Clawdd Terfyn/Dydd yr Arwerthiant
| ← Newyddion da | Clawdd Terfyn gan Robert Dewi Williams |
Gwynfyd Siams ac eraill → |
PENNOD VIII.
DYDD YR ARWERTHIANT.

TRANNOETH, torrodd gwawr y dydd y proffwydasid am dano gan yr hysbysleni—dydd yr arwerthiant. Ni fyddai yn gywir dweyd fod Gwen Ifan wedi deffro y bore hwnnw, oherwydd ar ddihun y gorweddasai trwy ystod oriau meithion y nos. Rhwng twrw y tyrchwr a'r hwsmon a'r gwas bach—yr ysbrydion gwasanaethgar oedd yn cynllwyn caredigrwydd am y pared â hi—a'i phryder hithau am effeithiau yr arwerthiant ar ei chysur hi a'r teulu, ni allodd roddi hûn i'w hamrannau. Ni wyddai hi y pryd hwnnw fod y "drugaredd na chilia" wedi bod yn sefyll yn hir ac amyneddgar yn 'sgidia'r tyrchwr yng nghors y Foty i ddisgwyl cyfle i fod yn swcwr iddi hi a'i phlant, a fod Siams a'r gwas bach, tra 'roedd hi yn troi a throsi ar ddihun, wedi ffurfio yn orymdaith wirfoddol yn y tywyllwch gefn nos i arwain y drugaredd honno ar ffurf pâr o 'sgidia diymgeledd yn llechwraidd i'r llofft nesaf.
Deffrodd Lewys Dafydd cyn plygain, ac ar ol goleuo'r ganwyll i weld fod y banc yn ddiogel, dechreuodd chwibanu rhyngddo âg ef ei hun. Teimlai ei fod yn ŵr o allu a dylanwad y diwrnod hwnnw, a daeth arno beth awydd dangos ei awdurdod. Clywai yr hwsmon yn chwyrnu yn braf yn y gwely arall; ac er nad oedd ond pedwar o'r gloch, a'r hwsmon yn ei wely ond ers dwyawr, gwaeddodd arno yn awdurdodol i godi.
"Côd dy hun," ebe'r hwsmon, fwy yng nghwsg nag yn effro; a chyn pen dim 'roedd yn chwyrnu drachefn.
"Siams," gwaeddai'r tyrchwr wedyn, "côd, rhag cwilydd; mi fydd yr haul wedi codi o dy flaen di, os na frysi di."
"Mi ddyla 'neud—mi gafodd noswyl o mlaen. i," ebe yntau, a throdd ar yr ochr arall, a'i wyneb oddiwrth y tyrchwr.
"Wyt ti ddim yn cofio be' sy' i fod heddyw? Wyt ti ddim yn cofio be' gest ti yn y siglan neithiwr?" ebe Lewys Dafydd wedyn.
"'Rydw i'n cofio be' golles i yno," ebe yntau—"'y nghwsg a phâr o 'sgidia. Os na fedra i gael fy 'sgidia, mi fedra gael cyntyn, os meindi di dy fusnes."
Gwelodd y tyrchwr na chodai Siams ar arch neb ond Gwen Ifan, a gadawodd iddo gysgu. Treuliodd yntau yr amser i wylio pry' copyn yn esgyn ac yn disgyn yn fusneslyd hyd ei raff o gwmpas y pâr 'sgidia; ond pan ddaeth yn ddigon hyf i ddisgyn arnynt, curodd Gwen Ifan y pared yn ei ymyl, a diangodd y pry' i'r nenfwd mewn braw. Deffrodd yr hwsmon wrth yr alwad, a chododd yn bur ddiymdroi. Taerai nad oedd wedi ateb y tyrchwr yn gwta, ac erfyniai faddeuant os oedd wedi gwneud.
"Sut medrwn ni 'neud heddyw, dwad?" gofynnai'r tyrchwr iddo pan oedd yn gwisgo am dano; "fedra i ddim mynd allan, a rhaid cael rhywun i gymryd yr arian yma i brynnu. Pwy 'neiff?" "Nai y stiwart," ebe Siams, "'roedd o yn deud 'i fod o'n siwr o fod yn y sêl heddyw."
"Gofyn iddo fo ddwad i'r llofft ata' i, os daw o yna yn gynnar," ebe'r tyrchwr.
Yn fuan ar ol i'r gweision fynd allan o fore—fwyd, daeth Hywel Ellis i'r buarth. Rhoddodd ofal ei ferlyn i Wil, ac aeth ymlaen at y tŷ. Gwahoddodd Nel ef i mewn i'r gegin, lle 'roedd ei mam yn rhoi rhyw gyfarwyddiadau i Siams.
"Wedi dod yma 'rydw i," ebe Hywel, "i ofyn oes yna rywbeth fedra i 'neud i chi heddyw. Mi fydda yn dda iawn gin i fod o ryw help."
"Fedra i ddim gweld fod yn bosib i chi 'neud fawr," ebe Gwen Ifan, "ond diolch i chi am y'ch caredigrwydd yr un fath.'
"Medar, mi fedar," ebe'r hwsmon; a meddai, gan droi at y dyn ifanc, "mae gin Lewys Dafydd waith i chi, Syr—ddowch chi i fyny ato fo?"
Aeth y ddau i fyny i'r llofft. Clywsai Hywel o'r blaen am y tyrchwr, ond nid oedd wedi ei weld.
"Dyma nai y stiwart wedi dwad," ebe Siams, pan aethant i'r ystafell.
"Roeddwn i wedi bod yn son am danoch chi gynna, Syr," ebe Lewys Dafydd, "ac wedi penderfynu gofyn ffafr gynoch chi. Mae gin i swm o arian yn y fan yna," a chyfeiriodd y tyrchwr at y 'sgidiau, "a mi garwn gael rhywun i'w cymryd nhw i brynnu y stoc i mewn heddyw i Gwen Ifan. 'Newch chi cymryd nhw, Syr? Mae yna yn dyn i bedwar cant o bunna."
"Ble ma' nhw?" gofynnai yntau.
"Yn y pâr 'sgidia yna," ebe'r tyrchwr, gan bwyntio ei fŷs atynt.
Ni wyddai Hywel beth i'w ddweyd—'roedd yna rywbeth mor ddieithriol yn yr amgylchiadau. Edrychai yn syn ar y 'sgidiau, yna aeth a chododd un o honynt, a deallodd oddiwrth ei phwysau fod geiriau'r tyrchwr yn debyg o fod yn ffaith.
"'Rhowch y'ch llaw i mewn yn yr hosan yna sydd ynddi hi," ebe Lewys Dafydd.
Gwnaeth yntau hynny, a thynnodd ddyrnaid o aur allan.
"Dyna nhw i chi," ebe'r tyrchwr, "'newch chi gymryd 'i gofal nhw? Mae nhw i fynd at wasanaeth Gwen Ifan bob dima heddyw, os bydd raid."
Bu Hywel yn synfyfyrio am funud, ac yna dywedodd: "Mae gin i well cynllun. Mi ofala i fod yr arwerthwr yn gosod i bulpud yn lled agos i'r tŷ, gyferbyn â ffenest y llofft yma, ac yna mi lusgwn y gwely at y ffenest, a chewch chwithau weld popeth fydd yn mynd ymlaen, a chewch gynnyg o'r ffenest fel y byddwch yn dewis—bydd hynny yn well o lawer."
"O lawer," ebe Siams yn selog, a rhwbiai ei ddwylaw yn ei gilydd wrth feddwl am y wledd o wylio yr hen dyrchwr yn prynnu stoc fferm gyfan o'i wely trwy ffenest y llofft.
Ildiodd Lewys Dafydd i'r cynllun yn lled rwydd, a llusgodd Hywel a Siams wely y tyrchwr i ymyl y ffenest i roi prawf ar y cynllun, a chymeradwywyd ef. 'Roedd gan Hywel eisieu mynd i'r llan cyn i'r arwerthiant ddechreu, ac aeth Siams gydag ef i agor y llidiardau rhyngddynt a'r briffordd. Pan oedd y ddau ar y cae isaf, daeth gwraig i'w cyfarfod, a phasiodd hwynt gan edrych yn graff ar Siams. Nid aeth heibio deirllath na throdd hi yn ei hol gan waeddi—
"Sut yr wyt ti Siams?"
Cafodd yr hwsmon fraw, oherwydd adnabyddodd y llais ar unwaith fel llais Marged ei chwaer, er nad oedd wedi ei gweld ers oddeutu ugain mlynedd.
"O ble doist ti mor sydyn?" gofynnai Siams. "O'r dre y dois i heddyw," ebe hithau, "mi gyrhaeddais Lerpwl echdoe."
"Lle mae Hywel gin ti?" gofynnai'r hwsmon yn bryderus—"ddoist ti a fo drosodd?"
"Na, dydi o ddim hefo fi," ebe'r wraig.
Daeth tristwch a siomiant fel cwmwl dros wyneb yr hwsmon.
"Raid i ti ddim pryderu dim yn 'i gylch o," ebe hithau; "mae o mewn cartre rhagorol, er nad ydw i fy hun ddim wedi 'i weld o ers pymtheng mlynedd, ond mi fyddaf yn clywed 'i hanes o. Fel y gwyddost ti, yr oedd gin i deulu mawr fy hun—saith o blant—a phan aethon ni drosodd i'r America mi fu acw lawer iawn o afiechyd yn y teulu, a 'roeddan ni wedi mynd yn dlawd ddigon. Mi gynygiodd gwr a gwraig, oedd yn byw yn ymyl, gymryd Hywel i'w fagu, ac felly fu. Mi wyddwn y cai o well chware teg gynyn nhw nag oedd yn bosibl iddo gael gin i. 'Doedd o ddim ond chwech oed ar y pryd. Yn fuan iawn wedyn mi symudodd y teulu gannoedd o filltiroedd i'r gorllewin, a weles i mo Hywel wedyn, ond mi glywes o fewn llai na blwyddyn yn ol 'i fod o yn dda iawn 'i le."
'Roedd y dyn ifanc yn clywed yr ymddiddan, a gofynnodd,—
"Bachgen Siams, ond mod i wedi 'i gymryd o i'w fagu pan aeth Siams yn weddw, ac wedi mynd i ffwrdd i'r 'Merica a Hywel hefo fy mhlant fy hun."
"Faint ydi'i oed o 'rwan?" gofynnai'r dyn ifanc.
Mae o newydd adael un ar hugain oed." ebe Siams. "Mi faswn i yn leicio 'i weld o," ebe wedyn. Ac wrth feddwl am ei blentyn 'roedd hiraeth yn cloi o gwmpas calon yr hwsmon. Diraen oedd ei wisg—gwisg hwsmon ar ddiwrnod gwaith ydoedd—ond 'roedd ei lawes lom yn sychu dagrau gonest ddigon. "A mae gia i ofn 'i weld o hefyd, rhag ofn y bydda gyno fo gwilydd o hona i, a fynta wedi cael 'i fagu gan bobol mor daclus;" a rhoddodd Siams ei bwys yn ei ofid ar war y merlyn, a chuddiodd ei wyneb yn ei fwng. Disgynnodd Hywel Ellis o'r cyfrwy, dododd ei law ar ysgwydd Siams, ac ebe efe wrtho,—
"Raid i ti ddim ofni, Siams; fydd gin dy fachgen di byth gywilydd o honot. Mi ddoi di o hyd iddo ryw ddiwrnod; mi fydd gin ti dipyn o feddwl ohono fo, ond mi fydd gyno fo lawn mwy o feddwl o honot ti. Sut mae hi arnat ti am faco heddyw? Mi ddo i a pheth i ti o'r llan."
Dychwelodd Siams gyda'i chwaer, ac aeth Hywel i'w daith.
Pan oedd yn tynnu at unarddeg y bore, cyrchai dynion o bob cyfeiriad tua Bryn Marian. 'Roedd yr arwerthwr wedi cyrraedd yno yn gynnar, a daeth gŵr y Swan yno yn lled brydlon hefyd. Gofalodd y tafarnwr am anfon baril o gwrw yno, yn bennaf er mwyn ceisio ennill ei gymdogion i anghofio ei waith yn gyrru ar y weddw.
Pan ddaeth amser dechreu, safodd yr arwerthwr ar ei draed ar gadair gyferbyn â ffenest llofft Lewys Dafydd, a medrai y tyrchwr, ar ol symud y gwely, weld a chlywed popeth.
Pwtyn o ddyn llyfndew oedd gŵr y mwrthwl, llyfn i wyneb, a llithrig ei dafod. Ar ol galw am osteg,—
"Mi ddechreuwn ni," meddai, "ne mi fydd y baril cwrw wedi sychu cyn i ni ddechre." ('Roedd Robin y gyrrwr yn yr act o waghau y jwg).
"Robin." ebe fe, "dos i nol y gwartheg hysbion."
"Dyma un," ebe'r gyrrwr, gan ddal y jwg a'i wyneb yn isa'.
"Mae weather glass y teetotals yn codi, Robin," ebe gŵr y Swan, "mae gin i ofn y cei di dywydd sych cyn y nos."
Tywydd sych weles i yn y Swan bob amser os na fydda gin i bres yn 'y mhoced," ebe yntau.
Pan ddechreuwyd gwerthu, ac i gynygion ddod o ffenest y llofft, methai yr arwerthwr ddirnad o ba le y deuent.
"O ble daeth y cynnyg yna?" gofynnai.
"O'r galari," ebe Wil.
"Pwy ydi o, a pham mae yn cynnyg o'r fan acw?" holai'r gwerthwr drachefn.
"Yn 'i wely mae o," meddai rhywun.
"Pam na chodiff o i gynnyg?" ebe yntau. "Fedar o ddim cynnyg codi," ebe'r gwas bach. "Paid a threio bod yn ddoniol, machgen i," ebe'r gwerthwr.
"Ne 'rwyt ti'n bound o ddiweddu d'oes yn ocsiwniar," gorffennai Robin y gyrrwr.
(Mr. Morgan y Swan yn sibrwd rhywbeth yng nghlust yr arwerthwr).
"Fedra i ddim derbyn y cynnyg diweddaf yna."
"Rydw i yn barod i fynd yn feichia i Lewys Dafydd am hynny o ddyled yr aiff o iddi hi heddyw,' ebe llais o'r dorf—llais Hywel Ellis—a tharawyd yr anifail i lawr i'r tyrchwr.
Prynnodd Lewys Dafydd bron bopeth oedd yn werth ei brynnu, a chwythodd ystorm yr arwerthiant dros Bryn Marian heb ond prin gyffwrdd âg amgylchiadau Gwen Ifan. Mae yn wir fod gŵr y Swan wedi mynnu cael pob ceiniog farnai—yn gam neu gymwys—yn ddyledus iddo, ond nid oedd phiol ei gysur er hynny yn llawn. Ar y program oedd ganddo yn ei feddwl ei hun, yr oedd item felly, "Troi Gwen Ifan i'r comin, a ffarmio Bryn Marian fy hunan." Ond nid eiddo gŵr y Swan ei ffordd Aeth adref yn fawr ei siomiant, ac nis gwelwyd ef yn y gegin yr hwyrnos honno—yr oedd yn euog o'r hyn oedd wedi wneud, ac yn llidiog oherwydd yr hyn a fethodd wneud. Ond er na chafodd ddigon o wroldeb i wynebu ei gwsmeriaid yn y gegin, methai beidio eistedd mewn ystafell gerllaw i wrando ei achos yn cael ei drafod gan y rheithwyr oedd wedi ymgynnull o gwmpas ei fwrdd. A da y gwnaeth yn gwrando, a da fuasai iddo ddal ar y gwir lawer oedd yn gymysg â'u baldordd.
Yr un adeg yr oedd yna gwmni wedi ymgynnull yn llofft y tyrchwr i ymgomio mewn llawenydd, ac i ddathlu'r ffaith nad oedd yr arwerthiant ddim wedi peri chwalfa ond ar gynlluniau y tafarnwr. Nid oedd y cynulliad yn un trefnus iawn i'r olwg, ac nid oedd yn hawdd iddo fod, oherwydd yr oedd yr eisteddleoedd yn brin. Lled-orweddai y tyrchwr gan bwyso ar ei benelin, a hawdd canfod mai efe oedd yr arwr. Nid oedd wedi ei ethol yn ffurfiol fel cadeirydd, ond hynny o lywyddu oedd yn angenrheidiol, y tyrchwr oedd yn ei wneud. 'Roedd Hywel Ellis yn bresennol, yn eistedd wrth ochr gwely y tyrchwr, ar gadair a'i chefn wedi torri. Eisteddai Nel ar y ffenestr, a gorweddai'r hwsmon a'i draed dros yr erchwyn ar draws ei wely ei hun. 'Roedd y gwas bach yn gwneud penyd trwy orwedd ar wastad ei gefn ar gaead bocs dillad yr hwsmon, ei ddwylaw ymhleth yn obennydd dan ei wegil, a'i draed i fyny ar bren traws traed y gwely. Yr oedd pawb arall o'r cwmni, gydag un eithriad, yn orlawn o lawenydd. Yr unig un oedd yn fwy syn a thawedog nag arfer oedd Siams, a diau mai dychweliad ei chwaer o'r America heb ei fachgen oedd yn peri hynny. Hywel Ellis oedd yr unig un o'r cwmni a wyddai amcan beth oedd ar feddwl Siams. Yr oedd efe yn dyst o'r cyfarfyddiad yn y cae dan y tŷ, ac o'r ymddiddan a fu rhyngddynt. Gwyddai ychwaneg na hynny erbyn hyn. 'Roedd yr hyn glywsai yn y 'sgwrs rhwng yr hwsmon a'i chwaer wedi deffro ei chwilfrydedd—a deffrowyd mwy na'i chwilfrydedd yn y fargen. 'Roedd ganddo reswm da dros fynnu clywed rhagor o'r hanes, ac ni chafodd un—rhyw drafferth i gael ymgom gyda chwaer Siams o'r neilltu pan oedd mwrthwl yr arwerthwr yn tynnu sylw pawb arall. Yng nghwrs yr ymddiddan hwnnw deallodd i sicrwydd mai efe ei hun oedd Hywel, mab Siams, a llwyddodd i gael yr hanes a'r profion heb i gymaint a chysgod amheuaeth ddod dros feddwl ei fodryb. Ni ddaethai y fath beth i'w feddwl yntau hyd y bore hwnnw. Gwyddai o'r blaen nad oedd Mr. Ellis y stiwart yn ewythr iddo ond mewn enw, a gwyddai beth o hanes ei blentyndod, ac wrth roddi yr hyn a wyddai ef ymhen yr hyn a adroddai chwaer Siams, nid oedd lle i amheuaeth. Oherwydd y darganfyddiad newydd hwn, yr oedd awyrgylch llofft y tyrchwr yn dygymod yn dda â Hywel y noson honno. Yr oedd wedi dysgu hoffi Siams cyn hyn, ac wedi dysgu hoffi Nel yr un pryd; ond yn awr yr oedd yna deimladau newyddion yn deffro ynddo tuag at yr hwsmon, a chyn iddo sylweddoli yr oedd yna deimladau newyddion wedi deffro yn ei fynwes tuag at y ferch hefyd. Yr oedd yn benderfynol, fodd bynnag, o gadw y peth iddo ei hun am ysbaid o amser, ac ymdaflodd i hwyl a llawenydd yr ymddiddan y noson honno cystal a neb ohonynt.
Treuliwyd amser difyr i adolygu helyntion y dwthwn hwnnw—a diwrnod cyfoethog mewn helyntion yw dydd arwerthiant. Bu Wil yn diddori y gynulleidfa trwy sefyll ar y bocs i werthu gwahanol bethau yn null y gŵr fu wrth y gwaith yn ystod y dydd; ail adroddai jokes methiantus yr arwerthwr, a chymerai arno ddisgwyl am gynygion oddiwrth bâr 'sgidiau y tyrchwr, y rhai oedd wedi eu hanrhydeddu trwy gael eu crogi ar hoelen uwchben y grât. Ar ol cogio gwerthu amryw bethau, sylwodd yr arwerthwr fod Siams braidd yn bendrist, ac ebe fe,—
"'Rydan ni 'rwan yn dwad at y peth ola' o'r stoc, a'r peth gora hefyd—Siams yr hwsmon. Pa gynnyg rowch chi i mi am dano fo? Un bai sy' arno fo—dim ond un—ond mae hwnnw yn un difrifol; 'naiff o ddim cymyd gin y gwas bach. Faint ga' i ddeyd?"
Gan nad oedd neb yn cynnyg, trodd yr arwerthwr at Hywel Ellis,—
"Newch chi ddim cynnyg rhywfaint am dano fo, Syr? Mi fasa wrth 'i fodd yn smocio cigars yn y'ch lle chi pan fydd gynoch chi ddim amser. Dowch; faint ydach chi'n barod i gynnyg?"
"Mil o bunna," ebe Hywel, a'i ben i lawr, a thipyn o grac yn ei lais.
"Dim ond mil o bunna wedi 'i cynnyg," ebe Wil," a hynny am un heliodd bedwar cant o bunna mewn dwyawr yn y tywyllwch, a chollodd o ddim ond 'i wynt a phâr o 'sgidia wrth 'neud."
"Mil arall atyn' nhw oherwydd y bai sydd arno fo," ebe Nel.
"Dwy fil,—dim ond dwy fil wedi'i cynnyg," ebe'r arwerthwr.
"Paid, Wil bach," ebe Siams, "'dydw i ddim mewn hwyl heno." A dechreuodd yr hwsmon adrodd hanes ei gyfarfyddiad â'i chwaer, ac ni fedrai gelu ei siomedigaeth am nad oedd ei fachgen gyda hi. 'Roedd yr arwerthwr, erbyn hyn, wedi disgyn oddiar ei lwyfan, a golwg euog ac edifeiriol arno. Symudodd Nel megis heb yn wybod iddi ei hun i eistedd ar y gwely wrth ochr Siams.
"Faint o hanes y bachgen gest ti ganddi hi?" gofynnai y tyrchwr.
"'Chydig iawn," ebe yntau, "ddim ond fod pobol daclus iawn wedi 'i gymyd o i'w fagu, a rheini wedi symud gannoedd o filltiroedd ymhellach. Mae o yn cael pob chware teg, a phob manteision." Ac edrychai'r hwsmon ar ei ddiwyg a'i ddwylo geirwon ei hunan, ac ofnai fod y fagwraeth daclus honno y sonnid am dani wedi gosod pellter mwy na môr y Werydd rhyngddo â'i blentyn.
"Pam na sgwenni di ato fo?" gofynnai Nel. "Ynte?" meddai wedyn, gan edrych gyda llygaid llawn o gydymdeimlad i gyfeiriad Hywel Ellis am ategiad i'r hyn awgrymai.
"Fedra i ddim 'sgwennu," ebe'r hwsmon.
"Mi 'neiff Nel sgwennu yn dy le di," ebe Lewys Dafydd.
"O'r gora," ebe'r ferch, ac ymaith a hi i chwilio am yr offer angenrheidiol.
"Tyd a phapur i minna," gwaeddai'r gwas bach; "os wyt ti yn mynd i sgwennu dros Siams, mi sgwenna inna ato fo dros y cyfarfod yma."
Cyn pen ychydig funudau 'roedd y ferch ar ei gliniau wrth y ffenestr, a Wil ar ei liniau wrth y bocs dillad yn ysgrifennu epistolau at Hywel. 'Roedd y gwasanaeth hwn yn dyfnhau ac yn dwyshau hiraeth yr hwsmon, ac yng ngwasgfa ei enaid aeth yntau hefyd ar ei liniau, heb na phin na phapur, fel y bu lawer canwaith cynt, i yrru at ei fachgen trwy route arall. Cododd Wil yn ddigon gonest pan welodd yr hwsmon ar ei liniau, oherwydd nid oedd wedi galw am bapur ond mewn 'smaldod; a chredai nad oedd yn weddus iddo ef chware ysgrifennu ar ei liniau a'r hwsmon ar ei liniau yn ei ymyl mewn cymaint ymdrech meddwl. Daliodd y ferch i ysgrifennu, ac yr oedd yr olwg ar yr hwsmon yn gymorth iddi. 'Roedd Gwen Ifan wedi dod i mewn i'r ystafell erbyn hyn, a Lewys Dafydd yn ceisio egluro'r amgylchiadau iddi hi. 'Roedd Hywel Ellis a'i ben rhwng ei ddwylaw, ac yn ymddangos fel dyn wedi mynd i ystum na fedrai ddod ohono. Cododd Nel cyn hir gan ddweyd: "Mi orffenna i y llythyr yma yfory." Cymerodd Hywel Ellis y cyfle y pryd hwnnw i godi i hwylio i fynd adre, a chododd yr hwsmon yr un pryd.
Ar ol diolch i'r tyrchwr am lywyddu, a dweyd "Nos dawch" wrth Nel, trodd Hywel Ellis at yr hwsmon, ac ebe efe wrtho: "Well i ti ddwad i ddanfon tipyn arna' i, Siams."
Dof, syr," ebe yntau, "mi fydd yn dda gin i gael dwad." Ac aeth y ddau allan i'r tywyllwch gyda'i gilydd.