Neidio i'r cynnwys

Clawdd Terfyn/Sul a blodau

Oddi ar Wicidestun
Angladd a choffâd Clawdd Terfyn

gan Robert Dewi Williams

Siams

PENNOD II.
SUL A BLODAU.

T
TRANNOETH, daeth y wawr, a thorrodd ei blwch enaint wythnosol ar ffurf Saboth ar draed lluddedig amaethwyr y fro. Esgynnai'r mŵg o simneiau'r ardal yn blygeiniol, ond nid mor gynnar ag ar y chwe niwrnod, ac nid ymddangosai yn esgyn mor frysiog. Byddai ynddo beth o hamdden a defosiwn arogl-darth ar fore Sul. Cymerai natur oll ryw hamdden santaidd i ddeffro ar fore'r dydd cyntaf yn y wlad. Ond cyn i'r adar bach ddechreu telori ym mherllan Bryn Marian, a chyn i Bet, y forwyn, godi i weini wrth allor y pentan, yr oedd yno un nad oedd ddarostyngedig i unrhyw ddeddf ond deddf ei natur hoenus ei hun, wedi mynd trwy gyfres hirfaith o fabolgampau diniwed. Yr oedd Gwilym bach ar ddihun pan nad oedd y wawr ond briglwyd, ac yr oedd wrthi hi yn brysur yn chwarae ac yn difyrru ei hun trwy geisio dilyn patrwm y cwrlid â'i fŷs rhwng tywyll a goleu. Nid oedd Saboth ar ei ddyddlyfr ef; a chan ieuenged oedd, nid oedd marw ei dad wedi amharu dim ar hoen ac ynni ei natur. Pan ddaeth pelydrau yr haul i mewn trwy'r ffenestr gyda thanbeidrwydd sydyn, arafodd Gwilym ennyd, ac ar y foment honno sylwodd fod lle ei dad yn wâg.

"Dada," meddai, gan edrych yn ymofyngar i gyfeiriad ei fam.

Cymerodd hithau ef, gan ei wasgu i'w mynwes, a dywedodd,—

"Dada wedi mynd i ffwrdd."

"Twll du?" gofynnai'r bychan wedyn, fel yr oedd y cof am weithrediadau y diwrnod cynt yn deffro.

"Ie, nghariad i," ebe hithau, gan ei gusanu drachefn.

"Dada bach twll du," ebe yntau, mewn llais galarus, a'i wefusau bychain yn ddrych o dosturi. Eisteddai am foment mewn dwys ystyriaeth. Cymerai greddf y chwarae afael ynddo drachefn; codai ar ei draed, safai ar y gobennydd, ac ymdaflai, fel dyn yn ymdrochi, i blygion y dillad, a chymysgai iaith gofid a galar â'i afiaith diniwed.

Pan oedd Gwilym rhwng tywyll a goleu yn ceisio olrhain y patrwm ar y cwrlid â'i fŷs, ac yn chwerthin rhyngddo âg ef ei hun wrth fethu, yr oedd ei fam hithau ar ddihun yn ceisio olrhain y patrwm ar gwrlid arall—hen gwrlid rhagluniaeth, a'i batrwm troellog, ac yn torri i wylo wrth fethu. Nid y wawr oedd yn torri heddyw a daflai oleuni ar y patrwm hwnnw, er mai gwawr Saboth ydoedd. 'Roedd raid i Gwen Ifan, fel i aml un arall, aros i wawr y Saboth tragwyddol dorri cyn y medrai olrhain y patrwm hwnnw. 'Roedd diluw y dydd yn awr yn dechreu gorlifo y wlad, ac yr oedd y gwartheg blithion yn y cae dan y ty yn erfyn gyda phob taerineb am i Bet a Wil frysio hefo'u cunogau. Yr oeddynt wedi brefu nes diflasu ar eu sŵn eu hunain—pob un ohonynt a'i phwrs yn orlawn, ac wedi bod yn erfyn ers rhai oriau am i rywun ddod i dderbyn eu cynnwys. Byddai eu taerineb yn fwy ar fore Sul, am y byddai eu baich yn drymach. Godrid braidd yn gynarach nag arfer ar bnawn Sadwrn, er mwyn cael amser at orchwylion eraill; a rhedai yn hwyrach nag arfer ar fore Sul.

Agorodd Wil y llidiart, ac aeth pob un o'r gwartheg yn ddiymdroi i'w lle ei hun yn y beudy. Erbyn i Wil orffen eu rhwymo, yr oedd Bet wedi cyrraedd gyda'r llestri godro. Ar ol iddi gyfarch gwell i Wil, trwy ddweyd ei fod heb ddeffro yn iawn, ac iddo yntau nodi cynifer o'i rhagoriaethau hithau ag a fedrai gofio ar y funud, cymerodd y ddau bob un ei 'stol a'i 'stên, gan ddechreu, un ymhob cwr i'r beudy, a godro i gyfarfod ei gilydd. 'Roedd hon yn hen ddefod, ac yn hen ddefod fuddiol iawn. Mae'n debyg mai y rheswm am dani oedd na fedrai y gwas bach a'r forwyn, neu pwy bynnag fyddai yn godro, ddim 'sgwrsio yn hwylus, nes byddent bron ar ben, ac wedi dod at y ddwy fuwch yn ymyl ei gilydd yn y canol.

Pan ddaethant o fewn cyrraedd siarad,—

"Wil!" gwaeddai Bet—'roedd raid siarad yn weddol uchel hyd yn oed yn awr, gan fod y llaeth yn trystio wrth bistyllio—" Oedd yna lawer yn y fynwent ddoe?"

"Oedd, fwy na chymin ddwywaith ag oedd wrth y ty yma," ebe Wil.

"Oedd yno floda' wedi eu danfon gan rywun ?" "'Roedd Mr. Jones y Shop wedi gyrru torch, a Mr. Ellis, Bronfedw; ond Mr. Morgan y Swan oedd wedi gyrru y fwya' a'r ora' ohonyn nhw."

"Pwy ddywedest ti yrrodd y fwya'," gofynnai Bet, gan ollwng y tethau.

"Gŵr y Swan," ebe Wil; "hi oedd y neisia o lawer."

"Neisia, wir!" ebe Bet, "mi fasa'n llawer neisiach iddo fo adael y bloda' i wywo lle tyfson nhw. 'Doedd gynno fo, beth bynnag, ddim busnes i roi bloda' ar fedd mistar."

"Pa'm?"

"Pa'm? Mi gwelodd nhad 'o yn troi mistar dros y drws dair wythnos i neithiwr yn feddw, ac yn rhoi hergwd iddo fo nes oedd o ar 'i hyd yn y baw, ac yn 'i adael o yno, ac yna yn cau y drws yn glyd arno 'i hun yn y ty. Os nad oedd gynno fo barch i mistar yn y baw, mi elli fod yn bur siwr nad oes gynno fo fawr o barch iddo fo yn y bedd." "Torch o gelwydd," ebe hi drachefn, gan ail ddechreu godro.

"'Roedd y bloda' yn edrach yn dda iawn ar y bedd, beth bynnag," ebe Wil. ('Roedd Wil, rhyw bythefnos cyn hyn, wedi cael swllt a glasiad o gwrw gan Mr. Morgan am yrru bustach iddo adre' o'r ffair).

"Oeddan, mae'n debyg; edrach yn rhy dda braidd i feddwl pwy oedd wedi'i hanfon nhw. 'Dasa dipyn o blwc ynnot ti, mi faset wedi stelcian yn y fynwent tan ai pawb oddiyno, gael iti thaflu hi dros y gwrych i'r afon."

"Nid ar Mr. Morgan mae yr holl fai am bob dyn sy'n troi allan o'r Swan yn feddw," ebe Wil.

"Mi wn i hynny," ebe'r forwyn; "mi wn i gystal ag undyn fod mistar ar fai fod yn ymdroi ac yn yfed yn y Swan o hyd; ond fasa mistar 'i hun byth yn gwirioni dyn â diod, ac yn 'i daflu o i'r ffos yn ddiseremoni ar amser cau. Bloda' o'r Swan ar 'i fedd o wir! Mi fase'r priddyn coch, heb flodyn o'r fangre honno ar i gyfyl 'o, yn gorffwys yn 'sgafnach, ar weddillion mistar; a mae'n syn gen' 'i na fasa fo'n gorffwys yn 'sgafnach ar gydwybod Mr. Morgan."

"Twt, 'rwyt ti'n rhy benboeth," ebe Wil; a pheth arall, mi welodd mistres y dorch floda' yn cael 'i rhoi ar y bedd gan wr y Swan."

"Fasa ti ddim yn disgwyl iddi hi wneud helynt wrth y bedd? ond mi wn beth oedd 'i theimlad hi heb iddi ddweyd wrtha 'i; a mae yn syn iawn gen' i os caiff y bloda' lonydd yno."

"Mae yn well iddi hi adael llonydd iddyn' nhw; mi fyddan' wedi gwywo cyn hir."

"Daswn i yn 'i lle hi fasan' nhw ddim yn cael llonydd."

"Dasa ti yn 'i lle hi, ac yn gwybod yr hyn wn i, mi fasa'r bloda' yn cael eitha' llonydd gen' ti."

"Be' wyt ti'n feddwl?"

Meddwl 'rydw i, daset ti yn gwrando y 'sgwrs glywes i neithiwr, y cawsai'r bloda' lonydd gin tithau."

"Sgwrs pwy?" gofynnai Bet, gan ollwng y tethau drachefn.

"John Evans, yr Allt, a Mr. Jones, Shop. 'Roedd John Evans yn deyd y medrai Mr. Morgan fynd a bron bopeth sy' yma,—mae gynno fo yn agos i dri chant o bunnau ar y stoc, a 'dwyr mistres ddim byd am y peth. Felly 'roeddan nhw yn sicrhau."

"Ie, dyna hi eto, mae mor debyg o fod yn wir a dim;" a buasai Bet wedi dechreu crio oni bai i un o'r gwartheg gymeryd rhan yn y ddadl, a llorio Wil.

Teimlai Mwynig fod Wil yn tynnu braidd yn ddibris yn ei thethau yn hongian wrthynt yn hytrach nag yn godro, ac yn 'sgwrsio ar y mwya',—ac fel gwrthdystiad, rhoddodd gic mileinig i'r 'stên; rhoddodd y 'stên hergwd i'r 'stol; rhoddodd y 'stol sbonc ddirybudd, heb ymgynghori dim â Wil, a phan drodd Bet ei phen i edrych ar y weledigaeth, 'roedd y gwas bach a'i wadnau i fyny yn y llwybr llaethog, ac yn traddodi araith ddifyfyr fwy hyawdl nag oedd o weddus. Gresynnai Bet weld y llaeth yn llifo, ond yr oedd gweld tymer Wil yn llifo hefo'r llaeth, a'r llaethwr ei hun yn eistedd megis ar y llifeiriant, yn ormod o dreth ar ei natur, a gorfod iddi roi ei 'stên i lawr er mwyn iddi gael dwy law i ymgynnal.

Y munud nesaf, cofiodd Bet mai arni hi yr oedd cyfrifoldeb y godro, a gwnaeth osgo i ddifrifoli, a meddai mewn llais dipyn yn geryddol,—

"Sut yn y byd y buost ti mor ddilun, Wil? Colli llond 'stên o laeth da! Mae'n gwilydd iti. Edrych ar dy ddillad. Gorffen ditial gael iti fynd i lanhau dy hun. A chofia mai Sul ydi hi. 'Does fawr o amser tan fydd raid i ni hwylio i'r capel."

Tuag ugain munud cyn deg, gwelid Gwen Ifan ac Elin yn cychwyn i'r capel, a'u gwisg—gwisgoedd galar—cyn ddued ag eiddo y brain di-ŵyl a di-alar oedd yn crawcian yn y coed tu cefn i'r ty. Yr oedd y fam oddeutu deugain oed, ac ystyrrid hi gan bawb yn wraig o gynheddfau cryfion, ac o gymeriad cywir a dianwadal. Nid oedd yn enedigol o'r fro, ond hannai o hen deulu parchus dros y drum. Pan ddaeth yn wraig i Fryn Marian nid oedd ond newydd adael ugain oed. 'Roedd Dafydd Ifan yn ddyn ifanc tyner a charedig, a hoffus gan bawb, ond yr oedd ymhell o fod yn ddirwestwr y pryd hwnnw. Yn cerdded gyda hi yr oedd Elin, ei hunig ferch, yn ddwy ar bymtheg oed. Mewn distawrwydd y cerddent. Pan oeddynt yn pasio yr eglwys, dechreuodd y clychau ganu—tair cloch, a thinc hiraethus ynddynt. Torrodd Elin i wylo—ni wyddai yn iawn pam. Yr oedd wedi ei magu yn sŵn mesmeiriol hen glychau y llan, a chyffyrddodd hwnnw heddyw â rhyw brofiad newydd yn ei mynwes.

Ymhen tipyn ar ol iddynt basio yr eglwys, a chyfarfod ambell i eglwyswr yn mynd i'r gwasanaeth—ychydig iawn oeddynt yn yr ardal—daeth Mr. Morgan y Swan i'w cyfarfod, yntau ar ei ffordd i'r eglwys.

"Bore da, Mrs. Evans," ebe Mr. Morgan, "sut yr ydach chi? Mae yn ddrwg iawn gen' 'i am y'ch profedigaeth chi. Os medra' i wneud rhyw-beth i'ch helpio, mi fydd yn bleser mawr gin 'i wneud hynny."

"Diolch i chi, Mr. Morgan," ebe hithau, "'does gen' 'i ddim eisiau dim;" a cherddodd ymlaen yn lled ddisgwrs.

Ar ol mynd ychydig gamau, safodd yn sydyn, a galwodd ar Mr. Morgan, ac aeth yn ol i'w gyfarfod, a dywedodd dan ei llais heb i Elin ei chlywed,—"Mae gen' 'i un cais i'w wneud atoch chi."

"Ar bob cyfrif, Mrs. Evans," ebe yntau. Byddwch gystal a chymeryd y wreath roisoch chi ar fedd Dafydd ddoe i ffwrdd."

Cerddodd y weddw ymlaen, ac ni chafodd y tafarnwr gyfle i ofyn cwestiwn, ac y mae yn debyg na roddodd ei gydwybod unrhyw gefnogaeth iddo i ofyn un.

Cyrhaeddodd y ddwy at lidiart y fynwent. Safai y capel yn y cwr pellaf iddi. Wrth gerdded drwy y fynwent i'r capel, pasient y bedd o fewn rhyw bum llath. Edrychai Elin ar y dorch honno yn arbennig.

"O, 'drychwch mor dlws ydi torch Mr. Morgan," ebe hi.

Aeth y ddwy i mewn i'r cysegr. Torch o flodau tlysion o ardd y Swan oedd ar feddwl Elin; yr un dorch oedd ar feddwl ei mam, ond ei bod yn ei dychymyg hi wedi ymffurfio yn sarff dorchog.

Aeth Gwen Ifan i'r cysegr y bore hwnnw gydag offrwm o lidiowgrwydd, ac edrychodd y nefoedd ar Gwen Ifan ac ar ei hoffrwm.

*****

"Ydi dy fam yn mynd i aros adre' heno, Elin?" gofynnai Beti Huws i Elin pan oedd yn mynd o'r ysgol yn y pnawn.

"Ydi, 'rwy'n meddwl," ebe hithau.

"Dywed wrthi hi," ebe'r hen wraig, "y do' 'i acw yn gwmni iddi hi."

Gwreigan weddw oedd Beti Huws, ac un a gawsai fwy na chyffredin o brofedigaethau y byd.

Pan oedd clychau yr eglwys yn galw i wasanaeth yr hwyr, 'roedd Beti Huws yn camu dros drothwy ei bwthyn, ac yn cyfeirio ei chamre tua Bryn Marian. Pan oedd hi yn y cae dan y ty, 'roedd Elin a'r gwas a'r forwyn yn ei chyfarfod yn mynd i'r capel. Aeth i mewn i'r ty heb guro, oherwydd yr oedd Gwen Ifan yn disgwyl am dani, ac nid oedd curo drws yn arferiad rhwng cymdogion ar delerau cyfeillgar â'i gilydd.

"'Roeddwn i yn meddwl fod yn rheitiach i mi ddod yma yn gwmni i chi, Gwen, na mynd i'r capel heno," ebe Beti Huws ar ol agor y drws.

"Dowch ymlaen, Beti," ebe Gwen Ifan, "'rydach chi yn garedig iawn."

Eisteddodd y ddwy un o boptu'r tan i 'sgwrsio. Gwraig radlon a charedig oedd Beti Huws, ac un a chanddi gryn lawer i'w ddweyd ymhob man, ond yn y seiat. Byddai ysbryd mud, ond perffaith Gristionogol, yn ei meddiannu yno. Ni ddywedai air of brofiad, ac ni cheid ganddi gymaint ag adnod. Yr oedd yn haws ganddi aros ar ei thraed am dridiau a theirnos, heb roddi hûn i'w hamrantau, i weini ar un o'i chyd-fforddolion yn rhydiau yr afon, nag adrodd yr adnod leiaf yn y seiat.

Yr oedd Beti Huws yn un o'r rhai cymhwysaf i fynd i Fryn Marian i warchod gyda Gwen Ifan. Yr oedd yn berffaith iach ei chalon, ond iechyd creithiog ydoedd,—iechyd a dioddefaint y tu cefn iddo; iechyd a thynerwch a meddylgarwch dano. Yr oedd ganddi galon wedi ei pherffeithio trwy ddioddefiadau, a chorff wedi dal y driniaeth yn rhagorol.

Treuliodd y ddwy yr amser i siarad mewn ysbryd gweddus i'r amgylchiadau a'r diwrnod dan yfed cwpanaid o dê yn hamdden a thawelwch gwarchod ar nos Sul. "Tê a bara 'menyn" oedd ar y ford, ond yr oedd defosiwn a hunanymholiad fuasai'n gweddu i fwrdd y cymun yn y ddwy oedd yn cyfranogi ohono. Pe buasai rhyw law anweledig yn cipio'r hen debot ystlysddu oddiar ffon y grat, ac yn rhoi costrelaid o win yn ei le, ac yn rhoi bara o doriad y cysegr ar y plât yn lle y brechdannau fe allasai'r ddwy o ran cywirdeb eu hysbryd fynd ymlaen i gyfranogi ohono, a bwyta ac yfed yn deilwng neb newid y 'sgwrs. Nid oedd raid newid yr elfennau i'w wneud yn sacrament. Mae y gwpan dê,—yn rhy fynych cwpan y chwedlau a'r gwagedd,— wedi bod cyn hyn yn gwpan y gwaed o'r Testament Newydd ar aml i ford; ac mewn aml i fwthyn mae'r bara haidd wedi bod yn fara yr heddwch sydd trwy'r gwaed, er i'w liw fod yn ddigon du, a'i grystyn yn ddigon caled, heb unrhyw weinidog ordeiniedig yno, ond Gweinidog y gysegrfa a'r Gŵr a ordeiniodd Efe. Mae profedigaethau a chystuddiau yn weinidogion ordeiniedig y nefoedd i weinyddu y sacrament hwn o ba beth bynnag ddigwyddo fod ar y bwrdd.

Nodiadau

[golygu]