw, y sydd ragfynegiad, a darluniad, a thyst ddiogel i'r llall, Och! faint o esamplau, pa nifer o addewidion a chyssuron sydd dan gudd? Pa faint o rybuddion, annogau, a thystiolaethau y mae ein pobl ni o'u hanfodd hebddynt, iechydwriaeth dragwyddol pa rai sydd mewn mawr berygl hyd yn hynn, pan yw pob un i fyw drwy ffydd, a bod ffydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw, yr hwn ni seiniodd ond ychydig i'n cenedl ni hyd yn hyn, gan ei fod mewn iaith ddieithr. Am hynny, wrth weled mor llesol ac angenrheidiol ydoedd cyfieithu'r Scrythyrau eraill i'r Gymraeg,-er i atgof o'm gwendid fy hun, a maintioli'r gorchwyl, a drygianiaeth rhai anwydau fy nigalonni yn hir-gan gydsynio â dymuniadau'r duwiol, goddefais fy mherswadio i osod ar y gwaith poenus hwn, a thra anghymeradwy i lawer. A chwedi ei ddechreu, deffygiaswn o ran anhawstra y peth, a maintioli'r gost, a dugaswn bum llyfr Moesen yn unig at y printwasc, oni bai i'r parchediccaf archescob Caer Gaint, achleswr dysceidiaeth, amddiffynwr y gwirionedd, a thirion wrth ein cenedl ni, fy nghymorth a'i haelioni, a'i awdurdod, ac a'i gynghor i fyned ymmlaen. Ar ol ei esampl ef, aeth gwŷr da eraill yn gynnorthwyol i mi; oni chyfieithais i yr Testament Hen i gyd, a diwygiais argraphiad y Newydd.

Os tybia neb mai gwell er mwyn cyttundeb fyddai cymell ein cenedl ni i ddyscu Saesonaeg, na throi'r Scrythyrau i'n hiaith ni, dymunwn arnynt ymogel na yrront grefydd ymmaith wrth hyfforddi cordiad. Er bod yn ddymunol i drigolion yr un ynys siarad yn yr un iaith; etto mae yn gystal i'w ystyried, y gofyn hynny gymmaint o amser a thrafferth i'w ddwyn i ben, oni byddai yn rhy greulon ewyllysio neu oddef pobl Dduw i golli drwy newyn ei air ef yn y cyfrwng. Heblaw hynny diammau y dichon cyssondeb crefydd wneuthur mwy tuag at danghnefedd na chyssondeb iaith. Ac nid duwiol cyfrif budd yn well na chrefydd, a chordiad addiallan yn well na'r heddwch y mae gair Duw yn ei seilio ymmeddyliau dynion. Yn olaf, mor annoeth yw y rhai y dybiant, pe gwarafunid gair Duw yn ein hiaith mammawl, yr annogai hynny i ddyscu un arall. Canys bydd crefydd yn anadnabyddus onis dyscir yn iaith y cyffredin; a'r peth y bo un heb adnabod ei felysdra a'i werthfawrogrwydd, ni chymmer ddim poen er mwyn ei gael. Am hynny attolugwn ar eich mawrhydi i'r rhai y rhoddasoch un fron y gwirionedd eusus, ganhiadu yr llall, fel y clodforo pob tafod Dduw."


Canlyniad
cyfieithu'r
Yscrythur
Ond er pan ddaeth yr scrythyrau yn Gymraeg i'n plith, y mae'r helynt orau ar ein cenedl ni ac y fu ers llawer o genedlaethau. Rhoddes Duw iddi heddwch oddiamgylch. Ni wyr y to presennol oddiwrth y cyfyngdra gofidus ydoedd gynefin i'n henafiaid ni gynt. Y mae'r Saeson oeddent fleiddiaid rheibus, wedi myned i ni yn fugeiliaid ymgeleddgar, ac agos cyn hynawsed wrthym ni ac ydym ni wrth ein gilidd. Y nhwy fu'n preintio ein llyfrau ni, ac yn dyscu celfyddydau i ni; ac yn marchnatta â'n gwlad, nid wrth y dur a'r haiarn, ond yr aur a'r arian. Yr hon sydd yn awr lawnach o ddynion ac o olud nag y fu ers talm o'r blaen; a'n celloedd yn llawn o bob rhyw luniaeth, a'n defaid yn dwyn myrddiwn, a'n hychen yn gryfion i lafurio, heb na rhuthro i mewn, na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd. Mae gwybodaeth wedi amlhau, a'r cythreuliaid yn y coedydd wedi distewi. Mae ein moddion hefyd wedi rhywiogeiddio llawer. Nid oes mo'r fath yspeilio, a threisio, a mwrdro ag y glywsom ni gan ein henafiaid ei fod yn eu mysc er's talm. Mae Powys yn weddus wrth fel y bu. Mae Lloegr yn agored i ni hefyd, a chyn hyfed ini breswylio ynddi mewn cyfiawnder ac oedd i'n hen rieni ni cyn ei cholli. Ni bu ein cenedl ni yn yr Iwerddon erioed amlach. A diammeu pe cryfhaeu ufudd-dod i air Duw yn ein mysc ni, ychwanegid at ein trugareddau ni. Canys gwyn fyd y bobl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddynt. Er gorwedd o honynt ymmysc y crochanau, byddant fel escyll colommen wedi eu gwisco ag arian, a'i hadenydd ag aur melyn. Ynteu nag anghyttuna ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, a'r athrawiaeth sydd ar ol duwioldeb. Os ewyllysi yn dda i'r wlad, a gweled dyddiau da, gochel y drwg, a gwna y da. Am hynny dywedaf wrth y Cymro a ryddhawyd, yn ol y siarse y roddes Christ ar y clwyfus a iachawyd, "Wele ti a wnaethpwyd yn iach, na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth."


Tâl
Duw.
"Ni ddileir y caredigrwydd a wneler i deml yr Arglwydd," ac ni phalla ei wobr. Pan gyfrannodd Dafydd ei feddwl i'r prophwyd Nathan, ei fod ef ar fedr adeiladu ty i Dduw, y nosson honno mynegodd Duw y gwnai ef dŷ iddo yntef; ac a'i cwplaodd yn helaeth. Pan swccrodd Obed Edom arch Dduw, cafodd daledigaeth syber a hynod, oni fynegwyd i'r brenin, gan ddywedyd, -" Yr Arglwydd a fendithiodd Dŷ Obed Edom, a'r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Dduw." Diandlawd ydoedd y fendith a lonnodd gymaint oll ac oedd eiddo ef. Y tarth a weler yn escyn i fynu, a fydd sicer o ddescyn i lawr eilwaith yn law ffrwythlon. Ac felly y gwnaiff anadliad y galon rasol, y fyddo â'r ewyllis ac a'r gallu yn ymgodi at bethau perthynol i deyrnas nef, gan ddychwelyd â chafodydd o fendithion aml. Ni bydd y nef yn nyled y ddaiar, yr hyn a wyddai Salomon yn hy-dda wrth ei brawf a'i lwyddiant ryfeddol wedi iddo adeiladu'r deml. Am hynny yn ei ddoethineb a'i serch, cynghorodd ei fab, gan ddywedyd, -" Anrhydedda yr Arglwydd a'th gyfoeth, ac a'r peth pennaf o'th holl ffrwyth; felly y llenwir dy yscuboriau â digonoldeb, a'th winwyryfoedd a dorrant gan win newydd." Ac nid yn y byd yma yn unig y ceir tal am yr hyn a dreulier ar wasanaeth Duw, eithr yn y byd arall hefyd. Pan gipio marwolaeth y rhai didda at benyd a phrinder dragwyddol caiff y goruchwylwyr ffyddlon a arferant eu talentau yngwasanaeth eu Harglwydd dryssor yn y nefoedd yr hwn ni dderfydd, a chynhalieth ogoneddus byth.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Ellis Wynne
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Gweledigaethau y Bardd Cwsc
ar Wicipedia

ELIS WYΝΝ.

GANWYD Elis Wynn, awdwr y "Bardd Cwsg" yn 1671,yn yr un lle ag y maged ef ag y bu farw yn 1734,—yn y Lasynys, hen balasdy rhyw filltir a hanner o Harlech, Sir Feirionnydd. Rhaid i bawb a ddarllenno y "Bardd Cwsg," gredu fod Elis Wynn wedi cael addysg dda, a'i fod yn wr athrylithgar iawn: ond ymhle y derbyniodd ei addysg nid oes neb a wyr. Fe'i hurddwyd yn ddiacon ac yn offeiriad ar yr un adeg, a bu byw ar hyd ei oes ynghanol golygfeydd rhamantus bro ei enedigaeth, ac yn swn hen draddodiadau yr hen Gastell, fel periglor Llanfair, ger Harlech. Fe briododd yn 1702 Lowri Llwyd o'r Hafod Lwyfog, Beddgelert, a bu o'r briodas bump o blant. Flwyddyn ar ol ei briodas, ymddangosodd ei brif waith, "Gweledigaethau y Bardd Cwsg,"—gwaith a osododd yr awdwr ar unwaith ymhlith goreugwyr llen Cymru. Fe allai iddo gael llawer o help i ysgrifennu y llyfr yma drwy ddarllen cyfieithiad o waith yr Yspaenwr Cwevedo (fel Morgan Llwyd o waith Jacob Behmen), ond gresyn o beth, a cholled anadferadwy i lenyddiaeth Gymraeg oedd i edliwiad rhai cecrwyr mai cyfieithiad a dim ychwaneg oedd y "Gweledigaethau," wneyd i Elis Wynn ymwylltio a llosgi ei lawysgrif o'r rhannau diweddaf o'r gwaith, fel nad oes yn aros ond tair gweledigaeth, sef Cwrs y Byd, Angeu, ac Uffern.

Bu farw yng nghanol Gorffennaf, 1734,—a bron nas gallwn beidio a chysylltu geiriau agoriadol ei lyfr ag adeg ei farw. Fe'i claddwyd o dan fwrdd y cymundeb yn Eglwys Llanfair, a bu yn hir heb yr un mymryn o ddim i ddangos man ei fedd, hyd nes i'r Parch. Ioan Wynn o Landrillo roi ffenestr liwiedig yn yr Eglwys yn gôf am ei hen—daid.

Y mae Cymraeg Elis Wynn yn gryf ac yn nerthol,—fel pe bai yn dwyn cysgod y creigiau a'r mynyddoedd geirwon yng nghesail y rhai y treuliodd ei oes. Cwynir weithiau fod ei iaith yn isel ei chwaeth, ond cofier ar yr un pryd mai isel ryfeddol oedd moes a chwaeth y genedl ar ddechreu y ddeunawfed ganrif—amser cyn i lais yr un John Wesley na Whitfield na Howel Harris gael ei godi yn erbyn pechod ac anfoesoldeb, ac amser du cyn tori gwawr y diwygiad crefyddol.

Cafodd y Bardd Cwsg ei argraffu lawer gwaith,—gan Spurrell, Caerfyrddin, dan olygiaeth y Parch. D. Silvan Evans (pris 1/6), ac yn ddiweddar iawn gan Jarvis & Foster, Bangor, dan olygiaeth yr Athro J. Morris Jones (pris 3/6). A gresyn o beth os na fydd i fechgyn a merched ieuaingc Cymru ei ddarllen, a'r llyfr o fewn eu gafael.

Cychwyn
taith y Bardd

Cwsg.
Ar ryw brydnawngwaith teg o haf hir felyn tesog, cymmerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi ysbïenddrych, i helpu'm golwg egwan, i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr. Trwy yr awyr deneu eglur, a'r tes ysblenydd tawel, canfyddwn ym mhell bell, tros Fôr y Werddon, lawer golygiad hyfryd. O'r diwedd, wedi porthi fy llygaid ar bob rhyw hyfrydwch o'm hamgylch, onid oedd yr haul ar gyrhaedd ei gaerau yn y Gorllewin, gorweddais ar y gwelltglas, tan syn fyfyrio deced a hawddgared (wrth fy ngwlad fy hun) oedd y gwledydd pell y gwelswn gip o olwg ar eu gwastadedd tirion; a gwyched oedd gael arnynt lawn olwg; a dedwydded y rhai a welsent gwrs y byd, wrthyf fi a'm bath. Felly, o hir drafaelio â'm llygad, ac wedi â'm meddwl, daeth blinder, ac yng nghysgod blinder, daeth fy Meistr Cwsg yn lledradaidd i'm rhwymo; ac a'i agoriadau plwm fe gloes ffenestri fy llygaid, a'm holl synwyrau ereill yn dyn ddiogel. Eto, gwaith ofer oedd iddo geisio cloi yr Enaid, a fedr fyw a thrafaelio heb y corff: canys diangodd fy ysbryd ar esgyll ffansi allan o'r corpws cloiedig: a chyntaf peth a welwn i, yn fy ymyl [oedd] dwmpath chwareu, a'r fath Gad Gamlan mewn peisiau gleision a chapiau cochion, yn dawnsio yn hoew brysur. Sefais ennydar fy nghyfyng gyngor awn i atynt ai peidio; o blegid ofnais yn fy ffwdan, mai haid oeddynt o Sipsiwn newynllyd ; ac na wnaent as lai na'm lladd i i'w swper, a'm llyncu yn ddihalen. Ond o hir graffu, mi a'u gwelwn hwy yn well a thecach eu gwedd na'r giwed felynddu gelwyddog hòno. Felly anturiais nesäu atynt, yn araf deg, fel iâr yn sengu ar farwor, i gael gwybod beth oeddynt; ac o'r diwedd gofynais eu cenad fel hyn o hyd fy nhin: 'Atolwg lân gynnulleidfa, yr wyf yn deall mai rhai o bell ydych, a gymmerech chwi Fardd i'ch plith, sy'n chwennych trafaelio? Ar y gair, dystawodd y trwst, a phawb a'i lygad arnaf, a than wichian, 'Bardd,' ebr un; 'Trafaelio, eb un arall ; 'I'n plith ni,' ebr y trydydd. Erbyn hyn mi adwaenwn rai oedd yn edrych arnaf ffyrnicaf o'r cwbl. Yna dechreuasant sibrwd o glust i glust ryw ddirgel swynion, ac edrych arnaf; a chyda hyny torodd yr hwndrwd, a phawb a'i afael ynof, codasant fi ar eu hysgwyddau, fel codi Marchog Sir; ac yna ymaith a ni, fel y gwynt, tros dai a thiroedd, dinasoedd a theyrnasoedd, a moroedd a mynyddoedd, heb allu dal sylw ar ddim, gan gyflymed yr oeddynt yn hedeg. A pheth sy waeth, dechreuais ammheu fy nghymdeithion wrth eu gwaith yn gwrthuno ac yn cuchio arnaf eisieu canu dychan i'm brenin fy hun.


Dull y Lecsiwn.Y gwŷr oedd yn sefyll am y swydd oedd y stiwardiaid, y llogwyr, y cyfreithwyr a'r marsiandwyr; a'r cyfoethocaf o'r

cwbl a'i cai: (o blegid pa mwyaf sy genyt, mwyaf gei ac a geisi—rhyw ddolur diwala sy'n perthyn i'r ystrŷd). Gwrthodwyd y stiwardiaid y cynnyg cyntaf, rhag iddynt dlodi yr holl ystrŷd; ac fel y codasent eu plasau ar furddynod eu meistriaid, felly, rhag iddynt, o'r diwedd, droi'r dywysoges ei hun allan o feddiant. Yna rhwng y tri ereill yr aeth y ddadl. Mwy o sidanau oedd gan y marsiandwyr; mwy o weithredoedd ar diroedd gan y cyfreithwyr ; a mwy o godau llawnion, a biliau a bondiau, gan y llogwyr. Hai, ni chytunir heno,' eb yr Angel, 'tyred ymaith; cyfoethocach yw'r cyfreithwyr na'r marsiandwyr; a chyfoethocach yw'r llogwyr na'r cyfreithwyr, a'r stiwardiaid na'r llogwyr, a Belial nar cwbl; canys ef a'u piau hwy oll, a'u pethau hefyd.'

'I ba beth y mae'r dywysoges yn cadw'r lladron hyn o'i chylch ?' ebr fi. 'Beth gymhwysach,' eb yntau, 'a hi yn ben—lladrones ei hun? Synais ei glywed e'n galw'r dywysoges felly, a'r boneddigion mwyaf yno yn garn lladron. Atolwg, fy Arglwydd,' ebr fi, 'pa fodd y gelwch y pendefigion urddasol yna yn fwy lladron nag ysbeilwyr ffyrdd?' 'Nid wyt ti ond ehud,' ebr ef: 'onid yw'r cnaf el â'i gleddyf yn ei law, a'i reibwyr o'i ol, hyd y byd tan ladd a llosgi, a lledrata teyrnasoedd oddi ar eu hiawn berchenogion, ac a ddysgwyl wedi ei addoli yn gyncwerwr, yn waeth na lleidryn a gymmer bwrs ar y ffordd fawr ? Beth yw teiliwr a ddwg ddarn o frethyn, wrth wr mawr a ddwg allan o'r mynydd ddarn o blwyf? Oni haeddai hwn ei alw yn garn lleidr wrth y llall? Ni ddug hwnw ond cinynon oddi arno ef, eithr efe a ddug oddi ar y tlawd fywioliaeth ei anifail, ac wrth hyny ei fywioliaeth yntau a'i weiniaid. Beth yw dwyn dyrnaid o flawd yn y felin, wrth ddwyn cant o hobeidiau i bydru, i gael gwedi werthu un ym mhris pedwar ? Beth yw sawdwr lledlwm a ddyco dy ddillad wrth ei gleddyf, wrth y cyfreithiwr a ddwg dy holl ystâd oddi arnat, â chwil gwydd, heb nac iawn na rhwymedi i gael arno ? A pheth yw pigwr poced, a ddygo bum—punt wrth goegiwr dis, a'th ysbeilia o gan—punt mewn traian nos? A pheth yw hwndliwr a'th siomai mewnrhyw hen geffyl methiant, wrth y pothecari a'th dwylla o'th arian a'th hoedl hefyd, am ryw hen physigwriaeth fethedig? Ac eto, beth yw'r holl ladron hyn wrth y penlladrones fawr yna, sy'n dwyn oddi ar y cwbl yr holl bethau hyn, a'u calonau a'u heneidiau yn niwedd y ffair?'


Angladd
a Phriodas.
Wedi i mi ysbïo ennyd ar ffalsder pob Angladd cwro'r adeilad, dyma ganhebrwng yn myned heibio, a myrdd o wylo ac ochain, a llawer o ddynion a cheffylau wedi eu hulio mewn galarwisgoedd duon: ym mhen ennyd, dyma'r druan weddw, wedi ei mygydu rhag edrych mwy ar y byd brwnt yma, yn dyfod tan leisio yn wan, ac ocheneidio yn llesg rhwng llesmeiriau. Yn wir, ni fedrais innau nad wylais beth o dosturi. 'Ië, ïe,' eb yr Angel, 'cedwch eich dagrau at rywbeth rheitiach: nid yw'r lleisiau hyn ond dysg Rhagrith; ac yn ei hysgol fawr hi y lluniwyd y gwisgoedd duon yna. Nid oes un o'r rhai hyn yn wylo o ddifrif: mae'r weddw, cyn myned corff hwn o'i thy, wedi gollwng gwr arall eisys at ei chalon: pe cai hi ymadael â'r gost sy wrth y corff ni waeth ganddi o frwynen petai ei enaid ef ef yng ngwaelod uffern, na'i geraint ef mwy na hithau; o blegid, pan oedd galetaf arno, yn lle ei gynghori yn ofalus, a gweddio yn daer—ddwys am drugaredd iddo, son yr oeddid am ei bethau, ac am ei lythyr cymmyn, neu am ei achau; neu laned, gryfed gwr ydoedd ef, a'r cyffelyb; ac felly yr awran, nid yw'r wylo yma ond rhai o ran defod ac arfer, ereill o gwmni, ereill am eu cyflog.'

Prin yr aethai y rhai hyn heibio, dyma dyrfa arall yn dyfod i'r golwg: rhyw Arglwydd gwych aruthr, a'i arglwyddes wrth ei glun, yn myned yn araf mewn ystâd, a llawer o wŷr cyfrifol yn ei gapio, a myrdd hefyd ar eu traed yn dangos iddo bob ufudd—dod a pharch; ac wrth y ffafrau dëellais mai priodas ydoedd. 'Dyma arglwydd ardderchog,' ebr fi, 'sy'n haeddu cymmaint parch gan y rhai hyn oll.' Ped ystyrit y cwbl, ti a ddywedit rywbeth arall,' eb ef:

'un o Ystrŷd Pleser yw yr arglwydd yma, a merch yw hithau o Ystrŷd Balchder; a'r hen ddyn acw sy'n siarad ag ef, un ydyw o Ystryd yr Elw sy ganddo arian ar holl dir yr arglwydd agos, a heddyw yn dyfod i orphen taledigaeth.'


Hawddgarwch
y Llys
'Tyred trwodd weithian,' eb yr Angel, ac a'm tynodd i mewn, lle gwelwn yn y . porth, yn gyntaf, fedyddfaen mawr ; ac yn ei ymyl ffynnon o ddwr hallt. Beth a wna hon ar lygad y ffordd?' ebr fi. Am fod yn rhaid i bawb ymolchi ynddi cyn cael braint yn llys IMMANUEL; a hi a elwir Ffynnon Edifeirwch.' Uwch ben, gwelwn yn ysgrifenedig, 'Dyma borth yr Arglwydd,' &c. Yr oedd y porth a'r ystrŷd hefyd yn lledu ac yn ysgafnhau fel yr elid ym mlaen. Pan aethom ronyn uwch i'r ystrŷd, clywn lais araf yn dywedyd o'm hol, 'Dyna'r ffordd, rhodia ynddi.' Yr oedd yr ystrŷd ar orifyny, eto yn bur lân ac union; ac er nad oedd y tai ond is yma nag yn y Ddinas Ddienydd, eto yr oeddynt yn dirionach; os oes yma lai o feddiannau, mae yma hefyd lai o ymryson a gofalon; os oes llai o seigiau, mae llai o ddoluriau; os oes llai o drwst, mai hefyd lai o dristwch, a mwy yn sicr o wir lawenydd. Bu ryfedd genyf y dystawrwydd a'r tawelwch hawddgar oedd yma wrth i waered. Yn lle'r tyngu a'r rhegu, a'r gwawdio a phuteinio, a meddwi; yn lle balchder ac oferedd; y syrthni yn y naill gwr, a thrawsni yn y cwr arall; ïe, yn lle yr holl ffrio ffair, a'r ffrost, a'r ffrwst, a'r ffrwgwd, oedd yno yn pendifadu dynion yn ddibaid; ac yn lle yr aneirif ddrygau gwastadol oedd isod, ni welit ti yma ond sobrwydd, mwynder a sirioldeb, heddwch a diolchgarwch, tosturi, diniweidrwydd, a bodlonrwydd, yn eglur yn wyneb pob dyn; oddi eithr ambell un a wylai yn ddystaw o fryntni fod cyd yn Ninas y Gelyn. Nid oedd yma na chas, na llid, ond i bechod, ac yn sicr o orchfygu hwnw; dim ofn, ond rhag digio eu Brenin, a hwnw yn barotach i gymmodi nag i ddigio wrth ei ddeiliaid; na dim swn, ond Salmau mawl i'w Ceidwad.


Angeu a'i Farn.Ond ni ches i fawr aros, nad dyma fi yng ngolwg allor fawr arswydus, lle gwelem y brenin dychrynadwy yn traflyncu cig a gwaed dynion, a mil o fân angeuod, o bob twll, yn ei borthi fyth a chig ir twymn. 'Dyma,' eb yr Angeu a'm dygasai i yno, 'walch a ges i yng nghanol Tir Anghof, a ddaeth mor ysgafn—droed, na phrofodd eich mawrhydi damaid o hono erioed.' 'Pa fodd y gall hyny fod?' ebr y brenin, ac a ledodd ei hopran cyfled a daiargryn i'm llyncu. Ar hyn, mi a droais tan grynu at Gwsg. Myfi,' ebr Cwsg, 'a'i dygais ef yma.' 'Wel,' ebr y brenin cul ofnadwy, 'er mwyn fy mrawd Cwsg, chwi ellwch fyned i droi eich traed am y tro yma; ond gwyliwch fi'r tro nesaf.' Wedi iddo fod ennyd yn bwrw celanedd i'w geubal ddiwala, parodd roi dyfyn i'w ddeiliaid, ac a symmudodd o'r allor i orseddfainc echryslawn dra uchel, i fwrw'r carcharorion newydd ddyfod. Mewn mynyd, dyma'r meirw, fwy na rhif o fynteioedd, yn gwneyd eu moes i'r brenin, ac yn cymmeryd eu lle mewn trefn odiaêth. A'r brenin Angeu yn ei freninwisg o ysgarlad gloewgoch, ag hyd—ddi luniau gwragedd a phlant yn wylo, a gwŷr yn ocheneidio; ac am ei ben gap dugoch trichonglog (a yrasai ei gâr Luciffer yn anrheg iddo); ar ei gonglau ysgrifenasid, 'Galar, a gruddfan, a gwae.' Uwch ei ben yr oedd myrdd o luniau rhyfeloedd ar for a thir; trefi yn llosgi, y ddaiar yn ymagor, a'r dwr diluw; a than ei draed nid oedd ond coronau a theyrnwiail yr holl frenhinoedd a orchfygasai fe erioed. Ar ei law ddeheu yr oedd Tynged yn eistedd, ac à golwg ddu ddel yn darllen anferth lyfr oedd o'i flaen: ac ar y llaw aswy yr oedd henddyn a elwid amser, yn dylifo aneirif o edafedd aur, ac edafedd arian, a chopr, a haiarn lawer iawn, ac ambell edyf yn prifio yn well at ei diwedd ; a myrddiwn yn prifio yn waeth. Hyd yr edafedd yr oedd oriau, diwrnodau, a blynyddoedd; a Thynged wrth ei lyfr yn tori yr edafedd einioes, ac yn egor drysau'r wal derfyn rhwng y ddau fyd.

Ni chawswn i fawr edrych na chlywn alw at y bar bedwar o ffidleriaid oedd newydd farw. Pa fodd,' ebr brenin y dychryn, 'a daed genych lawenydd, na ddaliasech chwi o'r tu draw i'r agendor? canys ni fu o'r tu yma i'r cyfwng lawenydd erioed.' 'Ni wnaethom ni,' ebr un cerddor, 'ddrwg i neb erioed, ond eu gwneyd yn llawen, a chymmeryd yn ddystaw a gaem am ein poen.' 'A gadwasoch chwi neb,' ebr Angeu, 'i golli eu hamser oddi wrth eu gorchwy!, neu o fyned i'r Eglwys ? ha!' 'Na ddo,' ebr un arall, 'oddi eithr bod ambell Sul wedi gwasanaeth yn y tafarndy tan dranoeth, neu amser haf mewn twmpath chwareu; ac yn wir, yr oeddym ni yn gariadusach ac yn lwcusach am gynnulleidfa na'r person.' 'Ffwrdd, ffwrdd â'r rhai hyn i Wlad yr Anobaith,' ebr y brenin ofnadwy; 'rhwymwch y pedwar gefngefn, a theflwch hwy at eu cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i rygnu fyth heb na chlod na chlera.'


Erchyll
gosb
yr annuw.
Trwy'r gymmysgfa fawr arswydus, ni a dorasom, o'r diwedd allan i'r llaw chwith; a chyn trafaelio neppell yno, lle yr oedd pob

peth yn dechreu myned hyllach hyllach, clywn y galon yng nghorn fy ngwddf, a'm gwallt yn sefyll fel gwrych draenog, cyn gweled; ond pan welais, och ormod golwg i dafod ddadgan, nac i ysbryd dyn marwol ei edrych! Mi a lewygais. O aruthrol anferthol gyfwng tra erchyll, yn ymagor i fyd arall ! Och â'r clecian fyth yr oedd y fflamau echryslawn wrth ymluchio tros ymylau'r geulan felltigedig, a'r dreigiau mellt ysgethrin yn rhwygo'r mwg dudew yr oedd y safn anferth yn ei fwrw i fyny! Pan ddadebrodd fy anwyl gydymaith fi, rhoes i mi ryw ddwr ysbrydol i'w yfed; O odidoced oedd ei flas a'i liw ! Pan yfais y dwr nefol, clywn nerth rhyfeddol yn dyfod imi, a synwyr, a chalon, a ffydd, ac amryw rinweddau nefol ereill. Ac erbyn hyn, neseais gydag e'n ddiarswyd, at fin y dibyn, yn y llen, a'r fflamau yn ymranu o'n deutu, ac yn ein gochel, heb feiddio cyffwrdd â thrigolion Gwlad Uchelder. Yna o ben y geulan anaele, ymollyngasom, fel y gwelit ti ddwy seren yn syrthio o entrych nef, i lawr a ni fil filiwn o filltiroedd tros lawer o greigiau brwmstan, a llawer anfad raiadr gwrthun, a chlogwyn eirias, a phob peth â gwg crogedig ar i waered fyth; eto yr oeddynt oll yn ein gochel ni; oddi eithr unwaith yr estynais fy nhrwyn allan o'r llen gel, tarawodd y fath archfa fi o fygfeydd a thagfeydd ag a'm gorphenasai, oni buasai iddo yn ddisymmwth fy achub â'r dwr bywiol. Erbyn i mi ddadebru, gwelwn ein bod wedi dyfod i ryw sefyllfod; canys yn yr holl geg anferthol hòno, nid oedd bosibl ddim cynt gael attreg, gan serthed a llithriced ydoedd. Yno gadawodd fy Nhywysog i mi orphwys peth drachefn; ac yn hyny o seibiant dygwyddodd i'r taranau a'r corwyntoedd croch ddystewi gronyn; ac heb waethaf i swn y rhaiadrydd geirwon, mi a glywn o hirbell swn arall mwy na'r cwbl, o grochleisiau echrys, bonllefain, gwaeddi, ac ochain cryf, a thyngu a rhegu, â chablu, oni roiswn i newid ar fy nghlustiau rhag gwrando. A chyn i ni ymsymmud fodfedd, clywem oddi fyny'r fath drwp-bwl-rwp-rap, dy dwmp, dy damp; ac oni buasai i ni osgoi yn sydyn, syrthiasai arnom gantoedd o ddynion anhapus, oedd yn dyfod ar eu penau, mewn gormod brys, i ddrwg fargen, a llu o ellyllon yn eu gyru. “Ο, Syr,' ebr un diawl, 'cymmerwch yn araf, rhag dyrysu eich cydyn crych.' 'Madam, a fynwch chwi glustog esmwyth? mae arnaf ofn na fydd arnoch ddim trefn erbyn yr eloch i'ch llety,' meddai ef wrth y llall.

Gwrthnysig aruthr oedd y dyeithriaid i fyned ym mlaen, gan daeru eu bod allan o'r ffordd; ac er hyny myned yr oeddid, a ninnau o'u lledol, hyd at weilgi ddu ddirfawr o faint; a thrwodd yr aethant hwy, a throsodd ninnau, a'm cydymaith yn dal y dwr wrth fy nhrwyn, i'm nerthu rhag archfa yr afon; ac erbyn y gwelwn rai o'r trigolion (canys hyd yn hyn nis gwelswn gymmaint ag un diawl, ond clywed eu llais): 'Beth, ertolwg, fy nhywysog, y gelwir yr afon farwaidd hon?" ebr fi. 'Afon y Fall!' ebr yntau, 'lle trochir ei holl ddeiliaid ef, i'w cymhwyso at y wlad: mae'r dwr melltigedig hwn,' ebr ef, 'yn newid eu gwedd, yn golchi ymaith bob gweddillion daioni, pob rhith gobaith a chysur.' Ac erbyn gweled y llu yn dyfod trwodd, nis gwyddwn i ddim rhagor gwrthuni rhwng y diawliaid a'r damniaid. Chwennychai rhai o honynt lechu yng ngwaelod yr afon, a bod yno fyth fythoedd yn tagu, rhag cael ym mlaen waeth lletty; ond fel y mae'r ddiareb, 'Rhaid i hwnw redeg y bo diawl yn ei yru;' felly gan y diawliaid oedd o'u hol, yr oedd yn gorfod i'r damniaid hyn fyned ym mlaen hyd y feisdon ddinystriol i'w dienydd tragwyddol; lle gwelais innau, ar y golwg cyntaf, fwy nag a all tafod dyn ei ddychymmyg, chweithach tafod ei draethu, o arteithiau a dirboenau; a digon oedd gweled un o honynt er gwneyd i'r gwallt sefyll, i'r gwaed fferu, i'r cnawd doddi, i'r esgyrn ymollwng, ïe, i'r ysbryd lewgu. Beth yw polioni neu lifio dynion yn fyw, tynu'r cnawd yn dameidiau â gwrthrimynod heirn, neu friwlio cig â chanwyllau o fesur golwyth, neu wasgu penglogau yn lledfenau mewn gwasg, a'r holl ddirmyg erchyllaf fu erioed ar y ddaiar? Nid ydynt oll ond megys difyrwch wrth un o'r rhai hyn. Yma, fil can mil o floeddiadau ac ebychiau hyllgryg, ac ocheneidiau cryfion; draw wylofain croch, ac aruthrol gri yn eu hateb; ac mae udfa cŵn yn ber fiwsig flasus wrth y lleisiau yma. Pan aethom ronyn ym mlaen o'r feisdon felltigedig i wyllt Distryw, wrth eu tân eu hunain, canfum aneirif o feibion a merched yma a thraw; a diawliaid heb rifedi, ac heb orphwys, â'u holl egni, yn dal byth i'w harteithio; ac fel y gwaeddai'r diawliaid gan eu poen eu hunain, gwnaent i'r damniaid eu hateb hyd adref. Deliais fanylach sylw ar y cwr oedd nesaf ataf: gwelwn y diawliaid, a phicffyrch, yn eu taflu i ddisgyn ar eu penau ar heislanod gwenwynig o bicelleu geirwon gwrthfachog, i wingo gerfydd eu hymenyddiau; ym mhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfëydd, i ben un o'r creigiau llosg, i rostio fel poethfel. Oddi yno cipid hwy ym mhell i ben un o fylchau y rhew a'r eira tragwyddol; yna yn ol i anferth lifeiriant o frwmstan berwedig, i'w trochi mewn llosgfeydd a mygfeydd, a thagfeydd o ddrewi anaele; oddi yno i siglen y pryfed, i gofleidio ymlusgiaid uffernol, llawer gwaeth na seirff a gwiberod: yna cymmerai'r cythreuliaid wiail clymog o ddur tanllyd o'r ffwrnais, ac a'u curent oni udent tros yr holl Fagddu fawr, gan yr annhraethawl boen echryslawn; yna cymmerent heirn poethion i serio'r archollion gwaedlyd. Dim llewygu na llesmeirio nid oes yno, i siomi mynyd o seibiant ; ond nerth gwastadol i ddyoddef ac i deimlo; er y tebygit ti, ar ol un echrys-lef, nad oedd bosibl fod fyth rym i roi un waedd arall mor hyllgref; eto byth ni ostwng eu cywair, a'r diawliaid yn eu hateb, 'Dyma eich croeso byth bythoedd.' A phetai posibl, gwaeth na'r boen oedd goegni a chwerwder y diawliaid yn eu gwawdio ac yn eu gwatwar ; a pheth oedd waethaf oll, oedd eu cydwybod yr awran wedi cwbl ddeffro, ac yn eu llarpio hwy yn waeth na mil o'r llewod uffernol.


Araith
Luciffer.
Yn y canol, uwch ben Luciffer, yr oedd dwrn mawr, yn dal bollt tra ofnadwy. Y tywysogesau, wedi gwneyd eu moes, a ddychwelasant i'r byd at eu siars yn ddiymaros. A phan gyntaf yr ymadawsant, dyma gawr o ddiawl ceghir, ar amnaid y brenin yn rhoddi bonllef uwch na chan ergyd o ganon, cyfuwch, pe posibl, a'r udgorn diweddaf, i gyhoeddi'r Parliament uffernol: ac yn ebrwydd, dyma giwed annwn wedi llenwi'r llys a'r cyntedd ym mhob llun, yn ol delw a chyffelybiaeth y pechod penaf a'r a garai pob un ei wthio ar ddynion. Wedi gorchymyn gosteg, dechreuodd Luciffer, a'i olwg ar y penaethiaid nesaf ato, lefaru yn rasusol fel hyn:

'Chwychwi benaethiaid Annwn, tywysogion y Fagddu anobaith! Os collasom y meddiant lle buom gynt yn dysgleirio hyd teyrnasoedd gwynion Uchelder, er maint, eto gwych oedd ein cwymp ni, nid oeddym ni yn bwrw am ddim llai na'r cwbl; ac ni chollasom mo'r cwbl chwaith; canys wele wledydd helaeth a dyfnion hyd eithaf gwylltoedd Distryw fawr, tan ein rheolaeth ni eto. Gwir yw, mewn dirboen anaele yr ym ni yn teyrnasu; eto gwell gan ysbrydion o'n huchder ni deyrnasu mewn penyd na gwasanaethu mewn esmwythyd. Ac heb law hwn, dyma ni agos ag ennill byd arall; mae mwy na phum rhan o'r Ddaiar tan fy maner i er's talm. Ac er darfod i'r Gelyn Hollalluog yru ei Fab ei hun i farw trostynt, eto yr wyf fi wrth fy nheganau, yn mynu deg enaid am un a gaffo Fo gyda'i Fab croeshoeliedig. Ac er na chyrhaeddwn ei gyffwrdd Ef yn y goruchafon, sy'n ergydio'r taranau anorchfygol; eto melus yw dial rywffordd. Gorphenwn ninnau ddifa'r gweddill sy o ddynion yn ffafr ein Distrywiwr ni. Mae yn gof genyf yr amser y parasoch iddynt losgi yn fyddinoedd ac yn ddinasoedd, ïe, i ddaiar-lwyth cyfan ddisgyn trwy'r dwr atom ni i'r tân. Ond yr awran, er nad yw eich nerth a'ch creulonder naturiol ronyn llai, eto yr ych chwi wedi rhyw ddiogi: ac oni bai hyny, gallasem fod er's talm wedi difa yr ychydig rai duwiol, ac wedi ennill y ddaiar i fod yn un â'r llywodraeth fawr yma. Ond gwybyddwch hyn weinidogion duon fy nigofaint, oni byddwch glewach a phrysurach weithian, a byred yw ein hamser ni, myn Annwn a distryw, ac myn y Fagddu fawr dragwyddol, cewch brofi pwys fy llid arnoch eich hunain yn gyntaf, mewn poenau newyddion a dyeithriol i'r hynaf o honoch.' Ac ar hyn, fe guchiodd oni chymylodd y llys yn saith dduach nag o'r blaen.

Perygl
Hawddfyd
Yma gwelwn yr holl brif gythreuliaid a'u cegau tra erchyll yn egored ar Luciffer, i ddysgwyl beth bosibl a allai hwn fod; a minnau cyn rhyhwyred genyf glywed a hwythau.

'Un,' ebr Luciffer, 'y bûm i yn rhy hir heb ystyried ei haeddiant hi, fel dithau Satan gynt wrth demtio Iob yn troi'r tu hagr fel ffwl. Hon fy nghares yr wyf yn awr yn ei hordeinio yn rhaglaw ar holl achosion fy llywodraeth ddaiarol yn nesaf ataf fy hun; hi a elwir Hawddfyd: hon a ddamniodd fwy o ddynion na chwi i gyd; ac ychydig a dalech chwi oll hebddi hi; canys mewn rhyfel, neu berygl, neu newyn, neu glefyd, pwy a brisia mewn na thobacco, nac arian, na hoewdra balchder, nac a feiddia feddwl am groesawu nac anlladrwydd na diogi? Ac mae dynion yn y cyfyngoedd hyny yn rhy effro i gymmeryd eu pendifadu gan Ragrith ac Anystyriaeth chwaith; ni lefys un o'r uffernol wybed y Syndod ddangos ei big ar un o'r ystormoedd hyn. Eithr Hawddfyd esmwythglyd yw eich mammaeth chwi oll: yn ei chysgod tawel, ac yn ei monwes hoewal hi y megir chwi oll, a phob pryfed uffernol ereill yn y Gydwybod, a ddaw i gnoi eu perchen yma byth heb orphwys. Tra bydder esmwyth, nid oes son ond am ryw ddigrifwch, gwleddoedd, bargenion, achau, ystorïau, newyddion, a'r cyffelyb; ni sonir am Dduw, oddi eithr mewn ofer lyfon a rhegfeydd; lle mae'r tlawd a'r claf, &c., a Duw yn ei eneu ac yn ei galon bob mynyd. Ewch chwithau eich saith yng nghynffon hon, a chedwch bawb yn ei hun a'i heddwch, mewn llwyddiant ac esmwythyd, a llawnder a diofalwch; ac yno y cewch weled y tlawd gonest yn myned yn garl trawsfalch anhywaith, pan gyntaf yr yfo o hudol gwpan Hawddfyd; cewch weled y llafurwr diwyd yn troi yn llefarwr diofal ysmala; a phob peth arall wrth eich bodd. O blegid Hawddfyd hyfryd yw cais a chariad pawb; hithau ni chlyw gynghor, nid ofna gerydd; os da, nid edwyn; os drwg hi a'i meithrin. Hon yw'r brif brofedigaeth; y dyn a ymgadwo rhag ei swynion mwynion hi, gellwch daflu eich cap iddo; ffarwel i ni byth am gwmni hwnw. Hawddfyd, ynte, yw fy rhaglaw ddaiaroli; dilynwch hon i Brydain, ac ufuddhëwch iddi, megys i'n breninol oruchelder ni ein hunain.'


Cawres
Uffern
Eithaf.
Ar hyn, gwyntiwyd y follt fawr, a tharawyd Luciffer a'i ben-cynghoriaid i sugnedd Uffern Eithaf; ac och fyth erwined oedd weled ceg Annwn yn ymagor i'w derbyn! 'Wel,' eb yr Angel, 'weithian ni a ddychwelwn: ond ni welaist ti eto ddim wrth y cwbl sydd o fewn cyffiniau Distryw; a phe gwelsit y cwbl, nid yw hyny eto ddim wrth sydd o drueni annhraethawl yn Annwn; canys nid yw bosibl bwrw amcan ar y byd sy'n Uffern Eithaf.' A chyda'r gair fe a'm cipiodd yr Eryr nefol fi i entrych y Fagddu felltigedig, ffordd nas gwelswn, lle ces o'r llys hyd holl ffurfafen y Distryw duboeth, a holl dir anghof, hyd at gaerau'r Ddinas Ddienydd, lawn olwg ar yr anfad anghenfil o Gawres y gwelswn ei thraed hi o'r blaen. 'Ac nis meddaf mo'r geiriau i ddatgan ei moddion hi: ond mi fedraf ddywedyd iti mai cawres driwynebog oedd hi: un wyneb tra ysgeler at y nefoedd, yn cyfarth, yn chwyrnu, ac yn chwydu ffieidd—dra melltigedig tuag at y Brenin nefol: wyneb arall teg tua'r Ddaiar, i ddenu dynion i aros yn ei chysgod; a'r wyneb anaele arall at Annwn, i'w poeni byth bythoedd. Mae hi yn fwy na'r ddaiar oll, ac yn cynnyddu eto beunydd, ac yn gan erchyllach na holl uffern. Hi a barodd wneyd uffern, ac sy'n llenwi hi â thrigolion. Pe ceid hon o uffern, fe ai Annwn yn Baradwys: a phe ceid hi o'r ddaiar, fe ai'r byd bach yn nef; a phe cai hithau fyned i'r nef, hi a droai'r gwynfyd yn Uffern Eithaf! Nid oes dim yn y bydoedd oll (ond hon) nad Duw a'i gwnaeth. Hon yw mam y pedair Hudoles ddienydd; hon yw mam Angeu; a hon yw mam pob Drygioni a Thrueni ; â chanddi grap ofnadwy ar bob dyn byw. Hi a elwir PECHOD. Y sawl a ddiango o'i bachau hi, gwyn ei fyd fyth,' eb yr Angel. Ar hyn fe ymadawodd ; a chlywn ei adlais e'n dywedyd, 'Ysgrifena yr hyn a welaist; a'r sawl a'i darlleno yn ystyriol, ni fydd byth edifar ganddo.'

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Theophilus Evans
ar Wicipedia

THEOPHILUS EVANS.

MAE enw Theophilus Evans yn gysylltiedig, i bob un sy'n darllen llenyddiaeth Gymreig, a'i brif waith, "Drych y Prif Oesoedd," a gyhoeddwyd yn 1716, ac a ail-argraffwyd gyda llawer o ychwanegiadau gan yr awdwr yn 1740. Mae'r gwaith yma yn ddwy ran, y rhan gyntaf yn ymdrin a rhyfeloedd a bywyd gwladol yr hen Gymry, a'r ail ran yn adrodd hanes eu moes a'u crefydd. Y mae y llyfr drwyddo draw wedi ei ysgrifennu mewn iaith ystwyth, gyfoethog, ac mewn arddull dlos a byw. Y mae mewn gwirionedd yn waith mawr ei fywyd, oherwydd treuliodd y rhan fwyaf o'i amser i chwilio allan hen awduron am oleuni ar hanes bywyd ei gydgenedl,—cenedl ag sydd a llawer o niwl a thywyllwch yn cuddio dyddiau ei mabandod o'r golwg.

Fe anwyd Theophilus Evans yn 1694, yn bumed mab Pen y Wenallt, ym mhlwyf Llandygwydd, yn agos i Gastell Newydd Emlyn, ar gyffin Ceredigion a Chaerfyrddin,—lle ddaeth yn hynod yn hanes llenyddiaeth ein gwlad, gan mai yn yr ardal honno y ceir yr argraffwasg gyntaf yng Nghymru. Pan yn bump ar hugain oed, cafodd ei lawn urddo yn offeiriad, a'i guradiaeth gyntaf oedd Tir-yr-Abad, ym Mrycheiniog. Gwelir felly ei fod wedi dwyn allan ei "Ddrych" cyn cymeryd ar ei ysgwyddau lawn urdd eglwys. Symudodd amryw weithiau yn ei fywyd,—i Lanlleonfel, i Lanynys, i Langamarch, i Lanfaes Aberhonddu,—ond nid aeth oddiallan i Sir Frycheiniog. Gwan oedd ei iechyd ar hyd ei oes,—a dywedir mai ef oedd y cyntaf i ganfod rhinwedd meddygol dwfr naturiol y sir,—eto bu fyw yn henwr pymtheg a thrigain oed. Cyfieithodd amryw lyfrau llyfrau ddangosent ddrygioni pob math o sect—a chyhoeddodd amryw bregethau, a pharhaodd hyd ei fedd yn bregethwr hyawdl ac yn efrydydd diball.

Y mae y darnau a ddetholir o'i waith wedi eu dewis o'r Rhan I. o'r "Drych."


Undeb
Cymru a
Ffrainc.
Ond yma yr wyf yn barod eisys i goelio, y bydd rhai yn dywedyd nad yw y rhai hyn ond chwedlau gwneuthur, fod y Cymry unwaith yn byw yn Ffrainc, ac mor enwog yn y byd am eu gwroldeb. Ond er annhebyced y tybir hyny yn awr, nid oes, er hyny, un peth wirach mewn histori. Canys, nid i son fod ym mysg y ddwy genedl, sef trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau o'r ynys hon, yr unrhyw ddefodau ac arferion, yr unrhyw grefydd ac adnabyddiaeth o'r Duwdod, yr unrhyw fath o offeiriaid a Derwyddon—i adael hyn heibio, meddaf (ac eto yr ydys yn haeru llawer peth ar waeth rhesymau), y mae Iul Caisaryr hwn a ysgrifenodd agos er ys deunaw cant o Aynyddoedd a aethont heibio, a'r hwn a fu dros ddeng mlynedd yn rhyfela yn Ffrainc, ac a fu ryw ychydig ym Mrydain—y mae Iul Caisar,—meddaf, yn dywedyd ar ei air yn oleu, fod tafodiaith y ddwy deyrnas yn bur debyg i'w gilydd, hyd ddim a allasai efe farnu wrth glywed trigolion y naill deyrnas a'r llall yn siarad. Y mae awdwr arall, a ysgrifenodd o gylch hanner cant o flynyddoedd ar ol Iul Caisar, ac un arall o gylch deugain mlynedd ar ol hyny, yn tystio ill dau yr un peth, nad oedd ond y dim lleiaf o wahaniaeth rhwng iaith y naill deyrnas a'r llall, sef rhwng iaith trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau, y rhai oeddent yn byw y pryd hyny yn Lloegr. Fe allasai fod, ond odid, gymmaint o wahaniaeth a rhwng Gwynedd a Deheudir, neu feallai, ryw ychydig chwaneg. Ond beth er hyny? Diammheu mai'r un bobl oeddent o'r dechreuad.

Hefyd, heb law cyssondeb yr iaith, ystyried un dyn nesed yw teyrnas Ffrainc i Loegr: nid oes ond cainc o fôr rhyngddynt, lle y gall dyn â llygad craffus ganfod o'r naill lan i'r lan arall, ar ddiwrnod dysglaer. Ynys Brydain, gan hyny, yn ddiammheu a boblwyd ar y cyntaf allan o'r wlad nesafati, megys y poblwyd yr Iwerddon allan o'r wlad hon.

Afarwyac
ac ail ymgyrch
Iul Caisar.
Ac o ran ei fod efe yn gwybod mai hen gadnaw oedd Iul Caisar, ac nad oedd ond ofer iddo dybied y rhoisid coel idd ei eiriau heb ryw feichnïaeth, y bradwr Afarwy a anfonodd ei fab, yng nghyd â deuddeg ar hugain o farchogion, i ddwyn y llythyr at Iul Caisar, ac hefyd i fod yn wystlon o fod ei amcan ef yn gywir. Bywiogodd hyn galon Caisar, ac nid allasai un peth yn y byd ddygwydd yn fwy dymunol ganddo; ond eto o herwydd na chafas efe ond groesaw cyn hagred, a gorfod arno ffoi a throi ei gefn y waith gyntaf, efe a ddaeth yn awr yn llidiog ac yn hyderus, yr ail waith; canys lle nid oedd ganddo ond pedwar ugain ysgraff (neu o longau) y tro cyntaf, i fordwyo ei wŷr drosodd i Frydain, yr oedd ganddo yn awr wyth cant, a nifer ei sawdwyr y tro hwn oedd tair mil ar ddeg ar hugain a thri chant a deg ar hugain o wŷr traed, a'r un nifer hefyd o wŷr meirch; sef oedd eu rhifedi gyda'u gilydd, chwech mil a thrugain, a chwech cant a thri ugain; agos i gan mil o wŷr arfog, a'r rhei'ny, gan mwyaf, yn rhyfelwyr o'u mebyd. Beth a allai sefyll yn erbyn y fath lu mawr a hwnw! ac ni wyddys pa nifer o filoedd oedd gan y bradwr Afarwy i fod yn blaid a hwy! Acy mae un bradwr cartrefol (a melltith ei fam a gaffo pob cyfryw un byth) yn waeth na chant o elynion pellenig; canys y mae y bradwr gartref yn gydnabyddus â phob amddiffynfa a lloches, a lle dirgel, lle y mae dim mantais i'w gael. Ond er hyn oll, ni fu i Iul Caisar ddim achos mawr i orfoleddu o'i daith, na chlod chwaith gan ei gydwladwyr yn Rhufain. Canys yr oedd y Brytaniaid wedi pwyo, yng ngwaelod Tems, farau heiyrn erchyll â phigau llymion, y rhai nid allai neb eu canfod o yma draw, am eu bod droedfedd neu ddwy dan y dwfr; a phan ddaeth llongau Caisar yn ddiarwybod ar draws y rhei'ny, gwae fi! pa waeddi wbwb a therfysg oedd, ar hyny, ym mysg sawdwyr Rhufain; y pigau dur yn rhwygo yr ysgraffau, a hwythau yn soddi ar fin y lan; a'r Brytaniaid hwythau ar dir sych, yn llawen am weled eu dyfais yn llwyddo cystal. Y mae yn hawdd i farnu (pe bai hyny ond oddi yma yn unig), nad oedd yr hen Frytaniaid ddim cyn anfedrused pobl ag y mae rhai yn gweled bod yn dda i daeru. "Cas yw'r gwirionedd lle ni charer."


Heddwch a
Therfysc
Ac ar hyn o bryd, wele ddychymmyg arall ac ystryw o eiddo'r Rhufeiniaid i gadw tan law yr hen drigolion; canys gwnaethant glawdd mawr o dyweirch a pholion, bedwar ugain milltir o hyd, draws yr ynys o fôr i fôr, sef o Abercwnrig, y naill ran o'r ynys tua'r dwyrain, hyd yn Ystrad Clwyd, tua'r gorllewin; sef yn agos i gydiad Lloegr ac Iscoed Celyddon, neu Scotland, lle mae yr ynys gulaf drosti. Pwy bynag ni roddai ufudd-dod i lywodraeth y Rhufeiniaid a yrid allan o gyffiniau Lloegr, y tu arall i'r clawdd; a sawdwyr yn gynnifer pentwr yma ac acw, ar bwys y clawdd, yn gwylied, i gadw pawb allan o'r tu draw.

Dros dalm ar ol hyn y bu amser lled heddychol, megys heddwch rhwng boneddigion, oddi eithr ambell wth a bonclust yn awr a phryd arall, yma ac Ond, megys wrth groni afon redegog, hi a erys ond odid yn llonydd ac yn dawel dros encyd; eto pan ddel llifeiriant, hi a ffrydia yn rhaiadr gwyllt dros yr ystanc, ac a dreigla ac a chwilfriwia pa beth bynag a saif ar ei ffordd : felly y Brytaniaid hwythau, er eu bod dros amser yn lled esmwyth, eto, wrth weled eu trin mor hagr, ac fel estroniaid yn eu gwlad eu hun, a gymmerasant galon o newydd eto. Er bod eu gwŷr dewisol, pigion a blodau ieuenctyd y wlad wedi eu cipio o drais y tu draw i'r môr, megys yr oedd y Rhufeiniaid yn arferol o wneuthur, eto yr oedd digon o ysbryd chwerw o ymddïal yn brydio calonau y gwŷr oedd gartref; canys y gwŷr y tu draw ni wnaethant fwy o gyfrif o'r clawdd, nag a wna march rhyfel i neidio dros gornant; a phreswylwyr Lloegr a Chymru hwythau, y tu yma i'r clawdd, a godasant yn un a chytûn dros wyneb yr holl wlad, nes ei bod hi yn amser gwaedlyd y pryd hwnw ym Mhrydain. Cynllwyn am waed, lladd, a dyfetha eu gilydd drwy boenau a chreulonder, llosgi tai â gwŷr a gwragedd a phlant o'u mewn; ar air, ymffyrnigo mewn dialedd oedd agos yr unig beth ag oedd y Rhufeiniaid a'r Brytaniaid yn astudio arno dros amryw ac amryw flynyddoedd. Digon gwir, hwy a lonyddent dros ychydig amser i gymmeryd eu hanadl, megys dau darw gwyllt yn ymgornio, ac yn gadael heibio dros ychydig; ond yna eu llid a ffrydia o newydd, a myned i ymdopi yn ffyrnicach nag o'r blaen.


Cyflwr
truenus.
Eisieu rhagweled pethau mewn amser a fu yn dramgwydd i filoedd ; ac yn nyddiau dysglaer, i esgeuluso barotoi rhag dryghin yw rhan yr ynfyd. Ac felly ar hyn o bryd, ar ol cael y trechaf ar eu gelynion, nid oedd yr hen Frytaniaid ysmala hwy yn pryderu rhag un ymgyrch arall; ond diswyddo eu milwyr a wnaethant, megys pe na buasai dim rhaid wrthynt mwyach. Nid oes yn wir ddim hanes neillduol o blegid pa ddrygau a wnaeth y Brithwyr a'u cyfeillion dros rai blynyddoedd ar ol eu herlid y waith hon, oddi eithr eu bod yn lledrata gyr o dda a defaid, a llosgi ambell bentref, yn awr a phryd arall, ac yna chwipyn ar gerdded; megys barcut ar gip yn dwyn cyw, ac yna ymaith gynted ag y gallo. Ond pan gydnabu y Brithwyr fod y Brytaniaid wedi gadael eu cleddyfau i rydu, a bod math o hyrtrwydd wedi eu perchenogi, megys rhai yn dylyfu gên rhwng cysgu a pheidio, yna danfon a wnaethant at eu hen gyfeillion, y Ffrancod a'r Seison, a'u gwahawdd trosodd i wneuthur pen ar bobl ddidoraeth a musgrell, nad oeddent dda i ddim ond i dwymno eu crimpau wrth bentan, ac ymlenwi.

Y Brytaniaid yn ddilys ddiammheu ar hyn o amser, oeddent wedi dirywio yn hagr oddi wrth eu gwroldeb gynt; canys yna, ar waith y Brithwyr a'u cyfeillion yn rhuthro arnynt, nid oedd galon yn neb i sefyll yn eu herbyn, mwy nag a all crug o ddail ar ben twyn sefyll yn erbyn gwth o wynt. Er lleied o wŷr arfog oedd y pryd hwnw ym Mrydain, eto pe buasent yn galw ar Dduw am ei gymhorth, ac yn ymwroli, byth ni fuasai i fath dreigl ladronach ag oedd eu gelynion yn awr yn eu sathru mor ddidaro, ac heb godi llaw yn eu herbyn; ond hwynt-hwy digaloni a wnaethant, ac yn lle arfogi eu hieuenctyd, a'u hannog i hogi eu cleddyfau, a anfonasant lythyr cwynfanus at eu hen feistriaid, y Rhufeiniaid, yn taer ymbil am gymhorth i yru y barbariaid allan o'u gwlad. Prin y gallasent ddysgwyl y fath ffafr y pryd hwnw, am fod mwy na gwaith gan y Rhufeiniaid gartref, ac hefyd yn eu cof yn ddigon da wrthryfel Macsen Wledig; eto yr ymherawdr a dosturiodd wrthynt, ac a ddanfonodd leng o wŷr dewisol, h.y., o gylch saith mil, neu medd ereill, 6666. Cyn gynted ag y tiriasant, y chwedl a aeth allan (a chwedl a gynnydda fel caseg eira) fod yma bump lleng wedi dyfod; ac ar hyny y Brithwyr y rhai oeddent yn anrheithio canol y wlad a ffoisant ymaith y tu hwnt i Wal Sefer, i'r anialwch ac i'r Iwerddon; ond y rhai o gylch Llundain a glan Tafwysg a wanwyd â chleddyf y Rhufeiniaid. O gylch oedran Crist 418 y bu hyny.


Gwahodd
y Saeson.
Felly Gwrtheyrn, ar ol ymgynghori â'i benaethiaid, a anfonodd bedwar o wŷr anrhydeddus ei lys i wneuthur ammod â'r Seison, a'u gwahodd hwy drosodd i Frydain, sef oedd enwau y pendefigion hyny, Cadwaladr ab Tudur Ruddfaog, Rhydderch ab Cadwgan Freichfras, Meurig ab Trehaern, a Gwrgant ab Maelgwn Ynad, heb law ereill o is radd yn osgordd iddynt. Ac yna wedi myned i ben eu siwrnai, os gwir a ddywed cronicl y Seison (canys Sais cynhenyd sydd yn adrodd hyn o fater, ond nid oes air yn un cronicl Cymraeg am dano), y cenhadon a wnaethant araith ger bron eisteddfod o Seison, yn y geiriau hyn :—"Nyni, y Brytaniaid truain, wedi ein harcholli a'n blin gystuddio gan aml ruthrau ein gelynion, ym yn deisyf eich porth a'ch nawdd yn y cyfyngdra trallodus y'n dygpwyd ynddo ar hyn o bryd. Ein gwlad sydd eang ddigon, flwch a diamdlawd o bob peth buddiol i gynnaliaeth dyn; cewch feddiant ynddi; digon yw hi ini a chwithau. Hyd yn hyn y bu y Rhufeiniaid yn ymgeleddwyr tirion i ni; nesaf at ba rai ni adwaenom neb a roddes brawf mor helaeth o'u grymusdra a chwychwi. Bydded i'ch arfau seinio allan eich gwroldeb yn Ynys Brydain ; ac ni fydd flin genym wneuthur o'n rhan ninnau, un fath o wasanaeth a esyd eich ardderchawgrwydd arnom." Ac yna yr atebodd y Seison wrth fodd eu calonau, gan ddywedyd, "Chwi ellwch hyderu arno, Frytaniaid anrhydeddus, y bydd y Seison yn geraint cywir i chwi, ac yn barodol i'ch cynnorthwyo yn yr ing a'r trallod mwyaf." Y gwirionedd yw, nid yw yr araith hon ond chwedl gwneuthur y Sais; nid dim ond ei ddychymmyg ei hun; canys nid oedd awdurdod y cenadon a ddanfonwyd at y Seison ddim amgen ond ammodi a hwy er cymmaint a chymmaint o gyflog, megys y gallent hwy gytuno arno. Nid oedd air o son am gael meddiant mewn un cwr o'r deyrnas.

Yr oedd ambell un, y rhai oedd â'u synwyrau yn effro, yn darogan y wir chwedl, ac yn ofidus eu eu calon wrth ragweled y distryw gerwin oedd ar ddyfod. "Pan gaffo y cacwn," ebe un, "letty yng nghwch y gwenyn, e orfydd ar wir drigolion y cwch roddi lle i'r pryf gormesol. Gwae fi! na fyddo gwahodd y Seison ddim yn gwirio y ddiareb, 'Gollwng drygwr i ysgubor gwr da; a llawer gwaith y gwelwyd, mai 'gelyn i ddyn yw ei dda." "Mi a glywais hen chwedl," eb un arall, "i'r colomenod gynt ammodi a'r barcutanod ar eu cadw rhag rhuthr y brain; y bodaod yn ddilys ddigon a erlidiasant y brain ymaith; ond beth er hyny? Nid hwyrach ag y byddai chwant saig felus ar y bodaod, nid dim arall a wasanaethai eu tro ond colomen at giniaw a phrydnawnfwyd. Mi gaf gan Dduw mai nid hyny fydd corff y gainc ar waith ein brenin da ninnau yn anfon am y Seison." Ond nid oedd ond ambell offeiriad tlawd yn dal hyn o sylw ar bethau; canys ar ol dychwelyd y cenadon adref, bu llawenydd o'r mwyaf yn y llys: a byth ni welai y brenin ynfyd ddigon o arlwy ar eu medr, na digon o ddanteithion a moethau yr ynys i'w croesawu. Ac ym mhen ychydig, rywbryd ym mis Awst, yn y flwyddyn o oedran Crist, 449, y tiriasant mewn tair llong, a dau frawd, Hengist a Hors, yn flaenoriaid arnynt. Ar ol gwledda a bod yn llawen dros rai dyddiau, a llwyr gytuno ar y gyflog yr oedd y Seison i dderbyn am eu gwasanaeth, fel na byddai dim ymrafael am hyny rhag llaw, y Seison yno yn wir a roisant brofiad helaeth o'u gwroldeb a'u medr i drin arfau rhyfel; canys er na allent fod yn nifer fawr iawn, pan y gallasai tair llong eu dwyn, eto, a hwy yn awr yn borth i'r llu egwan oedd yn y deyrnas eisys, y Brithwyr a wasgarwyd, eu byddinoedd a ddrylliwyd, a Niawl Môr Mac Flan a dorodd ei wddf ar ei waith yn ffoi yn frawychus ac yn fyrbwyll.


Ymladd
dewr.
Emrys Benaur oedd yn awr eu brenin, yr hwn a fu ben capten y llu yn amser Gwrthefyr Fendigaid, megys y soniwyd o'r blaen; a chymmaint oedd ei glod wedi eangu dros yr holl deyrnas, fel prin yr oedd wr o ugain i hanner cant oed, oni chwennychai ddwyn arfau dano. A gwŷr Gwynedd a Deheudir hefyd ar hyn o bryd a ddaethant yn gymhorth cyfamserol idd eu brodyr yn Lloegr; ac yn wir, achos da pa ham; canys fe rydd pob un fenthyg ei law i ddiffodd ty ar dân; a phob un a ymgyfyd ei arf yn ei law i daro ci cynddeiriog yn ei dalcen. Felly, a hwy yn awr yn llu cadarn, a'u hymddiried yn yr Arglwydd, myned a wnaethant yn uniongyrch, a danfon gwŷs at y gelynion i ymadael o Frydain; neu od oedd calon ynddynt i ymladd, deuent i'r maes, ac ymladdent yn deg, ac nid fel bradwyr yn cynllwyn am waed dan rith cyfeillion. Hengist gan hyny a wrychiodd (canys yr oedd yr hen gadnaw yn fyw byth, ac yn awr o gylch saith a thrigain oed); ac ar ol ymgynghori a'i frawd Hors, ac ereill o'i gapteniaid, efe a atebodd i'r pen rhingyll a anfonasai Emrys ato, fod ganddo ef "gystal hawl yn y tir a oresgynasai efe drwy nerth arfau, a'r goreu o'r Brytaniaid. Seren bren am eu bygwl."

Ar hyny, ryw bryd ym mis Mai, yn y flwyddyn o oedran Crist, 484, y bu ymladdfa greulawn rhwng y ddwy genedl; y naill yn ymwroli er gyru estrongenedl, bradwyr a mwrddwyr, allan o'u gwlad, a'r llall yn ffyrnigo fel ellyllon, er cadw craff yn eu trawsfeddiant anghyfiawn. Ar ol cwympo cannoedd o bob parth, yn enwedig o blaid y Seison, dynesäu a wnaethant yn dra llidiog i ymladd law-law; a chethin oedd yr olwg i weled rhai wedi eu hollti yn eu canol, rhai â'u hymysgaroedd allan, rhai yn fyr o fraich, ac ereill yn fyr o goes. Hors a wanwyd yn ei wddf, a Hengist a ddaliwyd yn garcharor, a'r lleill, ar hyny, a ffoisant, ond y rhan fwyaf yn archolledig a dart yn eu tu ol. Y sawdwyr yno a lusgasant Hengist gerfydd ei farf, tua phabell y brenin; a phan oedd dadl yn eu mysg yng nghylch pa beth a wneid o hono, Dyfrig, Archesgob Caerlleon ar Wysg, a gododd ar ei draed, ac a ddywad, "Petai bob un o honoch chwi am ei ryddhau ef, myfi, ïe myfi, ag wyf yn esgob, a'i drylliwn ef yn chwilfriw; canys mi a ganlynwn esampl y prophwyd Samuel, yr hwn, pan oedd Agag, Brenin Amalec, yn ei law, a ddywedodd, 'Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ym mysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag ger bron yr Arglwydd yn Gilgal.' (I Sam. xv. 33.) Gwnewch chwithau, anwyl wŷr," eb efe, "yr un ffunud i Hengist, yr hwn sydd megis ail Agag." Ac ar hyny, Eidiol, Iarll Caerloew, a ruthrodd arno, ac a'i lladdodd. Gyda bod y cleddyf yn ei boten, yno chwi a welech yr holl lu yn gwasgaru rhai yma, rhai acw, i geisio bob un ei gareg i daflu arno; a chyn nosi, yr oedd yno gryn garn ar ei ben, megys yr oeddid yn arferol o wneuthur â drwg weithredwyr, y rhai, oddi yma a gyfenwir yn "garn ladron."


Lladd
Emrys.

Emrys, brenin y Brytaniaid, yn y cyfamser oedd yn glaf yng Nghaerwent; ac hyfryd iawn oedd y newydd yng nghlustiau Pascen, ac a ddymunasai o eigion calon ei fod efe mewn rhyw le arall nag yn nhir y rhai byw. Ac yno neidio wnaeth y diawl i galon Pascen, a dyfalu ffordd i ladd y brenin; ac fe wyddai eisys fod ganddo Sais yn ei gymdeithas (Eppa oedd ei enw) o gystal un at y fath orchwyl ag a fu erioed yn ysgoldy Belzebub. Yr oedd efe yn deall y iaith Gymraeg, yn ryw ychydig o feddyg, ac yn ddyn dewr ystrywgar hefyd. Ac fel y bai efe fod yn fradwr hollol, efe a ymrithiodd megys offeiriad, ac eto yn deall meddyginiaeth. "Wele yn awr," ebe Pascen wrtho, "dos a llwydda; a gwybydd fyned yn ebrwydd at y Seison, i Isgoed Celyddon ar ol gwneuthur o honot dy orchwyl: a danfon air ataf finnau." Y Sais, mewn rhith gwr crefyddol, ac yn un yn deall meddyginiaeth, a gas fynediad yn hawdd i lys y brenin, ac a roddes iddo ddïod o lysiau a gasglodd efe o'r ardd, yng ngwydd pawb; ond efe yn ddirgel a gymysgodd wenwyn â hi, ac o fesur cam a cham a ddiflanodd o'r golwg; a phrin y gorphwysodd efe yn iawn nes myned â'r newydd at ei gydwladwyr i Isgoed Celyddon, a'u hannog i wisgo eu harfau.


Rheolau'r
Ford
Gron.
Yr oedd gan Arthur amryw lysoedd heb law ei ben palas yn Llundain: ambell waith yng Nghaer y Gamlas, dinas hyfryd gynt yng Ngwlad yr Haf; ambell waith mewn lle a elwid y Gelli Wyg, yng Ngherniw; ac yn fynych yng Nghaerlleon ar Wysg, yr hon oedd gynt y drydedd ddinas o ran tegwch a maint drwy yr holl deyrnas, ac yn eisteddfa archesgobaeth.

Ac efe yn wr call i ragachub cynhen ym mysg ei farchogion yng nghylch y lle uchaf ar y bwrdd, dywedir mai efe oedd y cyntaf a ddyfeisiodd y ford gron, fel y gallai pawb eistedd blith draphlith yn ddiwahân, heb ddim ymryson am oruchafiaeth. A'r rhai hyn yw y cynneddfau a ofynid gan bob un o farchogion Arthur, y rhai y caniatëid iddynt eistedd ar ei fwrdd ei hun :

"1. Y dylai pob marchog gadw arfau da, ac yn barod at bob rhyw wasanaeth a osodid arno, ai ar fôr ai ar dir.

"2. Y dylai yn wastad wneyd ei oreu er darostwng pawb a fyddai yn gorthrymu ac yn treisio'r bobl o'u hiawn.

"3. Y dylai amddiffyn ac ymgoleddu gwragedd gweddwon rhag magl a niwed maleiswyr; edfryd plant a dreisid o'u heiddo at eu gwir feddiant ; a maentumio'r grefydd Gristionogol yn wrol.

"4. Y dylai, hyd eithaf ei allu, gadw llonyddwch yn y deyrnas, a gyru ymaith y gelynion.

"5. Y dylai ychwanegu at bob gweithred glodfawr, tori lawr bob campau drwg, cynnorthwyo y gorthrymedig, dyrchafu braint yr Eglwys Gatholig, ac ymgoleddu pererinion.

"6. Y dylai gladdu y sawdwyr a fyddent yn gorwedd ar wyneb y maes heb feddrod. Gwared y carcharorion a'r rhai a gaethiwid ar gam, a iachäu y rhai a glwyfid yn ymladd dros eu gwlad.

"7. Y dylai fod yn galonog i fentro ei hoedl mewn pob rhyw wasanaeth anrhydeddus, eto fod yn deg a chyfiawn.

"8. Y dylai, wedi gwneuthur unrhyw weithred odidog, ysgrifenu hanes am dani mewn coflyfr, er tragwyddol ogoniant i'w enw a'i gydfarchogion.

"9. Os dycer dim achwyniad i'r llys am dyngu anudon, neu orthrwm, yno y dylai'r marchog hwnw a appwyntia'r brenin, amddiffyn y gwirion, a dwyn y drwg weithredwr i farn cyfraith.

"10. Os digwyddai ddyfod un marchog o wlad ddyeithr i'r llys, ac yn chwennych dangos ei wroldeb, yna y dylai'r marchog a appwyntia'r brenin ymladd ag ef.

"11. Y dylai pob marchog ddysgu arglwyddi a phendefigion iefainc, i drin arfau yn gywrain, nid yn unig i ochelyd seguryd, ond hefyd i chwanegu anrhydedd eu swydd a'u gwroldeb."


Arferion y
Brytaniaid.
Hynod oedd eu medrusrwydd i baentio a britho a lliwiau, yn enwedig i baentio ar crwyn luniau ehediaid, bwystfilod, pysgod, ac ymlusgiaid. Hyn oedd ran o wychder y gwŷr mawr; sef eu bod, o goryn y pen hyd wadn y traed, yn llawn o luniau creaduriaid byw. Math o liw glas ydoedd, ac ni wisgid mo hono byth allan, am ei fod wedi ei ollwng i mewn, â phigiad nodwydd, i'r croen. Pa un ai bod rhinwedd ynddo i gadw'r corff mewn iechyd hyny nis gwni; ond y mae yn ddilys fod yr hen Frytaniaid yn byw yn aml hyd saith ugain.

Crwth a thelyn oedd y gerddoriaeth benaf ym mysg yr hen bobl. Symlen ben bys oedd gainc cyffredin iawn. Lledr oedd dros wyneb y cafn; ac o achos hyny a gyfenwid y delyn ledr. Y dysgyblion a ddechreuent ganu â thannau rhawn, ac a dalent bedair ceiniog ar hugain areu gwaith yn myned yn ben cerddwyr; canys felly y dywed y gyfraith, "Y neb a fyno ymadael a thelyn rawn, a bod yn gerddor cyweithas, pedair ar hugain a ddyly."

Yr hen Frytaniaid a eillient eu cyrff yn llwyr gwbl, ond y pen a'r wefus uchaf. Eu hymborth oedd laeth a chig; ond ni fwytaent hwy ddim cig ysgyfarnog, ieir, na gwyddau, er bod ganddynt amledd o honynt. Yr oedd bagad yn dilyn hwsmoniaeth, ac yn achlesu eu tir à marl a thywod y môr, ac yn cael gwenith a haidd eu gwala; yn gwneuthur bara o'r naill a chwrw o'r llall; ac y mae ysbysrwydd goleu y medrent ddarllaw cwrw a bragod gantoedd o flynyddoedd cyn i Iul Caisar droedio ym Mrydain. Eu defod oedd i losgi cyrff y meirw, a chasglu y lludw a thalpau o'r esgyrn mewn math o ysten bridd, a'u gosod yng nghadw yn rhestrau yn y crugiau, neu'r tomenydd, y rhai sydd i'w gweled eto mewn amryw fanau. Y mae un hynod ym mhlwyf Trelech, yn rhandir Caerfyrddin, a elwir Crug y Deyrn. Y mae eu hallorau hefyd i'w gweled hyd y dydd heddyw, ar y rhai yr aberthid ambell waith ddynion; sef naill ai drwg weithredwyr, neu ynte y gelynion a ddelid yn garcharorion wrth ryfela. Y mae un nodedig i'w gweled eto ym mhlwyf Nefern, yn rhandir Penfro, a elwir Llech y Drybedd. Y gareg uchaf, neu yr allor, sydd ddeuddeg llath o gylch; ac o du gogledd fortais ynddi, i ddwyn ymaith waed yr aberth. Pa le bynag y gwelir tair o geryg mawrion wedi eu sicrhau ar eu penau yn y ddaiar, ar ddull trybedd, e fu yno allor gynt.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Samuel
ar Wicipedia

EDWARD SAMUEL.

ADNABYDDIR yr ysgrifennwr llithrig hwn yn aml fel Person Bettws Gwerfil Goch. Fe'i ganwyd mewn tyddyn o'r enw Cwt y Defaid, plwyf Penmorfa, Sir Gaernarfon, yn 1674. Tlodion iawn oedd ei rieni, fel na chafodd Edward Samuel nemawr o addysg ym moreu ei oes, ond addysg brin ei gymydogaeth. Ond yr oedd Dr. Humphreys, Esgob Bangor, yn noddwr tyner iddo, a thrwy ei waith ef daeth Edward Samuel yn berson Bettws Gwerfil Goch yn 1702. Arosodd yno tan 1721, pryd y symudodd i blwyf agos arall, Llangar, lle y bu farw yn 1748. Felly treuliodd yr oll o'i fywyd gweinidogaethol yn nhawelwch mil bryniau Meirion sy'n gwylio glannau y Ddyfrdwy, yno y bươn pregethu, yn diwyllio ei hunan, ac yn cyfieithu amryw lyfrau i'r Gymraeg; ac yn eglwys Llangar y gorffwys ei weddillion.

Y mae'r darnau a ddetholir yma wedi eu dewis o'i gyfieithiad o "Wirionedd y grefydd Gristionogol," gwaith mawr Hugo Grotius. Y mae ei gyfieithiadau yn lluosog iawn,—yr oll o honynt yn llyfrau crefyddol a'u hamcan yn unig i wella moes a buchedd y werin Gymreig. Y dernyn olaf a gyhoeddodd oedd pregeth angladdol a draddodwyd ganddo yn eglwys Llangower, ym Mai, 1720, i Ficer Gwyddelwern. Yr oedd hefyd yn fardd lled hwyliog, gwnaeth farwnad i Huw Morus, a gwelir darnau o'i waith yn y "Blodeu—gerdd."


GWIRIONEDD
Y
GREFYDD GRIST'NOGOL
o waith
HUGO GROTIUS.
A Gyfieithwyd gan Edward Samuel
Person Bettws Gwerfil Goch.
Hosea 14. 9.
Dihar. 8. 33.
Argraphwyd yn y Mwythig.Gan John
Rhydderch yn y Flwyddyn 1716.


At y Darllennydd.
Pwy bynnag a fwrio Olwg ar hyn Lyfrau mor bwyllog ac mor ystyriol ag y gweddai i'r defnydd rhagorol y cyfansoddwyd Ef o honaw, nid rhaid byth ddywedyd iddo fuddioled a godidocced ydyw; gan ei fod yn cadarnhau sylfan a gwreiddyn y Grefydd Grist'nogol, yn goleufynegi siccrwydd ei holl Brif bynciau ardderchoccaf, gyda phurdeb a gwirionedd ei Hysgrythyrau; ac yn dadcan ei godidowgrwydd rhagor pob Crediniaethau eraill cyn llwybreiddied a chyn llithricced mor ddibetrus ac mor gadarn-ddihafarch, nad all neb ai darlleno ai hystyrio ac ai deallo, amgen na gweled a chydnabod pa achosion anfeidrol sydd iddynt i ymlynu yn ddiyscog yn eu Proffess, i ymdrech Ymmhlaid y Ffydd a roddwyd unwaith i'r Sainct, ac i drefnu eu Buchedd a'u Hymarweddiad yn gyfattebol; gan fod iddynt y fath hyspysrwydd diammeu am wirionedd eu crediniaeth, a'r fath ddilys eglurdeb am wobr gogoneddus a thaledigaeth.

Eglur ddadcan y gwirioneddau dwys-fawr hyn yw sylwedd a pherwyl y Traethawd di-gymmar sydd gereich bron; a'r cwbl ynddo sydd gwedi ei osod allan cyn gywreinied a chyn gyflawned ac eto cyn fyrred, trwy gyfryw ddyfndwr Dysceidiaeth, a'r fath ddoeth ymresymmiad didwyll anorfod, nas gwn i erioed ddarllain a chlywed sôn am un o'i faint yn eilfydd iddo. Ond beth a dál fy marn i am bath wrth Dystiolaeth cynnifer o Brif Dyscedigion pob gwlâd YnGhrêd, a gydnabyddant am Awdwr y Llyfr yma, Ei fod yn ei amser yn un o Oleuadau discleiriaf holl Europa, am bob math ar Ddoethineb a Dysceidiaeth, fel y mae hefyd amryw Lyfrau Eraill o'i Waith Ef, a hwn yn anad un yn hollawl-fynegi.

Mor ddefnyddiol hefyd ac angenrheidiol y barnwyd Hwn, ai fod mewn brî a chymmeriaeth gydâ phob Gwyr o Ddysc yn y Llading-iaith y cyfansoddwyd Ef ynddi, ac wedi ei gyfieithu ir rhan fwyaf or Ieithoedd sathredig yn y Parth yma o'r Byd (sef Ieithoedd y Saeson, y Ffrancod, yr Ellmyn, yr Italiaid, ac eraill, a rhai hefyd o leithoedd Asia) er mwyn iawn sylfaenu'r Bobl Gyffredin ymmhob Gwlad YnGwirionedd a siccrwydd y Grefydd Gristnogol. A dyma'r achos a barodd i'r Awdwr ei 'sgrifennu ar y cyntaf yn iaith ei Wlad ei hun, ar Draethod Cynghanedd er lles y Cyffredin, yn enwedig y Morwyr, er mwyn eu sefydlu yn y Ffydd au harfogi yn erbyn Gau Grediniaethau, Cenhedloedd ac Iuddewon a Mahumediaid, fel y mae'n mynegu'n helaeth yn y Rhagymadrodd.

Gan ei fod wrth hynny gwedi ei gyfansoddi ar y cyntaf, er cyfarwyddid a Gwybodaeth i'r Gwerin cystal ac ir Dyscedig, ai gyfieithu mewn amrwy Dafodau o herwydd yr un perwyl rwy'n gobeithio na wêl neb fai am ryfygu o honof ei droi hefyd yn Gymraeg er mwyn ein cydwladwyr ninnau. Mae cyn rheitied i ni ag i Bobl Eraill fedru rhoddi Rheswm am y gobaith fydd ynom; Mae Efrau ysowaeth gwedi eu hau yn ein plith ni cyn dewed ac mewn mannau eraill; ac nid wy'n deall nad oes gan bob math o Drigolion Cymru gystal Athrylith a Synwyr Naturiol i wrando a dirnad Rheswm, i wybod rhagoriaeth rhwng da a drwg, rhwng Cam ac Union, ac rhwng Gwir ac Anwir, ag sydd gan Eraill o'u Cŷd-râdd yn y gwledydd o'u hamgylch. Gobeithio ynteu y gall y rhai'n dderbyn cymmaint lleshad ac adeiladaeth wrth ddarllain y Llyfr yma yn Gymraeg ac y gafodd eu cyffelyb yn holl ardaloedd Crêd wrth ei ddarllen ieithoedd y Broŷdd hynny.

Ac nid ydyw'r cyfrwy orchwyl ysgatfydd mor afreidiol yn ein Gwlad ni ag y gall Bagad feddwl ei fod. I Dduw y bo'r diolch mae Goleuni yr Efengyl yr awrhon yn llewyrchu cyn ddiscleiried Ynghymru ag mewn odid o wlad arall, mae mwy o Lyfrau Duwiol, defnyddiol yn Argraphedig ac amlach, ac ond antur well Pregethwyr yr awrhon yn ein plith nag a fu mewn un Oes er ys mwy na Mil o Flynyddoedd, ac etto ni welwn fod Anghrefydd, ac Anuwioldeb, Anghydfod ac Anghariad, Gau-grediniaeth a Gwahanedigaethau, Drwg-Foesau ac Arferion llygredig yn rhŷ gynnefin a chyffredinol yn y Fro yma cystal ag mewn mannau eraill. Ac yn ddiammeu Un Achos mawr o'r Afreolaeth yma, yw eisieu bod pobl yn gydnabyddus a Sylfaen eu Crediniaeth, sef Prifachosion sydd iddynt i Gredu ac Ufuddhau, a pha well gwasanaeth a ddichon undyn wneuthur iw Wlad na dangos i bawb megys o flaen eu Llygaid, Nad peth ofer yw Crefydd, eithr mae gwir diragrith, di-ddadl ydyw, a gwneuthur iddynt ddeall a chydnabod nad oes le iddynt fod yn Anghrist'nogol oni byddant yn Anrhesymmol hefyd?

Hyn yw amcan a bwriad y Llyfr sydd yn canlyn, nid eglurhau a datcan holl Brif Athrawiaethau a Dyledswyddau Cristionogaeth, eithr cadarnhau Sylfaen Gwirionedd y rhain oll, ar Ffydd a sefydler ar y cyfryw seiliau diyscog a fydd disigl a diymmod megys y Ty a sylfaenwyd ar y Graig, ac ni eddŷ ei gwyrdroi ai chylcharwain gan bob awel o wag ddysceidiaeth; eithr a saif yn ddi-betrus yn erbyn pob rhuthrau a phrofedigaethau; yn erbyn erlidiau a gorthrymderau o'r naill dû, ac yn erbyn hoccedion twyllodrus, a Gaugrediniaethau cyfrwys-ddrwg o'r tû arall.

Darllain ditheu ef, F' anwyl Gydwladwr, yn fynych ac yn fyfyriol, ac os byddi gwell erddo, diolch i Dduw yn gyntaf, ac yn nesaf i'r Gwyrda haelionus sydd a'u henwau yma'n argraphedig; escusoda feiau'r Cyfieithydd ar Argraphyddion, ac yn dy weddiau Cofia am dy

Wasanaethwr,E. S.


AT YR
ANRHYDEDDUS AR PARCHEDIG
JOHN WYΝΝΕ.
o Felai, Esq.

Cyfarch
Noddwr.
Nid yw yn anhyspys ichwi, bendefig urddasawl! Nac i neb arall dyscedig, am Hugo Grotius, er maint ei fri ai gymmeriaeth oblegig ei synhwyr ai ddysceidiaeth, ddarfod iddo syrthio i flinder a chaethiwed yn ei wlad ei hun, ac ymdeithio o honaw, o fann-bwygilydd nes cael o'r diwedd ei dderbyn yn groesawus gan Bennadur dyscedig a Meceaenas Dyscedigion eraill sef Hieronymus Bignonius Dadleuwr y Brenin ym mhrif-frawdle Paris. Nid anhebyg i helbul yr awdwr a ddigwyddodd iw Lyfr yma : Gwedi tridiau o hanaw trwy holl ardaloedd Europa a bagad o Froydd Asia, a dyscu llawer ou hieithoedd, a chael ei groesawu'n barchedig o herwydd ei wybodaeth ai Ddoethineb, f'a ddaeth iw dynged yn ddiweddaf oll anturio ir Oror fynyddig yma. Ac, er daed ei Ddysc a doethed ei resymmau; etto o ran fod ei wisc yn sittrachog ai Gymraeg yn gandryll, bydd tebyg a darraw wrth groesaw oeraidd oddieithr i ryw wrda rhywioglân dosturio wrtho, ai achlesu'n ymgeleddgar ac wrth ei esampl ei hun ai wneuthur yn gymmeradwy gan eraill. Ac nid oes achos ddysgwyl hyn ond lle bo Gwr o ddysc a wypo ei deilyngdod ai Godidowgrwydd, a Gwr o haelioni a thrugaredd iw gymmorth yn garedig-lan, a Gwr hefyd o Fawrfryd Bonheddigaidd a fo ganddo wir gariad iw wlad, ac no bo anfodlon i hepcor i'r gwaelaf o'i GydDdeiliaid yr eglurdeb ar siccrwydd sydd yma iw cael, am sylfaen a gwreiddyn Gwirionedd y Grefydd Grist'nogol. I ba fan ynteu yr ymgyrch yr Adyn digydnabyddiaeth yma am gyfryw nodded ac amddeffynfa ond i Elusengar Noddfa'r Dieithriaid, sef i'r Fynachlog Letteugar Haelionus lle mae'r cynneddfau rhagorol hyn yn trigfannu'n gartrefol? Lle mae Gwybodaeth eglur heb ei chaddigo â mwrllwch Pabyddiaeth, lle mae Duwioldeb heb Goel-Grefydd, Cariad heb redres, a gweithredoedd da heb ymddiried wrth eu haeddedigaeth; ar air, lle mae mwy o Ddysc a Dawn ymmhen ei Pherchennog presennol nag a fu, ond antur, mewn Deugain o'i hen Abbadeu. Lle nid oes na gwyro at Rufain o'r naill du nac at Geneva o'r tû arall, eithr ymlynu'n ddiyscog yn ffydd Eglwys Loegr ac yn yr Athrawiaeth ddilwgr a gadarnheir ac a siccrheir yn y llyfr yma. I chwi ynteu yr ufuddanrhegaf hyn o Gyfieithiad anghelfydd; gan ostyngedig ddiolch ichwi ac ir holl Wyrda Parchedig sydd yn fy haelionus-gynnorthwy iw osod allan yn argraphedig. A chan ddifrifol weddio ar i'r Arglwydd eich cadw mewn hir iechyd a hoedl yn barch ac yn harddwch i Gymru, ac yn wir aelod Union-gred o Eglwys Loegr, ac (i ddywedyd y cwbl ar air) a wnel i chwi ach heppel ar eich ôl ragori, od oes le, ar Rinwedd a Godidowgrwydd eich Hynafiaid ardderchog. Hyn yw ac a fydd taer-ddeisyfiad diragrith.

S. R.

Bettws Gwerfil
Goch Hydref
25, 1715.
Eich gostyngediccaf
ach Ufuddaf Wasanaethwr,
EDWARD SAMUEL

Am y Dyledswyddau o addfwynder tuag at ein Cymmydogion, er gwneuthur o honynt hefyd niwed i ni.

Ein
Dyledswydd.
Cyffelyb ir rhain yw'r Dyledswyddau a ofynir gennym tuag at ein Cymmydogion. Nid yw Crefydd Mahomet, gwedi ei chenhedlu mewn Rhyfel, yn chwythu dim ond destryw a chelaneddau, a thrwy nerth Arfau y mae'n ymgynnal ac yn cynnyddu. At Ryfeloedd hefyd ac ymladdfaau gwaedlyd yr oedd Gofodigaethau'r Lacedemoniaid (y rhai a gyfrifid gan Apollo 'n oreu o Gyfreithiau'r Groegiaid) yn tueddu'n hollawl, fel y mae Aristotle yn dal sulw ac yn beio arnynt or Achos. Eithr y mae'r un Aristotle yn barnu fod Rhyfel yn erbyn Estron Genhedloedd yn beth naturiol; yr hyn sydd wrthwynebol i'r gwir, oblegid mae Naturiaeth yn dyscu pobl i fod yn garedig ac yn gymdeithgar ai gilydd. Canys beth sydd anghyfiawnach a chywilyddiach na chospi pobl am ladd un neu ddau, ac ymffrostio a gorfoleddu am ladd miloedd megys rhyw orchest ogoneddus. Ac etto pa fodd y cafodd y Ddinas Enwog honno, Rhufain, y fath barch ac enw ond trwy Ryfeloedd, a rheiny'n fynych yn ddigon anghyfion, fel y maent hwy eu hunain yn cyfaddef am eu Rhyfeloedd yn erbyn Sardinia a Cyprus. Ac yn wir yr oedd y rhan fwyaf o'r Cenhedloedd, fel y mae awdwyr goreu'r Côflyfrau'n mynegi i ni, yn credu'n gyffredinol nad oedd gywilydd yn y byd lâdd a lledratta o fewn terfynau Estroniaid. Mae Aristotle a Cicero yn barnu mae Rhinwedd yw ymddialu peth o gyhoedd: Difyrwch y Cenhedloedd oedd edrych ar y cleddyfwyr yn anafu ac yn arteithio eu gilydd; a pheth arferedig beunydd oedd bwrw eu plant allan newydd eni, au gadael tan drugaredd Cŵn neu Fôch, neu rhyw bryfeid gwylltion eraill. Yn wir yr oedd gwell Cyfraith, a sancteiddiolach Discybliaeth ymmhlith yr Hebreaid. Eithr f'a gydddygid ag ymbell beth, ir bobl ddigllon anoddefus hynny, megys rhuthro ar y saith genedl haeddasent hynny; ac nid ymfodlonasant ar hyn chwaith, eithr caffaent yn llidiog ac erlidient yn greulon bawb oedd yn anghyttuno a hwynt. Ac y mae etto arwyddion or tuedd-fryd ffyrnnig yma yn y gweddiau a ddychymmygant yn erbyn y Crist'nogion: Eithr yr oedd y Gyfraith ei hun yn caniadhau rhydd-did iddynt i ddial eu cam au dwylo'u hunain, ac i ladd llofrudd a fuasei'n Euog o Farwolaeth un o'u cyfnesyfiaid a'u dwylo'u hunain heb na chwyn na chalyn. Ond y mae Cyfraith Christ yn gwahardd yn hollawl ad-talu drwg neu gamm nac ar air nac ar weithred, rhag am y drwg y byddom yn ei euog farnu yn Eraill, in i ei ganmol ai hoffi ein hunain trwy wneuthur y cyffelyb, 'n peri ini wneuthur da i bawb yn enwedig yn wir ir sawl sydd dda a rhinweddol eithr i'r drwg hefyd, yn ol esample Duw ei hun, yr hwn sy'n rhoddi'r Haul a'r Sêr, ar awyr ar Gwynt ar Cafodydd i bob Dyn.


Diddedlir Paganeidd-dra o herwydd fod iddi ddiflannu o honi ei hun pan gollodd hi Gymmorth Dynion.

Paganiaeth
yn diflannu
HEB law a ddywedasom o'r blaen, mae Paganeidd-dra yn hepcor i ni un Rheswm rhagorol yn ei herbyn ei hun; sef syrthio a diflannu o honi'n llwyr ymmhob mann, lle collodd hi Gymmorth Dynion, megys pe buasei ei hunig Gynheiliad ai cholofn gwedi ei dorri i lawr ai dadymchwel. Oblegyd os bwriwch olwg o amgylch ar y Gwledydd ar Teyrnasoedd sydd tan Lywodraeth Christianogion a Mahumediaid, nid oes, oddieithr mewn Llyfrau, ddim coffa am Baganeidd-dra, iê, ma Cof lyfrau yn dangos, yn yr amseroedd hynny pan oedd yr Ymmerodron trwy nerth Arfau a Chospedigaethau, megys yr oedd y rhai cyntaf, neu trwy Ddysceidiaeth a Synhwyr megys yr oedd Julian yn ceisio cynnal i fynu Grefydd y Paganiaid, ei bod hi er hynny yn gwanhychu beunydd, a hynny, nid trwy wrthwynebion Creulondeb ac Erlidiau, nid trwy Ardderchowgrwydd Achau (canys ni chyfrifid yr Iesu gan y bobl gyffredin, ond mab i Saer) nid trwy flodeu Dysceidiaeth, oblegyd nid arferai'r sawl a ddyscasant Gyfraith Christ ddim or fath beth yn eu Pregethau. Nid trwy Eiriau têg ac ymadroddion gwênieithus, pan oeddynt yn y gwrthwyneb yn mynegi y gorfyddai ir sawladderbyniant Gyfraith Christ, ddiystyru pob Elw a.difyrrwch bydol, a goddef pob adfyd a chaledi o'i hachos.

Gwelwch ynteu faint gwendid Paganeidd-dra pan allodd y fath arfau ei gorfod ai dinystrio. Ac ni ddiflannodd Crediniaeth y Paganiaid yn unig trwy'r Athrawiaeth honno. Eithr yr Ysprydion a yrrwyd allan o Gyrph Dynion, ac a dawsant, a phan ofynnid iddynt yr achos o'u mudaniaeth, gorfu arnynt gyfaddef nad allent hwy ddim lle y gelwid ar Enw Christ.



Jarvis & Foster, Argraffwyr, Lorne House, Bangor.

Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.