Clawdd Terfyn/Clawdd Terfyn
| ← Cynnwys | Clawdd Terfyn gan Robert Dewi Williams |
Morus Hughes, Y Felin → |
Clawdd Terfyn

YN ol yr awdurdodau goreu, O ddyddiau daearyddiaeth Robert Roberts, Caergybi, i lawr, saif plwy Llangernyw yn rhywle tu mewn i ffiniau'r Temperate zone; ond yr oedd dwy ffarm yn taro ar ei gilydd yng nghanol y plwy, y gallesid eu hystyried flynyddoedd yn ol fel yn gorwedd yn y tropics, a hynny ar gyfrif y tanbeidrwydd anghymdogol oedd yn nheimladau'r naill ffarmwr at y llall. Bodrach a'r Frwynos y gelwid y ddwy ffarm, ac ar lafar y plwy, Bodrach a'r Frwynos y gelwid y ddau ffarmwr hefyd; ond Tomos Bifan oedd enw'r naill, a Pitar Huws oedd enw'r llall. Bu poethwynt ystormus gwastadol yn chwythu dros y clawdd terfyn rhyngddynt am ddeng mlynedd ar hugain, ac ni chaed gosteg tan ddaeth rhybudd i'r ddau oddiwrth y tirfeddiannwr,—yr unig dirfeddiannwr yn y plwy, ac unig dirfeddiannwr pob plwy arall, yn ol rhyw hen lyfr,—y byddai raid iddynt symud ar fyrder i ffermydd llai, dan stiwartiaeth ywen ym mynwent y llan.
Ar gyfrif y gwres annioddefol y cyfeiriwyd ato, gellir dywedyd mai yn y trofennau y buont fyw; ac yn y trofennau hyn y clawdd terfyn oedd llinell y cyhydedd. O'i ddeutu ef yr oedd y gwres boethaf. Nid llinell ddychmygol oedd cyhydedd y clawdd terfyn, er fod y dull rhwydd yr âi defaid y Frwynos drosto yn awgrymu hynny; ac yn wir, gwaith y llu mawr o idealists gwlanog oedd yn niadell Pitar Huws yn anwybyddu ffeithiau, ac yn gomedd credu ym modolaeth sylweddau fel drain a mieri, polion a gwifrau, a wnaeth fywyd Tomos Bifan yr ochr arall i'r clawdd yn chwerwder chwerw.
Hen glawdd corffol ydoedd, a'i drwch yn peri i ddyn feddwl am wrthgloddiau amddiffynnol ym mrwydrau yr oesau gynt. Nid terfyn unionsyth ydoedd, ond igam-ogam, a'i osgo, wrth edrych arno o'r ochr arall i'r cwm, yn debyg i neidr braff yn gwingo i gyfeiriad yr afon yn y gwaelod. Ond er fod y clawdd yn fawr a thrwchus, prin ac anwastad oedd y gwrych ar ei war, ac yr oedd yn ddiffygiol felly yn yr hyn a ystyrir yn gymhwyster anhepgorol mewn clawdd i'r swydd bwysig yr oedd hwn ynddi. Yr oedd digon o fieri ar hyd-ddo, ond yr unig wasanaeth—pe gwasanaeth hefyd—a wnai'r rheini oedd codi treth y gwlân oddiar bob perchen cnu a ymwthiai trwyddynt. Perthyn i Fodrach yr oedd y clawdd terfyn, ac ni ddisgwylid i Pitar Huws wneuthur dim ond byw yn heddychol yr ochr arall iddo; ac ni ddisgwyliai neb oedd yn adnabod Pitar iddo wneuthur hynny. Dyledswydd Tomos Bifan oedd ei gau, a gwnaeth osgo digon gonest i gyflawni ei ddyledswydd lawer tymor, ond rywsut yr oedd pob ymgais o'i eiddo yn troi'n fethiant. Er blinder ysbryd iddo fel caewr, yr oedd praidd Pitar yn feirniaid craff ar unrhyw gyfansoddiad mewn drain, a chaent bleser digymysg yn cyhoeddi adolygiad anffafriol ar ei waith, a hynny dan ei drwyn; torrent trwy y mannau gwan ar ei ol o fewn ychydig latheni i'r fan lle byddai ef yn fawr ei chwys yn cau hefo'i gryman a'i ddyrnwyl. Plannodd ddrain yno droion; ond yn ofer, byddent yn marw heb ddeffro, ac eithrio rhyw hanner dwsin, un yma ac acw. Gosododd bolion a gwifrau yno, a thynhaodd hwynt fel tannau telyn, ond "telyn a dorrwyd yn gynnar fu hi. Trodd defaid y Frwynos yn delynorion mor selog fel yr oedd amryw o'r tannau wedi torri cyn pen deufis. Ac ar ol gwasanaethu tymor neu ddau blinodd y polion sefyll yn unionsyth; credent eu bod wedi cynnal y gwifrau yn ddigon hir, a'i bod hi'n bryd bellach i'r gwifrau eu cynnal hwy. Dechreuodd lliaws o honynt led-orwedd, ac o'r diwedd aeth pawb o honynt i bendwmpian, ond y ddau bost tynnu yn neupen y clawdd; safodd y rheini'n hir ar ol cwympo pawb arall. Y ddau swyddog yma yn unig oedd yn aros yn fuan iawn o holl fyddin sefydlog Twm Bifan. Am y milwyr cyffredin, yr oedd Ned y gwas bach wedi gweld yn dda lusgo eu cyrff fesul un i'w crematio dan ffwrnes tatws y moch.
Ond pan oedd drain a physt yn marw ac yn braenu er pob gofal a swcwr ar war y clawdd, yr oedd yno drefedigaeth o gwningod, a'u lloches yn ei ymysgaroedd, yn ffrwytho ac yn amlhau er pob erledigaeth. Yr oedd yr hen glawdd wedi ei ridyllio ganddynt, a'r tyllau-yn fawr ac yn fân-yn rhy luosog i ddychymyg yr un heliwr. Yr awdurdod uchaf ar y mater yn y wedd yma yn ddiau oedd Don- ci'r Frwynos. Yr oedd ganddo ef, mae'n wir, wybodaeth gyffredinol dda am dyllau a llwybrau cwningod ymhob clawdd o fewn cylch o ddwy filltir o gwmpas cartre—gwybodaeth a gasglodd rhwng difri a chware pan oedd rhwng hanner blwydd a dwyflwydd oed; ond am saith mlynedd ar ol hyn, gwnaeth y clawdd terfyn yn faes astudiaeth arbennig, ac ni fedrai ddywedyd, na'r un ci arall ddywedyd am dano, mai yn ofer y llafuriodd. Dychwelodd adre oddiyno ganwaith yn fwy buddugoliaethus na chyfforddus ar ol bod yn gwledda ar yr hyn a ddigwyddasai iddo o'r da. Ond er ei holl gydnabyddiaeth a "daear " y clawdd terfyn, yr oedd yn rhy gyfrwys i gredu ei fod yn gwybod popeth yn ei chylch. Byddai yno ryw dwll newydd bob dydd, a chai Don drafferth nid bychan i ddilyn symudiadau newyddion yr oes yn y tyllau a'r teithiau gwningodogaethol hyn; a phan aeth yn rhy hen a methiantus i ennill ei fywoliaeth a byw yn annibynnol wrth hela ynddi, daliodd i fynd yno bob dydd gyda chysondeb difwlch i wneuthur rhyw fath o research work diniwed ymhlith y tyllau—fel y gwna llawer don methiantus arall.
Cyfundeb diddorol oedd cyfundeb y cwningod yn y clawdd terfyn, a buasai hanes yr achos yn y lle o'i ddechreuad yn ychwanegiad amheuthun at y math hwnnw o lenyddiaeth. Buasai yn ddiddorol gwybod ymha flwyddyn y sefydlwyd yr achos gyntaf, a'r dydd a'r mis y turiwyd pob twll; ond dibris fuont o'u dechreuad, ac aeth pob manylion felly i eigion ebargofiant. Y mae'n bur eglur mai eglwys sefydledig oedd hi o'r cychwyn—neu os nad sefydledig, eglwys na bu hi ddim yn dibynnu am noson erioed ar yr egwyddor wirfoddol Yn gwbl groes i'w hewyllys, beth bynnag am gydwybod, y cyfrannai Pitar Huws a Tomos Bifan at ei chynnal. Degymai hi y ddau, nid bob amser yn gyfartal, ond bob amser yn ddigon teg. Hawliai y cwningod eu cynhaliaeth o'r tu goreu i'r clawdd o hyd. Os yn ochr y Frwynos y byddai'r egin neu'r borfa oreu, yno y porent; ond os tu Bodrach fyddai'n rhagori, aent yno. Byddent yn gweithredu barn a chydwybod, ac yn byw ar y cryfa, mor bell ag y gallent hwy farnu yng nghyffiniau'r clawdd. Hwyrach fod rhagluniaeth yn cael pleser mewn cipiws porfa ac egin dipyn yn ddiofal o boptu, ac wedi ordeinio preswylwyr y clawdd terfyn trwy eu holl genhedlaethau fel rhyw Court of Equity i gyfartalu pethau yn fanylach.
Gwr gweddw diblant oedd Pitar Huws y Frwynos, a chedwid ei dŷ, yn ddigon twt, gan nith iddo. Hen lanc oedd Tomos Bifan, a chedwid ei dŷ ef, yr un ffordd a'r beudy a'r cwt moch, gan y gwas bach; ac ni chafodd mochyn na buwch le i edliw iddo erioed ei fod yn ffafrio'r tŷ. Byddai braidd bob mochyn a fegid yno, pan welai ddrws y tŷ yn agored, yn troi i mewn i farnu drosto ei hun, a deuai allan bob amser wedi cael tawelwch perffaith i'w feddwl. Safai y tri lle yma oedd dan arolygiaeth Ned yn un rhes ym mreichiau ei gilydd—y tŷ yn y canol; a gofalai'r gwas bach—a chai gefnogaeth ei fistar—na ddelai dim amgen na rhyddid a chydraddoldeb i mewn i'w deyrnas.
Yr oedd gwr y Frwynos wedi cael tipyn o addysg: medrai ddarllen yn rhugl; taflai ei olwg dros y papur newydd bob wythnos; ond yr oedd Tomos Bifan yn gwbl anllythrennog ac anwybodus; ni feddai fawr o ddirnadaeth am ddim tu allan i'w ffarm, ac am grefydd, yr oedd yn estron perffaith iddi. Hamddenol, ystyfnig a phryfoclyd oedd Pitar, a'r llall yn gerlyn rheglyd a hanner barbaraidd.
Yr oedd pob cyfathrach fai'n weddus rhwng dau gymydog wedi peidio rhyngddynt ers llawer blwyddyn bellach, a hynny'n bennaf o achos y clawdd terfyn. Porfa a chnydau Tomos Bifan a dollid fwyaf, o herwydd yr oedd yno dipyn o godiad tir yn ochr y Frwynos, ac yr oedd yn haws i ddefaid Pitar Huws ddisgyn i Fodrach nag oedd i ddefaid Bodrach ddringo i'r Frwynos. Ond er mai Tomos Bifan oedd y dioddefydd pennaf, nid oedd siawns iddo mewn llys gwladol fedru rhwymo defaid Pitar i gadw'r heddwch, oherwydd fo'i hun oedd biau'r clawdd, a'i fusnes ef oedd ei gau. Cai ambell ffit weithiau o gau gwyllt a chaeai ddarn, ond darn fyddai. Pan afaelai cynddaredd y cryman a'r dyrnwyl ynddo, gofalai gwr y Frwynos fynd hefo'i was i esgus gweithio heb fod nepell yn rhywle yn y golwg gyferbyn, i ddim ond i'w gythruddo, a llwyddent yn ddifeth. Ymgomient, chwarddent, dywedent ambell frawddeg lawn gwawd yn ddigon uchel i gyrraedd clustiau'r caewr, a chyfeirient ato yn hyglyw fel Mr. Tomos Bifan a Twm Bifis bob yn ail. Dan y saethau hyn, gan y byddai y gelyn yn bellach oddiwrtho nag ergyd cryman, yr unig beth fedrai Tomos Bifan ei wneuthur—a gwnai hynny'n effeithiol—oedd rhegi Pitar Huws nes byddai ei eiriau wrth glecian yn erbyn clogwyn y Frwynos yn deffro "hen ddyn" pob clogwyn arall trwy'r holl gwmwd; ac yna cythrai mewn cynddaredd tuag adref, yn swn adlais aflafar ei lyfon ei hun.
Ar ol blynyddoedd o brofiad fel hyn, daeth Tomos Bifan i sylweddoli fwyfwy ei gyflwr a'i drueni, nid fel pechadur, ond fel cymydog Pitar, ac fel un nad oedd iddo ronyn o gysur yn y ddeddf wladol yn wyneb ei brofedigaethau; a dechreuodd feddwl yn ddifrifol o'r diwedd am gysur crefydd, fel y dehonglid y nwydd hwnnw iddo yn feunyddiol gan y gwas bach. Taerai Ned ei fistar o hyd, a sicrhai iddo pe buasai yn perthyn i'r seiat y buasai rhyw siawns iddo dagu Pitar Huws—yn grefyddol felly: fod cyd—aelodau yn medru llusgo ei gilydd o flaen eu gwell yn hollol ddidrafferth ac yn gwbl ddigost. Daliodd Tomos Bifan ar y cyngor oherwydd y gobaith cysurus oedd ynddo, a phenderfynodd fynd i'r seiat. Yr oedd gwr y Frwynos yn aelod yn eglwys Soar, a thuag yno, ryw nos Fercher, y cyfeiriodd Tomos Bifan ei gamre. Sylwodd Pitar, wrth fynd tua'r capel, fod Tomos Bifan yn cerdded rhyw gan lath o'i flaen, ond ni freuddwydiodd mai yno hefyd yr âi ei gymydog; a phan drodd Tomos at y capel ac yr aeth i mewn trwy'r drws, cafodd gwr y Frwynos fraw, a thybiodd y cai ffit, ond yn rhagluniaethol trodd yn ffit o chwerthin aflywodraethus, a bu raid iddo ymdroi yn hir tu allan i fedru difrifoli digon i fynd i mewn ar ei ol.
Ar ol mynd trwy'r gwasanaeth dechreuol, cododd Huw Jones ar ei draed, a dywedodd—
"Mae'n dda gynon ni i gyd weld Tomos Bifan wedi troi i mewn. Mi aiff William Dafis i gael gair hefo fo." Aeth William Dafis i'r llawr ato, ac ar ol rhyw air bach o gyfarchiad cynnes dywedodd:—
"'Rwyt ti'n gwybod be wyt ti'n neud, Tomos, on'd wyt ti?"
O ydw," ebe Tomos.
"I'r seiat 'rwyt ti wedi dwad, cofia; a mi fydd raid iti altro llawar os wyt ti am aros yma. Rhyw ffarm ydi'r seiat, wyddost, wedi'i chau i fewn oddiwrth y byd, a mi fydd raid i titha forol am neud dy ran i gadw'r clawdd terfyn yn ddifwlch."
(Ffigiwr y clawdd terfyn yn goglais Pitar Huws, ac yn codi ffit o besychu caled arno).
"Pa glawdd terfyn?" ebe Tomos Bifan yn ddreng.
"Y clawdd sy rhwng yr eglwys a'r byd," ebe'r hen flaenor.
"O," ebe Tomos, mewn cywair meddalach.
Rhaid i ti, a phawb ohonom ni, fod yn ddiwyd ryfeddol ne mi aiff yn fylcha i gyd toc iawn. Os gweli di lecyn yn y gwrych ar dy gyfar di yn dechra mynd yn wan, stwffia ddigon o ddrain gwynion yr Ysgrythyr iddo fo—a drain duon hefyd ran hynny, ma nhw'n tyfu'n gymysg ac i'w hiwsio hefo'i gilydd."
Yn y fan hon, dechreuodd meddwl anllythrennog Tomos Bifan nogio; gwrthododd yn bendant dynnu llwyth alegori William Dafis gam ymhellach heb ddadlwytho pob owns o'r wers ysbrydol oedd ynddi. Ar ol ysgafnhau'r llwyth—ni chymerodd hyn oll ond megis amrantiad—gofynnodd Tomos Bifan yn llawn diddordeb:—
"Pwy sy'n dal y tir yr ochor arall i'r clawdd ?" "O, y diafol, Tomos bach, fo sy'n ffarmio'r ochor draw," ebe William Dafis.
"Wel, ydi o i gau dim?" gofynnai Tomos drachefn, gan ddechreu cael blas ar holi'r holwr.
"Neiff o ddim, reit siwr," ebe'r hen flaenor, "a chai ditha ddim gneud chwaith os medar o dy rwystro di."
Estynnodd Tomos Bifan ei het, a pharatôdd i fynd allan.
"Os fel na ma hi," meddai, "rydw i mewn seiat ym Modrach acw ers dros ugain mlynedd.
Wyddwn i ddim fod yma Bitar am y clawdd â'r seiat ne faswn i fawr o ddwad yma. Nos dawch i gyd," a chychwynnodd allan. Y foment honno y sylweddolodd William Dafis fod ei ffigiwr yn un anffodus, a meddai: "Aros funud, Tomos, 'rwyt ti wedi nghamddallt i." Safodd Tomos wrth ddrws y sêt a'i het yn ei law. "Oeddat ti wedi meddwl cynnyg dy hun yn aelod hefo ni wrth ddwad yma heno?"
Oeddwn," ebe yntau.
"Be oedd yn dy gymell di i ddwad aton ni ?" gofynnai William Dafis.
"Pitar y Frwynos," gan nodio i gyfeiriad y gwr hwnnw, "sy. . . . ."
"O da iawn," ebe'r hen frawd," mae'n dda gin i glywed i fod o'n gneud rhyw les."
"Lles bybe?" ebe Tomos, "rhoswch i mi orffan. Pitar y Frwynos sy'n poeni mywyd i, a dallt 'roeddwn i daswn inna hefyd yn aelod, y basach chi yn i alw fo i gyfri, ac yn i gosbi o."
"O, felly," ebe William Dafis, "pechoda Pitar sy wedi dy hel di i fewn yma, nid dy bechoda dy hun."
"Ia," ebe Tomos.
"Wel," ebe'r hen flaenor, "mae gin i ofn na fedrwn ni mo dy dderbyn di ar y telera yna. Mae'n ddrwg iawn gynon ni os ydi Pitar yn dy boeni di, ond raid iti gael dy boeni gin rwbath heblaw Pitar cyn y medrwn ni dy dderbyn di."
Cyn i William Dafis orffen dywedyd hyn, yr oedd Tomos Bifan hanner y ffordd at y drws, yn mynd gan ysgwyd ei ben fel dyn wedi cael cam, ac yn dal ei ddeheulaw i fyny—a'i het ynddi—gydag osgo oedd yn awgrymu ei fod yn benderfynol o achub ei gam rywbryd, ac wrth basio gwegil Pitar Huws, daliodd ar y cyfle i roi clustan egniol iddo hefo'i het, rhag iddo, ac yntau wedi disgwyl cymaint o gysur yn y seiat, orfod mynd allan oddiyno heb ddim.
Ni fu methiant Tomos Bifan fel ymgeisydd am aelodaeth eglwysig yn ddim help i iachau y teimladau rhyngddo ef a'i gymydog—ond fel arall. Bu mwy o ymeirio rhyngddynt dros y clawdd terfyn. na chynt, a chai Tomos wahoddiad beunydd gan ŵr y Frwynos i frysio i'r seiat.
Gyda threigliad y blynyddoedd, fodd bynnag, a'r rhyfel cartrefol yma o hyd yn parhau, gwnaeth pob un o'r ddau elyn newydd iddo ei hun, a'r un gelyn oedd i'r ddau y darfodedigaeth. Tomos Bifan glafychodd gyntaf, a gwasgwyd ef i'r gongl, ac yn fuan iawn aeth yn rhy wan i felldithio Pitar Huws heb gael rhoi pwys ei benelin ar y pentan. Cyn hir clwyfwyd Pitar Huws, a chlwyfwyd ef yn drymach; cyflymodd ef heibio i'r gongl heb ymdroi fawr ynddi, ac i'w wely. Tymor bwrw ŵyn ydoedd pan oddiweddodd nychdod y ddau, a gadewid y mamogiaid a'r ŵyn bach mewn canlyniad i ymdaro goreu y medrent. Bu farw cryn nifer ohonynt yn ddefaid ac ŵyn—o eisieu cymwynas ac ymgeledd; ond ffynnodd y lliaws yn rhyfedd er gwaethaf pob diffyg gofal. Cafodd cyplau y ddau le lonydd yn awr i ymgymysgu. Gwnaethpwyd y clawdd terfyn yn sathrfa, a throdd yr ŵyn ef yn gymnasium. Prancient yn ddiorffwys ar hyd-ddo, neidient a thwlcient, a dywedent yn groew iawn fod bywyd ar y clawdd terfyn, yn llygad haul, yn felys ac yn werth i oen bach ei fyw.
Ond un diwrnod, pan oedd dau o honynt—oen i Fodrach ac oen i'r Frwynos—yn cyd-chware ar y clawdd, ac yn ymlid eu gilydd i fyny ac i lawr mewn afiaith diniwed, rhuthrasant yn sydyn, ochr yn ochr, trwy fwlch bychan yn y mieri, ac i rwyd fawr a adawsid ar osod yno, mewn angof heb ei chodi, gan rywrai fu'n hela yn y nos. Clodd y rhwyd yn dyn am danynt a daeth eu difyrrwch i ben. Nid oedd yno neb i estyn ymwared iddynt. Yr oedd y ddwy fam yno yn eu gwylio mewn penbleth a phryder; dodent eu trwynau, dan frefu, bob un ar ei heilun ei hun; rhedent i ben y clawdd, brefent yno; i lawr yn ol—brefent drachefn, i ddeisyf help o rywle, ond ni ddaeth neb.
Yn y rhwyd y buont, yn ymladd am ryddid tra daliodd eu nerth, ac yna yn dihoeni. Ni fedrent sugno, a phallodd eu nerth yn fuan; a'r diwedd fu i'r ddau drengi yn y rhwyd. Yr oeddynt wedi hen oeri pan ddaeth y dyn cyntaf heibio—ac ynfytyn oedd hwnnw. 'Roedd gan Wil wirion, fel y gelwid ef, drwydded i gerdded y ffordd y mynnai; croesai gaeau a chloddiau pawb yn ddiwarafun. Os ataliodd ei Grëwr oddiwrtho beth daioni uchelbris, gofalodd am roi iddo yn gyfnewid ryddid aderyn y mynydd yn enedigaeth fraint. Ac efe, wrth grwydro, ddaeth o hyd i'r ŵyn yng nghae y Frwynos. Ar ol cosi ei ben am dipyn uwch eu pennau yn y myfyrdod diy madferth a'i nodweddai ef, gwnaeth goflaid o honynt fel yr oeddynt yn y rhwyd, ac aeth a hwynt i'r Frwynos. Curodd y drws, a daeth llais o'r siamber yn ei wahodd, pwy bynnag oedd, ymlaen yno, ac aeth Wil a'i faich i mewn. Yr oedd Pitar Huws ar ei eistedd yn y gwely. Dododd Wil ei faich i lawr ar lawr y siamber, ac edrychodd ar yr ŵyn ac ar Pitar bob yn ail.
"Lle cest ti rheina?" gofynnai'r claf.
"Wyn," ebe Wil, fel pe buasai arno ofn i syched sydyn Pitar Huws am wybodaeth beri iddo anghofio'r ffaith sylfaenol honno. "Wyn," ebe wedyn.
"Ia ddyliwn, ond lle cest ti nhw?" gofynnai Pitar Huws drachefn.
"Cae," ebe Wil.
Ar hynny clywid swn y gwas yn annos y ci i ddefaid yn y buarth; ac yna daeth i mewn i'r tŷ ac i'r siamber; ac ni chymerodd iddo ef ond ychydig amser i ddehongli'r weledigaeth.
"Rhwyd wedi'i gadael ar y clawdd terfyn heb ei chodi, a nhwtha wedi mynd iddi hi wrth chwara," meddai; "'roedd y ddwy fam—un o ddefaid Bodrach ac un o'n defaid ninna—yn y buarth rwan wedi dwad ar ol Wil."
"Od iawn," ebe Pitar Huws, a syllodd yn hir arnynt; yna gorweddodd yn ol yn y gwely, a'i law ar ei dalcen. Cododd ar ei eistedd drachefn i edrych eilwaith arnynt, ac ymhen ennyd cododd ei lygaid at yr ynfytyn, a dywedodd:
Wil bach, rydw i yn dechra meddwl dy fod titha ym mysg y prophwydi heddyw."
"Wyn," ebe Wil eto, gan bwyntio atynt a'i fys, fel pe i alw Pitar Huws yn ol at y pwnc.
"Ia, ŵyn," ebe'r claf, "oen i Twm Bifan ac oen i minna, wedi marw mewn rhwyd ar y clawdd terfyn;" a thrwy dipyn o anhawster yr ychwanegodd, -'roedd ei wefusau yn awr yn dechreu mynd yn anufudd ac afreolus—"Dameg ydi hi, Wil: Twm Bifan a minna sy yn y rhwyd yna," a gorweddodd yn ol yn y gwely drachefn, a thorrodd i wylo yn hidl.
Pan ddaeth dipyn ato ei hun, dywedodd wrth Wil: "Rhaid iti fynd a nhw i Fodrach i'w dangos i Twm Bifan. Well iti fynd hefo fo, Bob," meddai wrth y gwas. Gwnaeth hwnnw ysgwydd i ymesgusodi oherwydd gwyddai trwy brofiad nad oedd Twm Bifan ddim yn debyg o dorri allan i orfoleddu wrth ei weled ef, ond mynd fu raid.
"A Bob," ebe Pitar Huws pan oeddynt ar gychwyn, "dwad wrth Tomos Bifan mod i'n gofyn iddo fo fadda i mi."
Cychwynnodd y ddau: Wil yn codi celanedd yr ŵyn ar ei ysgwydd yn dyner, fel pe buasent yn cysgu ac yntau yn ofni eu deffro. Gadawodd Bob iddo gerdded yn gyntaf, a dilynai yntau o'r tu ol—nid am ei fod yn rhy uchelfryd i gerdded yn ochr yr ynfytyn, ond am ei fod yn ystyried fod yna ormod o gysegredigrwydd yng nghenhadaeth Wil, yn gystal ag yn ei groen ei hun-iddo ef beryglu pob un o'r ddau trwy ruthro yn anystyriol i wyddfod Twm Bifan. Penderfynodd Bob ei anfon i'w bresenoldeb dan ei faich wrtho'i hun, gan gredu y byddai iddo, ar ol mynd trwy'r gwasanaeth dechreuol, alw arno yntau i gymryd rhan. Felly fu, ac aeth Wil i mewn heb gymaint a churo yn y drws. Yr oedd Tomos Bifan yn y gongl wrth y tân, heb neb yn y tŷ ond efe. 'Roedd y gegin yn llwyd-dywyll, ac yntau yn llonydd; ac onibae iddo besychu gallesid tybio mai un o'r cynddiluwiaid ydoedd, wedi boddi yn daclus yn ei gadair; ond yr oedd trem gyffredinol ar yr ystafell yn ddigon i argyhoeddi dyn na bu erioed gymaint a hynny o ddŵr yn y tŷ, heblaw nad oedd wyneb a dillad y trigiennydd yn debyg i wyneb a dillad dyn wedi trengi trwy gael ei or-olchi.
Dododd Wil ei faich i lawr yma yr un fath ag yn y Frwynos, gyda chymaint seremoni a phe buasai yn gosod carreg sylfaen. Trodd Tomos Bifan, ac edrychodd yn hurt ar yr ŵyn yn y rhwyd, ac yna ar Wil. Gwelsai yr ynfytyn ganwaith; ond heddyw ni fedrai ymysgwyd oddiwrth ryw ofn mai drychiolaeth ydoedd ef a'i faich. Safodd Wil fel delw o'i flaen, cyn llonydded ar y funud a'r ŵyn; eisteddodd yntau fel delw, ond fod ei lygaid—a'i lygaid yn unig yn symud o Wil i'r ŵyn ac o'r ŵyn i Wil. Pan sylweddolodd Wil fod 'sbio a dywedyd dim yn waith a allsai gymryd amser go faith i'w orffen yn iawn, symudodd yr ŵyn fwy i'r aelwyd, ac aeth ac eisteddodd yn y gadair yr ochr arall i'r tân gyferbyn a Tomos Bifan. Ar ol ei osod ei hun i lawr yno yn gyfforddus—ac wrth wneuthur hynny bradychodd dipyn o ddiffyg parch i'r domen ludw oedd yno o'i flaen—nid fod ganddi hawl ar y gadair, ond hi oedd y ground-landlord yn y parthau hynny.
"Wyn," ebe Wil, gan bwyntio a'i fys i'r cyfeiriad. "Myn,"—ond methodd Twm Bifan orffen ei frawddeg, er ei bod yn frawddeg a fedrai'n dda. Syrthiodd yn ol yn ei gadair mewn rhyw hanner llewyg. Ar hynny, daeth Bob, gwas y Frwynos, i mewn.
"Sut yr ydach chi, Tomos Bifan?" ebe Bob. Dadebrodd dipyn wrth glywed llais arall, a throdd i'r cyfeiriad.
"Fu rioed well gin i weld rhywun hanner yn i sens yn dwad i mewn," meddai. "Rydw i bron a marw; hel y penbwl yma a'i bac allan."
"Wyddoch chi hanes yr ŵyn yma, Tomos Bifan?" ebe Bob.
"Na wn i, a 'does gin i ddim isio gwbod," eb yntau.
"O ma na hanes dyddorol iawn i'r rhein," ebe Bob, ac yna aeth ymlaen i'w adrodd, a chafodd wrandawiad astud heb fawr o drafferth. Aeth ymlaen i adrodd eu hanes yn siamber y Frwynos, dehongliad ac edifeirwch Pitar Huws, ac arweiniodd bob yn dipyn at gais ei fistar am faddeuant. Yn ystod yr araith hon gan was y Frwynos apwyntiodd

"Wyn," ebe Wil, gan bwyntio a'i fys i'r cyfeiriad.
Wil ei hun i'r swydd o borthi'r gwasanaeth, a chyflawnodd y gwaith mewn dull priodol iddo'i hun. Pigai ryw air o bob brawddeg a lefarai Bob, a dywedai ef ar ei ol. Soniai gwas y Frwynos am yr ŵyn, "ŵyn," ebe Wil; soniai am y cae lle cafwyd hwynt, cae," ebe Wil; am y rhwyd oedd am danynt, "rhwyd," ebe Wil; ac yn gyffelyb trwy restr faith o eiriau; a phan soniodd Bob am faddeu, 'madda," ebe Wil. Ond, yn rhyfedd, er i Bob siarad ymlaen, glynodd Wil wirion yn y gair madda" fel porthiant drwy weddill y gwasanaeth. Beth bynnag fyddai'r frawddeg, "madda" a geid gan Wil. Yr oedd fel pe buasai'r nefoedd wedi cyffwrdd yn ddistaw a rhywbeth tebyg i repeating stop yn enaid yr ynfytyn; ac hyd yn oed ar ol i Bob orffen ei adroddiad, yr oedd Wil fel pe wedi ei osod, a'i draed ar y domen lludw, i borthi myfyrdodau edifeiriol Tomos Bifan-madda . . . . madda.
Cododd Bob i ymadael, a chododd Wil hefyd i ymadael.. Cymerodd ei faich ar ei ysgwydd, ac aeth y ddau allan mewn distawrwydd, a chaewyd y drws.
Eisteddai Tomos Bifan unwaith eto ar ei ben ei hun yng nghegin Bodrach. Edrychai i'r tân yn syn. Methai gael yr ŵyn o'i feddwl, ac nid oedd siawns iddo ollwng efengyl ddeusill Wil wirion dros gôf, oblegid yr oedd yr hen gloc mawr, yn y distawrwydd ar ol i'r lleill fynd allan, wedi ffansïo y medrai yntau bregethu cystal a Wil ond iddo gael benthyg ei bregeth, a dyna lle 'roedd yn annog, annog, "ma-dda," ma-dda," a hynny mor ddi-daw ac undonog fel y teimlodd Tomos o'r diwedd fod yr efengylydd hwn yn mynd ar ei nerves; a chan nad oedd wedi cael cyfle—oherwydd ei ddieithrwch i lan a chapel—i feithrin amynedd diderfyn y gwrandawr cyson, ni phetrusodd godi i agor drws y pulpud a rhoi ei fys ar dafod y pregethwr—fel y gwnaeth yr apostol ar dafod y gwragedd yn yr eglwysi. Ond nid dibrisdod o'r genadwri a barodd iddo wneuthur hynny. Pa raid celu'r gwir? 'Roedd calon Tomos Bifan yn dechreu toddi'n llyn, ac yr oedd rhediad y llyn dros y clawdd terfyn tua'r Frwynos. Daeth arno frys yn awr am gael gwella digon i fynd i edrych am Pitar Huws.
Cafodd ei ddymuniad; cryfhaodd ddigon i fynd ym mraich Ned i'r Frwynos unwaith—i ffarwelio hefo'i gymydog cyn iddo gychwyn. Llawer gwaith y dechreuodd y gwas bach, yn ddigon llygat- sych, adrodd hanes y ffarwel hwnnw wrth ei gyfoedion, ond deuai yr adroddiad i ben sydyn bob amser yn rhywle yn y canol—i'w barhau yn y nesaf, wedi i'r gawod fynd drosodd. Pan ddeuai Ned at hanes ei fistar yn mynd ar ei liniau wrth erchwyn gwely Pitar Huws, a'i law yn ei law, doi niwl a nos ar ei stori. Yr oedd yn fedrus mewn llawer o bethau, ac yn dafodrydd ddigon, ond fel hanesydd y cymod hwn, er ei fod yr unig awdurdod arno, ni cheid ganddo ond y rhagarweiniad.
Prysurodd Pitar Huws ymaith, a daeth y diwedd yn fuan. Claddwyd ef ym mynwent y plwy. Ymhen tair wythnos bu farw Tomos Bifan, a thorrwyd ei fedd yn ochr bedd ei gymydog. Diwrnod ei angladd, pan ddodid yr elor, a'r arch arno, i lawr gerllaw y bedd agored, syrthiodd ochr y bedd—yr ochr agosaf at fedd Pitar Huws—i mewn, gan ddarn lenwi'r bedd newydd.
"Myn gafr," ebe Ned, yr hwn oedd yn sefyll yn ddefosiynol yn ymyl fel un o'r prif alarwyr, a'i het yn ei law, "Ma helynt y clawdd terfyn yn dechra yn y fan yma eto," ac edrychai yn anghrediniol ar dawelwch ei hen fistar dan y cwrlid du ar yr elor gerllaw. Ond yr oedd rhyfel y clawdd terfyn drosodd, a throsodd cyn i'r ddau noswylio.
Pan ddaeth yr amser i feddwl am feini coffa iddynt, meddyliodd perthynasau'r ddau y carent goffa yr un pryd am y cymod a wnaethpwyd rhyngddynt ar derfyn eu hoes, ac i'r amcan hwnnw penderfynwyd cael un beddfaen da ar ysgwâr y ddau fedd. Cafwyd un felly, ac wedi eu torri arno yr oedd y geiriau canlynol:—
Er cof am
Pitar Huws y Frwynos,
yr hwn a fu farw Mai 2, 1856, yn 63 mlwydd oed.
Hefyd
Tomos Bifan, Bodrach, fu farw Mai 24, 1856, yn 65 mlwydd oed.
Dau gymydog gymodwyd—yn y glyn.
Ar glawdd terfyn bywyd,
Trwy ddau oen prydferth aberthwyd
Er mwyn yr hedd yn rhwymyn rhwyd.