Clawdd Terfyn/Yr hwsmon a'r tyrchwr
| ← Eiriolaeth Siams | Clawdd Terfyn gan Robert Dewi Williams |
Newyddion da → |
PENNOD VI.
YR HWSMON A'R TYRCHWR.

NI ellir dweyd mai difyrrwch pennaf Lewys Dafydd yng ngwyliadwriaethau y nos oedd gwrando ar Siams yn chwyrnu yn y gwely arall; ond oherwydd yr arwyddion digamsyniol o wallgofrwydd welsai arno pan yn dangos y stwmp sigar, gollyngodd y tyrchwr am unwaith ochenaid ddofn o ddiolchgarwch pan glywodd yr hwsmon yn dechreu rhochian cysgu. Coleddai obaith y byddai iddo, erbyn y bore, adfeddiannu ei swm arferol o synwyr,—adferiad na ddylasai, ym marn ddiduedd y tyrchwr, gymeryd ond ychydig iawn o eiliadau. Cysgai Siams yn drwm, ond nid mewn heddwch. 'Roedd helyntion y dydd yn dilyn ar ei sodlau yn ei gwsg, a chedwid y tyrchwr ar ddihun gan yr amrywiaeth diderfyn oedd yn chwyrniadau yr hwsmon. Ynghanol ei freuddwydion rhoddodd Siams floedd sydyn, ac yna chwarddodd fel ynfytyn trwy 'i hun nes oedd y gwely yn gwegian. 'Roedd y tyrchwr yn y gwely arall yn chwys oer drosto, a phob math o feddyliau yn dod i glwydo ar ei obennydd.
Rywbryd cyn plygain, deffrodd Siams o ganol ei helbulon, a goleuodd y ganwyll. Ar ol gwneud yn siwr fod y tyrchwr yn cysgu, a'r tyrchwr yntau yn rhoi pob cefnogaeth i'r syniad trwy ddechreu chwyrnu yn rhagrithiol, estynnodd yr hwsmon y stwmp sigar o boced ei wasgod oedd ar gadair yn ymyl. Rhoddodd ei drwyn—trwyn y stwmp—yn y ganwyll. a thrwy drafferthu tipyn i'w sugno, a sugno 'run faint ar ei fys a'i fawd, gan fyrred oedd y stwmp, llwyddodd i gael rhyw fath o fygyn am ennyd fer, ond 'roedd gweddillion y sigar mor gwta fel y bu raid i'r hwsmon, er mwyn heddwch theimladau da yng nghymdogaeth ei drwyn, ddiffodd y tipyn tân oedd arno. Ar ei benelin yn ei wely yr elai Siams trwy y seremoniau hyn, a Lewys Dafydd, o gwr tywyll yr ystafell, trwy gil amrant, yn gwylio popeth. Toc, cododd Siams y ganwyll hefo'i law, a daliodd hi fel search-light ar wersyll y gelyn i wneud yn siwr unwaith eto nad oedd yno ddim ysbïwr ar y gobennydd gyferbyn. Atebodd Lewys Dafydd yr ymchwiliad hwn trwy wneud cyd-wybod i chwyrnu yn fwy argyhoeddiadol. Ar ol cael tawelwch i'w feddwl ar y pen hwnnw, rhoddodd yr hwsmon rhyw led-tro yn ei wely, eisteddodd i fyny, a chynygiodd wrando ar ei lais ei hun, gan nad oedd yno neb arall i wneud y gwasanaeth hwnnw,—
"'Pwy fasa'n meddwl! Siams ar 'i hen sodla yn debyg o gael y ffarm i Gwen Ifan, ac yn cael sigar gin nai y stiwart. Go lew fyth o'r fan 'ma. Bachgan clên hefyd. Be' feddylith yr hen dyrchwr tybad pan ddaw o i ddallt? Hy (gyda threm ys—goewedd i gyfeiriad y chwyrnwr), choelith o byth; ond mi fydd raid iddo fo." (Ffit o gosi ei ên mewn distawrwydd,—Lewys Dafydd yn dal i chwyrnu, ond yn cymeryd y cyfle i newid y cyweirnod am un îs, er mwyn clywed ymson yr hwsmon yn well).
"Biti o'i hwyl na fasa gin mistres ddigon bres i droi trwyn gŵr y Swan cyn y sêl. Be' fydda i mi ofyn 'i gyngor o (nód i gyfeiriad y tyrchwr), mae o'n hen ben go arw. Na, mi 'rosa i dipyn eto i weld sut y daw hi. Be' fydda i mi gonsyltio Wil?" a phlygodd Siams i'w ddwbl gan chwerthin pan ddaeth y syniad o ddwyn Wil i'r gyfrinach ar draws ei feddwl.
Ar hynny dyna gnoc ar y pared yr ochr arall,—Gwen Ifan yn galw ar Siams i godi, ac yntau yn ateb.
Credai y tyrchwr fod hwn yn amser cyfaddas iddo ef gogio deffro, a diolchai am y cyfle. Ar ol ystwyrian, troi a throsi, a rhwbio ei lygaid, mentrodd hysbysu y ffaith ei fod yn effro trwy ofyn i Siams faint oedd hi o'r gloch; a chyn iddo gael amser i ateb, gofynnodd iddo wedyn, "Lle buost ti mor hwyr neithiwr?"
"Yn nhy y stiwart," ebe yntau.
"Be' oeddet ti'n neud fan honno?"
"Smocio sigars," ebe Siams.
"Dyn—dyn," ebe'r tyrchwr, "'rwyt ti'n mynd ymlaen yn y byd yn arw. Pa siwt wyt ti am roi am danat heddyw?"
"O, 'r hen resi," ebe Siams, gan amneidio â'i law at grogle y trowsus rhesog.
"Siams," ebe llais o waelod y grisiau, "wyt ti'n dwad? Tyd wir, mae hi'n berfeddion y dydd."
Gwen Ifan oedd yno wedi gorffen cynneu tân, ac yn dechreu gwresogi yn yr ysbryd wrth weld pawb ohonynt yn ymdroi cyd rhwng y cynfasau.
Pan glywodd yr hwsmon son am "berfeddion y dydd," prysurodd i ddiffodd y ganwyll, a chafodd yr hyfrydwch o wisgo am dano yn y tywyllwch, oherwydd iddo gymeryd un o frawddegau areithyddol Gwen Ifan yn rhy lythrennol.
Trwy fynych waeddi yn nhroed y grisiau yn y tŷ, a churo droion hefo coes y brws brâs dan waelod y llofft allan lle cysgai y gwas a'r gwas bach, llwyddodd Gwen Ifan o'r diwedd i godi yr holl wersyll, ac i'w hanfon bob un at ei waith ac at ei orchwyl am ddwyawr cyn brecwast. Ond prin o ynni fyddent am y daliad hwnnw bob amser. Rhyw ddylyfu gên y byddent oll, gan edrych ymlaen yn farwaidd at y cysur a'r diddanwch oedd yn eu haros mewn llond bowlan o frwes a chwpanaid o dê. Daeth galwad i frecwast o'r diwedd, a chredodd Wil i'r ymadrodd yn gyntaf un, er fod ei gylla yn taeru ers meityn na ddeuai'r alwad byth. Eisteddasant yn gwmni cryno, breichnoeth, parod i'w bwydo. Eisteddai Gwen Ifan ac Elia wrth ford gron fechan, a'r gwas a'r gwas bach, y forwyn a Siams, wrth y bwrdd mawr,—y ddau flaenaf ar y ffenestr tu draw i'r bwrdd, a Siams a'r forwyn ar fainc symudol yr ochr arall iddo. Darfu'r wledd, a daeth dyledswydd.
Estynnodd Gwen Ifan y Beibl, a gosododd ef fel arfer ar y bwrdd gwyn di-lian o flaen Siams, a dododd ei spectol a'i breichiau ymhleth arno. 'Roedd y cwmni yn awr wedi gwisgo gosteg fel dilledyn; a cheisiai y sospon lle 'roedd llaeth y lloi yn cawsio yn ddistaw ar ffon y grat berswadio y crochan tatws moch oedd yn ei ymyl i ferwi yn dipyn distawach i'r tân. Clustfeiniai y tyrchwr yn y llofft,—gwyddai fod y gwasanaeth ar ddechreu, ac er nad oedd rhyw lawer iawn o grefydd yn ei groen, teimlai yn awyddas i gyfrif ei hun yn un o gwmni y ddyledswydd. Yr oedd newydd dderbyn ei forebryd o law garedig Elin, ac wedi ei fwynhau. 'Roedd wedi gwrando ar ffolineb Siams gefn nos, ac wedi chwerthin dan y dillad am ei ben, ond carai ef oblegid hynny yn fwy na chynt, a gwrandawai yn astud ar lais yr hwsmon yn esgyn i fyny'r grisiau.
Agorodd Siams y Beibl yng nghymdogaeth y Salmau, a dechreuodd ddarllen lle disgynnodd ei olwg gyntaf,—"Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys y'nghysgod yr Hollalluog. Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a'm hamddiffynfa ydyw fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf. Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddiwrth haint echryslawn. A'i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi dïogel; ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti." A darllenodd y Salm yn hamddenol drwyddi. Caeodd y Beibl yn sydyn,—"Dyna hi i chi," meddai, gan dynnu a chau ei spectol, " yr hen Salm ffeindia yn y byd,—'does eisio mo'i gwell hi byth." Aeth ar ei liniau, a phawb o'r cwmni yr un modd, ond y gwas. 'Roedd y gwas bach yn ddigon eiddil i droi ar ei liniau rhwng y bwrdd a'r ffenestr, ond gormod camp i'r gwas oedd hynny, a chymerid ef yn esgusodol. Bu gan Wil flys lawer tro trugarhau wrtho ei hun a pheidio penlinio, a gwnaeth osgo unwaith i eistedd fel y gwas yn ystod y weddi, ond deallodd yn bur fuan oddiwrth dwlciadau clun y gwas nad oedd y cydymaith hwnnw yn ffafriol i gynnydd anghydffurfiaeth ar y ffenestr, a bu raid i'r gwas bach, er dirfawr siom, ufuddhau i'r awdurdodau goruchel, a dioddef adfyd gyda Siams a'r forwyn trwy benlinio yn y dull cyntefig.
Crybwyllwyd mai yr un weddi fyddai gan yr hwsmon bob bore ar ddyledswydd gweddi wedi dod i'r ffurf hawddgar oedd arni trwy ugain mlynedd o natural selection; ond yr oedd yn weddi a bywyd ynddi. Yr un weddi a'r un wyneb oedd iddo bob dydd, ond 'roedd yr amrywiaeth na cheir mohono ond yn "ol ei fysedd Ef" ar y naill a'r llall. Gweddiai hi y bore hwn gyda rhyw naws dieithriol. Deuai ambell bwyslais yma ac acw ynddi na fedrai neb ond Nel ei ddeall yn iawn, er y byddai deongliad Lewys Dafydd yn y llofft yn lled agos i gywir. 'Roedd y gwas bach â'i ben rhwng ei ddwylo ar fainc y ffenestr wedi dwyshau, ac ofnai yn ei galon i Siams orffen gweddio cyn i'w lygaid direidus ef gael amser i sychu. Pan oedd y gweddiwr yn cloi y weddi i fyny, dyna swn traed ceffyl ysgafn ar y palmant yn y buarth.