Neidio i'r cynnwys

Clawdd Terfyn/Gwynfyd Siams ac eraill

Oddi ar Wicidestun
Dydd yr Arwerthiant Clawdd Terfyn

gan Robert Dewi Williams

PENNOD IX.
GWYNFYD SIAMS AC ERAILL.

E

ER cystal fuasai gan Hywel dywallt cyfrinach ei galon i glust Siams pan yn cerdded yn ei fraich dan fantell nos o Fryn Marian, nis gwnaeth. Ac am yr hwsmon, ni wyddai ef ddim o helynt meddwl ei gydymaith; yn unig gwyddai iddo gael tâl da am ei hebrwng ar ffurf ysgydwad llaw serchog a chwarter o faco; ac yr oedd yr arwyddion hynny o garedigrwydd nai y stiwart braidd yn fwy nag a fedrai ei galon ddal, a meddiannu ei hun.

Ar ol dweyd "Nos dawch," a phocedu'r ddeilen, dychwelodd tuag adre gan ddwbl ryfeddu bachgen mor glên oedd Hywel Ellis. Chwedleuai wrtho ei hun am dano; safai ambell waith yn y tywyllwch i ddotio ar yr adgof am ei garedigrwydd, ac wrth ei anwylo felly ehedodd ei feddwl gyda sydynrwydd y fellten at ei fachgen ei hun—y planhigyn bychan blanasai rhagluniaeth unwaith yn ei ardd, ond fod yr un llaw, i ryw bwrpas, wedi ei drawsblannu tros y Werydd i ardd rhywun arall. Meddyliai yn hiraethus mor felus fuasai cael eistedd dan gysgod hwnnw, a'i wylio yn tyfu ac yn ffrwytho, ac yng nghwmni y meddyliau hynny y cyrhaeddodd yn ol i'w ystafell, ac ni chafodd lonydd ganddynt nes i gwsg gerdded yn lladradaidd hyd ei obennydd i gloi pyrth y ddinas, ac i roi heddwch i'r preswylydd,

Aeth Hywel adref, ond nid yn ysgafn galon. Petrusai yn fawr a wnaethai yn iawn wrth beidio datguddio ei hun i Siams, a pharai hynny lawer o boen meddwl iddo; ond credai hefyd nad oedd raid iddo gywilyddio oherwydd yr hyn a'i cymhellai i dewi a son. Gweledigaeth ei ewyrth ac Elin barodd iddo gadw y gyfrinach iddo ei hun. Gwyddai yn dda fod llinynnau tyneraf calon Mr. Ellis, y stiwart, wedi ymgenglu, i fesur mawr, am dano ef. Yr oedd wedi ei noddi a'i feithrin ym mhob modd—gwnaeth ef yn gystal a mab iddo ei hun, ac yr oedd yna lawer o deimladau cyfatebol wedi deffro ynddo yntau dan y driniaeth. Naturiol oedd i Hywel felly ofni i'w ewyrth—pe deuai y wir berthynas i'r amlwg—edrych arno ei hun fel yn colli mab—ei unig fab—yn ei hen ddyddiau; ac yr oedd yn awyddus iawn i osgoi ei arwain i'r brofedigaeth honno.

Yr oedd yna ystyriaeth arall hefyd yn peri iddo fod yn araf i ddatguddio ei gyfrinach. Yr oedd a'i fryd ar ennill calon Elin, a'i hennill yn deg ac anrhydeddus. Ni fynnai fynd i mewn i'r ddinas gaerog honno ond trwy fwlch wedi ei wneud ei hun. Ond oherwydd fod y ferch mor eithriadol hoff o'r hwsmon, ofnai pe deallai hithau ei fod yn fab i Siams, y buasai dôr ei chalon yn agor iddo ar unwaith o led y pen, ac nid oedd yn barod i fynd i mewn ar delerau felly. O ganlyniad, er fod yna lais cryf o'i fewn yn crefu arno hysbysu ei hun, yr oedd yna leisiau ereill, fwy nag un, yn erfyn arno ymdroi tipyn cyn codi y llen. Oedi wnaeth, ac ni bu edifar ganddo. Tra bu yn oedi, daeth serch â'i llaw dyner ei hun i agor pyrth calon y ferch, a mynnodd angeu, er gwaethaf pob ymdrech o eiddo Hywel, agor pyrth y bedd i'w ewyrth. Yn ystod y cyfnod pan yr oedd y goleuni hwn dan lestr, daliodd Hywel ar bob cyfle i anwylo Siams, ac i roddi ufudd-dod llawn i lais ei natur yn ei holl ymwneud âg ef Bu yn garedig wrtho ym mhob modd, ac eithrio y byddai weithiau yn ei boeni er mwyn y pleser o weld Nel yn ei amddiffyn. Taerai y gwas bach yn fynych, gan herian ar yr hwsmon—yn enwedig os byddai y ferch o fewn clyw—mai yng nghysgod Nel yr oedd o yn cael sylw Hywel; na fuasai Hywel yn gwneud dim hefo fo oni bai fod o wedi ffeindio fod yna un ochr i galon Nel yn feddalach lawer na'r llall, ac mai'r ochr 'gosa at Siams oedd honno. Fe dyfodd y garwriaeth rhwng Hywel ac Elin yn ddistaw a naturiol 'Roedd Gwen Ifan ar y cyntaf dipyn yn bryderus, ond wedi iddi adnabod Hywel yn well, nid oedd ganddi unrhyw bryder wrth ei wylio yn ennill calon y ferch.

Daeth gyrfa bywyd Lewys Dafydd, yr hen dyrchwr, i ben yn sydyn tua'r pryd hwn. Bu farw, nid ym Mryn Marian, ond yn ei fwthyn ei hun. Gwellasai yn weddol oddiwrth effeithiau y ddamwain, a dewisodd fynd i fyw fel cynt i'w gaban yn y mynydd; ond cyn hir gafaelodd rhyw afiechyd ynddo, a bu farw heb ond ychydig o gystudd. Yn ei ewyllys gadawodd bopeth oedd ganddo i Elin, ac eithrio un canpunt adawodd i Siams fel degwm am weini wrth yr allor bob bore yng nghegin Bryn Marian.

Pan fu farw Mr. Ellis, y stiwart, daeth y fferm a brynasai, ynghyda'r stoc oedd arni, yn eiddo i Hywel, a bu y cymdogion yn ddigon caredig a meddylgar i gyhoeddi gostegion eu priodas yn hollol ddiymdroi, a thybiodd y ddeuddyn na wnaent bellach ddim yn well na chyflawni y broffwydoliaeth oedd yn cerdded trwy'r fro.

Daeth Hywel i Fryn Marian un prynhawn i ddechreu trafod tipyn ar y trefniadau, gydag Elin. Eisteddai y ddau ym mharlwr y ffrynt.

"Dacw chi, Hywel, fel y mae Siams wrthi hi," ebe'r ferch, gan edrych trwy'r ffenestr.

'Roedd yr hwsmon, yr hwn oedd yn gwisgo llaid fel dilledyn, mewn ymdrech galed yn gwthio berfâd o faip i fyny i bwt o allt. Cododd Hywel i'w weld, a daliodd i edrych arno yn hir, ond ni ddywedodd ddim.

"Hwyrach y gwelwch chi o yn ffolineb yna i," ebe hi," ond mae gin i awydd garw cael Siams i'r briodas; ma o yma, fel y gwyddoch chwi, ers blynyddoedd cyn fy ngeni i. Ydach chi yn cofio, Hywel, mai hefo fo y dois i i'ch golwg chi gynta, a mi wnes fy ngora i beidio dwad, ond mi fynnodd Siams gael 'i ffordd, wrth lwc."


Cyn i Siams sylweddoli. 'roedd y gath yn disgyn yn daclus dros ei ben ar ben y llwyth maip. [Tud. 146.]


Hywel yn plygu gan chwerthin wrth wylio yr hwsmon trwy'r ffenestr. Yr oedd wedi gorlwytho y ferfa â maip, a'r rheini fel creaduriaid byw direidas yn neidio i lawr yn gyplau, ac yn ei gwadnu hi i'r goriwaered. Siams ar ol cyrchu'r afradloniaid, yn eistedd ar fraich y ferfa am fygyn.

"Druan o Siams," ebe'r ferch wedyn, yn fawr 'i helbul bob amser, ond mae o wedi bod yn garedig ac anwyl wrtha i ar hyd fy oes. Ydach chi yn fodlon i mi ddwad i'r capel i'ch cyfarfod chi ddiwrnod y briodas yn 'i fraich o?"

"Rydw i yn fwy na bodlon," ebe yntau, "'rydw i yn falch. Mae yn well gin i am y'ch bwriad chi nag y medra i ddeyd wrthoch chi, a nag y medrwch. chitha ddirnad," a chymerodd y ferch i'w freichiau. Ymhen tipyn gofynnodd Hywel yn sydyn,—

"Ga inna neud Wil yn was priodas?" Ac ychwanegodd: "Mi wyddoch mai John Owen oeddwn i wedi fwriadu unwaith, ond mi leiciwn i yn fy nghalon gael Wil i'r briodas hefo Siams."

Ar hynny gwelent y gwas bach trwy'r ffenestr yn cerdded ar flaena 'i draed tu ol i Siams pan oedd yn eistedd ar fraich y ferfa, a chanddo gath yn ei ddwylo. Cyn i Siams sylweddoli, 'roedd y gath yn disgyn yn daclus dros ei ben ar ben y llwyth maip; ac yn ei sbonc oddiyno, cymhellodd pws nifer liosog o'r pengryniaid i 'madael o'u lle, a chychwyn yn fywiog i lawr yr allt. 'Roedd osgo bygythiol ar yr hwsmon, ac osgo anedifeiriol ar y bychan, ond daeth cyfnewidiad buan. Ni fu Wil fawr o dro yn hel y maip i gyd, a mynnodd yn y diwedd hwylio'r ferfa i ben ei thaith yn lle yr hwsmon.

"Dyna nhw," ebe Hywel, "'ro'n i yn meddwl mai fel yna bydda hi. Mae Wil wedi poeni llawer ar enaid Siams, ond y neb mae Wil yn garu mae o'n boeni. Rhaid i ni gael y ddau i'r briodas."

'Roedd llawenydd yr hwsmon a'r gwas bach pan glywsant am y trefniadau, yn ol tystiolaeth Gwen Ifan, yn warthus. "Yr oedd yn amhosibl," ebe hi, " cyfri yr un o'r ddau yn hollol sobor, ddydd na nos, am y pythefnos cyn y briodas." Ond hawdd cedd maddeu iddynt.

Gwawriodd bore'r briodas o'r diwedd, a thua hanner awr wedi naw cychwynnodd cwmni o Fryn Marian tua'r pentref. Cerddai'r briodasferch ym mraich Siams, yr hwn oedd yn diolch o'i galon fod Wil y bore hwn yn perthyn i adran arall o'r fyddin dan arweiniad Hywel. Yn y sêt fawr yn eu derbyn yr oedd Hywel a Wil, a chynulleidfa luosog o geraint a chymdogion yn llanw'r capel. Methai Siams beidio cadw ei lygad ar y gwas bach yn ystod y gwasanaeth gan ofn ei ddireidi arferol, ond yr oedd holl ystum ac agwedd y gwas priodas yn hollol briodol i'r amgylchiadau. Aeth y gwasanaeth drosodd, a chyn hir eisteddodd yr holl gwmni wrth fwrdd y wledd ym Mryn Marian. 'Roedd yno bawb yn eu hwyliau goreu, er y gallasai llygad craff ganfod arwyddion pryder ac anesmwythyd yn wyneb ac ysgogiadau y priodfab.

Ar derfyn y wledd, cododd Hywel ar ei draed, a dywedodd:

'Anwyl gyfeillion, cyn i ni godi oddiwrth y bwrdd, mi garwn i ddweyd gair. 'Rydan ni'n dau yn ddiolchgar iawn i bawb o honoch chi am gyd-lawenhau hefo ni. Gwyddech fod calon Elin a nghalon inna wedi dechra nesu at 'i gilydd ers tro, ac erbyn heddyw dyma ni yn un. Chawsom ni ddim rhwystr oddiar law neb o honoch—yn wir, mi gawsom lawer o help gan rai sydd yma (yr hwsmon a'r gwas bach yn nodio yn gyhuddol ar ei gilydd). Cyfeirio 'rydw i yn arbennig at Siams a Wil. Mae'n dyled ni i'r ddau yn fawr iawn. Rhaid i Wil aros am 'i dâl yn hir, mae arna' i ofn; ond mae gin i awydd talu i Siams 'rwan. (Wil yn dehongli hon fel proffwydoliaeth am faich o faco i'r hwsmon). Aeth Hywel rhagddo, gan edrych ym myw llygad Siams, yr hwn oedd yn eistedd gyferbyn, yr ochr arall i'r bwrdd. "'Rydw i wedi arfer dy alw di wrth yr enw Siams, a chroeso i Wil a phawb arall sydd yma dy alw di felly eto, ond rhaid i mi, bellach, ro'i enw arall arnat ti."

"Mr. Parri," ebe Wil.

Nage, nid Mr. Parri ychwaith."

Estynnodd Hywel ei ddeheulaw ar draws y bwrdd i gyfeiriad Siams, a phan gafodd afael yn neheulaw arw yr hwsmon,—"Nhad!" meddai, a cheisiodd ddweyd rhywbeth wedyn, ond methodd.

Tybiodd Wil mai smalio yr oedd, a bu bron iddo fynd dan y bwrdd gan chwerthin. Y joke ore glywodd o yn 'i fywyd, a phwy fasa'n meddwl—Hywel yn medru actio mor dda. Cafodd yr hwsmon fraw ar y cyntaf oherwydd rhywbeth oedd yn llais ac yng ngwasgiad llaw Hywel; ond wrth weld dir-dyniadau wyneb gwamal y gwas bach, tybiodd yntau ei fod yn gweld y joke, a dechreuodd chwerthin, ac ymunodd y rhan fwyaf o'r cwmni.

'Rydw i yn gweld," ebe Hywel, "fod pawb o honoch chi, a Wil yn enwedig, yn meddwl mai cellwair 'rydw i, ond y gwir ydi o, dyma nhad—Hywel 'i fachgen o ydw i."

Deallodd yr holl gwmni yn awr oddiwrth ddi-frifwch Hywel mai nid cellwair yr oedd. Sobrodd Wil gyda sydynrwydd ergyd, dechreuodd ei lygad lenwi, cododd, aeth allan, ac yn syth i'r ystabl; eisteddodd ar ymyl y preseb, a wylodd ei lawenydd i fwng y ferlen. Bu'r gwirionedd yn hwy yn gwawrio ar feddwl Siams ei hun nag ar feddwl neb arall o'r cwmni. Daeth math o hurtrwydd drosto am ennyd—edrychai yn syn a phell ar Hywel, yna gollyngodd ei ben ar y bwrdd, ond daliodd ei afael yn dyn yn llaw ei fachgen.

Y briodasferch, yn ddrylliog gan lawenydd, yn hawlio cusan gan fab Siams, fel y galwai Hywel, ac yn prysuro i'r ochr arall i hawlio yr un peth gan ei thad, ac i'w wahodd i fyw atynt yn eu cartref newydd.



CONWY:
ARGRAFFWYD GAN R. E. JONES A'I FRODYR.


Nodiadau

[golygu]