Clawdd Terfyn (testun cyfansawdd)
| ← | Clawdd Terfyn (testun cyfansawdd) gan Robert Dewi Williams |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Clawdd Terfyn |

CLAWDD TERFYN
Straeon a darluniau
R. Dewi Williams

Mewn llian, 1/6.
Trwy'r post, 1/8.
I'w gael oddiwrth
yr awdur o
Singrig,
Penmaenmawr,
Neu trwy'r
Llyfrwerthwyr.
CYNNWYS
DARLUNIAU
1 Dalen wyneb—Clawdd Terfyn
2 Wil a'r ŵyn ar aelwyd Twm Bifan
3 Morus Huws yn codi Nel at bin y blawd
4 Dihidlo'r blawd ar law Nel
5 Oriau hamddenol Shôn Tomos
6 Alltudio'r parrot am gymysgu'r ieithoedd
7 Siams a Wil
Nodyn:Mae pob pennod yn ddechrau efo llun, sy'n dynodi'r brif lythyren gychwynnol e.e. yr S yma sy'n cael ei greu o gyrn y defaid:

Gan nad oes modd i beiriannau OCR, chwilio, ac ati i ddarllen y lluniau fel llythrennau, maent wedi eu cyfnewid am lythrennau go iawn, ond gan fod y lluniau yn anhepgorol i natur y llyfr, mae'r lluniau yn cael eu cynnwys hefyd.
Clawdd Terfyn

Ar gyfrif y gwres annioddefol y cyfeiriwyd ato, gellir dywedyd mai yn y trofennau y buont fyw; ac yn y trofennau hyn y clawdd terfyn oedd llinell y cyhydedd. O'i ddeutu ef yr oedd y gwres boethaf. Nid llinell ddychmygol oedd cyhydedd y clawdd terfyn, er fod y dull rhwydd yr âi defaid y Frwynos drosto yn awgrymu hynny; ac yn wir, gwaith y llu mawr o idealists gwlanog oedd yn niadell Pitar Huws yn anwybyddu ffeithiau, ac yn gomedd credu ym modolaeth sylweddau fel drain a mieri, polion a gwifrau, a wnaeth fywyd Tomos Bifan yr ochr arall i'r clawdd yn chwerwder chwerw.
Hen glawdd corffol ydoedd, a'i drwch yn peri i ddyn feddwl am wrthgloddiau amddiffynnol ym mrwydrau yr oesau gynt. Nid terfyn unionsyth ydoedd, ond igam-ogam, a'i osgo, wrth edrych arno o'r ochr arall i'r cwm, yn debyg i neidr braff yn gwingo i gyfeiriad yr afon yn y gwaelod. Ond er fod y clawdd yn fawr a thrwchus, prin ac anwastad oedd y gwrych ar ei war, ac yr oedd yn ddiffygiol felly yn yr hyn a ystyrir yn gymhwyster anhepgorol mewn clawdd i'r swydd bwysig yr oedd hwn ynddi. Yr oedd digon o fieri ar hyd-ddo, ond yr unig wasanaeth—pe gwasanaeth hefyd—a wnai'r rheini oedd codi treth y gwlân oddiar bob perchen cnu a ymwthiai trwyddynt. Perthyn i Fodrach yr oedd y clawdd terfyn, ac ni ddisgwylid i Pitar Huws wneuthur dim ond byw yn heddychol yr ochr arall iddo; ac ni ddisgwyliai neb oedd yn adnabod Pitar iddo wneuthur hynny. Dyledswydd Tomos Bifan oedd ei gau, a gwnaeth osgo digon gonest i gyflawni ei ddyledswydd lawer tymor, ond rywsut yr oedd pob ymgais o'i eiddo yn troi'n fethiant. Er blinder ysbryd iddo fel caewr, yr oedd praidd Pitar yn feirniaid craff ar unrhyw gyfansoddiad mewn drain, a chaent bleser digymysg yn cyhoeddi adolygiad anffafriol ar ei waith, a hynny dan ei drwyn; torrent trwy y mannau gwan ar ei ol o fewn ychydig latheni i'r fan lle byddai ef yn fawr ei chwys yn cau hefo'i gryman a'i ddyrnwyl. Plannodd ddrain yno droion; ond yn ofer, byddent yn marw heb ddeffro, ac eithrio rhyw hanner dwsin, un yma ac acw. Gosododd bolion a gwifrau yno, a thynhaodd hwynt fel tannau telyn, ond "telyn a dorrwyd yn gynnar fu hi. Trodd defaid y Frwynos yn delynorion mor selog fel yr oedd amryw o'r tannau wedi torri cyn pen deufis. Ac ar ol gwasanaethu tymor neu ddau blinodd y polion sefyll yn unionsyth; credent eu bod wedi cynnal y gwifrau yn ddigon hir, a'i bod hi'n bryd bellach i'r gwifrau eu cynnal hwy. Dechreuodd lliaws o honynt led-orwedd, ac o'r diwedd aeth pawb o honynt i bendwmpian, ond y ddau bost tynnu yn neupen y clawdd; safodd y rheini'n hir ar ol cwympo pawb arall. Y ddau swyddog yma yn unig oedd yn aros yn fuan iawn o holl fyddin sefydlog Twm Bifan. Am y milwyr cyffredin, yr oedd Ned y gwas bach wedi gweld yn dda lusgo eu cyrff fesul un i'w crematio dan ffwrnes tatws y moch.
Ond pan oedd drain a physt yn marw ac yn braenu er pob gofal a swcwr ar war y clawdd, yr oedd yno drefedigaeth o gwningod, a'u lloches yn ei ymysgaroedd, yn ffrwytho ac yn amlhau er pob erledigaeth. Yr oedd yr hen glawdd wedi ei ridyllio ganddynt, a'r tyllau-yn fawr ac yn fân-yn rhy luosog i ddychymyg yr un heliwr. Yr awdurdod uchaf ar y mater yn y wedd yma yn ddiau oedd Don- ci'r Frwynos. Yr oedd ganddo ef, mae'n wir, wybodaeth gyffredinol dda am dyllau a llwybrau cwningod ymhob clawdd o fewn cylch o ddwy filltir o gwmpas cartre—gwybodaeth a gasglodd rhwng difri a chware pan oedd rhwng hanner blwydd a dwyflwydd oed; ond am saith mlynedd ar ol hyn, gwnaeth y clawdd terfyn yn faes astudiaeth arbennig, ac ni fedrai ddywedyd, na'r un ci arall ddywedyd am dano, mai yn ofer y llafuriodd. Dychwelodd adre oddiyno ganwaith yn fwy buddugoliaethus na chyfforddus ar ol bod yn gwledda ar yr hyn a ddigwyddasai iddo o'r da. Ond er ei holl gydnabyddiaeth a "daear " y clawdd terfyn, yr oedd yn rhy gyfrwys i gredu ei fod yn gwybod popeth yn ei chylch. Byddai yno ryw dwll newydd bob dydd, a chai Don drafferth nid bychan i ddilyn symudiadau newyddion yr oes yn y tyllau a'r teithiau gwningodogaethol hyn; a phan aeth yn rhy hen a methiantus i ennill ei fywoliaeth a byw yn annibynnol wrth hela ynddi, daliodd i fynd yno bob dydd gyda chysondeb difwlch i wneuthur rhyw fath o research work diniwed ymhlith y tyllau—fel y gwna llawer don methiantus arall.
Cyfundeb diddorol oedd cyfundeb y cwningod yn y clawdd terfyn, a buasai hanes yr achos yn y lle o'i ddechreuad yn ychwanegiad amheuthun at y math hwnnw o lenyddiaeth. Buasai yn ddiddorol gwybod ymha flwyddyn y sefydlwyd yr achos gyntaf, a'r dydd a'r mis y turiwyd pob twll; ond dibris fuont o'u dechreuad, ac aeth pob manylion felly i eigion ebargofiant. Y mae'n bur eglur mai eglwys sefydledig oedd hi o'r cychwyn—neu os nad sefydledig, eglwys na bu hi ddim yn dibynnu am noson erioed ar yr egwyddor wirfoddol Yn gwbl groes i'w hewyllys, beth bynnag am gydwybod, y cyfrannai Pitar Huws a Tomos Bifan at ei chynnal. Degymai hi y ddau, nid bob amser yn gyfartal, ond bob amser yn ddigon teg. Hawliai y cwningod eu cynhaliaeth o'r tu goreu i'r clawdd o hyd. Os yn ochr y Frwynos y byddai'r egin neu'r borfa oreu, yno y porent; ond os tu Bodrach fyddai'n rhagori, aent yno. Byddent yn gweithredu barn a chydwybod, ac yn byw ar y cryfa, mor bell ag y gallent hwy farnu yng nghyffiniau'r clawdd. Hwyrach fod rhagluniaeth yn cael pleser mewn cipiws porfa ac egin dipyn yn ddiofal o boptu, ac wedi ordeinio preswylwyr y clawdd terfyn trwy eu holl genhedlaethau fel rhyw Court of Equity i gyfartalu pethau yn fanylach.
Gwr gweddw diblant oedd Pitar Huws y Frwynos, a chedwid ei dŷ, yn ddigon twt, gan nith iddo. Hen lanc oedd Tomos Bifan, a chedwid ei dŷ ef, yr un ffordd a'r beudy a'r cwt moch, gan y gwas bach; ac ni chafodd mochyn na buwch le i edliw iddo erioed ei fod yn ffafrio'r tŷ. Byddai braidd bob mochyn a fegid yno, pan welai ddrws y tŷ yn agored, yn troi i mewn i farnu drosto ei hun, a deuai allan bob amser wedi cael tawelwch perffaith i'w feddwl. Safai y tri lle yma oedd dan arolygiaeth Ned yn un rhes ym mreichiau ei gilydd—y tŷ yn y canol; a gofalai'r gwas bach—a chai gefnogaeth ei fistar—na ddelai dim amgen na rhyddid a chydraddoldeb i mewn i'w deyrnas.
Yr oedd gwr y Frwynos wedi cael tipyn o addysg: medrai ddarllen yn rhugl; taflai ei olwg dros y papur newydd bob wythnos; ond yr oedd Tomos Bifan yn gwbl anllythrennog ac anwybodus; ni feddai fawr o ddirnadaeth am ddim tu allan i'w ffarm, ac am grefydd, yr oedd yn estron perffaith iddi. Hamddenol, ystyfnig a phryfoclyd oedd Pitar, a'r llall yn gerlyn rheglyd a hanner barbaraidd.
Yr oedd pob cyfathrach fai'n weddus rhwng dau gymydog wedi peidio rhyngddynt ers llawer blwyddyn bellach, a hynny'n bennaf o achos y clawdd terfyn. Porfa a chnydau Tomos Bifan a dollid fwyaf, o herwydd yr oedd yno dipyn o godiad tir yn ochr y Frwynos, ac yr oedd yn haws i ddefaid Pitar Huws ddisgyn i Fodrach nag oedd i ddefaid Bodrach ddringo i'r Frwynos. Ond er mai Tomos Bifan oedd y dioddefydd pennaf, nid oedd siawns iddo mewn llys gwladol fedru rhwymo defaid Pitar i gadw'r heddwch, oherwydd fo'i hun oedd biau'r clawdd, a'i fusnes ef oedd ei gau. Cai ambell ffit weithiau o gau gwyllt a chaeai ddarn, ond darn fyddai. Pan afaelai cynddaredd y cryman a'r dyrnwyl ynddo, gofalai gwr y Frwynos fynd hefo'i was i esgus gweithio heb fod nepell yn rhywle yn y golwg gyferbyn, i ddim ond i'w gythruddo, a llwyddent yn ddifeth. Ymgomient, chwarddent, dywedent ambell frawddeg lawn gwawd yn ddigon uchel i gyrraedd clustiau'r caewr, a chyfeirient ato yn hyglyw fel Mr. Tomos Bifan a Twm Bifis bob yn ail. Dan y saethau hyn, gan y byddai y gelyn yn bellach oddiwrtho nag ergyd cryman, yr unig beth fedrai Tomos Bifan ei wneuthur—a gwnai hynny'n effeithiol—oedd rhegi Pitar Huws nes byddai ei eiriau wrth glecian yn erbyn clogwyn y Frwynos yn deffro "hen ddyn" pob clogwyn arall trwy'r holl gwmwd; ac yna cythrai mewn cynddaredd tuag adref, yn swn adlais aflafar ei lyfon ei hun.
Ar ol blynyddoedd o brofiad fel hyn, daeth Tomos Bifan i sylweddoli fwyfwy ei gyflwr a'i drueni, nid fel pechadur, ond fel cymydog Pitar, ac fel un nad oedd iddo ronyn o gysur yn y ddeddf wladol yn wyneb ei brofedigaethau; a dechreuodd feddwl yn ddifrifol o'r diwedd am gysur crefydd, fel y dehonglid y nwydd hwnnw iddo yn feunyddiol gan y gwas bach. Taerai Ned ei fistar o hyd, a sicrhai iddo pe buasai yn perthyn i'r seiat y buasai rhyw siawns iddo dagu Pitar Huws—yn grefyddol felly: fod cyd—aelodau yn medru llusgo ei gilydd o flaen eu gwell yn hollol ddidrafferth ac yn gwbl ddigost. Daliodd Tomos Bifan ar y cyngor oherwydd y gobaith cysurus oedd ynddo, a phenderfynodd fynd i'r seiat. Yr oedd gwr y Frwynos yn aelod yn eglwys Soar, a thuag yno, ryw nos Fercher, y cyfeiriodd Tomos Bifan ei gamre. Sylwodd Pitar, wrth fynd tua'r capel, fod Tomos Bifan yn cerdded rhyw gan lath o'i flaen, ond ni freuddwydiodd mai yno hefyd yr âi ei gymydog; a phan drodd Tomos at y capel ac yr aeth i mewn trwy'r drws, cafodd gwr y Frwynos fraw, a thybiodd y cai ffit, ond yn rhagluniaethol trodd yn ffit o chwerthin aflywodraethus, a bu raid iddo ymdroi yn hir tu allan i fedru difrifoli digon i fynd i mewn ar ei ol.
Ar ol mynd trwy'r gwasanaeth dechreuol, cododd Huw Jones ar ei draed, a dywedodd—
"Mae'n dda gynon ni i gyd weld Tomos Bifan wedi troi i mewn. Mi aiff William Dafis i gael gair hefo fo." Aeth William Dafis i'r llawr ato, ac ar ol rhyw air bach o gyfarchiad cynnes dywedodd:—
"'Rwyt ti'n gwybod be wyt ti'n neud, Tomos, on'd wyt ti?"
O ydw," ebe Tomos.
"I'r seiat 'rwyt ti wedi dwad, cofia; a mi fydd raid iti altro llawar os wyt ti am aros yma. Rhyw ffarm ydi'r seiat, wyddost, wedi'i chau i fewn oddiwrth y byd, a mi fydd raid i titha forol am neud dy ran i gadw'r clawdd terfyn yn ddifwlch."
(Ffigiwr y clawdd terfyn yn goglais Pitar Huws, ac yn codi ffit o besychu caled arno).
"Pa glawdd terfyn?" ebe Tomos Bifan yn ddreng.
"Y clawdd sy rhwng yr eglwys a'r byd," ebe'r hen flaenor.
"O," ebe Tomos, mewn cywair meddalach.
Rhaid i ti, a phawb ohonom ni, fod yn ddiwyd ryfeddol ne mi aiff yn fylcha i gyd toc iawn. Os gweli di lecyn yn y gwrych ar dy gyfar di yn dechra mynd yn wan, stwffia ddigon o ddrain gwynion yr Ysgrythyr iddo fo—a drain duon hefyd ran hynny, ma nhw'n tyfu'n gymysg ac i'w hiwsio hefo'i gilydd."
Yn y fan hon, dechreuodd meddwl anllythrennog Tomos Bifan nogio; gwrthododd yn bendant dynnu llwyth alegori William Dafis gam ymhellach heb ddadlwytho pob owns o'r wers ysbrydol oedd ynddi. Ar ol ysgafnhau'r llwyth—ni chymerodd hyn oll ond megis amrantiad—gofynnodd Tomos Bifan yn llawn diddordeb:—
"Pwy sy'n dal y tir yr ochor arall i'r clawdd ?" "O, y diafol, Tomos bach, fo sy'n ffarmio'r ochor draw," ebe William Dafis.
"Wel, ydi o i gau dim?" gofynnai Tomos drachefn, gan ddechreu cael blas ar holi'r holwr.
"Neiff o ddim, reit siwr," ebe'r hen flaenor, "a chai ditha ddim gneud chwaith os medar o dy rwystro di."
Estynnodd Tomos Bifan ei het, a pharatôdd i fynd allan.
"Os fel na ma hi," meddai, "rydw i mewn seiat ym Modrach acw ers dros ugain mlynedd.
Wyddwn i ddim fod yma Bitar am y clawdd â'r seiat ne faswn i fawr o ddwad yma. Nos dawch i gyd," a chychwynnodd allan. Y foment honno y sylweddolodd William Dafis fod ei ffigiwr yn un anffodus, a meddai: "Aros funud, Tomos, 'rwyt ti wedi nghamddallt i." Safodd Tomos wrth ddrws y sêt a'i het yn ei law. "Oeddat ti wedi meddwl cynnyg dy hun yn aelod hefo ni wrth ddwad yma heno?"
Oeddwn," ebe yntau.
"Be oedd yn dy gymell di i ddwad aton ni ?" gofynnai William Dafis.
"Pitar y Frwynos," gan nodio i gyfeiriad y gwr hwnnw, "sy. . . . ."
"O da iawn," ebe'r hen frawd," mae'n dda gin i glywed i fod o'n gneud rhyw les."
"Lles bybe?" ebe Tomos, "rhoswch i mi orffan. Pitar y Frwynos sy'n poeni mywyd i, a dallt 'roeddwn i daswn inna hefyd yn aelod, y basach chi yn i alw fo i gyfri, ac yn i gosbi o."
"O, felly," ebe William Dafis, "pechoda Pitar sy wedi dy hel di i fewn yma, nid dy bechoda dy hun."
"Ia," ebe Tomos.
"Wel," ebe'r hen flaenor, "mae gin i ofn na fedrwn ni mo dy dderbyn di ar y telera yna. Mae'n ddrwg iawn gynon ni os ydi Pitar yn dy boeni di, ond raid iti gael dy boeni gin rwbath heblaw Pitar cyn y medrwn ni dy dderbyn di."
Cyn i William Dafis orffen dywedyd hyn, yr oedd Tomos Bifan hanner y ffordd at y drws, yn mynd gan ysgwyd ei ben fel dyn wedi cael cam, ac yn dal ei ddeheulaw i fyny—a'i het ynddi—gydag osgo oedd yn awgrymu ei fod yn benderfynol o achub ei gam rywbryd, ac wrth basio gwegil Pitar Huws, daliodd ar y cyfle i roi clustan egniol iddo hefo'i het, rhag iddo, ac yntau wedi disgwyl cymaint o gysur yn y seiat, orfod mynd allan oddiyno heb ddim.
Ni fu methiant Tomos Bifan fel ymgeisydd am aelodaeth eglwysig yn ddim help i iachau y teimladau rhyngddo ef a'i gymydog—ond fel arall. Bu mwy o ymeirio rhyngddynt dros y clawdd terfyn. na chynt, a chai Tomos wahoddiad beunydd gan ŵr y Frwynos i frysio i'r seiat.
Gyda threigliad y blynyddoedd, fodd bynnag, a'r rhyfel cartrefol yma o hyd yn parhau, gwnaeth pob un o'r ddau elyn newydd iddo ei hun, a'r un gelyn oedd i'r ddau y darfodedigaeth. Tomos Bifan glafychodd gyntaf, a gwasgwyd ef i'r gongl, ac yn fuan iawn aeth yn rhy wan i felldithio Pitar Huws heb gael rhoi pwys ei benelin ar y pentan. Cyn hir clwyfwyd Pitar Huws, a chlwyfwyd ef yn drymach; cyflymodd ef heibio i'r gongl heb ymdroi fawr ynddi, ac i'w wely. Tymor bwrw ŵyn ydoedd pan oddiweddodd nychdod y ddau, a gadewid y mamogiaid a'r ŵyn bach mewn canlyniad i ymdaro goreu y medrent. Bu farw cryn nifer ohonynt yn ddefaid ac ŵyn—o eisieu cymwynas ac ymgeledd; ond ffynnodd y lliaws yn rhyfedd er gwaethaf pob diffyg gofal. Cafodd cyplau y ddau le lonydd yn awr i ymgymysgu. Gwnaethpwyd y clawdd terfyn yn sathrfa, a throdd yr ŵyn ef yn gymnasium. Prancient yn ddiorffwys ar hyd-ddo, neidient a thwlcient, a dywedent yn groew iawn fod bywyd ar y clawdd terfyn, yn llygad haul, yn felys ac yn werth i oen bach ei fyw.
Ond un diwrnod, pan oedd dau o honynt—oen i Fodrach ac oen i'r Frwynos—yn cyd-chware ar y clawdd, ac yn ymlid eu gilydd i fyny ac i lawr mewn afiaith diniwed, rhuthrasant yn sydyn, ochr yn ochr, trwy fwlch bychan yn y mieri, ac i rwyd fawr a adawsid ar osod yno, mewn angof heb ei chodi, gan rywrai fu'n hela yn y nos. Clodd y rhwyd yn dyn am danynt a daeth eu difyrrwch i ben. Nid oedd yno neb i estyn ymwared iddynt. Yr oedd y ddwy fam yno yn eu gwylio mewn penbleth a phryder; dodent eu trwynau, dan frefu, bob un ar ei heilun ei hun; rhedent i ben y clawdd, brefent yno; i lawr yn ol—brefent drachefn, i ddeisyf help o rywle, ond ni ddaeth neb.
Yn y rhwyd y buont, yn ymladd am ryddid tra daliodd eu nerth, ac yna yn dihoeni. Ni fedrent sugno, a phallodd eu nerth yn fuan; a'r diwedd fu i'r ddau drengi yn y rhwyd. Yr oeddynt wedi hen oeri pan ddaeth y dyn cyntaf heibio—ac ynfytyn oedd hwnnw. 'Roedd gan Wil wirion, fel y gelwid ef, drwydded i gerdded y ffordd y mynnai; croesai gaeau a chloddiau pawb yn ddiwarafun. Os ataliodd ei Grëwr oddiwrtho beth daioni uchelbris, gofalodd am roi iddo yn gyfnewid ryddid aderyn y mynydd yn enedigaeth fraint. Ac efe, wrth grwydro, ddaeth o hyd i'r ŵyn yng nghae y Frwynos. Ar ol cosi ei ben am dipyn uwch eu pennau yn y myfyrdod diy madferth a'i nodweddai ef, gwnaeth goflaid o honynt fel yr oeddynt yn y rhwyd, ac aeth a hwynt i'r Frwynos. Curodd y drws, a daeth llais o'r siamber yn ei wahodd, pwy bynnag oedd, ymlaen yno, ac aeth Wil a'i faich i mewn. Yr oedd Pitar Huws ar ei eistedd yn y gwely. Dododd Wil ei faich i lawr ar lawr y siamber, ac edrychodd ar yr ŵyn ac ar Pitar bob yn ail.
"Lle cest ti rheina?" gofynnai'r claf.
"Wyn," ebe Wil, fel pe buasai arno ofn i syched sydyn Pitar Huws am wybodaeth beri iddo anghofio'r ffaith sylfaenol honno. "Wyn," ebe wedyn.
"Ia ddyliwn, ond lle cest ti nhw?" gofynnai Pitar Huws drachefn.
"Cae," ebe Wil.
Ar hynny clywid swn y gwas yn annos y ci i ddefaid yn y buarth; ac yna daeth i mewn i'r tŷ ac i'r siamber; ac ni chymerodd iddo ef ond ychydig amser i ddehongli'r weledigaeth.
"Rhwyd wedi'i gadael ar y clawdd terfyn heb ei chodi, a nhwtha wedi mynd iddi hi wrth chwara," meddai; "'roedd y ddwy fam—un o ddefaid Bodrach ac un o'n defaid ninna—yn y buarth rwan wedi dwad ar ol Wil."
"Od iawn," ebe Pitar Huws, a syllodd yn hir arnynt; yna gorweddodd yn ol yn y gwely, a'i law ar ei dalcen. Cododd ar ei eistedd drachefn i edrych eilwaith arnynt, ac ymhen ennyd cododd ei lygaid at yr ynfytyn, a dywedodd:
Wil bach, rydw i yn dechra meddwl dy fod titha ym mysg y prophwydi heddyw."
"Wyn," ebe Wil eto, gan bwyntio atynt a'i fys, fel pe i alw Pitar Huws yn ol at y pwnc.
"Ia, ŵyn," ebe'r claf, "oen i Twm Bifan ac oen i minna, wedi marw mewn rhwyd ar y clawdd terfyn;" a thrwy dipyn o anhawster yr ychwanegodd, -'roedd ei wefusau yn awr yn dechreu mynd yn anufudd ac afreolus—"Dameg ydi hi, Wil: Twm Bifan a minna sy yn y rhwyd yna," a gorweddodd yn ol yn y gwely drachefn, a thorrodd i wylo yn hidl.
Pan ddaeth dipyn ato ei hun, dywedodd wrth Wil: "Rhaid iti fynd a nhw i Fodrach i'w dangos i Twm Bifan. Well iti fynd hefo fo, Bob," meddai wrth y gwas. Gwnaeth hwnnw ysgwydd i ymesgusodi oherwydd gwyddai trwy brofiad nad oedd Twm Bifan ddim yn debyg o dorri allan i orfoleddu wrth ei weled ef, ond mynd fu raid.
"A Bob," ebe Pitar Huws pan oeddynt ar gychwyn, "dwad wrth Tomos Bifan mod i'n gofyn iddo fo fadda i mi."
Cychwynnodd y ddau: Wil yn codi celanedd yr ŵyn ar ei ysgwydd yn dyner, fel pe buasent yn cysgu ac yntau yn ofni eu deffro. Gadawodd Bob iddo gerdded yn gyntaf, a dilynai yntau o'r tu ol—nid am ei fod yn rhy uchelfryd i gerdded yn ochr yr ynfytyn, ond am ei fod yn ystyried fod yna ormod o gysegredigrwydd yng nghenhadaeth Wil, yn gystal ag yn ei groen ei hun-iddo ef beryglu pob un o'r ddau trwy ruthro yn anystyriol i wyddfod Twm Bifan. Penderfynodd Bob ei anfon i'w bresenoldeb dan ei faich wrtho'i hun, gan gredu y byddai iddo, ar ol mynd trwy'r gwasanaeth dechreuol, alw arno yntau i gymryd rhan. Felly fu, ac aeth Wil i mewn heb gymaint a churo yn y drws. Yr oedd Tomos Bifan yn y gongl wrth y tân, heb neb yn y tŷ ond efe. 'Roedd y gegin yn llwyd-dywyll, ac yntau yn llonydd; ac onibae iddo besychu gallesid tybio mai un o'r cynddiluwiaid ydoedd, wedi boddi yn daclus yn ei gadair; ond yr oedd trem gyffredinol ar yr ystafell yn ddigon i argyhoeddi dyn na bu erioed gymaint a hynny o ddŵr yn y tŷ, heblaw nad oedd wyneb a dillad y trigiennydd yn debyg i wyneb a dillad dyn wedi trengi trwy gael ei or-olchi.
Dododd Wil ei faich i lawr yma yr un fath ag yn y Frwynos, gyda chymaint seremoni a phe buasai yn gosod carreg sylfaen. Trodd Tomos Bifan, ac edrychodd yn hurt ar yr ŵyn yn y rhwyd, ac yna ar Wil. Gwelsai yr ynfytyn ganwaith; ond heddyw ni fedrai ymysgwyd oddiwrth ryw ofn mai drychiolaeth ydoedd ef a'i faich. Safodd Wil fel delw o'i flaen, cyn llonydded ar y funud a'r ŵyn; eisteddodd yntau fel delw, ond fod ei lygaid—a'i lygaid yn unig yn symud o Wil i'r ŵyn ac o'r ŵyn i Wil. Pan sylweddolodd Wil fod 'sbio a dywedyd dim yn waith a allsai gymryd amser go faith i'w orffen yn iawn, symudodd yr ŵyn fwy i'r aelwyd, ac aeth ac eisteddodd yn y gadair yr ochr arall i'r tân gyferbyn a Tomos Bifan. Ar ol ei osod ei hun i lawr yno yn gyfforddus—ac wrth wneuthur hynny bradychodd dipyn o ddiffyg parch i'r domen ludw oedd yno o'i flaen—nid fod ganddi hawl ar y gadair, ond hi oedd y ground-landlord yn y parthau hynny.
"Wyn," ebe Wil, gan bwyntio a'i fys i'r cyfeiriad. "Myn,"—ond methodd Twm Bifan orffen ei frawddeg, er ei bod yn frawddeg a fedrai'n dda. Syrthiodd yn ol yn ei gadair mewn rhyw hanner llewyg. Ar hynny, daeth Bob, gwas y Frwynos, i mewn.
"Sut yr ydach chi, Tomos Bifan?" ebe Bob. Dadebrodd dipyn wrth glywed llais arall, a throdd i'r cyfeiriad.
"Fu rioed well gin i weld rhywun hanner yn i sens yn dwad i mewn," meddai. "Rydw i bron a marw; hel y penbwl yma a'i bac allan."
"Wyddoch chi hanes yr ŵyn yma, Tomos Bifan?" ebe Bob.
"Na wn i, a 'does gin i ddim isio gwbod," eb yntau.
"O ma na hanes dyddorol iawn i'r rhein," ebe Bob, ac yna aeth ymlaen i'w adrodd, a chafodd wrandawiad astud heb fawr o drafferth. Aeth ymlaen i adrodd eu hanes yn siamber y Frwynos, dehongliad ac edifeirwch Pitar Huws, ac arweiniodd bob yn dipyn at gais ei fistar am faddeuant. Yn ystod yr araith hon gan was y Frwynos apwyntiodd

"Wyn," ebe Wil, gan bwyntio a'i fys i'r cyfeiriad.
Wil ei hun i'r swydd o borthi'r gwasanaeth, a chyflawnodd y gwaith mewn dull priodol iddo'i hun. Pigai ryw air o bob brawddeg a lefarai Bob, a dywedai ef ar ei ol. Soniai gwas y Frwynos am yr ŵyn, "ŵyn," ebe Wil; soniai am y cae lle cafwyd hwynt, cae," ebe Wil; am y rhwyd oedd am danynt, "rhwyd," ebe Wil; ac yn gyffelyb trwy restr faith o eiriau; a phan soniodd Bob am faddeu, 'madda," ebe Wil. Ond, yn rhyfedd, er i Bob siarad ymlaen, glynodd Wil wirion yn y gair madda" fel porthiant drwy weddill y gwasanaeth. Beth bynnag fyddai'r frawddeg, "madda" a geid gan Wil. Yr oedd fel pe buasai'r nefoedd wedi cyffwrdd yn ddistaw a rhywbeth tebyg i repeating stop yn enaid yr ynfytyn; ac hyd yn oed ar ol i Bob orffen ei adroddiad, yr oedd Wil fel pe wedi ei osod, a'i draed ar y domen lludw, i borthi myfyrdodau edifeiriol Tomos Bifan-madda . . . . madda.
Cododd Bob i ymadael, a chododd Wil hefyd i ymadael.. Cymerodd ei faich ar ei ysgwydd, ac aeth y ddau allan mewn distawrwydd, a chaewyd y drws.
Eisteddai Tomos Bifan unwaith eto ar ei ben ei hun yng nghegin Bodrach. Edrychai i'r tân yn syn. Methai gael yr ŵyn o'i feddwl, ac nid oedd siawns iddo ollwng efengyl ddeusill Wil wirion dros gôf, oblegid yr oedd yr hen gloc mawr, yn y distawrwydd ar ol i'r lleill fynd allan, wedi ffansïo y medrai yntau bregethu cystal a Wil ond iddo gael benthyg ei bregeth, a dyna lle 'roedd yn annog, annog, "ma-dda," ma-dda," a hynny mor ddi-daw ac undonog fel y teimlodd Tomos o'r diwedd fod yr efengylydd hwn yn mynd ar ei nerves; a chan nad oedd wedi cael cyfle—oherwydd ei ddieithrwch i lan a chapel—i feithrin amynedd diderfyn y gwrandawr cyson, ni phetrusodd godi i agor drws y pulpud a rhoi ei fys ar dafod y pregethwr—fel y gwnaeth yr apostol ar dafod y gwragedd yn yr eglwysi. Ond nid dibrisdod o'r genadwri a barodd iddo wneuthur hynny. Pa raid celu'r gwir? 'Roedd calon Tomos Bifan yn dechreu toddi'n llyn, ac yr oedd rhediad y llyn dros y clawdd terfyn tua'r Frwynos. Daeth arno frys yn awr am gael gwella digon i fynd i edrych am Pitar Huws.
Cafodd ei ddymuniad; cryfhaodd ddigon i fynd ym mraich Ned i'r Frwynos unwaith—i ffarwelio hefo'i gymydog cyn iddo gychwyn. Llawer gwaith y dechreuodd y gwas bach, yn ddigon llygat- sych, adrodd hanes y ffarwel hwnnw wrth ei gyfoedion, ond deuai yr adroddiad i ben sydyn bob amser yn rhywle yn y canol—i'w barhau yn y nesaf, wedi i'r gawod fynd drosodd. Pan ddeuai Ned at hanes ei fistar yn mynd ar ei liniau wrth erchwyn gwely Pitar Huws, a'i law yn ei law, doi niwl a nos ar ei stori. Yr oedd yn fedrus mewn llawer o bethau, ac yn dafodrydd ddigon, ond fel hanesydd y cymod hwn, er ei fod yr unig awdurdod arno, ni cheid ganddo ond y rhagarweiniad.
Prysurodd Pitar Huws ymaith, a daeth y diwedd yn fuan. Claddwyd ef ym mynwent y plwy. Ymhen tair wythnos bu farw Tomos Bifan, a thorrwyd ei fedd yn ochr bedd ei gymydog. Diwrnod ei angladd, pan ddodid yr elor, a'r arch arno, i lawr gerllaw y bedd agored, syrthiodd ochr y bedd—yr ochr agosaf at fedd Pitar Huws—i mewn, gan ddarn lenwi'r bedd newydd.
"Myn gafr," ebe Ned, yr hwn oedd yn sefyll yn ddefosiynol yn ymyl fel un o'r prif alarwyr, a'i het yn ei law, "Ma helynt y clawdd terfyn yn dechra yn y fan yma eto," ac edrychai yn anghrediniol ar dawelwch ei hen fistar dan y cwrlid du ar yr elor gerllaw. Ond yr oedd rhyfel y clawdd terfyn drosodd, a throsodd cyn i'r ddau noswylio.
Pan ddaeth yr amser i feddwl am feini coffa iddynt, meddyliodd perthynasau'r ddau y carent goffa yr un pryd am y cymod a wnaethpwyd rhyngddynt ar derfyn eu hoes, ac i'r amcan hwnnw penderfynwyd cael un beddfaen da ar ysgwâr y ddau fedd. Cafwyd un felly, ac wedi eu torri arno yr oedd y geiriau canlynol:—
Er cof am
Pitar Huws y Frwynos,
yr hwn a fu farw Mai 2, 1856, yn 63 mlwydd oed.
Hefyd
Tomos Bifan, Bodrach, fu farw Mai 24, 1856, yn 65 mlwydd oed.
Dau gymydog gymodwyd—yn y glyn.
Ar glawdd terfyn bywyd,
Trwy ddau oen prydferth aberthwyd
Er mwyn yr hedd yn rhwymyn rhwyd.
Morus Huws, y Felin

Morus y felin y gelwid Morus Huws gan breswylwyr y fro, a Morus y felin oedd. Y felin oedd ei fyd. Tu mewn i'w muriau hi y treuliai ei holl amser, yn feudwy difyfyrdod, ond hynny o fyfyrdod oedd yn ofynnol i newid y sachau ac i bigo'r meini. Yr oedd mor amddifad o grefydd a'r llygod oedd yn llercian ac yn gwylio eu cyfle yn y parwydydd. Nid oedd nac yn prisio nac yn parchu unrhyw allu uwch na llyn yr argae, yr hwn oedd yn mud-gronni yn adnewyddol erbyn bob bore i fyny'r ceunant. Hwnnw oedd y gallu goruwchnaturiol oedd yn troi cysawd olwynol ei ffurfafen ef, ac ni thalai warogaeth i neb na dim arall. Safai capel o fewn llai na hanner canllath i'r felin, ond ni welid Morus Huws yno hyd yn oed ar ddydd diolchgarwch. A mwy na hynny, ni chynhelid seiat na chyfarfod gweddi yn y capel noson waith na fyddai swn olwynion y felin—"isel swn y malu "—yn cyrraedd hyd at yr allor, ac yn ffurfio islais dwfn i fawl a gweddi'r saint. Ni pharai hynny, fodd bynnag unrhyw aflonyddwch i'r ddiadell. Yr oeddynt wedi dysgu dygymod a rhwnc yr olwyn, a dadwrdd y dŵr wrth ddisgyn i'r llwyau; a phan sylwid arno yn y cysegr, ystyrid ef nid yn gymaint fel cennad Satan i gernodio'r frawdoliaeth, ond fel achwyniad cyhoeddus y felin yn erbyn ei pherchennog am ei absenoldeb, a'i ddieithrwch i'r lle sanctaidd hwnnw. Cai'r felin seibiant ar y Sul; ond codai hynny yn fwy o ofal Morus Huws am ei gwsmeriaeth nag o'i barch i gysegredigrwydd y dydd; oherwydd tra byddai y saint yn ymdrwsio oddiallan â gweddusrwydd, ac oddimewn â gostyngeiddrwydd, ac yn ymgynnull yn finteioedd i'r cysegr, byddai'r melinydd yn yr ystafell nesaf i mewn yn dyfal drwsio sachau.
Ni feddai Morus Huws dŷ ar wahan i'r felin. Yr oedd hynny o glydwch cartref y gwyddai am dano wedi ei grynhoi i gwt cyfyng yng nghefn y felin. Hwn oedd yn cyflenwi ei holl raid yn y ffordd o annedd. Yma yr oedd y tân, y ford, a'r gwely, ynghyd â stol drithroed a mainc—dyna holl ddodrefn y gell. Ac yr oedd dodrefn ystafelloedd ei enaid yn cyfateb. O fewn chwarter milltir i'r felin yr oedd Plas Garthunos, lle trigai Cecil Watkin, Ysw.—boneddwr a thir-feddiannwr cyfoethog. Morus Huws ac yntau oedd yn ffurfio dau begwn gwareiddiad yn y cwmwd. Yr oedd gan y boneddwr blas ardderchog, a chai pob ci oedd ganddo well caban na'r melinydd. Heliwr cadarn ydoedd, a mynych yr ymlidiai 'sgyfarnog neu lwynog o ddol i waun, ac o waun i ffridd er mawr ddifyrrwch iddo ei hun ac i'w gymdeithion. Ond am Morus Huws, yr oedd wedi cau ei hun i fyny mewn cell ddigysur; a pha faint bynnag o'r elfen helwriaethol allasai fod yn ei waed, yr unig hwi a thalihô oedd yn bosibl iddo ef, oedd o'i wely yn y plygain, pan yn 'nelu un o'i glocsia at ambell lygoden fawr fyddai yn ddigon difalch i droi i mewn i gell y meudwy.
Gerllaw y felin tyfai poplysen feindal, union-syth, yn ei ffurf a'i phopeth mor wahanol i breswylydd yr adail odditani. 'Roedd y goeden yn siaradus—ei manddail yn fil o dafodau prysur yn sisial ar ogleisiad lleiaf yr awel, a'i chorff, pan godai'r gwynt, yn siglo gan lawenydd a gorfoledd. Ond trigai Morus Huws yn feudwyaidd a thawedog, a chuwch gwastadol ar ei ael. Ymgladdai o'r golwg yn y felin ac ynddo ei hun; ond sefyll uwch ei ben yn geryddol a wnai'r boplysen ddydd a nos. Safai'r nos yn glochdy lle gallai dyllhuan ddod ar ddamwain i ganu cnul ei thŵ-hŵ uwchben yr adail halogedig. A'r dydd safai yn fys deial, a'i chysgod rhwng bore a hwyr, yn araf gerdded dros y lawnt, dros y felin a'i hanwiredd, ac yn olaf, dros y llyn,—fel i ymlanhau oddiwrth halogrwydd yr adail groesodd rhwng un a thri brydnawn.
Yr unig ddolen gydiol rhwng Morus Huws a'r byd oddiallan oedd Robin Ifan. Robin y gyrrwr y gelwid ef yn gyffredin, oherwydd efe oedd swyddog gorfodol gwedd fulod y felin, yr hon oedd yn trafnidio gydag anwadalwch dianwadal rhwng y felin a gwahanol gyrion yr ardal. Yr oedd pob neges a marsiandiaeth yn cael ei chario ymlaen trwy Robin. Teimlai yntau bwysigrwydd a chyfrifoldeb ei safle fel cennad a chariwr awdurdodedig rhwng Morus Huws a'r holl fyd adnabyddus—iddo ef; ond ystyriai yr un pryd nad oedd y mulod yn ysgrubliaid boddhaol a theilwng o'i lysgenhadaeth, a thybir iddo eu galw yn Jupiter a Mercurius, nid oddiar unrhyw amcanion eilun-addolgar, ond er mwyn urddasoli'r drafnidiaeth. Oherwydd ei gysylltiad agos a'r melinydd, teimlid graddau o'r un diddordeb yn Robin bob dydd o'r flwyddyn ag a deimlir mewn cenhadwr pan ddaw adref ar ol saith mlynedd o wasanaeth. Ystyrid ef, yr un fath a chenhadwr, yng nghyfrinach un o dywyll leoedd y ddaear, ac yr oedd enwau paganaidd y mulod yn ffafrio'r golygiad hwn. Disgwylid ymhob tyddyn lle'r elai am ryw damaid ganddo ynghylch y melinydd, a sicrhai hynny damaid iddo yntau gan wraig dda y tŷ. Byddai galwad cyson am dano hefyd yn yr efail gyda'r nos i roddi portread o Morus, yr hyn a wnai gyda medrusrwydd dihafal. 'Roedd rhywbeth neilltuol ym mhortread Robin yn yr efail. Ni chyfeiriai byth at y melinydd dan ei enw—Morus Huws—ond soniai am dano bob amser fel y "sgweiar." Ni soniai un amser ychwaith am lygod mawr y felin, ond cyfeiriai yn fynych at y "giam acw." A phan ddigwyddai sôn am y lodge, gwyddai y cyfarwydd ymhlith ei wrandawyr mai yr hyn a olygai oedd cwt mochyn ar fin y ffordd yn ymyl y felin. Cyfyngid y dull bonheddig hwn o siarad i'r efail; ac un fantais oddiwrtho oedd nad oedd presenoldeb dieithriaid yn yr efail yn un rhwystr i Robin fynd ymlaen gyda'i berfformiad, gan na ddeallent y termau. Ond ar adegau eraill, pan yn nhyddynnod yr ardal, byddai Robin yn ymostwng i siarad am y melinydd mewn rhyddiaith ddiledryw. Gyda Sian Ellis, er enghraifft, yr hon oedd yn cadw cynulleidfa luosog o ieir, ac felly yn gwsmer cyson i'r felin, byddai Robin yn y rhagolwg am gwpanaid yn ymollwng yn ddilol i fodloni cywreinrwydd Sian berthynas i Morus Huws. Eisteddai Robin dan y fantell fawr hen ffasiwn yn mwynhau mygyn ac yn diddori Sian tra darparai hithau gwpanaid. Gadewid Jupiter a Mercurius i sefyll yn y ffordd, mewn dwys fyfyrdod ar bynnau a phastynnau yn gyffredinol, a symbylau Robin yn neilltuol. Hen wreigan agos i'w lle oedd Sian Ellis, ac er y byddai yn mwynhau gwrando Robin yn portreadu Morus Huws, byddai bob amser, yn ddiarwybod iddi ei hun megis, yn dangos anesmwythder meddwl oherwydd pellter Morus oddiwrth grefydd a'i phethau. Yng nghwrs y blynyddoedd y bu Robin yn mynd i Roslan, nid unwaith na dwywaith y gofynnodd Sian Ellis iddo, gydag acen brofai gywirdeb ei chalon, a fyddai Morus Huws ddim yn sôn rywbeth weithiau am grefydd. Atebai yntau bob amser mewn dull oedd yn dangos mor afreidiol ac afresymol yr ystyriai'r fath gwestiwn. Wfftiai'r syniad, a gwamalai nid wrth fesur wrth sôn am y peth. "Aros di, Robin," ebe Sian Ellis untro, "paid ti a chellwair ar gorn pellter Morus oddiwrth grefydd; mi wn i fod o'n bell, ond mae i bellach o wedi dychwelyd, ac wedi cael croeso i dŷ i dad cyn hyn;" a chydiodd Sian yng nghwr ei ffedog—i sychu ei gwefusau wrth gwrs—ond gwelodd Robin wrth ail-danio ei getyn gysgod congl o'r ffedog ar waith yn uwch i fyny. Bu yn fwy gochelgar ar ol hyn pan ddelai'r cwestiwn hwn gerbron.
Un dydd Gwener, ymhen tipyn o amser ar ol hyn, 'roedd Robin yn mynd ar ei siwrnai arferol heibio Rhoslan, a fu 'rioed ffasiwn ffustio ar Jupiter a Mercurius. Welodd o, er y dydd ganwyd o, y fath ddwy hen falwen ag oedd ganddo y diwrnod hwnnw. Ond codai anfoddogrwydd y gyrrwr, nid o arafwch eithriadol yr asynod, ond o'i frys eithriadol ei hunan. 'Roedd weather glass ysbrydol y felin ar change, ac yr oedd ei frys am gael dweyd hynny wrth Sian Ellis yn dwyn yr ysgrubliaid dan oruchwyliaeth chwerwaf y pastwn. 'Roedd crac yng nghastell annuwioldeb Morus Huws, a thêg oedd i Sian Ellis, fel un o wylwyr cywiraf Seion, gael gwybod am dano yn ddiatreg. Yn y cywair yna y rhagrithiai Robin wrth ei gydwybod fel rheswm am ei frys a'i ddefnydd diarbed o'r onnen. Ond gweledigaeth y ford a'r tebot, ynghydag enllyn yn wobrwy am gludo newydd mor bwysig, a'i gwnai yn fwy ei frys a llai ei amynedd y bore hwnnw nag arferol. "Mae o wedi altro," ebe Robin yn gyntaf peth pan ddaeth Sian i'r drws. "Be wedi altro?" gofynnodd hithau. "Morus Huws," ebe Robin. "Fe soniodd wrtha i echdoe am dano'i hun yn yr Ysgol Sul pan yn hogyn; a neithiwr,—noson seiat,—fe stopiodd y felin chwarter i saith, er i bod hi yn brysurach acw nag arfer." Fe dywalltodd Robin y newydd am ben Sian gyda sydynrwydd annoeth. Fe'i goddiweddwyd hi gan lawenydd a hyfrydwch—yn gymaint felly fel yr anghofiodd gynnyg cwpanaid iddo; a gorfu iddo ymadael y diwrnod hwnnw—diwrnod y brys a'r brasgamu—yn llai ei groeso nag erioed. 'Roedd ei ddolur o golli ei gwpanaid yn anaele, a'i ymson wrth gefnu ar Sian yn bopeth ond Cristionogol. Os mai dylanwad newyddion da o lawenydd mawr ar bobol oedd peri iddyn' nhw anghofio lletygarwch a thebot, 'doedd o, peth siwr iawn oedd o, yn mynd i gario dim chwaneg o honyn' nhw. 'Dasa fo yn ffeindio dwy aden angel yn dechre tyfu o ystlysau Morus, mi gawsa hedeg hefo nhw cyn y brysia fo wedyn i ddweyd wrth Sian na neb arall. Pan oedd Robin yn fawr ei ymdrech, ar air a gweithred, yn ceisio perswadio Jupiter a Mercurius i adael heibio eu myfyrdodau, ac i ysgwyd y llwch oddiwrth eu carnau yn erbyn buarth Rhoslan, digwyddodd Sian Ellis ofyn iddo oedd Nel wedi dechre mynd i'r ysgol. Atebodd Robin dros ei ysgwydd ei bod yn mynd i'r Ysgol Sul, ond ei bod yn treulio y rhan fwyaf o'r wythnos yn y felin gyda Morus Huws. 'Roedd gweinidogaeth yr onnen erbyn hyn yn dechreu dwyn ffrwyth, a'r carnolion yn dechreu symud. Caeodd Sian y drws, ac eisteddodd yn ei chadair. Edrychodd i'r tân yn fyfyrgar, ac yr oedd symudiad ei gwefusau yn cyfateb i ynganiad distaw o ran o'r ail adnod yn yr wythfed Salm.
Geneth Robin Ifan oedd y Nel yr holai Sian Ellis yn ei chylch—geneth fach ddall, bedair oed. Yr oedd yn awr wedi dechreu mynd i'r felin gyda'i thad. Pe buasai Nel wedi gweled y gŵg oedd ar ael Morus Huws y tro cyntaf yr aeth i'r felin, mae yn debyg na fuasai mor daer am gael mynd yno eil-waith. "Ond geneth ddall oedd hi," a mynnodd fynd yno drachefn a thrachefn. 'Roedd yna ryw swyn rhyfedd iddi yn rhu yr olwynion a'r meini, a medrai eistedd i wrando arnyn: am ddarn diwrnod heb flino. Eisteddai y rhan amlaf ar un o'r sachau ŷd yn y gongl. Byddai yno amldra o honynt fel rheol yn cyd-sefyll gyda phob gweddusrwydd; ond cyd-sefyll y byddent. Yr oedd yr un egwyddor fawr Gristionogol mewn grym ymhlith y sachau ag oedd mewn grym ymhlith eu perchenogion hyd yr ardal—meichnïaeth. 'Roedd y naill sach yn "feichia" i'r llall, ac os syrthiai un fe syrthiai'r cwbl. Ond yno y safent—y gair FROST mewn llythyren fras ar y mwyafrif o honynt—yn gynulliad tawedog, costog a hunan-ddigonol, fel cynifer o gynrychiolwyr o 'sguboriau'r fro i Sasiwn y felin. Ar un o'r rhain yr eisteddai Nel oriau meithion lawer gwaith yn yr wythnos, ac yr oedd ei hanwyldeb a'i serchogrwydd yn graddol doddi y rhew oedd yn ysbryd Morus Huws. Cymerai fwy o ddiddordeb ynddi o ddydd i ddydd, a deuai hithau yn fwy

Mynych y gwnai gais am gael ei chodi at bin y blawd, ac ni byddai ei chais un amser yn ofer.
siaradus a rhydd. Mynnai sylw Morus Huws at bopeth oedd ganddi. Weithiau hawliai ei sylw yn sydyn at bar newydd o glocsiau; bryd arall at ei brat glân. Byddai ganddi hefyd yn aml rywbeth yn ei phoced—ril wag, neu degan i'w ddangos. Ond yn amlach na hynny hi dynnai o boced ei chôf ryw gilcyn bach gawsai wrth ford yr Ysgol Sul, ar ffurf adnod newydd neu ddarn o bennill i'w ddangos yn ddengar i Morus Huws; a'r nefoedd yn unig ŵyr sawl tamaid gipiodd yr hen felinydd yng nghythlwng ei enaid o ambell gilcyn felly.
Un peth hoffai yn fawr fyddai cael ei chodi gan Morus Huws i roddi ei llaw dan y pin trwy ba un y disgynnai'r blawd i'r sach. Codai hi i fyny, dodai hithau un llaw am ei wddf a'r llall dan y blawd; ac O!'r boddhad fyddai ar ei hwyneb wrth deimlo y blawd yn disgyn. Byddai tonnau ei llawenydd yn ymlid eu gilydd ar draws ei hwynepryd. Ni flinai Morus Huws yn ei dal, nac yn edrych ar ei hwyneb ieuanc tlws, yr hyn ddygai i'w gôf yr adeg yr arferai yntau fod yng nghanol wynebau tebyg yn yr Ysgol. Sul, dros ddeugain mlynedd yn ol. Daliai Nel ei llaw wrth y pin yn hir. 'Roedd teimlo'r gwlith flawd tyner, cynnes, gogleisiol, yn disgyn, yn llanw ei holl natur fach â llawenydd ac a chân. Mynych y gwnai gais am gael ei chodi at bin y blawd, ac ni byddai ei chais un amser yn ofer; a thalai hithau yn dda iddo am ei gymwynas. Pan gymerai Morus Huws hi ar ei fraich, byddai cyffyrddiad ei gwefusau a'i rudd arw ef fel cusan heulwen ar ia ei anystyriaeth, a

Gofynnodd iddi ddal ei llaw, a dihidlodd yntau y blawd yn raddol arni.
gwasgiad serchog ei braich fach am ei wddf fel cof-leidiad tyner meiriolwynt balmaidd. 'Roedd dylanwad dyrchafol y gymdeithas newydd hon ar y melinydd yn amlwg i bawb.
Ar ol rhai misoedd o fynd a dod i'r felin at Morus Huws, daeth rhyw wywdra sydyn dros Nel, ac awgrymai'r meddyg nad oedd gwellhâd iddi. Y pryd hwn anghofiodd y melinydd ei hun a'i feudwyaeth, ac ai i'r pentref yn gyson i edrych am dani. Holai hithau ef yn fanwl am y felin ac am bin y blawd. Un diwrnod, pan ddaeth i edrych am dani, gofynnodd Nel iddo fynd i'r felin i roi ei law dan y pin yn ei lle hi, a dod yno yn ei ol i ddweyd wrthi sut yr oedd. Cychwynnodd yntau ar unwaith, yn ol ei chais, ond meddiennid ef gan deimladau cymysglyd iawn. Llawer dengwaith yn yr wythnos y rhoddodd ei law dan y pin yn ddigon difeddwl am yn agos i hanner canrif, ond yr oedd cryndod yn ei law wrth ei hestyn ato heddyw—oherwydd llaw dirprwy oedd. Gwnaeth gydwybod i ddal ei law yn hir dan y blawd i edrych deimlai beth o'r cyfaredd oedd ynddo i Nel. Ond na, er fod y blawd yn disgyn fel arfer yn gynnes a thyner, 'roedd llaw Morus Huws yn rhy galed a garw i dderbyn y gogleisiad cyfareddol hwnnw. Gan na fedrai gario mewn geiriau yr argraff ddymunai Nel dderbyn ganddo oddiwrth y pin, meddyliodd y cymerai ddyrnaid ohono iddi i'r ty. Felly y gwnaeth. Daliodd gledr ei law dan y pin am ddyrnaid, a chymerodd ef felly i'r pentref yn gynnes oddiwrth y meini. Gofynnodd iddi ddal ei llaw, a dihidlodd yntau y blawd yn raddol arni, ac nid blawd yn unig ddihidlodd Morus Huws y dydd hwnnw. "Mae mam yn deyd mod i'n mynd i ffwrdd yn bell," meddai Nel, tra roedd y blawd yn disgyn yn ysgafn ar ei llaw, "fydd yno bin blawd, Morus Huws?" "Hwyrach bydd, Nel bach," ebe ei mam yn floesg. "Pwy wneiff y nghodi i ato fo; fyddwch chi yno, Morus Huws?" gofynnai wedyn. Darfu y blawd o'r llaw. Trodd Morus Huws yn sydyn, cuddiodd ei wyneb yn ei ddwylo—dwylo oedd yn wynion gan weddillion y blawd dirprwyol—cerddodd allan gan siglo fel meddwyn, ac wylodd yn chwerw dost.
Bu farw Nel; ac yn ei hangladd hi y gwelwyd Morus Huws yn y capel am y waith gyntaf. Cyn pen nemor amser wedyn gwelid ef yn cyfeirio ei gamre tua'r capel ar nos Iau—noson seiat. Gwyddai pawb am ei gysylltiad â Nel, ac am ddylanwad hynny arno. Aeth Dafydd William, yr hen flaenor, ato i siarad, ond yr oll ddywedodd Morus Huws oedd, "Mae twllwch a dallineb wedi fy nal inna, ond mi leiciwn roi fy llaw dan y pin, os gwnewch chi nghymeryd i yn y'ch breichia." Gwyddai pawb ystyr ei eiriau. Rhoddwyd iddo dderbyniad cynnes, a bu yn aelod hyd ddiwedd ei oes. Gadawodd y gell oedd ganddo yn y felin, a gwnaeth ei gartref gyda Robin Ifan, yn y tŷ a gysegrwyd gan Nel.
Mae Morus Huws a Robin wedi eu hên gasglu at eu tadau. Lle safai'r felin nid oes ond murddyn yn awr; ac o'r olwyn ddŵr, fawr ei thrwst, nid oes ond echel noeth, rydlyd, yn gorffwys ar y treuliau. Ond mae'r boplysen eto'n aros, a'i chysgod yn diflin gerdded fel yn y dyddiau gynt, ond heddyw dros lawnt ddisathr, dros furddyn di-dô, a thros lyn di-ddwfr.

Gelwid y cyfnod hwn yn ei yrfa wythnosol yn "oriau hamddenol Shon Tomos." Tud. 38.
Shon Tomos, Ty Capel

Yr oedd ei dad yn mawrhau yr un gwaith o'i flaen, a bu fyw i fynd yn hen iawn cyn cadw noswyl. Y gred gyffredin oedd mai ei ymlyniad wrth y gwaith o gadw ty capel a'i cadwodd rhag noswylio'n gynt. Efallai fod peth sail i haeriad Twm Ifan y crydd, mai gair yn Llyfr y Datguddiad oedd yn cyfrif am ei gyndynrwydd i 'madael:—"A theml ni welais ynddi," na dim siawns, felly, am dŷ capel, ebe Twm Ifan. Ond pa un bynnag a oedd a fynno gweledigaeth Ioan rywbeth a hwyrfrydigrwydd yr hen geidwad i gychwyn, cychwyn fu raid o'r diwedd; a Shôn ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
Hen lanc pump a deugain oed oedd Shôn pan fu farw ei dad a'i fam; ond priododd yn bur ddilol a diymdroi—nid o gariad nac o gydwybod, ond i wneyd y staff yn gyflawn fel y gweddai i dŷ capel. Ystyriai efe mai cadw ty'r capel oedd gwaith mawr ei fywyd. I hyn yr oedd wedi ei alw, ac wedi ei gymhwyso trwy brentisiaeth deugain mlynedd. Ond danodai'r wraig iddo yn dra mynych a miniog ei fod wedi addaw ei chadw hithau; ac amled oedd yr edliwiadau hyn, fel y cydsyniodd o'r diwedd, er mwyn heddwch a chymdogaeth dda, i gymeryd mwrthwl ac eistedd wrth dwr cerryg ar ochr y ffordd, o bnawn Llun hyd bnawn Sadwrn. Ond oherwydd y demtasiwn anwrthwynebol i ddal pen rheswm i'r fforddolion, a gwrthodiad pendant y mwrthwl i weithio heb Shôn, gelwid y cyfnod hwn yn ei yrfa wythnosol yn "oriau hamddenol " Shôn Tomos.
Heblaw y dyledswyddau arferol sydd yn perthyn i geidwad ty capel, yr oedd yr achos yn talu i Shôn am fwydo, diddosi, a diddanu y pregethwr o nos Sadwrn hyd fore Llun, a theimlai fod hyn yn ychwanegu yn fawr at ei ofalon a'i gyfrifoldeb. Ond nid oedd heb sylweddoli, yr un pryd, fod yr ymwelwyr hyn yn gosod rhyw urddas ychwanegol ar ei gronglwyd. Tybir mai sylweddoli y pwysigrwydd a berthynai i'r ty fel llety'r cenhadon barodd iddo geisio denu ei gymydogion i anghofio yr enw "Ty'r Capel," ac i'w alw enw newydd—
Gwynfa." Ond ofer fu'r cais, a Thy'r Capel" orfu. Buasai'r methiant wedi pasio yn weddol ddi-sylw, ac heb beri nemor flinder na gorthrymder ysbryd i Shôn Tomos, onibai i Guto Pyrs y go ganu cerdd faith ogleisiol i'r amgylchiad, dan y pennawd, "Coll Gwynfa."
Meddai Shôn Tomos wyneb diddorol, yn enwedig cyn i amser a defni parhaus gwraig dipyn yn anynad ei rychu. Llyfn a glân ydoedd, nid am ei fod yn fedrus yn ei ddefnydd o'r ellyn, ond am fod natur wedi rhagweld ei anfedrusrwydd, ac yn garedig wedi arbed iddo y drafferth honno. Ond i wneud iawn, hyd yr oedd yn bosibl, am foelni ei wyneb, gadawai i'w wallt dyfu yn llaes. Ychydig gymesuredd oedd rhwng gwahanol rannau ei wyneb; ond yr oedd gloewder a rhywbeth yn ymylu ar graffter yn ei lygaid—yn enwedig y llygad de. Cawsai ychydig anlwc i'r llall.
Yr oedd un peth nodedig yn perthyn i wisg Shôn Tomos, a gallesid ei adnabod o bell. Byddai ei gôt bob amser yn raenus a dymunol yr olwg: yn briodol ei thoriad, ac yn gymedrol ei thyndra. Ond nid felly ei lodrau. Byddai y rheini yn anghymedrol fawr bob amser. Byddai gormod o'r hanner, beth bynnag, o frethyn yn y dilledyn hwnnw, i orwedd gydag urddas a threfn o amgylch colofnau cynhaliol Shôn; ac yn y crush brethynnol hwnnw yr oedd rhyw anniddigrwydd a drwgdeimlad parhaus rhwng y gwrymiau a'r pantiau—y naill yn hergydio'r llall fel sectau crefyddol, ar hyd y dydd. Codai hyn o lêd neu amgylchedd anghymedrol y dilledyn. Yr oedd hefyd oddeutu pedair modfedd yn rhy hir, ond yr oedd ei breswylydd yn gwarchod rhag un—rhyw ysbryd cwerylgar cyffelyb allasai godi o laester ei lodrau, trwy dorchi tair modfedd, nes gwneuthur white flag heddychol o'r lining. Ond i wneuthur cyfiawnder a Shôn, rhaid egluro pam y mynnai wisgo fel hyn, oherwydd mynnu wnai. Nid llodrau wedi gwasanaethu eu tymor am aelodau breisgach na'r eiddo ef a wisgid ganddo. Nid lloffion oeddynt o dai boneddigion corffol, o'r fath a welir weithiau am segurwyr llipa conglau'r heolydd. Na, 'roedd llodrau Shôn Tomos, yn ogystal a'i gôt a'i wasgod, fel y mynnai efe i'r teiliwr eu gwneuthur. Yr oedd y neilltuolrwydd hwn yn ei wisg yn codi o'i syniad ef am ei rwymedigaeth fel gŵr ty'r capel i ddarparu ar gyfer y pregethwr. Llodrau paratoad oeddynt. Mynych iawn y byddai'r ddrycin yn dal y cennad Sabothol, a rhaid fyddai newid—yn enwedig y llodrau. Yn awr, dyn bychan oedd Shôn, ac yr oedd profiad a sylwadaeth blynyddoedd wedi dysgu iddo fod cyfartaledd da o genhadon hedd, fel o heddgeidwaid, yn wŷr preiffion. Felly dewisai drigo mewn eangder llodrol er mwyn y rhai oedd yn efengylu. Yr oedd Huw Huws y teiliwr yn y gyfrinach, a dyna ystyr ei sylw wrth Guto Pyrs—"'Rydw i yn gwneud siwt bwysig iawn yr wythnos yma. Mae'r gôt a'r wasgod i ffitio corff Shôn, a'r trowsus i ffitio Shôn Gorff." Ceid lle cryf i ameu hefyd nad oedd Shôn yn wrth-wynebol i ddrycin, yn enwedig os byddai pregethwr enwog yn y daith. Fel rheol, ni roddai byth drowsus newydd am dano hyd nes y byddai wedi gwasanaethu i'r perwyl yma ar bregethwr ddaliesid mewn enbydrwydd, a goreu oll os digwyddai fod yn bregethwr Sasiwn, oherwydd edrychai'r perchennog ar y gwasanaeth hwn fel gwasanaeth agoriadol.
Byddai paratoi ar gyfer y Sul, neu yn hytrach, ar gyfer y pregethwr, yn gofyn mwy o ddiwydrwydd o du gŵr y ty capel, ac yn tolli mwy ar ei nerth nag a feddyliai yr ardalwyr. Codai hyn o'i syniad ef am ddyledswyddau gŵr ty capel. Nid glanhâu, rhoddi tân yn y parlwr, a gwneud bwyd oedd yr unig baratoad angenrheidiol ar gyfer dyfodiad pregethwr. Gwyddai Shôn Tomos fod gwedd ysbrydol a gwedd allanol i'r achos mewn ty capel; ac felly paratoai efe ei hun o ran ei ysbryd, a gadawai i Beti wasanaethu byrddau. Yn y cysegr hwn Beti oedd y diacon a Shôn yn weinidog.
Nos Sul, pan fyddai Hugh Rolant yn cyhoeddi, clustfeiniai Shôn am enw pregethwr y Sul dilynol. 'Roedd hyn cyn dyddiau taflen y cyhoeddiadau. Ar ol cael yr enw, rhoddai ryw gyfran bob dydd, o ddechreu'r wythnos hyd y Sadwrn, i feddwl am y pregethwr, ac i gael ei hunan i'r cywair priodol i gyfathrachu â'r gŵr hwnnw, ac i ddal pen rheswm iddo. Nodwedd y pregethwr oedd yn penderfynu nodwedd y paratoad. Os cwmni diddan, doniol, da am stori raenus ddisgwylid, byddai Shôn wedi chwerthin nes dal ei ochrau lawer dengwaith yn ystod yr wythnos rhyngddo ag ef ei hun—mewn rhan yn y rhagolwg ar y donioldeb a'r difyrrwch, ond yn bennaf fel math o baratoad ar gyfer bod yn llestr cyfaddas i'r gŵr parchedig dywallt ffrwyth ei amrywiol ddoniau iddo. O'r tu arall, os gŵr sych ei ysbryd, cwta'i air, ac ocheneidiol ei anadliad gyhoeddid, byddai Shôn yr wythnos honno yn fawr ei drafferth yn gwastrodi pob asbri o'i fewn, ac yn gwneuthur ei hun yn hysb o bob dawn a llithrigrwydd ymadrodd, fel y gallai fod yn gwmni ac yn ymgeledd nid anghymwys i'r gŵr hwnnw drachefn, nos Sadwrn a nos Sul. Weithiau, cyhoeddid un y byddai ei enw led-led y cyfnodolion fel ysgrifennwr, a byddai Shôn am yr wythnos honno yn ddarllenwr dyfal ar ei erthyglau, a gadawai argraff ar yr efengylydd ei fod yn wr o chwaeth dda a gwybodaeth eang.
Yn wyneb paratoad mor gydwybodol ac arbennig, gellir dirnad y penbleth y teflid Shôn iddo gan dorcyhoeddiad sydyn. Ar ol iddo fod am ddyddiau, efallai, yn chwerthin ac yn cynnal ei ystlysau ar gyfer un cymeriad, hwyrach mai cymeriad hollol wahanol ddisgynnai arno nos Sadwrn yn gwbl ddirybudd, ac arweiniai hyn ef yn fynych i brofedigaeth. Ar ol cyfyngu ei hun i un cywair ar hyd yr wythnos, ni fedrai, pe rhoid y byd iddo, drawsgyweirio yn sydyn nos Sadwrn i gywair arall. Pan ddigwyddai cyfnewidiad sydyn o'r fath, cafodd ei hun droion, er ei fawr ofid, yn derbyn atebiad ungair cwta gŵr sychlyd gyda chwerthiniad aflywodraethus, ac yn ei ddyblau. Pan ddeuai ato'i hun, ac ymunioni, a chraffu pwy fyddai yn y gadair ddwyfraich gyferbyn, codai hiraeth angerddol ynddo am y gegin, lle yr ymneilltuai yn ddiatreg i ystyried ei ffyrdd ac i dywallt ei phiolau ar ben y gŵr dorrodd ei gyhoeddiad. Dan amgylchiadau felly byddai Shôn bron yn anobeithio a digaloni, a bygythiai weithiau wrth Beti roddi crefydd a'r ty capel i fyny. Tra yr oedd y pechod ysgeler o dorri cyhoeddiad yn ffynnu cymaint, ac yn dal ei ben mor uchel, teimlai fod yn amhosibl cael graen na llewyrch ar wedd ysbrydol yr achos mewn ty capel. Weithiau, bid siwr, ni wyddai Shôn pwy i'w ddisgwyl at y Sul dilynol, ond byddai yn cyfarfod yr anhawster hwnnw yn weddol ddidramgwydd trwy gymeryd yr wythnos i feithrin math o neutrality yn ei ysbryd.
Nid oedd yr eglwys wedi gweled yn dda ei godi yn flaenor, ond gwelodd Shôn yn dda eistedd yn y sêt fawr ohono ei hun—yr hyn oedd yn dod i'r un peth, i'w deimlad ef. Iddo ef, bod yn y sêt fawr oedd bod yn flaenor. Nid oedd y gwahaniaeth rhwng dyn yn eistedd yno ohono ei hun ac un wedi ei ddewis gan y frawdoliaeth yn apelio o gwbl ato. Ac, yn wir, yr oedd ganddo y peth nesaf i hawlfraint enedigol i fod yn y sêt fawr. Fe'i ganwyd am y pared a hi. Wal ddeunaw modfedd, yn ol Shôn ei hun, oedd rhyngddo a chael ei eni yn flaenor. Oherwydd yr ystyriaethau hyn a'u hadnabyddiaeth ohono, yr oedd yr eglwys a'r swyddogion yn medru dygymod a'i bresenoldeb dan y pulpud. Ond nid hir y bu Shôn yn y sêt fawr na sylweddolodd ei fod wedi gosod ei hun yng ngafael peryglon a themtasiynnau na feddyliodd am danynt. Gwelodd fod ei baratoad arno ei hun fel gŵr ty'r capel i fod yn gwmni i'r pregethwr yn y parlwr nos Sadwrn yn ei anghymwyso ar adegau i wrando fel pechadur yn y sêt fawr ddydd Sul. Pan fyddai pregethwr diddan a doniol yn y daith, âi Shôn, fel y crybwyllwyd, trwy gwrs o baratoad priodol yn ystod yr wythnos ar ei gyfer; a nos Sadwrn, rhwng cyfaredd dawn y pregethwr, a'i barodrwydd yntau i fwynhau a phorthi, byddai yn colli pob llywodraeth arno ei hun yn yr hwyl a'r gorfoledd. Gwawriai'r Sul drannoeth, a phan ddeuai deg o'r gloch, âi'r pregethwr i'r pulpud a Shôn i'r sêt fawr. Ond pan ddechreuai'r pregethwr ar ei bregeth, a phan roddai dipyn o'r ffrwyn i'w ddawn a'i ffraethineb, byddai rhywbeth yn mynd dros lygaid Shôn, ac, ar darawiad, cai ei hun yn y parlwr, ac yna ymollyngai i chwerthin fel ynfytyn, a chollai bob llywodraeth arno ei hun, nes dyrysu'r holl wasanaeth. Digwyddodd hyn droion, fel y bu raid i'r swyddogion feddwl am ei alw i gyfrif. Ond cyn iddynt o fod gwneuthur hynny gwelodd Shôn mai doethineb ynddo fyddai mudo i'w hen sêt yn ol. Yr oedd honno yn y pen pellaf yn ymyl y drws; ac o'r pellter hwnnw yr oedd yn gallu gwrando'r genadwri mewn hunanfeddiant gweddaidd. Ond yr oedd eistedd yn y sêt fawr wyneb yn wyneb ag ambell bregethwr yn peri iddo gymysgu y parlwr a'r cysegr, ac anghofio'r wal ddeunaw modfedd oedd rhyngddynt.
Nid oedd rheolau ty'r capel yn caniatau i Shôn Tomos gadw unrhyw "dda byw," er daed fuasai cael cynnyrch clwyd a chwt i chwyddo tipyn ar enillion prin y twr cerryg. Ffurfiwyd y rheol hon, nid i gadw Shôn rhag ymrwystro gyda negeseuau y bywyd hwn—nid oedd ei hangen i hynny—ond i warchod rhag i amlder doniau yng nghyffiniau y capel oddiallan beri rhwystr i ddoniau yr addolwyr oddimewn. Ond cai Shôn hyfrydwch nid bychan yn torri llythyren y gyfraith trwy achlesu cath a pharrot dan ei gronglwyd. Un o dduwiau Aifft ei hen-lancyddiaeth oedd y gath; ac nid oedd dyfodiad Beti wedi effeithio dim ar ymlyniad Shôn wrth yr eilun hwnnw. Dygwyd y parrot yn anrheg iddo gan gefnder o forwr, ac er fod y ddeddf yn gwahardd da pluog, fe anturiodd ei noddi a'i gadw. Bu yn fawr ei bryder yn y dechreu, a dioddefodd erledigaeth dost yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ol dyfodiad y parrot, oherwydd fod ei iaith ymhell o fod yn gweddu i dŷ capel. Teimlai Shôn ei hunan iasau o euogrwydd yn ei gerdded oherwydd noddi y tramorwr hwn oedd yn peri i barwydydd mor gysegredig adseinio i'w wawchiadau rheglyd. Ar gymhelliad y saint a'r swyddogaeth addawodd ei ystyried fel aelod ar brawf, a'i esgymuno ymhen ysbaid os na byddai yn diwygio, ac yn rhoddi heibio yr "hen ddyn o'r môr." Yr oedd digon o'r athro

Oherwydd yr anystyriaeth a'r rhyfyg diweddaf hwn alltudiodd ef yn ddiymdroi i gwr pella llofft pen y gegin.
yn Shôn i wybod mai'r ffordd oreu i beri iddo. anghofio'r hen dafodiaith oedd trwy ddysgu iddo eiriau newyddion, a dechreuodd ar unwaith ar y gwaith o ddysgu iddo rai o'r prif eiriau cyfundebol—geiriau fel "pregethwr," "
pregethwr," "blaenor," "trysorfa," chasgliad." Dysgodd y parrot y cyfan yn hynod ddidrafferth, a thybiodd Shôn fod ei waith ar ben, a chymeriad ty'r capel wedi ei ddiogelu. Ond cafodd ei siomi yn aruthr. Syrthiodd ty'r capel i fwy gwarth, a Shôn i fwy tristwch nag ar y dechreu. Cymerodd rhyw ysbryd maleisus feddiant o'r parrot a chyfarwyddodd ef i gyplysu ansoddeiriau'r môr wrth brif eiriau'r cyfundeb—ieuad oedd yn peri i wallt llaes Shôn sefyll ar ei ben. Oherwydd yr anystyriaeth a'r rhyfyg diweddaf hwn alltudiodd ef yn ddiymdroi i gwr pella' lloft pen y gegin.
Ar ol treulio amser maith mewn alltudiaeth a chaethiwed aeth yr aflaniaith a'r aflwydd heibio, ac adferwyd y parrot i'w hen gongl. O dipyn beth daeth i gymeryd cryn ddiddordeb yng ngweithrediadau nos Sadwrn. Clywai'r gair pregethwr yn fynych gan Shôn a Beti fel y byddai'r amser yn agoshau; ac wrth eu gweled yn fawr eu prysurdeb a'u ffwdan, ymeflid ynddo yntau gan ysfa ymysgwyd a rhwyfo: ymsiglai ar ei glwyd, curai ei adenydd yn erbyn parwydydd ei wieildy gan waeddi "pregethwr," "pregethwr," a dylanwadai hynny drachefn ar Shôn a Beti, nes eu gwneud yn saith prysurach. Troid y pregethwr, ar ei ddyfodiad, i'r parlwr, ac nid oedd modd i Pol, o neilltuaeth congl y gegin, gael golwg arno: ond cai weled rhan o'r gogoniant, gan y crogid ei het silc ar hoel yn y lobi gyferbyn a drws y gegin, a mawr oedd y diddor—deb gymerai'r parrot ynddi. Ar ol syllu arni am ysbaid yn y ffordd arferol, byddai yn hongian gerfydd ei grafangau yn y cage, ac edrychai arni eto'n fanylach a'i ben i lawr. Yr oedd hwn yn ddull cyffredin ganddo o amrywio'r golygfeydd. Ar ol blino ar unffurfiaeth yr olwg ar Shôn, Beti, a'r gath yn sefyll ar lawr y gegin, byddai yn fynych yn newid yr olygfa yn y dull hwn, a chai'r hyfrydwch amheus o edrych ar lawr y gegin yn gorffwys ar wadnau Shôn, Beti, a'r gath. Gyda'r un manylder ac amrywiaeth ystum y craffai ar het silc y pregethwr.
Er y teimlai'r parrot ddiddordeb yn y paratoadau, byddai rywfodd yn chwerwi yn ei ysbryd ar ol i'r pregethwr gyrraedd, oherwydd y parlwr fyddai popeth wedyn. Gadewid y gegin ac yntau i gymeryd eu siawns, a chyfyngid pob hwyl a rhialtwch i'r parlwr. Teimlai yn eiddigeddus neilltuol at y gath. Byddai hi yn rhydd i fynd a dod i'r parlwr fel y byddai'r ysbryd a'r arogl yn arwain, ond cedwid ef yn garcharor yn ei unfan, a gadewid iddo ddi—ddanu ei hun goreu medrai yn gwrando ar lais dwfn y pregethwr, yn edrych ag un llygad ar yr het silc, neu yn gwylio ystumiau cellweirus ambell gwmwl o fwg baco ddelai ar gyfeiliorn o'r parlwr i'r gegin.
Nid ymollyngai'r parrot i siarad ar unwaith ar ol i'r pregethwr gyrraedd, ond yn raddol douai i deimlo yn fwy rhydd, yn arbennig os digwyddai gael cefn Shôn a Beti, ac nid anfynych y cai hynny. Byddai Beti allan yn negeseua, ac ai Shôn i'r capel i drefnu ar gyfer trannoeth, a gwnai'r parrot y defnydd goreu o'r cyfle. Dyna'r adeg y dialai arnynt am ei gau allan o freintiau'r parlwr, trwy adrodd rhai o gyfrinion yr aelwyd ar goedd mewn llais clir a pharabliad croew. Dechreuai trwy annerch y gath, gan ragrithio mai ei diddori hi fyddai ganddo mewn golwg, ond cadwai ei olwg ar yr het silc, a gofalai am i'w acenion gyrraedd y parlwr. Yn absenoldeb Shôn a Beti, cai'r pregethwr hanes yr achos yn y lle yn fwy cywir a gonest, a hynny mewn hanner dwsin o frawddegau, nag y ceir ef mewn Cyfarfod Misol, er treulio llawer o amser. Brawddegau byrion, neu eiriau unigol, ac weithiau bwyslais arwyddocaol fyddai ganddo, ond medrai'r pregethwr ddeall a deongli'r cwbl yn rhwydd ddigon. Rhywbeth i'r perwyl yma glywai'r gŵr dieithr tra yn mwynhau ei fygyn yn y parlwr:—"Ewch i falu cerryg, Shôn, rhag c'wilydd." . . . "Y gŵr yw pen y wraig, Beti."
"Rhyw gasgliad o hyd." "Y blaenoriaid yna (yn cael ei ddilyn gan ebwch llawn o wawd a diystyrwch). "Codwch o'ch gwely, y diogyn." Druan o Shôn! Ychydig feddyliai, tra'n mwmian canu, "Cudd fy meiau rhag y werin," wrth dynnu'r llwch oddiar lyfrau'r pulpud, fod yr ymadroddwr pennaf yn y ty yr un munud wrthi hi a'i holl egni yn datguddio ei feiau i'r offeiriadaeth. Ond nid oedd dadleniadau'r parrot yn gwneud hoffter y pregethwr o Shôn fymryn yn llai—yn hytrach fel arall. Edrychai pob un o honynt ymlaen at gael treulio Sul dan y nenbren. Rhwng sirioldeb Shôn, medrusrwydd Beti, a gonestrwydd y parrot, yr oedd Ty'r Capel yn ffynhonell llawer o gysur a difyrrwch diniwed i bawb ddelai yno.
Ond daeth yr awr i chwalu'r nyth hwn, fel y chwelir pob nyth yn ei dro. Bu Beti farw—a gwnaeth braidd yn anheg a Shôn yn ei hymadawiad. I wneyd y staff yn gyflawn yr etholodd Shôn hi; ond wrth ei adael, gadawodd fwy bwlch ar ei hol na'r bwlch y galwyd hi i'w lanw. Pa fwlch bynnag wnaeth ei hymadawiad yn y staff, gwnaeth fwlch mwy ym mynwes Shôn, ac ni fynnai ei ddiddanu. Byr fu ei chystudd, ond digon hir i weled Shôn mewn goleuni newydd. 'Roedd Beti wedi arfer ei bwyso yng nghlorian y twr cerryg, ac wedi ei gael bob amser yn brin. Ond daeth clefyd i'r ty—a'i glorian gydag ef: y clorian hwnnw sydd yn pwyso yr iach a'r afiach, ac nid prin mo Shôn pan roed ef yn y clorian. hwn. Er na lwyddodd holl eiriau dreng Beti i beri iddo eistedd gyda dyfalwch wrth ochr y ffordd fawr i falu cerryg, fe'i hoelwyd wrth erchwyn ei gwely gan ei gwaeledd a'i bloesgni, a glynnodd yno ddydd a nos i weini arni tra llithrai i lawr goriwaered ffordd yr holl ddaear.
Cafodd gweddillion Beti eu hebrwng yn barchus gan dorf luosog. Daeth llawer o bregethwyr i'r angladd i ddangos eu parch i'w choffadwriaeth ac i sibrwd ychydig eiriau o gysur a diddanwch wrth Shôn. Dychwelai Shôn o'r fynwent yn fawr ei alar a'i dristwch, ond yn lled sicr yn ei feddwl ei hun fod Beti yn well ei lle. Ond pan o fewn ychydig lathenni i'r ty daeth rhyw ysbryd direidus heibio, a dangosodd yn ddistaw i Shôn fod yna fymryn bach o destyn llawenydd dan blygion y brofedigaeth, gan na fyddai raid iddo falu cerryg mwyach: a'i fod yn dychwelyd, nid o angladd Beti yn unig, ond o angladd y mwrthwl a'r twr cerryg hefyd. Gofidus yw gorfod addef ddarfod i Shôn roddi gradd o groeso i'r syniad newydd hwn, ac mai mewn agwedd meddwl braidd yn iach ac amhriodol i'r amgylchiad y gosododd ei fawd ar glicied y drws, ac yr aeth i mewn i'r ty. Ar bwys yr ochr oleu yma i ymadawiad Beti tarawodd ei het ar yr hoel gyda mwy o rym nag o ras—yn enwedig ac ystyried fod cylch llydan o frethyn du ar yr het: tynnodd gadach ymylddu o'i boccd ac ysgydwodd ef yn egniol, ond mewn dull oedd yn creu amheuaeth o'i gymhellion,—nid oedd modd gwybod i sicrwydd pam yr ysgydwai ef: pa un ai ei ysgwyd i gael y plygion ohono wnai, ynte ei gyhwfanu fel arwydd o ffarwel buddugoliaethus i'r mwrthwl a'r twr cerryg. Ond yr oedd un wedi dal ar yr ymddygiad dieithriol hwn, a phan oedd Shôn yn ymbaratoi i eistedd trwy gasglu lapedi ei got i'w gesail, "Ewch i falu · cerryg Shôn, rhag cwilydd," ebe'r parrot yn llais llym ac awdurdodol yr ymadawedig. Daeth sydynrwydd y llais hwn a Shôn ato ei hun, gan ei ryddhau o afaelion yr yspryd drwg oedd yn ei arwain ar gyfeiliorn dan y brofedigaeth. Sylweddolodd fwy-fwy y golled ar ol Beti, ac ymaflodd galar a hiraeth ynddo gyda nerth adnewyddol.
Ymhen ychydig amser, ar gais y brodyr, symudodd Shôn i dy bychan perthynol i'r achos yr ochr arall i'r ffordd, ar gyfer ty y capel, ac yn hwnnw y treuliodd weddill ei oes. Bu'r parrot ganddo am flynyddoedd, a pharhaodd i adrodd cymhellion ac anogaethau Beti, hwyr a bore, a hanner dydd, ond nid oedd yn peri nemor flinder i Shon. Yr oedd ei gydwybod yn dawel fod rhifedi ei ddyddiau yn gyfryw nad oedd malu cerryg yn ddyled arno mwyach; a medrai wrando gyda gradd o foddhad ar anogaethau dibaid y parrot gan nad oedd dawn orfodol Beti tu cefn iddynt. Trigai yn ddiofal yn ei fwthyn, a'r unig waith gonest gyflawnodd yn ei flynyddoedd olaf oedd beirniadu ei olynydd yn y ty capel gyferbyn.
Teulu Bryn Marian
PENNOD I.
ANGLADD A CHOFFAD.

Tua thri o'r gloch, ymlwybrai cynhebrwng yn araf i lawr llechwedd y fron o Fryn Marian am y fynwent,—yr ydlan y cynhullid ysgubau dynol y fro iddi o 'Roedd Arthur ac Elin wedi bod mewn aml i angladd cyn hyn, ond yng ngodre'r fintai y cerddent bob tro o'r blaen. Nid felly y waith hon—gweddillion eu tad hebryngid. Cerddent heddyw a'u mam rhyngddynt fel prif alarwyr yn y rheng flaenaf—y clwyfedigion o flaen y dianaf—oherwydd dyna drefn arferol byddin y beddau. Bu'r plant yn meddwl lawer tro am angladd eu tad cyn ei ddod. Pa fachgen neu eneth sydd nad ynt, weithiau, a'u rhieni eto'n fyw, yn deffro yn nhrymder nos ac yn wylo yn hidl wrth weld dydd eu harwyl mewn dychymyg? Ond daw cwsg heibio eilwaith i sychu eu dagrau, ac i'w diddyfnu o'u galar. Codant drannoeth at eu chwareuon a'u gwersi mor ysgafn-galon ag erioed. Ond dyma'r dydd drwg hwnnw wedi goddiweddyd plant Bryn Marian. Nid gweledigaeth ddychmygol canol nos, i ddiflannu ar doriad dydd, oedd yr hers a'r dorf heddyw, ond ffeithiau a sylweddau di-wrthdro. Deallai Pero gymaint a hynny; a phan oedd y cynhebrwng yn cychwyn o'r buarth, ymneilltuodd i eistedd ar hen oglawdd, ac oddiyno gwyliai'r orymdaith heb udiad na chyfarthiad; ond methai a'i hesbonio. Medrai ddeall gorymdaith buches o ddeuddeg o wartheg blithion i'r buarth ac o'r buarth fore a hwyr yn eithaf da, a deallai yn well na hynny orymdaith gyr o ddefaid, yn enwedig os byddai arogl crochan pitch a swn gwellcifiau yn yr awyr; ond yr oedd gorymdaith fel hyn o bobl yn araf gerdded mewn distawrwydd i lawr y llechwedd yn fwy nag a fedrai esbonio. Ni wyddai Pero fod y cerbyd du ocdd ar y blaen yn cario ymaith am byth y llaw a lyfasai ganwaith, ac a fu yn gorffwys yn dyner ganwaith ar ei ben—yr arddodiad dwylaw serchog, answyddogol hwnnw, y gŵyr ci ei werth a'i arwyddocad mor dda.
Yn y ty, yn ffenestr y lloft, yr oedd creadur bach arall yn yr un benbleth a Phero, yn methu deongli'r weledigaeth, er fod y forwyn o helaethrwydd ei chalon a'i chydymdeimlad yn gwneud ei goreu i'w hesbonio iddo. Gwilym oedd hwn—plentyn bychan dwyflwydd oed, ar fraich Bet, y forwyn. Pwyntiai'r bychan â'i fys i gyfeiriad y dorf ddu, gan edrych i lygad Bet am ddehongliad, a cheisiai hithau egluro, ond yr oedd ei hesboniad yn glynu yn ei gwddf. A phan lwyddai i siarad yn weddol groew, ni pharai'r genadwri i Gwilym ochain na rhwygo ei ddillad. Yr oedd wedi ei amdoi yn y wisg amddiffynnol honno a ddyry natur am bob un o'i oedran tyner ef, ac yr oedd picellau'r brofedigaeth yn disgyn yn ddiniwed i'r llawr. Yn unig dysgai gysylltu marw " a "twll-du" â'r gair "tada" dan addysg Bet, ond geiriau anghyfiaith oeddynt er y. cwbl iddo ef. Ni theimlai ddim o'r brofedigaeth, ond hynny adlewyrchid i'w fron fach oddiar wyneb drylliog a gruddiau lleithion Bet.
Ond tra 'roedd Pero a Gwilym—y naill trwy naturiaeth a'r llall trwy anaddfedrwydd—yn osgoi grym y ddrycin, 'roedd Arthur ac Elin a'u mam yn gwbl ddigysgod. Deunaw oed oedd Arthur, ac Elin yn un-ar-bymtheg—yr oedran pan mae saeth profedigaeth yn suddo ddyfnaf. Glynai'r ddau, o boptu i'w mam, fel pe buasai arnynt ofn i gennad ei chyrchu hithau.
With ddod o'r cae isaf i'r briffordd yr oedd afon i'w chroesi. Ar gyfer cerbydau yr oedd rhyd, a phompren gul i'r gŵyr traed. 'Roedd rhaid i'r dorf groesi hon bob yn un, ac 'roedd yr olygfa yn un awgrymiadol mewn cynhebrwng. Aeth mwy o amrywiaeth cymeriadau dros y bompren mewn deng munud y diwrnod hwnnw nag aethai drosti mewn pum mlynedd. Yr oedd hen ac ifanc, tlawd a chyfoethog, yn ei chroesi. Cerddai yr henwr drosti yn wargam, a'i bwys yn drwm ar y canllaw; ai'r bachgen ifanc yntau ar hyd-ddi heb fawr feddwl am ganllaw na dim arall i ymgynnal wrtho. 'Roedd y gwr cyfoethog graenus yn croesi, ac wrth ei gwt hen wreigan dlawd a'i holl swcwr ym mhau wythnosol y plwy'. Tarawodd nodwedd arwyddluniol yr olygfa feddwl yr hen flaenor, William Dafis. Dyna oedd ystyr ei ddywediad wrth aros ei dro i groesi—
"Bob yn un y rhaid i ni fynd, ynte?" "Ie, bob yn un," meddai wedyn, mewn tôn a llais oedd yn dangos fod ei feddwl ef wedi mynd oddiwrth afon Collen at afon arall yr afon yr oedd Dafydd Ifan tu hwnt iddi.
O dan y bompren yr oedd gloewlyn, a byd arall i'w weld ynddo—mewn adlewyrchiad. 'Roedd yn nwfn y llyn hefyd bompren i'w gweled—o chwith—a mintai angladdol yn ei chroesi hithau, a thu hwnt i'r fintai honno yr oedd glasnef. Rhwng y ddeufyd yr oedd y brithylliaid yn chwarae yn eu byd bach eu hunain—y byd digynhebrwng hwnnw—ond cynhebrwng bywyd pan fo'n amser ymgladdu.
Tra 'roedd y cynhebrwng yn ymlwybro ymlaen yn araf, safai William Wmffra yn y fynwent a'i bwys ar ben ei raw. Torasai yr hen wr aml i fedd yn y fynwent, oherwydd efe fyddai yn darparu llety hirnos i'r holl fforddolion a syrthiai i'r trymgwsg olaf hwnnw yn y fro. Yr oedd wedi gwneud hyn am ddeng mlynedd ar hugain yn ddifwlch. Bedd gan William Wmffra oedd yr unig beth a ddarperid yn brydlon a disiom yn y cwmwd. Byddai teiliwr a chrydd yn oedi addewid. Soniai Edward Rolant, y teiliwr, lawer ar ei liniau am dynnu yn rhaffau yr addewidion, a hynnodd yr hen Gristion ynddynt am ei fywyd, 'does neb a wâd. Ond mae lle i gredu fod Ifan Ifan, y crydd, ac yntau yn credu mai pethau i dynnu ynddynt oedd addewidion, oher—wydd yr oedd cwsmeriaid y ddau yn gorfod tynnu yn hir gyda dyfalwch wythnosol yn rhaff rhyw addewid cyn y deuai siwt na phâr o esgidiau. Ond siomodd William Wmffra neb am fedd yn ystod y deng mlynedd ar hugain. Ni fu raid iddo ddweyd, "Ddim yn barod," gymaint ag unwaith, er y bu raid i gydwybod onest yr hen wr sibrwd geiriau felly am gyflwr aml un a roddodd i orwedd yn y bedd a gloddiasai. Ac un o'r rheini oedd ar ei ffordd i'r bedd newydd. Safai yr hen wr yn awr a'i bwys ar ei raw, wedi gorffen y gwaith.
"Rhed i edrach weli di nhw yn dwad, Bob," ebe fe wrth lefnyn o fachgen oedd wedi bod yn ei gynorthwyo.
"Na, 'dydyn' nhw ddim yn y golwg," ebe Bob, pan ddaeth yn ei ol. Yna aeth yr hen wr ymlaen, gan siarad mewn rhan wrtho ei hun, ac mewn rhan wrth Bob,—
"Ma'n syn iawn gin i feddwl fod Dafydd Ifan ar 'i ffordd i'r fan yma heddyw. Mi fum i'n gweini saith mlynedd ym Mryn Marian, a dydio ond fel doe gin i gofio mai'r gwaith cynta' ges i 'neud oedd rhedeg ar ffrwst i nol y doctor i dderbyn Dafydd i'r byd; a dyma finna heddyw yn mynd i'w dderbyn o i'r bedd. Fel doe, ac eto mae deugian mlynedd wedi pasio. Llawer gwaith y bu nhroed i ar gamfa'r crud yn siglo iddo fo. A phan dyfodd yn grwtyn pump a chwech oed, mi ganlynodd lawer arna' i, yn enwedig pan fyddwn i yn 'redig. Byddai yn meddwl y byd o gael cerdded y gŵys o mlaen i rhwng cyrn yr arad; ond 'chydig feddylies i y pryd hwnnw y basa' fo yn mynnu mynd o mlaen i hyd y gŵys ydw' i wedi agor heddyw. A mynnu mae o wedi 'neud. Mae o ar 'i ffordd yma am 'i fod o wedi difa 'i fywyd yn y dafarn yna. Ond rhaid pasio'r Swan heddyw. Nid oddiwrth 'i dad y dysgodd o lymeitian. Un o'r dynion cywira a duwiola yn y wlad oedd Huw Ifan. 'Doedd o byth yn rhy brysur i gadw dyledswydd, ac yno y ces inna ngorfodi i ddechra, a Dafydd bach, yn grwtyn pedair oed, gariodd y Beibl i mi y tro cynta' o law 'i fam, a fedres i mo'i wrthod o. 'Doedd Sian Ifan fawr o feddwl pan yn edrach arno fo yn croesi llawr y gegin ata' i dan faich Gair yr Arglwydd—a thipyn o faich oedd hen Feibl mawr Bryn Marian iddo fo y pryd hwnnw—y basa' ei heilun bach melynwallt ym medd y meddwyn yn ddeugian oed. Mi fum i—
Dyma nhw," ebe Bob.
Safodd yr hers wrth lidiart y fynwent. Dyma'r porth y deuai hi ato o bob pererindod i gael ei baich i lawr. Dodwyd yr arch ar elor, a'r cwrlid du drosti, a chariodd pedwar y baich trwy'r fynwent i'r capel. Gosodwyd y gweddillion i lawr gyda gofal ar y llecyn cysegredig hwnnw lle yr arferid cynnull y plant at ei gilydd i ddweyd adnodau, a'r lle safasai Dafydd Ifan ganwaith gynt yn rheng ei gyfoedion i ddweyd ei adnod a phennau'r bregeth.
Ond yr oedd blynyddoedd wedi pasio er pan .fu Dafydd Ifan tu mewn i furiau'r cysegr. Lle safasai gan-waith i adrodd y testun, gorweddai heddyw dan y cwrlid du yn destun a phregeth ei hun.
Gwnaed coffad am Ddafydd Ifan, ond nid yn y seiat. Noson yr angladd, eisteddai cwmni lluosog o ddiotwyr ac oferwyr yng nghegin y Swan, fel arfer; ond, er lluosoced y cwmni, yr oedd yn y gongl un gadair wâg—cadair Dafydd Ifan. Dymunai Mr. Morgan, gŵr y ty, i hon fod yn wâg am y noswaith honno o barch i goffadwriaeth ei hen gyfaill. "Y gadair ddwyfraich yna," meddai, "oedd 'i gadair o bob amser. Llawer awr dreuliodd o ynddi. Caiff fod yn wâg heno o barch i'w goffadwriaeth."
Cydsyniodd pawb âg awgrym gŵr y ty. Cadwyd y gadair yn wâg, a bu peth ust a gosteg yn y fangre honno am ysbaid byr ym min y nos. Dechreuwyd coffau am dano gyda chryn lawer o dynerwch a theimlad; ac yr oedd gwers y dydd yn peri i'r rhan fwyaf o'r cwmni alw am eu diod yn llechwraidd a distŵr. Ond wrth goffau ac yfed, yfed a choffau, fe ddirywiodd coffad y cwmni am dano, fel y dirywiodd Dafydd Ifan ei hun dan ddylanwad y ddiod. Ym medd y meddwyn y dodwyd Dafydd Ifan—un fu unwaith yn dyner ac anwyl yng ngolwg ei fam. Daeth ei goffad yng nghegin y Swan i ddiwedd. cyffelyb. Cychwynnodd yn dyner a theimladwy, ond terfynodd cyn amser troi allan mewn llwon a rhegfeydd. Trodd cegin y Swan ei fywyd, a bywyd ei deulu, yn chwerwder chwerw; a noson yr angladd, i orffen ei budr-waith, hi drodd ei goffadwriaeth yn rhêg.
Mewn cegin arall, yr un noswaith, eisteddai cwmni bychan o dri. Nid oedd yno grechwen na thincian gwydrau, ond yr oedd yno hefyd gadair wâg. Nid oddiar ddymuniad ffugiol neb y cedwid hi felly. Bu yn wâg lawer noson cyn hyn pan fyddai Dafydd Ifan yn eistedd yng nghadair y Swan, ond ni fu mor wâg na fyddai y cwmni yn clustfeinio am swn troed ar y palmant. Llawer ymdrôdd yn y gyfeddach, ond gwyddai'r tri mai nid ymdroi yr oedd heno, ac nad oedd wiw ei ddisgwyl mwy. Eisteddent ar yr aelwyd heb siarad nemawr â'i gilydd. 'Roedd rhywbeth yn eu hanadliad a'u hystum oedd yn peri i Pero gerdded yn ddiorffwys o'r naill i'r llall—mewn rhan i swlffa anwes, ac mewn rhan i geisio dal y gyfrinach. Ond er iddo osod ei ben megis mewn cydymdeimlad ar lin pob un ohonynt yn ei dro, yr oedd gagendor anrhamwyadwy rhyngddo â hwynt. 'Roedd Gwilym yn ei wely ers oriau, ac wedi gwenu llawer drwy ei hun wrth chwarae eilwaith â'i deganau yn y fro ledrithriol honno.
"Arthur, machgen i, well i ti fynd i gadw. Mae hi'n mynd yn hwyr. Mi awn ni i gyd." A goleuodd Gwen Ifan y canhwyllau.
"Nos dawch, mam."
"Nos dawch, 'y mhlant i." Ac aeth pawb i'w ystafell.
Aeth y fam i'w hystafell at Gwilym. 'Roedd y gŵr bach wedi rhwyfo ar ol rhith rhyw degan, nes yr oedd wrth ben dibyn yr erchwyn. Ond cafodd ei gwch bach angori yn ddiogel ym mynwes ei fam am y gweddill o'r nos. Oddiallan
"Disgynnai'r glaw, a gwynt y nos
Dramwyai drumiau'r wlad,"
ac yr oedd ei chwiban dolefus yn crwydro o amgylch Bryn Marian gan ymdroi mewn ffenestr a drws. Yn y fynwent, siglai ywen ddu ganghennog, gan suo'n freuddwydiol uwchben gweddillion Dafydd Ifan fel yr ychwanegiad diweddaf at ei theula lluosog.
PENNOD II.
SUL A BLODAU.

"Dada," meddai, gan edrych yn ymofyngar i gyfeiriad ei fam.
Cymerodd hithau ef, gan ei wasgu i'w mynwes, a dywedodd,—
"Dada wedi mynd i ffwrdd."
"Twll du?" gofynnai'r bychan wedyn, fel yr oedd y cof am weithrediadau y diwrnod cynt yn deffro.
"Ie, nghariad i," ebe hithau, gan ei gusanu drachefn.
"Dada bach twll du," ebe yntau, mewn llais galarus, a'i wefusau bychain yn ddrych o dosturi. Eisteddai am foment mewn dwys ystyriaeth. Cymerai greddf y chwarae afael ynddo drachefn; codai ar ei draed, safai ar y gobennydd, ac ymdaflai, fel dyn yn ymdrochi, i blygion y dillad, a chymysgai iaith gofid a galar â'i afiaith diniwed.
Pan oedd Gwilym rhwng tywyll a goleu yn ceisio olrhain y patrwm ar y cwrlid â'i fŷs, ac yn chwerthin rhyngddo âg ef ei hun wrth fethu, yr oedd ei fam hithau ar ddihun yn ceisio olrhain y patrwm ar gwrlid arall—hen gwrlid rhagluniaeth, a'i batrwm troellog, ac yn torri i wylo wrth fethu. Nid y wawr oedd yn torri heddyw a daflai oleuni ar y patrwm hwnnw, er mai gwawr Saboth ydoedd. 'Roedd raid i Gwen Ifan, fel i aml un arall, aros i wawr y Saboth tragwyddol dorri cyn y medrai olrhain y patrwm hwnnw. 'Roedd diluw y dydd yn awr yn dechreu gorlifo y wlad, ac yr oedd y gwartheg blithion yn y cae dan y ty yn erfyn gyda phob taerineb am i Bet a Wil frysio hefo'u cunogau. Yr oeddynt wedi brefu nes diflasu ar eu sŵn eu hunain—pob un ohonynt a'i phwrs yn orlawn, ac wedi bod yn erfyn ers rhai oriau am i rywun ddod i dderbyn eu cynnwys. Byddai eu taerineb yn fwy ar fore Sul, am y byddai eu baich yn drymach. Godrid braidd yn gynarach nag arfer ar bnawn Sadwrn, er mwyn cael amser at orchwylion eraill; a rhedai yn hwyrach nag arfer ar fore Sul.
Agorodd Wil y llidiart, ac aeth pob un o'r gwartheg yn ddiymdroi i'w lle ei hun yn y beudy. Erbyn i Wil orffen eu rhwymo, yr oedd Bet wedi cyrraedd gyda'r llestri godro. Ar ol iddi gyfarch gwell i Wil, trwy ddweyd ei fod heb ddeffro yn iawn, ac iddo yntau nodi cynifer o'i rhagoriaethau hithau ag a fedrai gofio ar y funud, cymerodd y ddau bob un ei 'stol a'i 'stên, gan ddechreu, un ymhob cwr i'r beudy, a godro i gyfarfod ei gilydd. 'Roedd hon yn hen ddefod, ac yn hen ddefod fuddiol iawn. Mae'n debyg mai y rheswm am dani oedd na fedrai y gwas bach a'r forwyn, neu pwy bynnag fyddai yn godro, ddim 'sgwrsio yn hwylus, nes byddent bron ar ben, ac wedi dod at y ddwy fuwch yn ymyl ei gilydd yn y canol.
Pan ddaethant o fewn cyrraedd siarad,—
"Wil!" gwaeddai Bet—'roedd raid siarad yn weddol uchel hyd yn oed yn awr, gan fod y llaeth yn trystio wrth bistyllio—" Oedd yna lawer yn y fynwent ddoe?"
"Oedd, fwy na chymin ddwywaith ag oedd wrth y ty yma," ebe Wil.
"Oedd yno floda' wedi eu danfon gan rywun ?" "'Roedd Mr. Jones y Shop wedi gyrru torch, a Mr. Ellis, Bronfedw; ond Mr. Morgan y Swan oedd wedi gyrru y fwya' a'r ora' ohonyn nhw."
"Pwy ddywedest ti yrrodd y fwya'," gofynnai Bet, gan ollwng y tethau.
"Gŵr y Swan," ebe Wil; "hi oedd y neisia o lawer."
"Neisia, wir!" ebe Bet, "mi fasa'n llawer neisiach iddo fo adael y bloda' i wywo lle tyfson nhw. 'Doedd gynno fo, beth bynnag, ddim busnes i roi bloda' ar fedd mistar."
"Pa'm?"
"Pa'm? Mi gwelodd nhad 'o yn troi mistar dros y drws dair wythnos i neithiwr yn feddw, ac yn rhoi hergwd iddo fo nes oedd o ar 'i hyd yn y baw, ac yn 'i adael o yno, ac yna yn cau y drws yn glyd arno 'i hun yn y ty. Os nad oedd gynno fo barch i mistar yn y baw, mi elli fod yn bur siwr nad oes gynno fo fawr o barch iddo fo yn y bedd." "Torch o gelwydd," ebe hi drachefn, gan ail ddechreu godro.
"'Roedd y bloda' yn edrach yn dda iawn ar y bedd, beth bynnag," ebe Wil. ('Roedd Wil, rhyw bythefnos cyn hyn, wedi cael swllt a glasiad o gwrw gan Mr. Morgan am yrru bustach iddo adre' o'r ffair).
"Oeddan, mae'n debyg; edrach yn rhy dda braidd i feddwl pwy oedd wedi'i hanfon nhw. 'Dasa dipyn o blwc ynnot ti, mi faset wedi stelcian yn y fynwent tan ai pawb oddiyno, gael iti thaflu hi dros y gwrych i'r afon."
"Nid ar Mr. Morgan mae yr holl fai am bob dyn sy'n troi allan o'r Swan yn feddw," ebe Wil.
"Mi wn i hynny," ebe'r forwyn; "mi wn i gystal ag undyn fod mistar ar fai fod yn ymdroi ac yn yfed yn y Swan o hyd; ond fasa mistar 'i hun byth yn gwirioni dyn â diod, ac yn 'i daflu o i'r ffos yn ddiseremoni ar amser cau. Bloda' o'r Swan ar 'i fedd o wir! Mi fase'r priddyn coch, heb flodyn o'r fangre honno ar i gyfyl 'o, yn gorffwys yn 'sgafnach, ar weddillion mistar; a mae'n syn gen' 'i na fasa fo'n gorffwys yn 'sgafnach ar gydwybod Mr. Morgan."
"Twt, 'rwyt ti'n rhy benboeth," ebe Wil; a pheth arall, mi welodd mistres y dorch floda' yn cael 'i rhoi ar y bedd gan wr y Swan."
"Fasa ti ddim yn disgwyl iddi hi wneud helynt wrth y bedd? ond mi wn beth oedd 'i theimlad hi heb iddi ddweyd wrtha 'i; a mae yn syn iawn gen' i os caiff y bloda' lonydd yno."
"Mae yn well iddi hi adael llonydd iddyn' nhw; mi fyddan' wedi gwywo cyn hir."
"Daswn i yn 'i lle hi fasan' nhw ddim yn cael llonydd."
"Dasa ti yn 'i lle hi, ac yn gwybod yr hyn wn i, mi fasa'r bloda' yn cael eitha' llonydd gen' ti."
"Be' wyt ti'n feddwl?"
Meddwl 'rydw i, daset ti yn gwrando y 'sgwrs glywes i neithiwr, y cawsai'r bloda' lonydd gin tithau."
"Sgwrs pwy?" gofynnai Bet, gan ollwng y tethau drachefn.
"John Evans, yr Allt, a Mr. Jones, Shop. 'Roedd John Evans yn deyd y medrai Mr. Morgan fynd a bron bopeth sy' yma,—mae gynno fo yn agos i dri chant o bunnau ar y stoc, a 'dwyr mistres ddim byd am y peth. Felly 'roeddan nhw yn sicrhau."
"Ie, dyna hi eto, mae mor debyg o fod yn wir a dim;" a buasai Bet wedi dechreu crio oni bai i un o'r gwartheg gymeryd rhan yn y ddadl, a llorio Wil.
Teimlai Mwynig fod Wil yn tynnu braidd yn ddibris yn ei thethau yn hongian wrthynt yn hytrach nag yn godro, ac yn 'sgwrsio ar y mwya',—ac fel gwrthdystiad, rhoddodd gic mileinig i'r 'stên; rhoddodd y 'stên hergwd i'r 'stol; rhoddodd y 'stol sbonc ddirybudd, heb ymgynghori dim â Wil, a phan drodd Bet ei phen i edrych ar y weledigaeth, 'roedd y gwas bach a'i wadnau i fyny yn y llwybr llaethog, ac yn traddodi araith ddifyfyr fwy hyawdl nag oedd o weddus. Gresynnai Bet weld y llaeth yn llifo, ond yr oedd gweld tymer Wil yn llifo hefo'r llaeth, a'r llaethwr ei hun yn eistedd megis ar y llifeiriant, yn ormod o dreth ar ei natur, a gorfod iddi roi ei 'stên i lawr er mwyn iddi gael dwy law i ymgynnal.
Y munud nesaf, cofiodd Bet mai arni hi yr oedd cyfrifoldeb y godro, a gwnaeth osgo i ddifrifoli, a meddai mewn llais dipyn yn geryddol,—
"Sut yn y byd y buost ti mor ddilun, Wil? Colli llond 'stên o laeth da! Mae'n gwilydd iti. Edrych ar dy ddillad. Gorffen ditial gael iti fynd i lanhau dy hun. A chofia mai Sul ydi hi. 'Does fawr o amser tan fydd raid i ni hwylio i'r capel."
Tuag ugain munud cyn deg, gwelid Gwen Ifan ac Elin yn cychwyn i'r capel, a'u gwisg—gwisgoedd galar—cyn ddued ag eiddo y brain di-ŵyl a di-alar oedd yn crawcian yn y coed tu cefn i'r ty. Yr oedd y fam oddeutu deugain oed, ac ystyrrid hi gan bawb yn wraig o gynheddfau cryfion, ac o gymeriad cywir a dianwadal. Nid oedd yn enedigol o'r fro, ond hannai o hen deulu parchus dros y drum. Pan ddaeth yn wraig i Fryn Marian nid oedd ond newydd adael ugain oed. 'Roedd Dafydd Ifan yn ddyn ifanc tyner a charedig, a hoffus gan bawb, ond yr oedd ymhell o fod yn ddirwestwr y pryd hwnnw. Yn cerdded gyda hi yr oedd Elin, ei hunig ferch, yn ddwy ar bymtheg oed. Mewn distawrwydd y cerddent. Pan oeddynt yn pasio yr eglwys, dechreuodd y clychau ganu—tair cloch, a thinc hiraethus ynddynt. Torrodd Elin i wylo—ni wyddai yn iawn pam. Yr oedd wedi ei magu yn sŵn mesmeiriol hen glychau y llan, a chyffyrddodd hwnnw heddyw â rhyw brofiad newydd yn ei mynwes.
Ymhen tipyn ar ol iddynt basio yr eglwys, a chyfarfod ambell i eglwyswr yn mynd i'r gwasanaeth—ychydig iawn oeddynt yn yr ardal—daeth Mr. Morgan y Swan i'w cyfarfod, yntau ar ei ffordd i'r eglwys.
"Bore da, Mrs. Evans," ebe Mr. Morgan, "sut yr ydach chi? Mae yn ddrwg iawn gen' 'i am y'ch profedigaeth chi. Os medra' i wneud rhyw-beth i'ch helpio, mi fydd yn bleser mawr gin 'i wneud hynny."
"Diolch i chi, Mr. Morgan," ebe hithau, "'does gen' 'i ddim eisiau dim;" a cherddodd ymlaen yn lled ddisgwrs.
Ar ol mynd ychydig gamau, safodd yn sydyn, a galwodd ar Mr. Morgan, ac aeth yn ol i'w gyfarfod, a dywedodd dan ei llais heb i Elin ei chlywed,—"Mae gen' 'i un cais i'w wneud atoch chi."
"Ar bob cyfrif, Mrs. Evans," ebe yntau. Byddwch gystal a chymeryd y wreath roisoch chi ar fedd Dafydd ddoe i ffwrdd."
Cerddodd y weddw ymlaen, ac ni chafodd y tafarnwr gyfle i ofyn cwestiwn, ac y mae yn debyg na roddodd ei gydwybod unrhyw gefnogaeth iddo i ofyn un.
Cyrhaeddodd y ddwy at lidiart y fynwent. Safai y capel yn y cwr pellaf iddi. Wrth gerdded drwy y fynwent i'r capel, pasient y bedd o fewn rhyw bum llath. Edrychai Elin ar y dorch honno yn arbennig.
"O, 'drychwch mor dlws ydi torch Mr. Morgan," ebe hi.
Aeth y ddwy i mewn i'r cysegr. Torch o flodau tlysion o ardd y Swan oedd ar feddwl Elin; yr un dorch oedd ar feddwl ei mam, ond ei bod yn ei dychymyg hi wedi ymffurfio yn sarff dorchog.
Aeth Gwen Ifan i'r cysegr y bore hwnnw gydag offrwm o lidiowgrwydd, ac edrychodd y nefoedd ar Gwen Ifan ac ar ei hoffrwm.
*****
"Ydi dy fam yn mynd i aros adre' heno, Elin?" gofynnai Beti Huws i Elin pan oedd yn mynd o'r ysgol yn y pnawn.
"Ydi, 'rwy'n meddwl," ebe hithau.
"Dywed wrthi hi," ebe'r hen wraig, "y do' 'i acw yn gwmni iddi hi."
Gwreigan weddw oedd Beti Huws, ac un a gawsai fwy na chyffredin o brofedigaethau y byd.
Pan oedd clychau yr eglwys yn galw i wasanaeth yr hwyr, 'roedd Beti Huws yn camu dros drothwy ei bwthyn, ac yn cyfeirio ei chamre tua Bryn Marian. Pan oedd hi yn y cae dan y ty, 'roedd Elin a'r gwas a'r forwyn yn ei chyfarfod yn mynd i'r capel. Aeth i mewn i'r ty heb guro, oherwydd yr oedd Gwen Ifan yn disgwyl am dani, ac nid oedd curo drws yn arferiad rhwng cymdogion ar delerau cyfeillgar â'i gilydd.
"'Roeddwn i yn meddwl fod yn rheitiach i mi ddod yma yn gwmni i chi, Gwen, na mynd i'r capel heno," ebe Beti Huws ar ol agor y drws.
"Dowch ymlaen, Beti," ebe Gwen Ifan, "'rydach chi yn garedig iawn."
Eisteddodd y ddwy un o boptu'r tan i 'sgwrsio. Gwraig radlon a charedig oedd Beti Huws, ac un a chanddi gryn lawer i'w ddweyd ymhob man, ond yn y seiat. Byddai ysbryd mud, ond perffaith Gristionogol, yn ei meddiannu yno. Ni ddywedai air of brofiad, ac ni cheid ganddi gymaint ag adnod. Yr oedd yn haws ganddi aros ar ei thraed am dridiau a theirnos, heb roddi hûn i'w hamrantau, i weini ar un o'i chyd-fforddolion yn rhydiau yr afon, nag adrodd yr adnod leiaf yn y seiat.
Yr oedd Beti Huws yn un o'r rhai cymhwysaf i fynd i Fryn Marian i warchod gyda Gwen Ifan. Yr oedd yn berffaith iach ei chalon, ond iechyd creithiog ydoedd,—iechyd a dioddefaint y tu cefn iddo; iechyd a thynerwch a meddylgarwch dano. Yr oedd ganddi galon wedi ei pherffeithio trwy ddioddefiadau, a chorff wedi dal y driniaeth yn rhagorol.
Treuliodd y ddwy yr amser i siarad mewn ysbryd gweddus i'r amgylchiadau a'r diwrnod dan yfed cwpanaid o dê yn hamdden a thawelwch gwarchod ar nos Sul. "Tê a bara 'menyn" oedd ar y ford, ond yr oedd defosiwn a hunanymholiad fuasai'n gweddu i fwrdd y cymun yn y ddwy oedd yn cyfranogi ohono. Pe buasai rhyw law anweledig yn cipio'r hen debot ystlysddu oddiar ffon y grat, ac yn rhoi costrelaid o win yn ei le, ac yn rhoi bara o doriad y cysegr ar y plât yn lle y brechdannau fe allasai'r ddwy o ran cywirdeb eu hysbryd fynd ymlaen i gyfranogi ohono, a bwyta ac yfed yn deilwng neb newid y 'sgwrs. Nid oedd raid newid yr elfennau i'w wneud yn sacrament. Mae y gwpan dê,—yn rhy fynych cwpan y chwedlau a'r gwagedd,— wedi bod cyn hyn yn gwpan y gwaed o'r Testament Newydd ar aml i ford; ac mewn aml i fwthyn mae'r bara haidd wedi bod yn fara yr heddwch sydd trwy'r gwaed, er i'w liw fod yn ddigon du, a'i grystyn yn ddigon caled, heb unrhyw weinidog ordeiniedig yno, ond Gweinidog y gysegrfa a'r Gŵr a ordeiniodd Efe. Mae profedigaethau a chystuddiau yn weinidogion ordeiniedig y nefoedd i weinyddu y sacrament hwn o ba beth bynnag ddigwyddo fod ar y bwrdd.
PENNOD III.
SIAMS.

NID tyddyn bychan oedd Bryn Marian, ond, yn iaith fesuronol amaethwyr y fro, "lle i odro rhyw ddeg." Gŵyr y cyfarwydd beth olyga hynny, a medr rifo a phrisio yr holl stoc, o'r ceffylau i'r cywion gwyddau, yn weddol gywir heb unrhyw fanylion pellach. Ystyrid hi yn un o'r ffermydd mwyaf dewisol yn y cwmwd. Nid oedd ei rhent yn drwm ac yr oedd llawer o'r tir o ansawdd rhagorol. Nid yn fynych. ychwaith, y ceid fferm a chystal graen ar yr adeiladau. 'Roedd y beudai yn newyddion, ac mewn cywair rhagorol. Ac am y ty—er nad oedd yn rhyw ddiddos iawn—yr oedd ei hynafiaeth yn cuddio lliaws o'i feiau, ac yn gosod rhyw urddas arno. Ei bai fel fferm oedd ei bod yn lle blin, oherwydd ar lechwedd y fron y lled-orweddai—ei phen uchaf yn gorffwys ar obennydd o farian ac eithin, a'i thraed yn y cwr isaf yn yr afon. Safai'r ty yng nghysgod llwyn cymysg o dderw ac ynn, a chysgod da oedd lawer pryd; ond pasiai cytran helaeth o'r deuddeng mis heibio heb i neb yn y lle sylwi fod y coed yno. Ond tua diwedd Hydref byddai'r dail a'r mês a'r tuswau cynffonnog wrth chwyrlïo a syrthio yn y gwynt, yn ei gwneud yn ormod camp anghofio'r coed. 'Roedd y ty wedi ei wneuthur o garreg wedi ei naddu yn betrual, y ffenestri yn fychain, ond y porth yn eang ac urddasol. O flaen y ty yr oedd gardd—wedi ei bwriadu i fod yn ardd flodau—ond yr oedd yr arfaeth honno heb ei dwyn i ben. Glaswellt oedd yn tyfu yno, gydag ambell dwmpath o bren bocs i dorri ar unffurfiaeth yr olygfa. 'Roedd llwyn o wermod lwyd a llwyn o lysiau'r fam yn nodio yn foesgar a difalais ar ei gilydd yn yr awel—un o boptu'r drws. 'Roedd llwybr y ffrynt o balmant mân tlws, a cherryg gwynion wedi eu gosod fel rhwydwaith arian addurnol wrth ei weithio. Yn union o flaen y drws 'roedd y cerryg gwynion wedi eu gosod i ffurfio "D.E."—taid y diweddaf fu yn gwisgo y llythrennau; ond yr oedd glaswellt wedi darnguddio y llythrennau o olwg y genhedlaeth bresennol.
Ar dalcen y ty yr oedd plyg o eiddew trwchus, lle nythai adar y tô, genhedlaeth ar ol cenhedlaeth. Rhwng y ty a'r beudai yr oedd rhyw hanner cant o lathenni. Safai'r adeiladau hyn yn hanner cylch ar ffurf pedol, a safai'r cytiau moch ar un sawdl i'r bedol, a hofel droliau ar y sawdl arall.
Gallesid dweyd, wrth edrych ar amgylchoedd y ty, a'r beudai, y cloddiau, gwrychoedd, a'r llidiardau, nad oedd yno neb ym Mryn Marian wedi derbyn helaethrwydd o'r ddawn i fod yn dwt. Ond yr oedd yn anodd i Dafydd Ifan gadw'r lle yn dwt, ac yntau yn diota o fore hyd hwyr. A phan ddaeth yr alwad am dano, ni chafodd amser i dwtio dim cyn mynd; a phe cawsai, yr oedd ganddo beth rheitiach i'w dwtio na chloddiau a gwrychoedd Bryn Marian. Ond mynd fu raid, a gadael y bylchau a'r adwyon, y mieri a'r ysgall, fel yr oeddynt ym Mryn Marian, ac yn ei enaid ei hun.
Rhedai nant i lawr un ochr i'r buarth, yn ddwfr gloew grisialaidd. 'Roedd ei tharddle yn y mynydd pell, a'i chamre cyntaf yn cael eu rhoi rhwng y brwyn dan sisial ganu; ond fel y nesâi at y gwaelodion, cynyddai mewn nerth, ac yr oedd digon o ddwfr ynddi yng ngheunant Bryn Marian i wneud cennad tywydd i'r fro am gylch o dair neu bedair milltir. Byddai distawrwydd neu lafar y ceunant yn argoeli rhywbeth bob amser. 'Roedd y ceunant yn ddwfn, wedi ei gafnio gan dreigliad y dŵr prysur ers llawer oes. Ni wyddai neb pa mor bell yn ol y dechreuasai y dŵr ar ei waith. Rhoddir llawer o bris ar hên gerfiadau mewn pren a maen, a chyrchir o bell ffordd i'w gweld; ond mae yna ryw swyn yng ngherfiad y dŵr mewn ceunant na cheir mewn un-peth o waith llaw. Cerfiwr yw hwn na rydd hun i'w amrantau. Mae ei gynion a'i fwrthylion ar waith o fore hyd hwyr, ac o hwyr hyd fore. Nid oes awr ginio na noswyl, ond yr un noswyl fawr gyffredinol, ac ni ŵyr y nant am honno.
Yr ochr uchaf i'r beudai yr oedd y gadlas, neu'r ydlan, lle y byddai y teisi a'r cyrnennydd. 'Roedd rhan o'r cynhaeaf wedi ei gario i mewn eisoes, a rhan arall yn y maes—peth yn ei deirgafr, peth yn ei wythau, a pheth yn waneifiau heb ei gynnull. Y pryd hwnnw, byddai un ran o dair o'r tir o dan ŷd, ynghyda rhyw ddeng neu bymtheng acer dan wair. Defnyddid yr ŷd—ceirch a haidd yn bennaf—gydag ychydig wenith, i borthi dyn ac anifail. Mae goruchwyliaeth y "bara ceirch" yn hên, a bellach yn agos i ddiflannu, ac am y bara haidd, "ei le nid edwyn ddim ohono ef mwy."
Yn arwain i fyny at y ty yr oedd ffordd igam-ogam, er mwyn osgoi wyneb gallt, ac yng nghwr isaf y ffordd hon yr oedd y bont y cyfeiriwyd ati eisoes yn croesi yr afon. Ar gŵr tir Bryn Marian, ar yr ochr chwith, yr oedd llain o dir dan goed ffawydd gweddol ifanc,—nid oedd ond rhyw ugain mlynedd er pan gawsent eu plannu,—a chai y cwningod, genhedlaeth ar ol cenhedlaeth, noddfa ddiogel yno,—i'r sawl fedrai gyrraedd iddi; ond yr oedd Pero wedi goddiweddyd aml un ar ei ffoedigaeth, ac yr oedd maglau Wil, y gwas bach, wedi sefyll rhwng aml un a'r ddinas noddfa.
Terfyn y fferm yn y cwr uchaf oedd clawdd y mynydd, a thu hwnt i hwnnw yr oedd y grug a'r brwyn, heb glawdd am saith milltir, ond clawdd gardd ambell i fwthyn tô gwellt yma ac acw. Yma yr oedd cynefin Bryn Marian, ac nid Bryn Marian yn unig, ond cynefin pob fferm oedd a'i thir yn cyffwrdd y mynydd, a rhai heb fod yn cyffwrdd. Ond er fod gan y defaid saith milltir a rhagor o le i grwydro, byddent yn glynu yn rhyfeddol o ffyddlon mewn rhyw gŵr ohono, yn eu cynefin eu hunain. Y ffriddoedd oedd y tir llafur agosaf i'r mynydd—tir wedi ei ennill oddiar y mynydd mewn amseroedd diweddar. 'Roedd dwy ohonynt wedi eu hennill felly o fewn cof Dafydd Ifan, ac nid gwaith ysgafn mohono. Yr oedd "gwthio" yn galed-waith, ond yr oedd rhyw swyn rhyfedd mewn mŵg llosgi batin—byddai yn mud-losgi am ddyddiau, weithiau am wythnosau, ac yna chwelid y lludw llwydgoch dros wyneb y tir, a chyrchid calch o'r odynnau i'w chwalu arno.
Mawn losgid yn y mwyafrif o'r anedd-dai yn y cwmwd, ac yr oedd y mynydd yn dwyn tystiolaeth i hynny, oherwydd gwelid teisi mawn yma ac acw hyd-ddo yn aros eu cludo i lawr yn ol yr angen.
Yng nghwr pella'r buarth yr oedd tomen, a'r ferfa a'i hwyneb yn isaf arni, a'i breichiau i fyny fel yn gwaeddi am i Siams ddod yno i'w chodi. Yng nghyffiniau y domen yr oedd llinynnau bywyd Siams wedi disgyn, ac ymddangosai yn dra bodlon i'w sefyllfa. Ni ddoniwyd Siams â llawer o'r hyn eilw y byd yn synnwyr, ond fe'i doniwyd â thipyn o'r hyn a eilw rhyw hen lyfr, sydd braidd allan o ffasiwn mewn rhai cylchoedd, yn ddoethineb. Ni welwyd ef erioed ar lwyfan, ond llwyfan y domen. Llawer berfâd hwyliodd Siams i fyny i hwnnw hyd ryw ystyllen gul, ac ni faliai rhyw lawer faint o gynnwys y domen fyddai yn glynu wrth ei ddillad. Ond nid oedd ronyn o wahaniaeth beth fyddai cyflwr ei wisg, byddai Siams yr un—un o dani bob amser— yn foneddigaidd, a hawdd ei drin. 'Roedd felly gyda'i fistar, Dafydd Ifan, pan oedd yn fyw; a'r un fath, yn foneddigaidd a hawdd ei drin, gyda Wil y gwas bach—yn rhy hawdd ei drin braidd i un o fath Wil.
'Roedd Siams, pan fu farw Dafydd Ifan, yn tynnu at drigain oed. Yr oedd wedi bod yn ei wasanaeth, bellach, ers oddeutu ugain mlynedd. Yr oedd wedi bod yn briod, ond am gyfnod byr—rhyw ddwy flynedd. Bu farw ei wraig ar enedig—aeth plentyn. Cymerodd chwaer iddo y plentyn i'w fagu gyda'i phlant ei hun, a symudodd honno cyn hir o'r wlad i fyw heb yn wybod i Siams, ac aeth a'i blentyn ef gyda hi, ac ni chlywodd Siams siw na miw yn ei chylch ar ol hynny.
Yr oedd Siams, ers tua deuddeng mlynedd, yn cael y fraint o gysgu yn y tŷ, yn lle yn llofft y stabl, lle y cysgai y gwas a'r gwas bach. Anaml y byddai y gwas a'r gwas bach yn aros yn hwy na dwy neu dair blynedd, ond yr oedd Siams yno o flwyddyn i flwyddyn. Heblaw hynny, yr oedd yn dda ganddynt ei gael yn y ty, oherwydd yr oedd yn llawer o gwmni iddynt.
'Roedd Elin a Siams yn ffrindiau mawr er pan oedd hi yn groten fach yn dechreu cerdded. Llawer hwyliodd arni yn y ferfa wrth fyned i 'nol maip; a phan fyddai yn eistedd ar y ffenestr tu draw i'r bwrdd mawr i fwyta, byddai Elin yn mynd dan y bwrdd ato, ac yntau yn ei chodi ar ei thraed ar fainc y ffenestr. 'Roedd Siams yntau yn hoff neilltuol o blant, a soniodd lawer wrthi hi am ei fachgen bach ei hun, Hywel, a byddai deigryn dirgelaidd yn dianc dros ei rudd.
Bu Elin i ffwrdd yn yr ysgol am ddwy flynedd, a phan fyddai yn ysgrifennu at ei thad a'i mam, byddai yn anfon ei chofion at Siams, ac ambell waith byddai yn anfon llythyr iddo, a gelwid am wasanaeth Wil, y gwas bach, i'w ddarllen a'i ddehongli, a byddai Wil am hir amser yn darllen popeth allan ohono ond yr hyn oedd ynddo; ond yr oedd digon o onestrwydd yng nghalon Wil i ddarllen yn gywir cyn y diwedd.
Yr oedd Elin wedi gorffen ei hysgol ers rhyw flwyddyn cyn colli ei thad, ac yr oedd yn awr yn eneth ddwy ar bymtheg oed. Pwysai marwolaeth ei fistar yn drwm ar feddwl Siams; ofnai y gallai arwain i gyfnewidiad ym Mryn Marian, ac na elwid am ei wasanaeth ef mwy, ond eto yr oedd ganddo dipyn o obaith yng nghyfeillgarwch Elin. Yr oedd Gwen Ifan yn garedig iawn wrtho bob amser, ond yr oedd yn haws gan Siams ddweyd ei gwyn wrth Elin nag wrth neb arall.
Ymhen ychydig ddyddiau ar ol claddu Dafydd Ifan, ar ddiwrnod glawog, 'roedd Siams ac Elin yn gwneud rhaffau—Elin yn troi, a Siams yn gollwng. Gorseddfainc Siams, pan wrth y gwaith hwn, fyddai y pec a'i waelod i fyny; ac yn y ffodrwm, fel rheol, y gwneid hwynt, yn enwedig ar ddiwrnod glawog, am y byddai tipyn o hyd yn yr ystafell, a gellid gwneud rhaff a hyd da iddi heb i'r trowr fynd allan i'r glaw. Wrth ddechreu yr ail neu'r drydedd raff, ebe Elin,—
"Rwyt ti'n ddistaw iawn heddyw, bedi'r mater?" Ti ddywedai pawb ohonynt wrtho, ac felly Elin. Ti ddywedai Siams wrthi hithau.
"Tybed fydd raid i mi fynd odd'ma, Elin, ar ol y cynhaea?" ebe Siams.
"Be' sy'n peri i ti feddwl hynny," ebe hithau. "Ofni 'roeddwn i y galla' cyfnewidiad gael 'i 'neud 'rwan," ebe yntau.
"O, mi 'rwyt ti yn reit sâff, mi fyddi yma tra bydd mam a finna' yma. 'Does gin 'i fawr o ddylanwad ar mam pan fydd gin i eisio ffrog newydd, ond mae gin i ddigon o ddylanwad ar mam i fedru dy gadw di yma; a mae gin mam 'i hun ddigon o afael ynnot ti, fel na raid i ti ddim ofni cael dy droi i ffwrdd."
Faswn i ddim yn leicio mynd i ffwrdd 'rwan. Mi fasa'n well gin i aros yma am ddim ond 'y mwyd a nillad, heb yr un geiniog arall o gyflog, na'i chodi hi oddi'ma. Mae tair blynedd ar hugain er pan ddois i yma—blynyddoedd cyn d'eni di, Elin. Wyt ti o blaid imi aros ?"
"Ydw' debyg," ebe hithau.
Medrai Siams ollwng rhaff gystal ag undyn—rhaff lein wastad; a phan y byddai dau yn cyd-ollwng, a dau yn troi, byddai Elin bob amser yn hawlio cael troi i Siams. Yr oedd yn haws troi iddo—yr oedd yn gollwng yn fwy rhydd, ac felly byddai hithau yn cael y pleser o adael Wil, y gwas bach, ar ol, yr hyn oedd yn un o brofedigaethau bywyd Wil. Byddai cael ei adael ar ol wrth chwynnu maip, neu afra, neu droi rhaffau, yr un peth i deimladau Wil ag ydyw methu mewn arholiad i efrydydd llafurus ac uchelgeisiol.
Ac nid dyma'r unig fath o raff fedrai Siams ollwng. Siams fyddai yn gollwng rhaff dyledswydd deuluaidd bob bore ar ol brecwast. Dechreuodd ar y gwaith hwn yn amser tad Dafydd Ifan, yr hwn oedd yn hên ŵr defosiynol. Medrodd yr hên ŵr berswadio Siams i ddarllen a gweddio—medrai ddarllen y Beibl, ond ni fedrai ddarllen ysgrifen. Methodd gael ei fab ei hun, Dafydd, i gymeryd rhan yn ei dro, ond fe ofalodd mam Dafydd Ifan, tra bu byw, fod Siams yn gwneud; a phan ddaeth Gwen Ifan yn wraig i Dafydd, fe ofalai hithau bob amser fod Siams yn cadw'r ddyledswydd ar ei thraed. Dywedai Wil, rhwng difri a chwarae, mai yr un weddi fyddai gan Siams bob bore, yr hyn oedd yn eithaf gwir. Ni chafodd Siams y ddawn i amrywio ei ymbiliau o fore i fore, ond cafodd ddawn ddwyfolach na honno—y ddawn i fynd ar ei liniau yn ochr Wil, y gwlach direidus, i anfon yr un deisyfiadau, yn yr un geiriau, ac yn yr un oslef y naill fore ar ol y llall.
Yr oedd Gwen Ifan yn wraig a fedrai edrych ar ol pethau y fferm tu allan cystal a llawer dyn; a phan fu farw ei gŵr, cafodd y gwas, a Wil, a phawb ohonynt deimlo y medrai hi lywodraethu yn ddigon deheuig. Ymhen rhyw dair wythnos ar ol claddu Dafydd Ifan, yr oedd yr ŷd wedi ei gael i ddiddosrwydd. Yng nghorff yr amser hwnnw yr oedd Mr. Morgan y Swan wedi cyfarwyddo ei gyfreithiwr i ysgrifennu at Gwen Ifan i ddweyd wrthi fod dyled Dafydd Ifan iddo pan fu farw yn dri chant a phedwar ugain o bunnau, ac y disgwyliai iddynt gael eu talu ar unwaith. Anfonwyd beiliaid i Fryn Marian, a gwnaed y paratoadau angenrheidiol i wneud sale yno.
Gwyddai pawb mai amcan Mr. Morgan oedd cael y fferm i Henry ei fab, a chafodd addewid am dani gan y tirfeddiannwr, yr hwn oedd yn eglwyswr a thori. Gwrthodwyd rhoddi cymeriad y fferm i Gwen Ifan, a chafodd rybudd i ymadael oddiyno. Gwnaeth hithau ei meddwl i fyny i fynd i fwthyn bach tô gwellt, a gwerthu popeth.
PENNOD IV.
WYNEBU DRYCIN.

HOFFA pob plentyn i enw ei gartre dynnu sylw y byd a'r betws, ond nid trwy gyfrwng hysbyslenni ar y parwydydd yn cyhoeddi arwerthiant gorfodol yno.
A phan fo mwrthwl yr arwerthwr, wrth ddisgyn ar y stoc, yn malurio cartre yr un pryd, nid gwaith pleserus i'r plentyn yw edrych yn wyneb anhawddgar yr hysbyslen. Gall estron sefyll yn hamddenol a hunan-feddiannol i lygad-rythu arni, a'i darllen drwodd, i edrych a oes siawns am fargen; ond i'r plentyn sy' wedi arfer cyfri'r lle yn gartre, caled yw yr ymadrodd, ac â o'r tu arall heibio. Am bythefnos cyn yr arwerthiant ym Mryn Marian, ni fedrai Elin fynd i unlle o fewn cylch o bum milltir heb orfod pasio llu o hysbyslenni ag enw ei chartre mewn llythyren fras arnynt. 'Roedd gŵr prysur y piser glud a'r brws wedi bod o gwmpas yn eu gosod i fyny yn y mannau arferol—drysau anolygus hen furddynod adfeiliedig, ystlys craig weddol lefn, os safai fin-fin a'r ffordd, drysau yr efail a'r felin, a lleoedd cyffelyb. Yr hen bulpudau diweniaith! Cyhoeddant yn ddigon di-dderbynwyneb, wrth dô ar ol tô o fforddolion, dynged chwerw y rhai anffodus yn eu hymdrin â'r byd, a mawr yw mintai y rhai sy'n dal sylw arnynt; ac er byrred a saled yw'r bregeth, eithriad yw cael neb ymhlith y gwrandawyr wedi anghofio'r testun.
Cerddai Elin a'i mam gyda'i gilydd un diwrnod, yn y cyfnod hwn, ar neges i ben isa'r plwy', a chalon pob un ohonynt yn llosgi o'i mewn wrth feddwl am y gwerthu. 'Roedd Arthur wedi ei brentisio yn siopwr, er cyn marw ei dad, mewn tref rhyw bymtheng milltir o bellter oddicartref, fel nad oedd o fewn cyfle i yfed holl wermod yr amgylchiadau yn ystod yr wythnosau hyn. "Ydyn' nhw yn mynd i werthu popeth sy' gynon ni, mam?" gofynnai Elin.
"Ydyn', Nel fach," ebe hithau, "mae'n siwr y bydd raid i bron bopeth fynd." A meddai wedyn, ar ol ennyd o ddistawrwydd:—
"Fedr Mr. Morgan y Swan mo'n gwerthu ni, Nel, er mi wranta i fod o yn teimlo ar 'i galon 'neud hynny."
"Be' 'nawn ni, mam, wedyn?" gofynnai Nel.
"O, mi fedrwn 'neud rwbath i ennill y'n tamad," ebe hithau; "wyt ti yn fodlon i 'neud dy ora, Nel fach?"
Ni atebodd Nel ddim, ond teimlodd ei mam hi yn cydio yn saith dynnach yn ei braich, a golchodd tón o ddedwyddwch dros ei chalon drom. Cerddent ymlaen yn syn a phendrist, gan mwyaf mewn distaw—rwydd, ac eithrio siffrwd eu cerddediad trwy gnwd tew o ddail oedd wedi eu cynhaeafu a'u rhencu gan y gwynt. 'Roedd corwynt Hydref y dyddiau hynny yn dynwared cynhaeaf yn y coed. Rhuthrai trwy'r goedwig gyda'i gryman miniog, a thorrai y dail i lawr. Deuai heibio drachefn i'w troi a'u troelli. Drannoeth, deuai i'w faes o gyfeiriad arall, a chasglai hwynt yn rhengau i fymryn o gysgod; yna, yn sydyn chwalai hwynt eilwaith i'r pedwar gwynt, i'w rhencu yr un fath drachefn toc; ond er eu torri a'u trosi a'u trin, ni chasglai hwynt byth i ddiddosrwydd yn y diwedd, ond diddosrwydd y ffos. Trwy fydylau dail y corwynt y cerddai Elin a'i mam hyd y briffordd y diwrnod hwnnw. 'Roedd y corwynt ei hun wedi mynd i orffwyso, ond 'roedd ambell ddeilen yn codi ac yn disgyn yma ac acw o'r mydylau, fel pe buasai rhai o blant lleia'r corwynt yn chwarae mîg rhyngddynt.
"Raid i ni fynd o Fryn Marian, mam?" gofynnai Nel.
"Rhaid," ebe hithau, "a mae'n debyg mai i Ty'nrhos yr awn i."
Bwthyn bach, tô gwellt, oedd Ty'nrhos, ar fin y ffordd, ac yr oedd y ddwy erbyn hyn heb fod nepell oddiwrtho. Gorchwyl caled i Gwen Ifan oedd dweyd wrth Elin beth oedd ymlaen, oherwydd gwyddai ei bod mewn oed i deimlo yn ddwys oddi-wrth unrhyw gyfnewidiad o'r fath yn eu hamgylchiadau. Daethant i drofa yn y ffordd, a dacw'r bwthyn tô gwellt yn y golwg. Tŷ gwâg oedd Ty'n-rhos ers rhai blynyddoedd. Begi'r Bendro fu yn byw ynddo ddiweddaf, ac yr oedd rhywbeth tebyg i euogrwydd wedi ymdaenu dros yr hen fwthyn oherwydd noddi un oedd mor ddirâs yng ngolwg ei chydnabod. Ac wedi marw Begi, ni feiddiodd yr hen dŷ gymaint a chodi ei olygon, a theimlai yn fynych ar ei galon guro ei ddwyfron mewn edifeirwch; ond yr oedd hynny yn ddianghenrhaid. Yr oedd ystormydd a churlaw blynyddoedd wedi gwneud cymaint a hynny o drugaredd âg ef, trwy gymeryd y cyfrifoldeb hwnnw arnynt eu hunain, a'i gyflawni yn effeithiol. Un o ser disberod y cwmwd oedd Begi. Aeth o'i rhod mewn ystyr foesol yn bur ifanc, ac ni fu diwygiad, nac unrhyw atyniad arall, yn foddion i'w dwyn i'w rhod eil-waith. Ond er crwydro ymhell mewn ystyr foesol, bu raid i'w bywyd naturiol hithau gadw o fewn rhod y gosodiad i ddynion farw unwaith. Bu Begi farw, a chludwyd ei gweddillion yn bur ddigost a didwrw trwy lidiart y fynwent.
Lewis Dafydd, y tyrchwr, oedd biau Ty'nrhos. Yr oedd wedi goddef Begi yno am ugain mlynedd heb yr un ddimai o rent. Gwnaeth hynny o drugaredd yn gymysg âg ofn. Ond gwnaeth Begi y bwthyn fel hi ei hun—ni thalodd geiniog o rent am dano yn ei bywyd, a gwnaeth ef mor annerbyniol ym marn y wlad, fel na chynygiodd neb geiniog am dano byth mwy.
Pan ddeallodd Lewis Dafydd fod sale i fod ym Mryn Marian, a bod rhagolygon Gwen Ifan a'r teulu yn dywyll iawn, cynygiodd mewn ffordd bur dyner iddi gael mynd i Ty'nrhos i aros cael rhywle arall.
Diolchodd hithau o galon iddo am ei garedigrwydd, a dywedodd y byddai yn dda iawn ganddi gael mynd yno.
Aeth Lewis Dafydd ati ar unwaith i loewi tipyn ar yr hen fwthyn tumewn a thuallan. Torrodd y gwrychoedd o'i gwmpas, gwyngalchodd y muriau, a rhoddodd dô newydd o wellt arno. A phan ddaeth Gwen Ifan ac Elin i'r golwg yn y drofa, yr oedd Lewis Dafydd wrthi hi yn brysur yn ei doi, ac yn agos a gorffen. Yr oedd eisoes wedi ei wyngalchu.
Ar ol y driniaeth hon, fe adnewyddodd yr hen fwthyn ei ieuenctid. Safai yn awr ar fin y ffordd fel plentyn dwyflwydd—mewn brat glân a chiw-pi; llonnai galon pawb fyddai yn pasio â'i wên ddihoced.
"Mae 'o yn edrych yn ddel iawn, Lewis Dafydd," ebe Gwen Ifan pan ddaeth at y ty. "Be' ddyliet ti, Nel, o ddod i fyw i Ty'nrhos yma?" ebe wedyn.
Ni atebodd Elin ddim; ond yr atebiad oedd yn lleithder ei llygad.
"Gobeithio nad ydach chi ddim yn mynd yn ddigalon wrth feddwl am fadel o Fryn Marian acw, Gwen Ifan," ebe Lewis Dafydd, gan roi anwes i'r tusw diweddaf o wellt oedd wedi roi yn y tô. 'Roedd raid i'r tôwr dynnu ei law yn dyner droion dros bob tusw cyn y ceid ef i orwedd yn ddiddig yn ei le. "Mi fydd y'ch gofalon chi yn llai o lawer, a'ch llwyth yn 'sgafnach; a pheth go sobor ydi i rywun fod yn mynd i oriwaered a gormod o lwyth tu ol iddo fo."
"Wn i ddim fydd 'y 'ngofalon i'n llai ai peidio," ebe hithau. "Lle bynnag bydda' 'i, rhaid i ofalon byw, a byw yn onest, fod arna' 'i."
"Hwyrach," ebe yntau, y bydd yna dipyn o geiniog yn weddill ar ol i chi dalu hynny mae gŵr y Swan yn hawlio; ond mae o yn gwilydd o beth fod i sort 'o yn medru hawlio cymin' oddiarnoch chi. Ydi o yn ffaith, tybed, mai yr hyn 'naethoch chi ynglŷn â'r dorch floda sydd wedi codi 'i wrychyn 'o?"
"Mae arna' 'i ofn mai 'e," ebe hithau, "er mai nid er mwyn ei ddigio fo y gofynnes i iddo 'i chymeryd hi oddiar y bedd. A 'doeddwn i fawr o feddwl ar y pryd fod 'y nghysur i a'r teulu gymin' dan 'i fawd 'o. Ond ran hynny, yr hyn wnes i wnawn i eto, a'r hyn dd'wedes i dd'wedwn i,—yn yr un amgylchiadau—dasa raid i mi golli fy mhen yn gystal a nghartre."
"Mae'n bosib," ebe'r towr, "nad ydi madel o Fryn Marian ddim yn brofedigaeth fawr i chi,—mae y ffarm yn fawr, ac wedi mynd dipyn yn ddi-drefn; a dyna Arthur, y bachgen hynaf acw, wedi cychwyn i gyfeiriad arall, fel na fedrach chi bellach ddim ond disgwyl wrth Gwilym—a mi fydda' hynny yn dipyn o ddisgwyl."
"Na, 'does gen i ddim eisio mynd o Fryn Marian, Lewis Dafydd," ebe Gwen Ifan. "Mi fasa yn dda gin 'y nghalon i dasa ryw ffordd onest yn agor i mi gael aros acw. 'Rydw i yn credu y medrwn i ofalu am y lle, a thalu fy ffordd, cawn i fywyd ac iechyd am dipyn. Ond gan mai fel hyn mae pethau yn dirwyn, rhaid i mi fodloni; a 'rydw i yn ddiolchgar iawn i chi, Lewis Dafydd, am roi Ty'nrhos yn gysgod i mi mewn awr gyfyng, ac am drafferthu fel hyn i dwtio tipyn arno fo. Mi wn i pwy fu yn byw yma ddiwedda', ond wnaiff hynny ddim gwahaniaeth. Mae'r hen fwthyn wedi bod yn wâg ers cwrs o flynyddoedd digon o amser, beth bynnag, i gyflawni dyddiau ei buredigaeth ar ol preswyliad Begi. Hwyrach y medr Nel a finna 'neud rhwbath i ennill y'n tamad yma eto. 'Rydan ni wedi arfer gweithio, a 'does arnom ni ddim ofn gwaith; a 'rydw i yn meddwl y galla' 'i fentro deyd hefyd nad ydan ni ddim yn hollol ddiymddiried yn yr Hwn sydd yn llywodraethu yr hen fyd yma, er fod yn ddigon anodd dygymod â'r syniad fod yr un fu yn brif foddion i ddifetha cysur y teulu yn ystod bywyd Dafydd, yn medru gorffen 'i fudrwaith trwy chwalu y cartre ar ol iddo fo farw."
Pan oedd Gwen Ifan a Lewis Dafydd yn 'sgwrsio fel hyn, 'roedd Cymro, ci ifanc Lewis Dafydd, wedi llwyddo i berswadio Elin i anghofio ei gofid, ac i chwarae tipyn—peth digon amheuthun iddi y dyddiau hynny. Tybiodd Cymro fod yna ddefnydd hwyl ynddi, er fod ei llygad yn drist, a dechreuodd, trwy roi ei ddwy bawen yn ddiseremoni ar ei llawes, a chogio ei phinsio, ac yna ffoi ychydig lathenni, ac yn ol drachefn i geisio gwneud yr un peth. 'Roedd y ddau wedi ymgolli yn y chwarae, ac yn ymlid ei gilydd yn ddilywodraeth o gwmpas y tŷ. O'r diwedd, rhoddodd Cymro ryw naid ledchwith o gyrraedd Elin, heb edrych i ble 'roedd yn mynd, ac aeth yn erbyn bôn yr ysgol, ar yr hon y safai Lewis Dafydd i doi; collodd y towr ei droed, a chadd godwm hyll.
Hen lanc yn tynnu at ei ddeg a thrigain oed oedd Lewis Dafydd, heb unrhyw berthynas ar ei elw i ofalu am dano, ac i gymeryd diddordeb ynddo. Yr oedd wedi byw wrtho ei hun am y deugain mlynedd diweddaf, mewn ty bychan yn y mynydd pell tu hwnt i gynefin Bryn Marian. Nid i ddangos nad oedd ei godwm o fawr o bwys y dywedir hyn, ond i esbonio'r ffaith mai yn lloft pen y gegin ym Mryn Marian y daeth ato ei hun. Ond ni ddaeth ato ei hun mewn nerth ac ie hyd byth wedyn, fel y tystiai amldra o bridd y wadd hyd y doldiroedd a'r llethrau.
PENNOD V.
EIRIOLAETH SIAMS.

TRA 'roedd Gwen Ifan a'r plant a'r gweision cyflog yn eu graddau yn gwneud gwar i dderbyn y ddyrnod, ac yn paratoi eu meddyliau i ffarwelic â Bryn Marian, yr oedd Siams yn parhau i wingo yn erbyn y symbylau, ac yn Eisteddai un diwrnod waelod i fyny, mewn gomedd rhoi ei arfau i lawr. yn yr ysgubor ar y pec a'i dwfn fyfyrdod, a choes y ffust yn ei law. Gorweddai y lenffust yng nghwr y cywlas rai llathenni oddiwrtho—effaith uniongyrchol yr ias ffyrnig, ryfelgar, oedd yn ei gerdded y dyddiau hyn.
"Mynd o Fryn Marian," meddai wrtho ei hun, "Gwen Ifan, a Nel, a finna, a gadal i ŵr y Swan ddwad i'r fan yma i dorsythu! Mae ol'i fysedd duon o yn ddigon amlwg ar hanes y lle a'r teulu yma!"—a thaflodd goes y ffust ar ol y lenffust, fel pe buasai y coedyn hwnnw yn gyfrifol am holl anffodion y teulu ers cenedlaethau. Dododd ei ben rhwng ei ddwylaw, a'i benelinoedd ar ei benliniau, i feddwl, a myfyrio, a chynllunio; ac yn yr ystum anarwrol hwnnw cyflawnodd mewn dychymyg fil a mwy o gampau cyfryngol a dialeddol—a'r cwbl ar ei eistedd ar y pec. Dywedai rhyw beth wrtho yn ddistaw yn ei ddiniweidrwydd fod ganddo ef fwy o hawl na neb ohonynt i ofidio, ac ymprydio, ac ymglymu am y lle, oherwydd efe oedd wedi arwain y defosiwn teuluaidd yn ddifwlch bob bore am ugain mlynedd. Yr oedd yna rywbeth wedi deffro ynddo ynghanol yr ystorm tebyg i eofndra y gwir offeiriad, a dechreuodd feddwl ynddo ei hun beth tybed allai wneuthur i ragflaenu yr aflwydd yma oedd ar oddiweddyd teulu Bryn Marian. Meddyliai am bob math o gynlluniau i'w gwareda; ac yng ngonestrwydd ei gydymdeimlad â hwynt, yn gymysg â thipya o benbleth am ei ddyfodol ei hun, fe fu dipyn yn daer lawer pryd yn unigedd yr ysgubor ar y Gŵr sydd a'r wyntyll yn Ei law. Ac,. fel arfer, yr oedd y waith hon eto wedi troi yn ddiarwybod yn ei fyfyrdodau oddiar ffordd lydan ei ddychmygion gwylltion ei hun i ffordd gul ymgyfarchwel â Duw.
"Siams," ebe llais yn nrws yr ysgubor, "tyd i 'nol tê!"
Llais Elin ydoedd. Ac wrth weld Siams yn yr ystum hwnnw, mor bell o ddull ac agwedd un yn dyrnu, gofynnodd,—
"Be' sydd arnat ti? Wyt ti'n sal?"
Cododd y synfyfyriwr ei ben, a'i wyneb fel wyneb dyn wedi cael gweledigaeth, a meddai,—
"'Rydw i yn mynd at y stiwart heno; ddoi di hefo fi?"
"At y stiwart," ebe hithau, "i be'?"
"I gael y ffarm yma i dy fam," ebe yntau.
"'Dwyt ti mo'r dyn i fynd at y stiwart, Siams bach," ebe Nel; "a pheth arall, dasa mam yn cael y ffarm, sut y medra' hi fyw yma ar ol i bopeth gael 'i werthu? Rhaid iti gael rwbath heblaw ffarm i ffarmio."
"Hidia di befo hynny 'rwan," ebe yntau; "ddoi di?"
"Tyd i 'nol tê," ebe hithau, "mi deimli yn well ar ol cael cwpaned."
"Hwda, Nel, un gair," meddai Siams pan oedd hi yn troi ei chefn i fynd o'i flaen i'r tŷ,—" Dim un gair wrth dy fam na neb arall, cofia; os awn i, mi awn heb i neb wybod."
"O'r gora." ebe hithau. A ffwrdd a hi.
At y stiwart yr oedd Siams am fynd er pob ymgais o eiddo Nel i'w berswadio i beidio; a'r diwedd fu iddo berswadio Nel i fynd i'w ganlyn. Stiwart newydd ydoedd—nid oedd ond rhyw fis er pan ddaethai i'r wlad, ac ni wyddai Siams pa un ai Cymro ynte Sais ydoedd—dyna un rheswm paham yr oedd am i Nel fynd gydag ef.
Daeth Siams am ei swper y noson honno yn fwy prydlon nag arfer, a threthwyd ei amynedd yn disgwyl am ymddangosiad y bara llaeth. Fel rheol, y bara llaeth fyddai yn hir ddisgwyl am Siams; ac ambell i damaid o fara haidd du, mwy rhyfygus na'r gweddill, yn sefyll ar ysgwyddau y tameidiau eraill, ai ben drwy'r caws, i wylio dynesiad y bwytawr, ac i rybuddio'r lleill i lechu goreu gallent dan y caws a'r gloefon. Ond heno, y bwytawr oedd yn disgwyl. Synnodd Gwen Ifan ei weld yn dod at y bwrdd mor gynnar, oherwydd gwyddai mai trwy lu o demtasiynau i ymdroi y deuai i'w swper bob amser. Ar ol cryn ddisgwyl, daeth y bara llaeth, ac yr oedd Siams wedi gorffen bwyta cyn i'r gwas bach ddod i'r ty. Aeth yn syth i'r lloft i newid ei ddillad, ac i baratoi ei hun at y siwrnai.
Pan ddeallodd Wil fod Siams wedi bwyta ac wedi mynd i fyny i newid heb son dim wrtho ef nac wrth y gwas, gwyddai fod yna rywbeth gwerth ei wybod. Bwytaodd ei ddogn ei hun yn gyflymach nag arfer, ac mewn llais llawn o gydymdeimlad, gofynnodd, gan wincio yr un pryd ar y gwas, am ganiatad Gwen Ifan i fynd i'r llofft i edrych am Lewis Dafydd. 'Roedd ystafell wely Siams wedi cael ei gwneud yn hospital ward i Lewis Dafydd ar ol y codwm, oherwydd fod dau wely ynddi. Cysgai Siams yn un, a chafodd y tyrchwr nodded ac ymgeledd yn y gwely arall. 'Roedd rhai dyddiau wedi mynd heibio er y ddamwain, ac yr oedd Lewis Dafydd yn gwella yn rhagorol, a'i anaf yn llai nag a tybid ar y cyntaf; ond gorfodai y meddyg ef i gadw yn llonydd ar ei led-orwedd, oherwydd fod ei ysgwydd wedi ei thaflu o'i lle.
Aeth Wil i fyny, nid yn hollol amddifad o gydymdeimlad â Lewis Dafydd, ond, yn bennaf, o ddireidi a chwilfrydedd. Erbyn iddo fynd yno, 'roedd Siams yn moesymgrymu i'w ddelw ei hun yn y glas, difrifwch dwfn yn eistedd ar ei ael, a thrwch da o sebon yn peri i'w wyneb ddisgleirio. Gwasanaeth y shafio oedd yn cael ei gynnal, a hynny gyda'r holl benydiau a defodau arferol. Gwelodd Wil, wrth holi helynt Lewis Dafydd, fod yr olwg ar yr eilliwr yn goglais y claf, ac wrth graffu, gwelai dipyn o ddireidi yng nghil llygad y tyrchwr, a theimlodd oherwydd hynny fod ganddo fymryn o hawl i arfer ei ddull cyffredin i holi a phoeni tipyn ar Siams.
"Be' sy'n bod, Siams? lle 'rwyt ti'n mynd?" ebe Wil; "'rwyt ti'n fwy slei hefo dy neges heno nag arfer."
Nid oedd yn gyfleus iawn i Siams ei ateb, yn bennaf am na wyddai pa ateb i roi,—'roedd y gorchwyl oedd ganddo mewn llaw hefyd yn gofyn am wefusau sefydlog; ac felly, yng nghysgod yr anghenrhaid diweddaf, gadawodd Siams i'r cwestiwn hwn, a chwestiynau ereill o eiddo Wil, fynd heibio heb atebiad.
"Pa'm 'rwyt ti'n shafio heno?" gofynnai Wil wedyn; ac ychwanegai, gan droi at Lewis Dafydd,—
Ydi hi ddim yn ddy' Sadwrn, ydi hi?"
Nag ydi, dydd Mercher," ebe'r claf, a chysgod gwên ar ei wyneb.
"Mae rhai pobol yn mynd yn falchach fel mae nhw yn mynd yn hŷn, Lewis Dafydd," ebe Wil. "Mae arna' i ofn fod Siams yn crafu 'i grefydd i ffwrdd hefo'r rasal yna—mae 'o wrthi hi yn shafio 'rwan bob yn eildydd bron."
"Wyt ti'n meddwl fod 'i grefydd 'o gymin' ar y wyneb a hynny, Wil?" ebe Lewis Dafydd.
"Na, 'doeddwn i ddim yn meddwl edliw hynny iddo fo; ond ydach chi yn meddwl, mewn difri', Lewis Dafydd," ebe Wil, "fod yn iawn i ddyn duwiol 'neud ceg fel acw," gan bwyntio at wyneb Siams yn y glas.
Trodd Siams dipyn yn chwyrn ar ei sawdl, a dywedodd,
"Cer' oddma, Wil, 'rydw i'n deydi ti y gnei di Lewis Dafydd yn salach—mae gin ti rw lol bob amser. Wyddost ti ddim fod y doctor wedi rhybuddio nad oedd neb ond Gwen Ifan a Nel a finna i ddwad ato fo? Rhag cwilydd i ti!" A throdd yr eilliwr yn ol ar ei sawdl i fingamu yn y drych, a chydiodd yn ei drwyn â'i law chwith i hyrwyddo gweithrediadau y rasal yn y dde.
"Ddeudodd y doctor, Siams," ebe'r gwas bach "y caet ti dynnu wyneba fel yna yng ngwydd Lewis Dafydd ac ynta mor wan? 'Rydw i, heb son am Lewis Dafydd, dest a mynd sal wrth edrach arnat ti."
"Taw, Wil," ebe'r tyrchwr, "gad iddo fo orffen; mae gin Siams wyneb gwerth 'i shafio ('a'i bryfocio,' ebe Wil yn ddistaw wrth bost y gwely). Mi gei di weld mor ddel y bydd 'o yn edrach ar ol darfod."
"Fydd 'o byth yn ddel," ebe Wil, "mae 'i wyneb 'o yn rhy gul, a'i wallt yn rhy laes."
"Pan ddaw Wil yma i d'oed di, Siams," ebe Lewis Dafydd, "mi fydd yna was bach wedi'i fagu yn rhwla i'w boeni yntau."
Gwyddai Wil o'r goreu fod rhywbeth ar feddwl Siams, nid oedd mor hawdd ei boeni ag arfer, a syrthiai y rhan fwyaf o saethau y gwas bach yn ddiniwed i'r llawr.
Gorffennodd Siams ymdrwsio, a safodd ar ganol y llofft yn blentyn yn ei ysbryd a'i ystum.
"'Rwyt ti ar i fyny 'rwan, ac yn barod i gychwyn," ebe Lewys Dafydd.
"Ydw, am wn i," ebe yntau, ond yn edrych mewn ychydig o benbleth; a'r munud nesaf, ychwanegodd,—
"Mae gin i flys deyd 'y mhader cyn mynd, mi fydda'n fwy parod i fynd i ngwely pan ddof yn ol."
'Roedd Wil ar fin gofyn mewn 'smaldod ai ar ei sbri yr oedd yn mynd, ac os oedd yn debyg o fod yn rhy feddw i'w ddweyd wrth fynd i'w wely; ond collodd y cyfle,—'roedd Siams ar ei liniau wrth erchwyn ei wely ei hun cyn i'r cwestiwn gyrraedd tafod y gwas bach. Ymhell cyn i Siams godi ar ei draed 'roedd Wil yn teimlo yn bur ddiolchgar mai colli y cyfle wnaeth. 'Roedd rhywbeth o gwmpas y penliniwr yn awgrymu i'r ddau oedd yn edrych arno nad oedd y pader yn ddim ond rhagymadrodd i'r hyn oedd ganddo i'w ddeisyf, beth bynnag oedd hwnnw. Ymbiliai yn fud ac yn faith, ac er cymaint o ddireidi oedd yng nghroen y gwas bach, ni chymerasai fferm Bryn Marian am aflonyddu arno. Toc cododd Siams yn hollol naturiol a dilol, ac ebe fe yn chwareus wrth Wil,—
"Well i ti ddwad hefo fi!"
"Na ddof heno," ebe yntau. "Wn i ddim be' ydi dy neges di, ond mi wn y rhaid i mi gael blynyddoedd cyn y medra i hwylio fy hun mor onest ag yr wyt ti wedi gwneud."
Aeth Siams i lawr, gan feddwl cyfarfod Nel yn y ffridd, fel yr oeddynt wedi trefnu.
Ni cha'dd Elin fawr o drafferth i wneud ei hun yn barod, ac ni fu raid iddi ychwaith wneud hynny yn llechwraidd. Dywedodd ei mam wrthi rywbryd ar ol tê fod eisieu iddi redeg ar neges i'r llan, a rhybuddiwyd hi i gychwyn cyn iddi fynd yn hwyr. "'Rydw i'n siwr y daw Siams i dy gyfarfod di, ond iti ofyn iddo fo," ebe Gwen Ifan, pan ddaeth Nel i lawr y grisiau wedi gwisgo am dani.
"Mae o yn mynd i rywla ffor' honno eisus," ebe hithau; "mi siarada i hefo fo."
Ar hynny daeth Siams i lawr o'r llofft.
"Siams," ebe Nel, "'rydw i'n mynd i'r llan; 'rwyt titha yn mynd i'r cyfeiriad hwnnw, on'd wyt ti?"
"Ydw," ebe yntau.
"Mam oedd yn deyd y baset ti'n dod i nghyfarfod i,—ond gan dy fod ti yn myned 'run ffordd a fi hwyrach y ca i dy gwmni yn ol a blaen."
"Cei, cei," ebe yntau; a chan dynnu ei law arw ddiymgeledd dros ei ên, ychwanegodd, "on'd oedd o yn lwc i mi shafio tipyn."
"Mi faset yn llawn cystal cwmni iddi hi rhag bwgan daset ti heb shafio," ebe Gwen Ifan.
"Wnae o mo'r tro felly," meddai Wil, yr hwn oedd wedi cefnu ar yr hospital a Lewys Dafydd, gan ofn colli rhywbeth mwy diddorol yn y gegin pan oedd Siams yn cychwyn. "Rydw i'n siwr fod yn well gin Elin gyfarfod bwgan na cherdded hefo un, yn dydi?" meddai, gan apelio at y ferch.
"Tyd, Siams," ebe hithau, "mae ambell i wyneb na 'naiff dŵr a sebon na rasal loewi dim arno."
"Debyg iawn," ebe Wil, "dasa ddim ond fy wyneb i,—mae o'n bictiwr fel y mae o."
"Fel y mae o," meddai Nel, gyda phwyslais llawn o wawdiaith chwareus; a diflannodd Siams a hithau i'w taith.
"I ble 'roedd Siams yn mynd, Wil?" ebe Gwen Ifan.
"Dest y peth faswn i yn leicio wybod," ebe Wil; ac aeth i'r drws i edrych ar y ddau yn croesi ar letraws y fron am y briffordd. Daliodd y gwas bach i syllu arnynt yn hir. Cerddai y ferch yn hoew ac ysgafndroed, ond troetrwm ac afrosgo oedd yr hwsmon; ac felly y diflannodd y ddau yn y pellter.
'Roedd cysgodau'r hwyr yn hel yn brysur erbyn i'r ddau gyrraedd y llan. Gwnaeth Elin ei neges, ac yna aethant i gyfeiriad tŷ y stiwart, yr hwn oedd ychydig o'r neilltu. Cerddai ac ymgomiai Siams fel un yn meddu gradd dda o hyder, ac er nad oedd ei gerddediad yn wisgi, gallesid dweyd arno nad oedd yn ei fynwes ronyn o ofn i'r siwrnai droi yn siwrnai seithig. Pryderus a gwangalon oedd Elin. Credai mai nid Siams oedd y dyn i fynd ar neges fel hyn, er y tystiai ei chydwybod, pe buasai caniatau rhyw ffafr arbennig yn y cwestiwn, y buasai yn haws ganddi hi ildio i'w eiriolaeth anfedrus ef nag i ymbiliau neb arall. Ond yr oedd hi yn ei adnabod ac yn ei garu, ac am hynny 'roedd yn hawdd i Siams gael ffafr yn ei golwg. Ni wyddai y stiwart ddim am dano, ac ofnai i'r olwg wladaidd, hwsmonaidd, ddiniwed oedd arno, ei wneud ef a'r achos oedd ganddo yn anghymeradwy. Yr oedd yn gas ganddi fynd gydag ef, ond yr oedd yn gasach ganddi wrthod. Ceisiodd droion ei berswadio i droi yn ol,—'roedd hi wrth y gwaith hwnnw pan oedd Siams yn agor y llidiart arweiniai i ffrynt y tŷ, ond ni fynnai yr hwsmon son am y fath beth.
"Na, mi treiwn ni o," meddai, "a mi fyddi ditha cyn falched a dy fam pan lwyddwn ni;" a churodd yr eiriolwr y drws.
Cawsant dderbyniad diymdroi, ond hysbyswyd hwy nad oedd Mr. Ellis y stiwart ddim i mewn ei hun, ond fod ei nai, Hywel Ellis, yno, a chaent ddweyd eu neges os dewisent wrtho ef.
Cyn hir daeth y nai atynt i'r ystafell, a chyn iddo gael amser i ofyn dim iddynt, gofynnodd Siams, "Ydach chi'n dallt Cymraeg, syr?" oherwydd dyna'r cwestiwn oedd yn peri mwyaf o bryder iddo ef. Rhoddodd atebiad Hywel Ellis fodlonrwydd mawr i Siams, a theimlodd yn bur gartrefol ar unwaith.
"O ba ran o'r wlad yr ydech chi'ch dau yn dod?" gofynnai y dyn ifanc.
"O Fryn Marian," ebe Siams. "Hwsmon yno ydw i," ychwanegai, "a'r ferch ydi Nel yma. Wedi dwad yma yr ydan ni i ofyn am y ffarm acw i mistres. Dydi hi yn gwybod dim y'n bod ni wedi dwad."
Sylwodd y dyn ifanc fod y ferch yn gwrido, ac ebe efe wrthi,—
"Ydi'ch mam ddim yn gwybod am hyn?"
"Nag ydi," ebe hithau. "Siams sy' wedi trefnu yr ymweliad yma, heb i mam wybod, a 'roedd raid i minna ddod hefo fo."
"Fasech mam yn leicio aros acw?"
"Basa yn arw iawn," ebe'r ferch.
Eisteddodd nai y stiwart yn y gadair ddwy-fraich, a thaniodd sigar. 'Roedd rhywbeth yn ei ystum a'i edrychiad oedd yn peri i Siams ac Elin deimlo ei fod yn cymeryd diddordeb yn eu hachos, ac yr oedd y ffaith mai un o fath Siams oedd yn arwain y ddirprwyaeth yn ychwanegu at y diddordeb.
Hwsmon wyt ti'n ddeyd wyt ti yn y lle yma, —be gelwir o hefyd? Bryn Marian?"
"Ie, Syr," ebe yntau, "a 'rydw i yno ers dros igian mlynedd, a 'dydw i ddim yn fodlon i'r hen deulu fynd odd' acw os medra' i 'neud rwbath i'w cadw nhw yn y lle. Mae rhai yn deyd mai gwr y Swan sy'n mynd i gael y ffarm, ond fedra' i ddim credu hynny, mae o wedi cael digon a gormod o Fryn Marian pan oedd mistar yn fyw."
"Gwraig weddw ydi'ch mam?" gofynnai Hywel Ellis i Elin.
"Ie," ebe hithau," a mae hi yn awyddus i aros acw dasa bosib, ond 'doedd gyni hi ddim calon i ddwad yma i ofyn ei hun, na chalon chwaith i ofyn i neb ddwad yma drosti hi. Mae Mr. Morgan y Swan yn gyrru arnom ni am swm mawr o arian, a mae y sale i fod yn fuan."
"Sut y medrai hi fyw acw wedyn, a'r stoc yn cael 'i chwalu?" ebe yntau.
"Peidiwch edrach ar hynny, Syr," ebe Siams, "mae hi yn siwr o fedru byw yn Bryn Marian wedi i wr y Swan neud i waetha. Mi weithia i iddi hi heb ddim cyflog ond 'y mwyd, a mi 'naiff Nel yma 'run peth, a mae gyni hi gymdogion roiff dipyn o help iddi hi i ail ddechra, os bydd eisio. Treiwch, Syr, ro'i gair o'i phlaid hi, os gwelwch yn dda."
'Roedd edrych ar Siams, a gwrando arno yn siarad, yn rhoddi llawer o foddhad i'r dyn ifanc, a phe buasai gosod y ffarm yn perthyn iddo ef, cawsai Gwen Ifan hi heb ychwaneg o siarad. Eisteddai Siams ar fin ei gadair, ei ffon yn un llaw, a het feddal gron yn y llaw arall; ac yn awr ac eilwaith dodai yr het ar ben y ffon, tynnai hi drachefn, a dodai hi ar ben ei lin, neu troellai hi ar ben ei fŷs. Gwyliai Hywel Ellis bob symudiad o'i eiddo trwy fŵg ei sigar gydag astudrwydd, a phan wnai Siams ambell sylw byddai llygaid y ddau arall yn cyfarfod ei gilydd yn chwareus. Gwelai y dyn ifanc yn ddigon amlwg fod yna lawer o hoffder o Siams yn mynwes y ferch, a medrai y ferch hefyd ddarllen ei farn yntau am yr hwsmon. Teimlai y dyn ifanc awydd i gael tipyn o ddifyrrwch gydag ef, ond yr oedd arno yr un pryd ofn cyffwrdd teimladau y ferch, ac ofn iddi ei gamddeall.
"'Fyddi di'n smocio?" ebe'r dyn ifanc yn garedig, ac estynnodd sigar iddo yr un pryd.
"'Roedd Siams ar ei gyngor pa un a gymerai hi ai peidio, ac atebodd y ferch drosto,—
"Ydi, mae o yn smocio, ond 'rwy'n siwr na fu o 'rioed yn smocio sigar."
"'Cymer un i dreio am dro," ebe yntau; a chymerodd Siams hi.
'Roedd yr hwsmon mewn penbleth yn methu gwybod pa ben i danio, a methai gael gwynt yn yr un o'r ddau ben. 'Roedd Elin yn wrid ac yn wên wrth ei wylio, ond cafodd Siams gyfarwyddyd yn yr un man ag y cafodd y sigar, a thaniodd.
Treuliodd Siams ac Elin amser difyrrach tu fewn i furiau tŷ y stiwart nag oeddynt wedi ddychmygu pan ar y ffordd yno. Aeth yr amser heibio yn gyflym, a sylweddolodd Elin, pan oedd Siams wedi llwyr ymgolli yn y sigar a'r sgwrs, ei bod yn hen bryd iddynt gychwyn adref.
"Diolch yn fawr i chi, Syr, am fod mor ffeind wrthon ni, ac os medrwch chi neud rywbeth dros mistres, mi wn y gnewch chi o." A chychwynnodd y ddau adref.
'Roedd Siams yn dychmygu yn ei afiaith wrth ddod dros y trothwy, a'r sigar rhwng ei fysedd, mai efe oedd stiwart y stad. Gresynnai ei fod yn gorfod smocio hon allan o olwg Wil y gwas bach. Credai y buasai cyhwfan sigar a thân arni yngwydd Wil yn ddigon o gosb arno am yr holl ddireidi wnelsai yn ystod ei fywyd, a dymunai yn ddistaw am i ragluniaeth geryddu Wil yn gyfiawn trwy ei arwain i'w gyfarfod ef cyn i'r sigar ddarfod; ond, yn anffodus, ni ddaeth y farn hon o eiddo Siams i ben. Rhwng y sigar a'r rhagolwg am lwyddiant yn ei genhadaeth, cerddai Siams tua thre fel dyn wedi cael tipyn gormod; a diolchai Nel yn ei chalon fod y ffordd yn weddol glir heb fawr neb yn ei theithio y noson honno ond hwy eu hunain.
"Mae Bryn Marian mor sâff a dim i dy fam 'rwan, Nel," ebe Siams, pan ddaeth i goed y Plas, a dechreuodd floeddio rhywbeth am wr y Swan nes oedd y lle yn diaspedain, a thrwy fawr drafferth y llwyddodd Elin i'w ddistewi.
"O'r gora, os na chai o waeddi allan, 'roedd o'n bound o neud row wedi mynd i'r lloftt, er mai hospital Lewys Dafydd oedd hi;" a bygythiai Siams gadw yr hen lanc anffodus hwnnw ar ddihun tan drannoeth i ddathlu y llwyddiant oedd yn debyg o ddilyn ei ymweliad â thy y stiwart.
Erbyn iddynt gyrraedd Bryn Marian, 'roedd pawb wedi mynd i'w gwelyau, ac erfyniai Nel ar Siams fynd i'w wely yn ddistaw, a pheidio gwneud helynt.
Pan aeth yr hwsmon i'r lloft, 'roedd Lewys Dafydd yn chwyrnu cysgu yn hapus ddigon, ond 'roedd Siams o'r farn fod yn werth iddo ei ddeffro i weld stwmp y sigar, ac i gael tipyn o'r hanes. Cydiodd âg un llaw,—nid yn rhy dyner,—yn nhrwyn yr hen lanc, a daliodd weddillion y sigar i fyny yn fuddugoliaethus yn y llaw arall,
"Be' sy' arnat ti, dwad?" ebe'r tyrchwr, pan ddeffrodd.
Daliai yr hwsmon y stwmp o flaen ei lygaid mewn distawrwydd, a chyda phob difrifwch, fel pe buasai yn rhan o seremoni grefyddol.
"Be'sy' arnat ti mewn difri?" (be'r llall wedyn. "Wyddost ti be' ydi hwn?" gofynnai Siams. Ceisiai'r tyrchwr graffu ar yr hyn ddaliai y llall, ond 'roedd yno ry ychydig ohono iddo fedra dyfalu beth ydoedd.
"Stwmp sigar," ebe Siams.
"Fyth o'r fan 'ma," ebe'r tyrchwr, gan roi tro yn ei wely a'i wyneb at y pared—hynny o dro ganiatai ei anaf iddo roi. "Mi wyddwn dy fod di yn wahanol i'r cyffredin, ond wyddwn i'roed or blaen dy fod di cyn wirioned; dos i dy wely yn lle poeni dyn hefo'th lol."
"Lol wyt ti yn 'i alw fo," ebe Siams. "Aros nes deuda i hanes o. Mae hwn yn gysegredig," meddai wedyn; a syllodd yn fanylach ar y gweddillion ar gledr ei law ei hun. "Dyma ernes yr etifeddiaeth," meddai, a gwaeddodd "Bendigedig " nerth ei ben.
'Roedd Lewys Dafydd wedi cael braw, a chredai yn sicr fod rhyw amhariaeth ar feddwl Siams. Yn ffodus, dyna sŵn curo y pared yr ochr arall. Gwen Ifan yn galw Siams i gyfrif am waeddi. Meddyliodd Siams mai y peth goreu iddo oedd mynd i'w wely yn ddistaw, heb ddweyd rhagor o gyfrinach y stwmp, a chafodd y tyrchwr heddwch i gysgu ymlaen.
PENNOD VI.
YR HWSMON A'R TYRCHWR.

NI ellir dweyd mai difyrrwch pennaf Lewys Dafydd yng ngwyliadwriaethau y nos oedd gwrando ar Siams yn chwyrnu yn y gwely arall; ond oherwydd yr arwyddion digamsyniol o wallgofrwydd welsai arno pan yn dangos y stwmp sigar, gollyngodd y tyrchwr am unwaith ochenaid ddofn o ddiolchgarwch pan glywodd yr hwsmon yn dechreu rhochian cysgu. Coleddai obaith y byddai iddo, erbyn y bore, adfeddiannu ei swm arferol o synwyr,—adferiad na ddylasai, ym marn ddiduedd y tyrchwr, gymeryd ond ychydig iawn o eiliadau. Cysgai Siams yn drwm, ond nid mewn heddwch. 'Roedd helyntion y dydd yn dilyn ar ei sodlau yn ei gwsg, a chedwid y tyrchwr ar ddihun gan yr amrywiaeth diderfyn oedd yn chwyrniadau yr hwsmon. Ynghanol ei freuddwydion rhoddodd Siams floedd sydyn, ac yna chwarddodd fel ynfytyn trwy 'i hun nes oedd y gwely yn gwegian. 'Roedd y tyrchwr yn y gwely arall yn chwys oer drosto, a phob math o feddyliau yn dod i glwydo ar ei obennydd.
Rywbryd cyn plygain, deffrodd Siams o ganol ei helbulon, a goleuodd y ganwyll. Ar ol gwneud yn siwr fod y tyrchwr yn cysgu, a'r tyrchwr yntau yn rhoi pob cefnogaeth i'r syniad trwy ddechreu chwyrnu yn rhagrithiol, estynnodd yr hwsmon y stwmp sigar o boced ei wasgod oedd ar gadair yn ymyl. Rhoddodd ei drwyn—trwyn y stwmp—yn y ganwyll. a thrwy drafferthu tipyn i'w sugno, a sugno 'run faint ar ei fys a'i fawd, gan fyrred oedd y stwmp, llwyddodd i gael rhyw fath o fygyn am ennyd fer, ond 'roedd gweddillion y sigar mor gwta fel y bu raid i'r hwsmon, er mwyn heddwch theimladau da yng nghymdogaeth ei drwyn, ddiffodd y tipyn tân oedd arno. Ar ei benelin yn ei wely yr elai Siams trwy y seremoniau hyn, a Lewys Dafydd, o gwr tywyll yr ystafell, trwy gil amrant, yn gwylio popeth. Toc, cododd Siams y ganwyll hefo'i law, a daliodd hi fel search-light ar wersyll y gelyn i wneud yn siwr unwaith eto nad oedd yno ddim ysbïwr ar y gobennydd gyferbyn. Atebodd Lewys Dafydd yr ymchwiliad hwn trwy wneud cyd-wybod i chwyrnu yn fwy argyhoeddiadol. Ar ol cael tawelwch i'w feddwl ar y pen hwnnw, rhoddodd yr hwsmon rhyw led-tro yn ei wely, eisteddodd i fyny, a chynygiodd wrando ar ei lais ei hun, gan nad oedd yno neb arall i wneud y gwasanaeth hwnnw,—
"'Pwy fasa'n meddwl! Siams ar 'i hen sodla yn debyg o gael y ffarm i Gwen Ifan, ac yn cael sigar gin nai y stiwart. Go lew fyth o'r fan 'ma. Bachgan clên hefyd. Be' feddylith yr hen dyrchwr tybad pan ddaw o i ddallt? Hy (gyda threm ys—goewedd i gyfeiriad y chwyrnwr), choelith o byth; ond mi fydd raid iddo fo." (Ffit o gosi ei ên mewn distawrwydd,—Lewys Dafydd yn dal i chwyrnu, ond yn cymeryd y cyfle i newid y cyweirnod am un îs, er mwyn clywed ymson yr hwsmon yn well).
"Biti o'i hwyl na fasa gin mistres ddigon bres i droi trwyn gŵr y Swan cyn y sêl. Be' fydda i mi ofyn 'i gyngor o (nód i gyfeiriad y tyrchwr), mae o'n hen ben go arw. Na, mi 'rosa i dipyn eto i weld sut y daw hi. Be' fydda i mi gonsyltio Wil?" a phlygodd Siams i'w ddwbl gan chwerthin pan ddaeth y syniad o ddwyn Wil i'r gyfrinach ar draws ei feddwl.
Ar hynny dyna gnoc ar y pared yr ochr arall,—Gwen Ifan yn galw ar Siams i godi, ac yntau yn ateb.
Credai y tyrchwr fod hwn yn amser cyfaddas iddo ef gogio deffro, a diolchai am y cyfle. Ar ol ystwyrian, troi a throsi, a rhwbio ei lygaid, mentrodd hysbysu y ffaith ei fod yn effro trwy ofyn i Siams faint oedd hi o'r gloch; a chyn iddo gael amser i ateb, gofynnodd iddo wedyn, "Lle buost ti mor hwyr neithiwr?"
"Yn nhy y stiwart," ebe yntau.
"Be' oeddet ti'n neud fan honno?"
"Smocio sigars," ebe Siams.
"Dyn—dyn," ebe'r tyrchwr, "'rwyt ti'n mynd ymlaen yn y byd yn arw. Pa siwt wyt ti am roi am danat heddyw?"
"O, 'r hen resi," ebe Siams, gan amneidio â'i law at grogle y trowsus rhesog.
"Siams," ebe llais o waelod y grisiau, "wyt ti'n dwad? Tyd wir, mae hi'n berfeddion y dydd."
Gwen Ifan oedd yno wedi gorffen cynneu tân, ac yn dechreu gwresogi yn yr ysbryd wrth weld pawb ohonynt yn ymdroi cyd rhwng y cynfasau.
Pan glywodd yr hwsmon son am "berfeddion y dydd," prysurodd i ddiffodd y ganwyll, a chafodd yr hyfrydwch o wisgo am dano yn y tywyllwch, oherwydd iddo gymeryd un o frawddegau areithyddol Gwen Ifan yn rhy lythrennol.
Trwy fynych waeddi yn nhroed y grisiau yn y tŷ, a churo droion hefo coes y brws brâs dan waelod y llofft allan lle cysgai y gwas a'r gwas bach, llwyddodd Gwen Ifan o'r diwedd i godi yr holl wersyll, ac i'w hanfon bob un at ei waith ac at ei orchwyl am ddwyawr cyn brecwast. Ond prin o ynni fyddent am y daliad hwnnw bob amser. Rhyw ddylyfu gên y byddent oll, gan edrych ymlaen yn farwaidd at y cysur a'r diddanwch oedd yn eu haros mewn llond bowlan o frwes a chwpanaid o dê. Daeth galwad i frecwast o'r diwedd, a chredodd Wil i'r ymadrodd yn gyntaf un, er fod ei gylla yn taeru ers meityn na ddeuai'r alwad byth. Eisteddasant yn gwmni cryno, breichnoeth, parod i'w bwydo. Eisteddai Gwen Ifan ac Elia wrth ford gron fechan, a'r gwas a'r gwas bach, y forwyn a Siams, wrth y bwrdd mawr,—y ddau flaenaf ar y ffenestr tu draw i'r bwrdd, a Siams a'r forwyn ar fainc symudol yr ochr arall iddo. Darfu'r wledd, a daeth dyledswydd.
Estynnodd Gwen Ifan y Beibl, a gosododd ef fel arfer ar y bwrdd gwyn di-lian o flaen Siams, a dododd ei spectol a'i breichiau ymhleth arno. 'Roedd y cwmni yn awr wedi gwisgo gosteg fel dilledyn; a cheisiai y sospon lle 'roedd llaeth y lloi yn cawsio yn ddistaw ar ffon y grat berswadio y crochan tatws moch oedd yn ei ymyl i ferwi yn dipyn distawach i'r tân. Clustfeiniai y tyrchwr yn y llofft,—gwyddai fod y gwasanaeth ar ddechreu, ac er nad oedd rhyw lawer iawn o grefydd yn ei groen, teimlai yn awyddas i gyfrif ei hun yn un o gwmni y ddyledswydd. Yr oedd newydd dderbyn ei forebryd o law garedig Elin, ac wedi ei fwynhau. 'Roedd wedi gwrando ar ffolineb Siams gefn nos, ac wedi chwerthin dan y dillad am ei ben, ond carai ef oblegid hynny yn fwy na chynt, a gwrandawai yn astud ar lais yr hwsmon yn esgyn i fyny'r grisiau.
Agorodd Siams y Beibl yng nghymdogaeth y Salmau, a dechreuodd ddarllen lle disgynnodd ei olwg gyntaf,—"Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys y'nghysgod yr Hollalluog. Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a'm hamddiffynfa ydyw fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf. Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddiwrth haint echryslawn. A'i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi dïogel; ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti." A darllenodd y Salm yn hamddenol drwyddi. Caeodd y Beibl yn sydyn,—"Dyna hi i chi," meddai, gan dynnu a chau ei spectol, " yr hen Salm ffeindia yn y byd,—'does eisio mo'i gwell hi byth." Aeth ar ei liniau, a phawb o'r cwmni yr un modd, ond y gwas. 'Roedd y gwas bach yn ddigon eiddil i droi ar ei liniau rhwng y bwrdd a'r ffenestr, ond gormod camp i'r gwas oedd hynny, a chymerid ef yn esgusodol. Bu gan Wil flys lawer tro trugarhau wrtho ei hun a pheidio penlinio, a gwnaeth osgo unwaith i eistedd fel y gwas yn ystod y weddi, ond deallodd yn bur fuan oddiwrth dwlciadau clun y gwas nad oedd y cydymaith hwnnw yn ffafriol i gynnydd anghydffurfiaeth ar y ffenestr, a bu raid i'r gwas bach, er dirfawr siom, ufuddhau i'r awdurdodau goruchel, a dioddef adfyd gyda Siams a'r forwyn trwy benlinio yn y dull cyntefig.
Crybwyllwyd mai yr un weddi fyddai gan yr hwsmon bob bore ar ddyledswydd gweddi wedi dod i'r ffurf hawddgar oedd arni trwy ugain mlynedd o natural selection; ond yr oedd yn weddi a bywyd ynddi. Yr un weddi a'r un wyneb oedd iddo bob dydd, ond 'roedd yr amrywiaeth na cheir mohono ond yn "ol ei fysedd Ef" ar y naill a'r llall. Gweddiai hi y bore hwn gyda rhyw naws dieithriol. Deuai ambell bwyslais yma ac acw ynddi na fedrai neb ond Nel ei ddeall yn iawn, er y byddai deongliad Lewys Dafydd yn y llofft yn lled agos i gywir. 'Roedd y gwas bach â'i ben rhwng ei ddwylo ar fainc y ffenestr wedi dwyshau, ac ofnai yn ei galon i Siams orffen gweddio cyn i'w lygaid direidus ef gael amser i sychu. Pan oedd y gweddiwr yn cloi y weddi i fyny, dyna swn traed ceffyl ysgafn ar y palmant yn y buarth.
PENNOD VII.
NEWYDDION DA.

AR ol i Siams ac Elin droi tuag adref y noson y buont yn eiriol dros Gwen Ifan, eisteddodd nai y stiwart yn nghadair ddwyfraich ei ewyrth, cododd ei ddeutroed ar gadair arall, a dechreuodd syllu yn ddyfal i lygad y tân, lle 'roedd boncyff ffawydd ar hanner llosgi, a'r nôdd yn suo berwi ar ei goryn. Ond nid am y boncyff y meddyliai. Meddwl yr oedd am y ddeuddyn oedd newydd groesi y rhiniog. Mor ddiddorol oedd yr olwg arnynt—yr hwsmon mor wladaidd a naturiol, a'r ferch yn ei ganlyn mor anwyl a dirodres. Ni fu eu harosiad yn y tŷ ond byr, ond aeth y ddau mewn byr amser yn agos at galon y llanc—nid y ddau ar wahan, ond y ddau gyda'i gilydd. Rhywbeth yn y cyfuniad a'i swynodd gyntaf. Dygid i'r amlwg anwyldeb y naill gan bresenoldeb y llall. Teimlai awydd cryf i gael tipyn o smaldod serchog hefo'r hwsmon pan oeddynt yn y tŷ, ond ofnai i'r ferch ei gamfarnu; ac wedi iddynt ymado, gofidiai ambell foment na fuasai wedi mynd i hebrwng ychydig arnynt, a'u cymeryd un ymhob braich. Ni fynasai wneud hynny mae'n wir, ond 'roedd y syniad yn gyson â'i deimladau ar y pryd, a chaffai lawer o fwynhad wrth ddychmygu ei hun yn cerdded yn fath o gwplws dynol rhyngddynt. Ond torrwyd ar ei fyfyrdodau gan sŵn olwynion cerbyd ei ewyrth yn y ffordd gyferbyn.
Pan ddaeth y stiwart i'r tŷ, dygodd Hywel achos Bryn Marian i'w sylw heb lawer o goll amser, ond ni chafodd gyfle i eiriol drostynt, yr hyn oedd yn beth siomedigaeth iddo. Dywedodd ei ewyrth wrtho fod y sgweiar ac yntau wedi bod yn trafod gosodiad Bryn Marian, a'u bod wedi penderfynu rhoddi cymeriad y fferm i'r weddw, er i Mr. Morgan y Swan gynnyg rhent blwyddyn bob hanner blwyddyn am dani. Cafodd y nai ganiatad i fynd i Fryn Marian drannoeth i ddweyd hynny wrthynt, phedolau ei ferlyn ef oedd yn clepian ar y palmant pan oedd yr hwsmon yn cloi ei weddi i fynny.
Wil oedd y cyntaf allan o'r tŷ, a phan welodd y marchog y gwas bach, cododd ei fŷs arno, a phrysurodd yntau ato.
Ydi'r hwsmon hyd y fan 'ma?"
'Ydi, Syr," ebe Wil.
"Galw arno fo, nei di?"
Trodd Wil ar ei sawdl.
"Aros funud," ebe'r marchog, "faint o ferched sy' 'ma?"
"Un," ebe'r gwas bach.
Galw arni hithau hefyd—mae gin i isio gweld y ddau."
Rhedodd Wil yn ol i'r tŷ cyn i neb arall ond y gwas ddod allan,—"Mae 'na ŵr bynheddig heb orffen tyfu yn holi am Nel," meddai, "ond mae o yn deyd nad ydi Siams ddim i fynd i'w olwg o."
Medrodd Nel weld pwy ydoedd trwy y ffenestr, ac er nad oedd mor dwt a thrwsiadus ag y carasai fod, aeth allan i'r buarth ato yn hollol ddilol.
Ceisiodd Wil wedyn unioni y cam wnaethai â'i genadwri, a gwnaeth ei oreu i berswadio Siams i fynd ar ei hol, ond gomeddai yr hwsmon roi coel ar ysbryd cyfeiliornus y gwas bach. Fodd bynnag, pan oedd Wil yn erfyn gyda thaerineb difri ac an-ffeithiol ar i Siams fynd allan, daeth Nel, ar gais y dyn ifanc, i'w gyrchu.
"Sut daethoch chi adre neithiwr y'ch dau?" gofynnai Hywel.
"O, yn iawn, Syr," ebe Siams.
"Ond i fod o fel dyn o'i go," ebe'r ferch, gan gyfeirio at yr hwsmon.
"Beth oedd y mater?"
"Wedi cael 'i blesio ormod 'roedd o," ebe hi.
"Os felly," ebe'r dyn ifanc, "mi fydd o'i go heddyw yn siwr. 'Rydw i wedi dwad yma i ddeyd fod y ffarm i'w chael i'ch mam."
Neidiodd Siams i law y marchog, gwasgodd hi, trodd, a thruthrodd i'r ty. "Hwre!" gwaeddai ar ganol llawr y gegin, a'i ddwylo i fynny,—"Chaiff gŵr y Swan mo Fryn Marian!"
Bu Wil mor amryfus a mynd yn rhy agos ato dan chwerthin yn angrhediniol; gwelodd gweddillion yr hen ddyn yn Siams—heb i Siams rywfodd sylweddoli—gyfle i wastatau cyfrifon blynyddoedd hefo'r bychan, a rhoddodd glustan iddo nes oedd yn troi, ac yn disgyn yn daclus wrth droed y grisiau. "Be' sy' arnat ti, Siams, mewn difri?" ebe Gwen Ifan.
"Rydw i'n barnu fod stagars arno fo fel sy' ar Captyn," ebe Wil, a ffodd am y drws, gan rwbio ei glust.
"Mistres," ebe Siams, gan daflu cipolwg tua'r drws fel pe buasai yn disgwyl Wil yn ei ol i gynnyg y glust arall iddo,—" Chi sydd i fod yn Bryn Marian yma. Nai y stiwart ydi'r dyn diarth yna, wedi dwad i ddeyd. Dowch ato fo gael i chi glywad y'ch hun."
Aeth Gwen Ifan allan.
Dyma mam," ebe Nel.
"Wedi dwad yma 'rydw i," ebe yntau, "i ddeyd mai chi sydd i gael y ffarm yma eto."
"Diolch yn fawr iawn i chwi," ebe hithau, "dyna'r newydd gora glywis i ers llawer dydd; mi allaf fentro llawenhau am dipyn, er y gall y dyfodol fod yn ddigon tywyll."
"Fydd hi ddim yn dywyll hefo dau fel hyn i gymryd gofal o honoch chi," meddai yntau.
"Hefo tri," ebe Wil oddiar risia'r 'sgubor tu cefn iddo. 'Roedd y gwas bach wedi gosod ei hun yn y fan honno i anwesu ei glust, ond yn gofalu am fod o fewn clyw, a gwrthdystiai yn erbyn cael ei adael allan o blith y goleuadau oedd i lewyrchu ar lwybr Gwen Ifan.
"O, ie, tri," ebe yntau, "'rydach chi'n gyfoethocach nag oeddwn i wedi feddwl. Ydyn' nhw'n lled ufudd i chi? Sut mae Siams yma yn byhafio?"
"Symol iawn, Syr," ebe Wil, gan ddangos ei barodrwydd i helpu Gwen Ifan trwy gymeryd y cyfrifoldeb o ateb am gymeriad Siams arno ei hun. "Dydi newyddion da ddim yn dygymod hefo fo; os oes gynoch chi chwaneg o honyn' nhw, peidiwch a'u gadael nhw yn 'i gyrraedd o.'"
"Tipyn yn galed arnat ti ydi o?" gofynnai Hywel, gan droi at y gwas bach.
"Caled iawn, Syr," ebe yntau, "mae o'n meddwl fod 'y mhen i wedi 'i neud o bres."
"Paid a chadw sŵn, Wil," ebe'r feistres, "'rwyt ti'n medi yr hyn wyt ti'n hau."
"Wel," meddai'r dyn ifanc, "dyna fy neges i ar ben. Rhaid i mi droi adre bellach. Ond 'roedd yn dda iawn gen i gael cario y genadwri, 'dasa ddim ond am y rheswm fod gŵr y Swan wedi cynnyg dwbwl y rhent am y ffarm pe cawsai hi,—ond chi fydd pia hi; ac os cai fyw, mi ddof heibio yma yn awr ac eilwaith,—hwyrach y medra i neud rhyw-beth i gadw Siams a Wil yn 'i lle."
Acth yr hwsmon i'w hebrwng ychydig gamre o'r buarth—teimlai fod ganddo rywfaint o hawl i wneud hynny, a chafodd y fraint o agor dwy lidiart iddo.
Er fod dydd yr arwerthiant yn agoshau—dim ond rhyw dridiau eto—fe ysgafnhaodd cenadwri Hywel lawer iawn ar faich Gwen Ifan. Teimlai y byddai ei chartref iddi am beth amser wedyn, beth bynnag, ac am hynny 'roedd diolchgarwch lond ei chalon.
Twtio o gwmpas oedd gwaith pennaf y gwas a Wil y dyddiau hyn, ar gyfer y gwerthu; ond 'roedd un frawddeg ddywedodd nai y stiwart wedi peri i Wil heddyw gymeryd gwaith arall ar ei ysgwyddau ei hun. 'Roedd gŵr y Swan nid yn unig yn gyrru ar Gwen Ifan am ei arian, ond hefyd wedi cynnyg cymaint ddwywaith o rent am y ffarm er mwyn ei chael i'w ddwylo.
'Roedd Huw, gwas Bryn Marian, yn arfer treulio ambell gyda'r nos yn y dafarn, a chymerodd y gwas bach y diwrnod hwnnw lawer iawn o drafferth i wasgu at ei ystyriaeth ei rwymedigaeth i fynd i'r Swan y noson honno, ac i'w wneud yn gyfarwydd yn y dull mwyaf effeithiol i halltu Mr. Morgan am ei fudrwaith. Nid yn ofer y llafuriodd Wil—bu braidd yn rhy lwyddiannus. Diweddodd y siarad yn y Swan trwy i was Bryn Marian daro Mr. Morgan i lawr yn ei dŷ ei hun; ac er fod y gegin yn weddol lawn, ni chafwyd cymaint ag un i wrthdystio yn erbyn y ddyrnod.
Treuliodd Siams y diwrnod i geisio dyfeisio rhyw ffordd i osgoi chwalfa yr arwerthiant. Bu yn trafod y cwestiwn droion yn ystod y dydd. Gwnaeth hynny hefo Nel; ac aeth i fyny i'r llofft ar awr ginio i fynd dros yr hanes hefo Lewys Dafydd, ond nid oedd ffordd o waredigaeth yn agor yn unman. Gwnaeth y tyrchwr i Nel fynd dros yr un hanes drachefn wrth fynd â thê i fyny iddo yn y pnawn. Aeth dwy noswaith heibio heb i unrhyw ddrws of ymwared agor, a thrannoeth, bellach, oedd diwrnod yr arwerthiant.
Aeth Siams i. fyny i'r llofft i fynd i'w wely yn weddol gynnar y noson honno.
Oes yna ddim goleuni wedi dwad o unlle, Siams?" gofynnai Lewys Dafydd.
"Dim," ebe yntau.
"Mae hi yn y pen—ddaw dim byd bellach," ebe'r tyrchwr.
"O, na dydi hi ddim yn y pen," meddai'r hwsmon.
"Wel, 'does dim ond heno am dani hi, a be ddaw heno," ebe'r tyrchwr drachefn.
"Dydi hi ddim yn y pen," ebe Siams wedyn, ac aeth ar ei liniau i ddweyd ei bader, fel yr arferai wneud bob nos. Pan gododd i fyny,—
Siams," ebe'r tyrchwr, "oes gin ti ofn nos?" Ddim llawar," ebe'r hwsmon, "be fynni di?" Fedra i ddim gorwedd yn y fan yma i wrando ar sŵn mwthwl y dyn yna yfory, a chen inna arian sychion yn gorwedd yn segur mewn nant i fyny'r mynydd yna. Rhaid iti fynd i ymyl y Foty heno i chwilio am danyn nhw. Faint ydi hi o'r gloch?"
"Mae hi yn hanner awr wedi naw," ebe Siams, a bron wedi colli ei anadl yn gwrando.
"O, mae hi yn rhy gynnar i gychwyn eto," ebe Lewys Dafydd, "rhaid i ti aros nes bydd hi yn ymyl hannar nos.'
"Raid i mi fynd fy hun?" gofynnai Siams. "Ga i fynd â Wil hefo fi?"
"O'r gora, dos i chwilio am dano fo."
Cafodd Siams afael yn Wil, a llusgodd ef i'r llofft trwy drais heb egluro dim iddo. Dyna lle buont yn disgwyl am drymder nos, a'r gwas bach yn methu dirnad beth oedd yn bod, ond gwyddai ei fod yn rhywbeth pwysig.
Ni fu mewn wylnos erioed fawr fwy o ddal anadl, beth bynnag am ddefosiwn, nag oedd yn y llofft pan yn aros i oriawr yr hwsmon deimlo â'i bysedd am hanner nos. Sibrwd yn hytrach na siarad oedd yno, a rhwng Siams a Lewys Dafydd yn bennaf yr oedd hynny. Eisteddai'r gwas bach ar focs dillad yr hwsmon i gnoi gweiryn oedd wedi cofleidio botwm ei gôt wrth iddo basio'r dâs, ac i geisio dyfalu mewn distawrwydd pam y darnlusgodd Siams ef i'r llofft mor ddiseremoni. Aeth y ddau arall ymlaen i sgwrsio dan eu hanadl, heb oleuo dim ar Wil, ond heb ychwaith warafun cyfle iddo dderbyn datguddiad graddol oddiwrth y sgwrs.
"Ble yno ma' nhw?" gofynnai'r hwsmon i Lewys Dafydd. "Ydyn' nhw yn anodd i cael?"
"'Dydyn nhw ddim yn hawdd," ebe yntau, ond mae nhw'n haws i cael nag oeddan nhw i mi wrth 'i hel. Mi wyddost am hen glogwyn sy' ryw dri chant o lathenni tu draw i'r Foty—yng ngodre hwnnw—yr ochor dde."
Clogwyn y siglan wyt ti'n feddwl?" gofynnai yr hwsmon, mewn llais a'i gywair dipyn yn gynhyrfus.
"Ie," ebe'r llall.
Eisteddodd yr hwsmon yn ddrych o anobaith ar gwr o'r un bocs a Wil.
"Twt," meddai, "ma nhw cyn saffed a dasa nhw yng ngwaelod gwaith plwm, a hwnnw heb i agor. Pwy byth fedar fynd atyn' nhw—mi leiciwn i wybod? Fedri di fynd?" a throdd ei lechwedd a'i gwestiwn at Wil.
"Be' ydyn' nhw?" ebe'r gwas bach.
"Celc yr hen law," ebe Siams, gan gyfeirio â'i fawd at y tyrchwr. "Mae o am dynnu'r pinna o 'lwynion gŵr y Swan fory, os medrwn ni fynd dros yr hen siglan yna."
"Be' yn y byd oedd yn dy gorddi di i'w rhoi nhw mewn lle felly?" gofynnodd i'r tyrchwr drachefn.
"Fasa ti'n disgwyl i mi crogi nhw ar bost llidiart ar fin y ffor dyrpac?" ebe yntau.
"Mewn be' mae nhw?" gofynnai'r hwsmon wedyn.
"Mewn dwy hosan, a rheini mewn dwy esgid, a'r 'sgidia wedi i claddu yn dwt wrth ochra i gilydd, a'i gwadna yn isa'."
Traddodai Lewys Dafydd y manylion hyn yn hamddenol, a chyda chryn lawer o ddifrifwch ac urddas, ond 'roedd hanner y gynulleidfa oedd yn eistedd ar y bocs dillad yn gwrando yn hollol anheilwng. I Wil 'roedd gweledigaeth pâr o 'sgidia a'u llond o aur yn llechu yn ddistaw dan dywarchen yn ogleisiol, a dechreuodd gicio ei sodlau yn erbyn ystlys y coffor, ond dyna sŵn curo yr ochr arall i'r pared,—migyrnau Gwen Ifan yn dweyd mewn iaith ddeallid yn dda,—
Rhag cwilydd i chi, byddwch yn ddistaw, 'does dim posib cysgu."
Pan welodd y tyrchwr fod y dull ym mha un y claddasai ei drysor yn goglais Wil, dechreuodd adrodd sut y bu iddo eu claddu felly.
"Mi fum i," meddai "yn y siglan am bum awr wrth i danfon nhw, a 'roeddwn i wedi dechre meddwl mai yno y byddwn i farw, ond rywsut mi fedres lanio yr ochor draw. 'Roedd yr arian wedi i lapio a'i rhwymo mewn llian, ond pan oeddwn i yn mynd i'w rhoi i lawr yn y ddaear mi ofnes y byddai'r llian wedi pydru cyn y byddwn i yn nol yr arian, ac y cawswn i felly drafferth i'w cael nhw i gyd o'r pridd. Be' nes i, mi dynnes fy 'sgidia—'roedd trefn sobor arnyn' nhw wedi bod yn y gors—a mi dynnes fy sanna hefyd. Mi wnes amdo o'r sanna ac eirch o'r 'sgidia, a mi gladdes y trysor yn ofalus. 'Rydw i wedi meddwl ganwaith am fy ffolineb."
"Sut doist ti odd'no?" ebe Wil.
"Ar fy nhor—ymlusgo yn llythrennol fel malwen," ebe'r tyrchwr. "'Roeddwn i wedi cael profiad chwerw o dreio cerdded dros y siglan, a mi wyddwn na faswn i ddim yn sincio 'run fath wrth ymlusgo. Mi fum i'n meddwl wedyn mai'r cynllun gora fasa cymeryd y ddwy lidiart fach sydd wrth dŷ y Foty—rhoi un ar gwr y siglan, sefyll ar honno, a rhoi y llall tu draw iddi hi, mynd wedyn ar hono, ac felly o hyd nes mynd drosodd."
Campus," ebe Siams, "felly gwnawn ni, Wil," a tharawodd ei law ar ben ei lin, fel dyn wedi gwneud darganfyddiad.
Erbyn hyn 'roedd hi yn ymyl hanner nos, ac ar ol cael disgrifiad manwl o'r lle gan y tyrchwr, cychwynnodd y ddau i lawr o'r llofft mor ddistaw ag y medrent, ond clywodd Gwen Ifan hwynt, a phan oeddynt yng ngwaelod y grisiau, agorodd ddrws ei hystafell, a gwaeddodd,—" Pwy sy' 'na?" Ond nid oedd llais na neb yn ateb.
"Pwy sy' 'na?" gwaeddai wedyn yn fwy llym ei llais.
'Siams," ebe Wil.
"Lle 'rydach chi'n mynd yr amser yma o'r nos?" ebe'r fistres.
"I osod trap i ddal yr ocsiwniar fory," ebe'r gwas bach.
"Siams," ebe'r wraig, "mae rhyw reswm arnat ti, lle 'rydach chi'n mynd?"
"'Rydan ni'n mynd i'r Foty i 'nol" ond parodd pwniad gan y gwas bach i'r hwsmon ddiweddu ei frawddeg mewn peswch amheus.
"I 'nol bybe'?" ebe'r fistres.
"Sgidia gora Lewys Dafydd," ebe Wil; "mae
o am godi fory, a rhaid iddo fo i cael nhw."
'Dy lol di, Wil, ydi hwna," ebe hithau.
"Gofynwch iddo fo," ebe'r gwas bach.
"Oes gin ti eisio 'sgidia o'r Foty at yfory, Lewys Dafydd?" gwaeddai Gwen Ifan.
"Well i mi cael nhw 'rydw i'n barnu," ebe yntau.
"Fyth o'r fan yma," ebe hi, "mae llai yn 'i ben o nag oeddwn i wedi feddwl."
"A mwy yn 'i 'sgidia fo nag oeddwn inna wedi feddwl; tyd, Siams," ebe Wil.
Aeth y ddau allan, a'r foment honno, yn y tywyllwch a'r ddrycin y sylweddolodd y ddau y gwaith oedd yn eu haros. Ar ol cael llusern o'r ystabl, a thrywel a rhaff, cychwynasant i fyny i'r mynydd i gyfeiriad y Foty. Nid rhyw lawer siaradent ar y ffordd—'roedd y nos a'r neges wedi distewi y ddau. Cyrhaeddasant y tŷ o'r diwedd. Cymerodd Siams un lidiart fach, a chymerodd Wil y llall, a chludwyd hwy at y siglan. Hawliai yr hwsmon yr anrhydedd o beryglu ei fywyd i estyn 'sgidia'r tyrchwr, fel y galwai'r gwaith, ac ni theimlai Wil ar ei galon fynd a'r fraint oddiarno, oherwydd nid oedd yn hidio rhyw lawer am yr olwg gai ar y gors yn llewyrch y llusern. Gosododd yr hwsmon un lidiart ar gwr y gors, ac aeth ar ei draed arni. Galwodd am y llidiart arall, a gosododd hi tu hwnt, ac yna symudodd ar honno, ond yn yr ymdrech i godi'r llidiart oedd tu ol i'w gosod ymlaen wedyn, llithrodd ei draed rhwng ffyn yr un y safai arni i'r siglan. Dechreuodd y gwas bach chwerthin, ac yn niymadferthedd y ffit wamal honno gollyngodd y lanter, a diffoddodd y ganwyll. Difrifolwyd ef dipyn gan y tywyllwch a thuchan yr hwsmon. Goleuodd y lanter cyn gynted ag y gallai, a gwelodd fod Siams yn suddo yn gyflym, ond fod gobaith i'r llidiart wasanaethu fel life belt. Taflodd y rhaff iddo ar unwaith, a thrwy ymdrech fawr llwyddwyd i gael Siams i dir, ond nid yn ddigolled. 'Roedd ei 'sgidia wedi troi yn anffyddlon iddo yn y gors, ac wedi aros yno. Ychydig o "gau" fyddai ar ei 'sgidiau un amser, ac am y rheswm hwnnw 'roedd yn hawdd iddynt lynu yn y siglen.
"Hidia befo," ebe'r gwas bach, gan grynhoi goleuni y lanter yn hollol ddideimlad ar draed amddifaid a diymgeledd yr hwsmon, "mi gei 'sgidia Lewys Dafydd pan gawn ni nhw—biti na fasat ti wedi glanio 'rochor arall, yno ma nhw."
"Paid a smalio, Wil," ebe'r hwsmon, "mae o'n lle rhy ddifrifol. Be' nawn ni, dwad?"
"Hwda'r lantar yma gael i mi dreio," ebe'r gwas bach.
Ond ar ol ei brofiad chwerw ei hun, nid oedd yr hwsmon yn fodlon i Wil gychwyn os na chai glymu rhaff o dan ei geseiliau. Felly fu. Cymerodd Wil y trywel gan Siams, defnyddiodd y ddwy lidiart yn ddeheuig, a llwyddodd i groesi'r siglen. Cafodd hyd i'r llecyn a'r pâr 'sgidiau yn lled ddidrafferth, a chroesodd yn ol yr un fath. Pan laniodd Wil yn ddiogel a'r trysorau yn ei feddiant, buasai'r hwsmon wedi dawnsio gan lawenydd oni bai fod ei sandalau yn y gors. Cychwynasant i lawr tua Bryn Marian yn ddiymdroi, er fod Wil yn llawn chwilfrydedd am weld cynnwys y pâr 'sgidiau yn gyntaf, ac i'r amcan hwnnw cymhellai Siams i roi 'sgidia'r tyrchwr am ei draed ei hun, ond safodd yr hwsmon yn bendant yn erbyn, a mynnodd gerdded yn nhraed ei 'sannau, gan gario esgid dan bob cesail, a rhoi y llusern a'r ychydig offer oedd ganddynt i ofal y gwas bach. Cyrhaeddasant fuarth Bryn Marian erbyn oddeutu dau o'r gloch y bore. Bwriadai Wil fynd ar ei union i'w wely at y gwas yn llofft yr ystabl, ond protestiai yr hwsmon yn erbyn iddo dorri ar yr orymdaith, a bu raid iddo ei ddilyn ef i'r ty ac i'r llofft at y tyrchwr.
Nid trefnusrwydd yr orymdaith yn gymaint oedd yn pwyso ar feddwl Siams, ond ofn wynebu pen y grisiau heb Wil i ateb cwestiynau Gwen Ifan. Fodd bynnag, llwyddasant i gyrraedd ystafell y tyrchwr yn ddiogel, a chyflwynodd yr hwsmon y pâr 'sgidiau iddo, gan dystio mai'r gwas bach oedd y pry' rhyfedda welodd o 'rioed—'i fod o wedi croesi'r siglan fel croesi llawr y gegin.
"Go lew, fyth o'r fan yma," ebe'r tyrchwr, "'roeddwn i wedi mynd yn reit bryderus. Ie, dyma nhw yr hen 'sgidia."
Ar hynny sylwodd y tyrchwr fod yr hwsmon yn nhraed ei 'sannau, a gofynnodd, "Ble mae dy 'sgidia di, Siams?"
"Mae o wedi'i claddu nhw yn y gors i edrach ddaw arian iddyn' nhw," ebe Wil.
Roedd y tyrchwr yn siarad ac yn cynnal ymchwiliad i gynnwys y ddwy esgid yr un pryd. Mae nhw yn hollol fel y rhois i nhw," meddai.
"Rhaid i chi fynd i gysgu 'rwan."
Ar hynny cychwynnodd Wil i lawr i fynd i'w glwyd ei hun. Pan oedd ar ganol y grisiau gwaeddodd gwraig y tŷ,—
"Pwy sy' 'na?"
"Fi," ebe Wil.
Be' ydi'r cyniwair sy' arnat ti heno? 'Sgidia pwy wyt ti'n ol 'rwan, os gwn i?"
"Sgidia Siams o gors y Foty," ebe'r gwas bach.
PENNOD VIII.
DYDD YR ARWERTHIANT.

TRANNOETH, torrodd gwawr y dydd y proffwydasid am dano gan yr hysbysleni—dydd yr arwerthiant. Ni fyddai yn gywir dweyd fod Gwen Ifan wedi deffro y bore hwnnw, oherwydd ar ddihun y gorweddasai trwy ystod oriau meithion y nos. Rhwng twrw y tyrchwr a'r hwsmon a'r gwas bach—yr ysbrydion gwasanaethgar oedd yn cynllwyn caredigrwydd am y pared â hi—a'i phryder hithau am effeithiau yr arwerthiant ar ei chysur hi a'r teulu, ni allodd roddi hûn i'w hamrannau. Ni wyddai hi y pryd hwnnw fod y "drugaredd na chilia" wedi bod yn sefyll yn hir ac amyneddgar yn 'sgidia'r tyrchwr yng nghors y Foty i ddisgwyl cyfle i fod yn swcwr iddi hi a'i phlant, a fod Siams a'r gwas bach, tra 'roedd hi yn troi a throsi ar ddihun, wedi ffurfio yn orymdaith wirfoddol yn y tywyllwch gefn nos i arwain y drugaredd honno ar ffurf pâr o 'sgidia diymgeledd yn llechwraidd i'r llofft nesaf.
Deffrodd Lewys Dafydd cyn plygain, ac ar ol goleuo'r ganwyll i weld fod y banc yn ddiogel, dechreuodd chwibanu rhyngddo âg ef ei hun. Teimlai ei fod yn ŵr o allu a dylanwad y diwrnod hwnnw, a daeth arno beth awydd dangos ei awdurdod. Clywai yr hwsmon yn chwyrnu yn braf yn y gwely arall; ac er nad oedd ond pedwar o'r gloch, a'r hwsmon yn ei wely ond ers dwyawr, gwaeddodd arno yn awdurdodol i godi.
"Côd dy hun," ebe'r hwsmon, fwy yng nghwsg nag yn effro; a chyn pen dim 'roedd yn chwyrnu drachefn.
"Siams," gwaeddai'r tyrchwr wedyn, "côd, rhag cwilydd; mi fydd yr haul wedi codi o dy flaen di, os na frysi di."
"Mi ddyla 'neud—mi gafodd noswyl o mlaen. i," ebe yntau, a throdd ar yr ochr arall, a'i wyneb oddiwrth y tyrchwr.
"Wyt ti ddim yn cofio be' sy' i fod heddyw? Wyt ti ddim yn cofio be' gest ti yn y siglan neithiwr?" ebe Lewys Dafydd wedyn.
"'Rydw i'n cofio be' golles i yno," ebe yntau—"'y nghwsg a phâr o 'sgidia. Os na fedra i gael fy 'sgidia, mi fedra gael cyntyn, os meindi di dy fusnes."
Gwelodd y tyrchwr na chodai Siams ar arch neb ond Gwen Ifan, a gadawodd iddo gysgu. Treuliodd yntau yr amser i wylio pry' copyn yn esgyn ac yn disgyn yn fusneslyd hyd ei raff o gwmpas y pâr 'sgidia; ond pan ddaeth yn ddigon hyf i ddisgyn arnynt, curodd Gwen Ifan y pared yn ei ymyl, a diangodd y pry' i'r nenfwd mewn braw. Deffrodd yr hwsmon wrth yr alwad, a chododd yn bur ddiymdroi. Taerai nad oedd wedi ateb y tyrchwr yn gwta, ac erfyniai faddeuant os oedd wedi gwneud.
"Sut medrwn ni 'neud heddyw, dwad?" gofynnai'r tyrchwr iddo pan oedd yn gwisgo am dano; "fedra i ddim mynd allan, a rhaid cael rhywun i gymryd yr arian yma i brynnu. Pwy 'neiff?" "Nai y stiwart," ebe Siams, "'roedd o yn deud 'i fod o'n siwr o fod yn y sêl heddyw."
"Gofyn iddo fo ddwad i'r llofft ata' i, os daw o yna yn gynnar," ebe'r tyrchwr.
Yn fuan ar ol i'r gweision fynd allan o fore—fwyd, daeth Hywel Ellis i'r buarth. Rhoddodd ofal ei ferlyn i Wil, ac aeth ymlaen at y tŷ. Gwahoddodd Nel ef i mewn i'r gegin, lle 'roedd ei mam yn rhoi rhyw gyfarwyddiadau i Siams.
"Wedi dod yma 'rydw i," ebe Hywel, "i ofyn oes yna rywbeth fedra i 'neud i chi heddyw. Mi fydda yn dda iawn gin i fod o ryw help."
"Fedra i ddim gweld fod yn bosib i chi 'neud fawr," ebe Gwen Ifan, "ond diolch i chi am y'ch caredigrwydd yr un fath.'
"Medar, mi fedar," ebe'r hwsmon; a meddai, gan droi at y dyn ifanc, "mae gin Lewys Dafydd waith i chi, Syr—ddowch chi i fyny ato fo?"
Aeth y ddau i fyny i'r llofft. Clywsai Hywel o'r blaen am y tyrchwr, ond nid oedd wedi ei weld.
"Dyma nai y stiwart wedi dwad," ebe Siams, pan aethant i'r ystafell.
"Roeddwn i wedi bod yn son am danoch chi gynna, Syr," ebe Lewys Dafydd, "ac wedi penderfynu gofyn ffafr gynoch chi. Mae gin i swm o arian yn y fan yna," a chyfeiriodd y tyrchwr at y 'sgidiau, "a mi garwn gael rhywun i'w cymryd nhw i brynnu y stoc i mewn heddyw i Gwen Ifan. 'Newch chi cymryd nhw, Syr? Mae yna yn dyn i bedwar cant o bunna."
"Ble ma' nhw?" gofynnai yntau.
"Yn y pâr 'sgidia yna," ebe'r tyrchwr, gan bwyntio ei fŷs atynt.
Ni wyddai Hywel beth i'w ddweyd—'roedd yna rywbeth mor ddieithriol yn yr amgylchiadau. Edrychai yn syn ar y 'sgidiau, yna aeth a chododd un o honynt, a deallodd oddiwrth ei phwysau fod geiriau'r tyrchwr yn debyg o fod yn ffaith.
"'Rhowch y'ch llaw i mewn yn yr hosan yna sydd ynddi hi," ebe Lewys Dafydd.
Gwnaeth yntau hynny, a thynnodd ddyrnaid o aur allan.
"Dyna nhw i chi," ebe'r tyrchwr, "'newch chi gymryd 'i gofal nhw? Mae nhw i fynd at wasanaeth Gwen Ifan bob dima heddyw, os bydd raid."
Bu Hywel yn synfyfyrio am funud, ac yna dywedodd: "Mae gin i well cynllun. Mi ofala i fod yr arwerthwr yn gosod i bulpud yn lled agos i'r tŷ, gyferbyn â ffenest y llofft yma, ac yna mi lusgwn y gwely at y ffenest, a chewch chwithau weld popeth fydd yn mynd ymlaen, a chewch gynnyg o'r ffenest fel y byddwch yn dewis—bydd hynny yn well o lawer."
"O lawer," ebe Siams yn selog, a rhwbiai ei ddwylaw yn ei gilydd wrth feddwl am y wledd o wylio yr hen dyrchwr yn prynnu stoc fferm gyfan o'i wely trwy ffenest y llofft.
Ildiodd Lewys Dafydd i'r cynllun yn lled rwydd, a llusgodd Hywel a Siams wely y tyrchwr i ymyl y ffenest i roi prawf ar y cynllun, a chymeradwywyd ef. 'Roedd gan Hywel eisieu mynd i'r llan cyn i'r arwerthiant ddechreu, ac aeth Siams gydag ef i agor y llidiardau rhyngddynt a'r briffordd. Pan oedd y ddau ar y cae isaf, daeth gwraig i'w cyfarfod, a phasiodd hwynt gan edrych yn graff ar Siams. Nid aeth heibio deirllath na throdd hi yn ei hol gan waeddi—
"Sut yr wyt ti Siams?"
Cafodd yr hwsmon fraw, oherwydd adnabyddodd y llais ar unwaith fel llais Marged ei chwaer, er nad oedd wedi ei gweld ers oddeutu ugain mlynedd.
"O ble doist ti mor sydyn?" gofynnai Siams. "O'r dre y dois i heddyw," ebe hithau, "mi gyrhaeddais Lerpwl echdoe."
"Lle mae Hywel gin ti?" gofynnai'r hwsmon yn bryderus—"ddoist ti a fo drosodd?"
"Na, dydi o ddim hefo fi," ebe'r wraig.
Daeth tristwch a siomiant fel cwmwl dros wyneb yr hwsmon.
"Raid i ti ddim pryderu dim yn 'i gylch o," ebe hithau; "mae o mewn cartre rhagorol, er nad ydw i fy hun ddim wedi 'i weld o ers pymtheng mlynedd, ond mi fyddaf yn clywed 'i hanes o. Fel y gwyddost ti, yr oedd gin i deulu mawr fy hun—saith o blant—a phan aethon ni drosodd i'r America mi fu acw lawer iawn o afiechyd yn y teulu, a 'roeddan ni wedi mynd yn dlawd ddigon. Mi gynygiodd gwr a gwraig, oedd yn byw yn ymyl, gymryd Hywel i'w fagu, ac felly fu. Mi wyddwn y cai o well chware teg gynyn nhw nag oedd yn bosibl iddo gael gin i. 'Doedd o ddim ond chwech oed ar y pryd. Yn fuan iawn wedyn mi symudodd y teulu gannoedd o filltiroedd i'r gorllewin, a weles i mo Hywel wedyn, ond mi glywes o fewn llai na blwyddyn yn ol 'i fod o yn dda iawn 'i le."
'Roedd y dyn ifanc yn clywed yr ymddiddan, a gofynnodd,—
"Bachgen Siams, ond mod i wedi 'i gymryd o i'w fagu pan aeth Siams yn weddw, ac wedi mynd i ffwrdd i'r 'Merica a Hywel hefo fy mhlant fy hun."
"Faint ydi'i oed o 'rwan?" gofynnai'r dyn ifanc.
Mae o newydd adael un ar hugain oed." ebe Siams. "Mi faswn i yn leicio 'i weld o," ebe wedyn. Ac wrth feddwl am ei blentyn 'roedd hiraeth yn cloi o gwmpas calon yr hwsmon. Diraen oedd ei wisg—gwisg hwsmon ar ddiwrnod gwaith ydoedd—ond 'roedd ei lawes lom yn sychu dagrau gonest ddigon. "A mae gia i ofn 'i weld o hefyd, rhag ofn y bydda gyno fo gwilydd o hona i, a fynta wedi cael 'i fagu gan bobol mor daclus;" a rhoddodd Siams ei bwys yn ei ofid ar war y merlyn, a chuddiodd ei wyneb yn ei fwng. Disgynnodd Hywel Ellis o'r cyfrwy, dododd ei law ar ysgwydd Siams, ac ebe efe wrtho,—
"Raid i ti ddim ofni, Siams; fydd gin dy fachgen di byth gywilydd o honot. Mi ddoi di o hyd iddo ryw ddiwrnod; mi fydd gin ti dipyn o feddwl ohono fo, ond mi fydd gyno fo lawn mwy o feddwl o honot ti. Sut mae hi arnat ti am faco heddyw? Mi ddo i a pheth i ti o'r llan."
Dychwelodd Siams gyda'i chwaer, ac aeth Hywel i'w daith.
Pan oedd yn tynnu at unarddeg y bore, cyrchai dynion o bob cyfeiriad tua Bryn Marian. 'Roedd yr arwerthwr wedi cyrraedd yno yn gynnar, a daeth gŵr y Swan yno yn lled brydlon hefyd. Gofalodd y tafarnwr am anfon baril o gwrw yno, yn bennaf er mwyn ceisio ennill ei gymdogion i anghofio ei waith yn gyrru ar y weddw.
Pan ddaeth amser dechreu, safodd yr arwerthwr ar ei draed ar gadair gyferbyn â ffenest llofft Lewys Dafydd, a medrai y tyrchwr, ar ol symud y gwely, weld a chlywed popeth.
Pwtyn o ddyn llyfndew oedd gŵr y mwrthwl, llyfn i wyneb, a llithrig ei dafod. Ar ol galw am osteg,—
"Mi ddechreuwn ni," meddai, "ne mi fydd y baril cwrw wedi sychu cyn i ni ddechre." ('Roedd Robin y gyrrwr yn yr act o waghau y jwg).
"Robin." ebe fe, "dos i nol y gwartheg hysbion."
"Dyma un," ebe'r gyrrwr, gan ddal y jwg a'i wyneb yn isa'.
"Mae weather glass y teetotals yn codi, Robin," ebe gŵr y Swan, "mae gin i ofn y cei di dywydd sych cyn y nos."
Tywydd sych weles i yn y Swan bob amser os na fydda gin i bres yn 'y mhoced," ebe yntau.
Pan ddechreuwyd gwerthu, ac i gynygion ddod o ffenest y llofft, methai yr arwerthwr ddirnad o ba le y deuent.
"O ble daeth y cynnyg yna?" gofynnai.
"O'r galari," ebe Wil.
"Pwy ydi o, a pham mae yn cynnyg o'r fan acw?" holai'r gwerthwr drachefn.
"Yn 'i wely mae o," meddai rhywun.
"Pam na chodiff o i gynnyg?" ebe yntau. "Fedar o ddim cynnyg codi," ebe'r gwas bach. "Paid a threio bod yn ddoniol, machgen i," ebe'r gwerthwr.
"Ne 'rwyt ti'n bound o ddiweddu d'oes yn ocsiwniar," gorffennai Robin y gyrrwr.
(Mr. Morgan y Swan yn sibrwd rhywbeth yng nghlust yr arwerthwr).
"Fedra i ddim derbyn y cynnyg diweddaf yna."
"Rydw i yn barod i fynd yn feichia i Lewys Dafydd am hynny o ddyled yr aiff o iddi hi heddyw,' ebe llais o'r dorf—llais Hywel Ellis—a tharawyd yr anifail i lawr i'r tyrchwr.
Prynnodd Lewys Dafydd bron bopeth oedd yn werth ei brynnu, a chwythodd ystorm yr arwerthiant dros Bryn Marian heb ond prin gyffwrdd âg amgylchiadau Gwen Ifan. Mae yn wir fod gŵr y Swan wedi mynnu cael pob ceiniog farnai—yn gam neu gymwys—yn ddyledus iddo, ond nid oedd phiol ei gysur er hynny yn llawn. Ar y program oedd ganddo yn ei feddwl ei hun, yr oedd item felly, "Troi Gwen Ifan i'r comin, a ffarmio Bryn Marian fy hunan." Ond nid eiddo gŵr y Swan ei ffordd Aeth adref yn fawr ei siomiant, ac nis gwelwyd ef yn y gegin yr hwyrnos honno—yr oedd yn euog o'r hyn oedd wedi wneud, ac yn llidiog oherwydd yr hyn a fethodd wneud. Ond er na chafodd ddigon o wroldeb i wynebu ei gwsmeriaid yn y gegin, methai beidio eistedd mewn ystafell gerllaw i wrando ei achos yn cael ei drafod gan y rheithwyr oedd wedi ymgynnull o gwmpas ei fwrdd. A da y gwnaeth yn gwrando, a da fuasai iddo ddal ar y gwir lawer oedd yn gymysg â'u baldordd.
Yr un adeg yr oedd yna gwmni wedi ymgynnull yn llofft y tyrchwr i ymgomio mewn llawenydd, ac i ddathlu'r ffaith nad oedd yr arwerthiant ddim wedi peri chwalfa ond ar gynlluniau y tafarnwr. Nid oedd y cynulliad yn un trefnus iawn i'r olwg, ac nid oedd yn hawdd iddo fod, oherwydd yr oedd yr eisteddleoedd yn brin. Lled-orweddai y tyrchwr gan bwyso ar ei benelin, a hawdd canfod mai efe oedd yr arwr. Nid oedd wedi ei ethol yn ffurfiol fel cadeirydd, ond hynny o lywyddu oedd yn angenrheidiol, y tyrchwr oedd yn ei wneud. 'Roedd Hywel Ellis yn bresennol, yn eistedd wrth ochr gwely y tyrchwr, ar gadair a'i chefn wedi torri. Eisteddai Nel ar y ffenestr, a gorweddai'r hwsmon a'i draed dros yr erchwyn ar draws ei wely ei hun. 'Roedd y gwas bach yn gwneud penyd trwy orwedd ar wastad ei gefn ar gaead bocs dillad yr hwsmon, ei ddwylaw ymhleth yn obennydd dan ei wegil, a'i draed i fyny ar bren traws traed y gwely. Yr oedd pawb arall o'r cwmni, gydag un eithriad, yn orlawn o lawenydd. Yr unig un oedd yn fwy syn a thawedog nag arfer oedd Siams, a diau mai dychweliad ei chwaer o'r America heb ei fachgen oedd yn peri hynny. Hywel Ellis oedd yr unig un o'r cwmni a wyddai amcan beth oedd ar feddwl Siams. Yr oedd efe yn dyst o'r cyfarfyddiad yn y cae dan y tŷ, ac o'r ymddiddan a fu rhyngddynt. Gwyddai ychwaneg na hynny erbyn hyn. 'Roedd yr hyn glywsai yn y 'sgwrs rhwng yr hwsmon a'i chwaer wedi deffro ei chwilfrydedd—a deffrowyd mwy na'i chwilfrydedd yn y fargen. 'Roedd ganddo reswm da dros fynnu clywed rhagor o'r hanes, ac ni chafodd un—rhyw drafferth i gael ymgom gyda chwaer Siams o'r neilltu pan oedd mwrthwl yr arwerthwr yn tynnu sylw pawb arall. Yng nghwrs yr ymddiddan hwnnw deallodd i sicrwydd mai efe ei hun oedd Hywel, mab Siams, a llwyddodd i gael yr hanes a'r profion heb i gymaint a chysgod amheuaeth ddod dros feddwl ei fodryb. Ni ddaethai y fath beth i'w feddwl yntau hyd y bore hwnnw. Gwyddai o'r blaen nad oedd Mr. Ellis y stiwart yn ewythr iddo ond mewn enw, a gwyddai beth o hanes ei blentyndod, ac wrth roddi yr hyn a wyddai ef ymhen yr hyn a adroddai chwaer Siams, nid oedd lle i amheuaeth. Oherwydd y darganfyddiad newydd hwn, yr oedd awyrgylch llofft y tyrchwr yn dygymod yn dda â Hywel y noson honno. Yr oedd wedi dysgu hoffi Siams cyn hyn, ac wedi dysgu hoffi Nel yr un pryd; ond yn awr yr oedd yna deimladau newyddion yn deffro ynddo tuag at yr hwsmon, a chyn iddo sylweddoli yr oedd yna deimladau newyddion wedi deffro yn ei fynwes tuag at y ferch hefyd. Yr oedd yn benderfynol, fodd bynnag, o gadw y peth iddo ei hun am ysbaid o amser, ac ymdaflodd i hwyl a llawenydd yr ymddiddan y noson honno cystal a neb ohonynt.
Treuliwyd amser difyr i adolygu helyntion y dwthwn hwnnw—a diwrnod cyfoethog mewn helyntion yw dydd arwerthiant. Bu Wil yn diddori y gynulleidfa trwy sefyll ar y bocs i werthu gwahanol bethau yn null y gŵr fu wrth y gwaith yn ystod y dydd; ail adroddai jokes methiantus yr arwerthwr, a chymerai arno ddisgwyl am gynygion oddiwrth bâr 'sgidiau y tyrchwr, y rhai oedd wedi eu hanrhydeddu trwy gael eu crogi ar hoelen uwchben y grât. Ar ol cogio gwerthu amryw bethau, sylwodd yr arwerthwr fod Siams braidd yn bendrist, ac ebe fe,—
"'Rydan ni 'rwan yn dwad at y peth ola' o'r stoc, a'r peth gora hefyd—Siams yr hwsmon. Pa gynnyg rowch chi i mi am dano fo? Un bai sy' arno fo—dim ond un—ond mae hwnnw yn un difrifol; 'naiff o ddim cymyd gin y gwas bach. Faint ga' i ddeyd?"
Gan nad oedd neb yn cynnyg, trodd yr arwerthwr at Hywel Ellis,—
"Newch chi ddim cynnyg rhywfaint am dano fo, Syr? Mi fasa wrth 'i fodd yn smocio cigars yn y'ch lle chi pan fydd gynoch chi ddim amser. Dowch; faint ydach chi'n barod i gynnyg?"
"Mil o bunna," ebe Hywel, a'i ben i lawr, a thipyn o grac yn ei lais.
"Dim ond mil o bunna wedi 'i cynnyg," ebe Wil," a hynny am un heliodd bedwar cant o bunna mewn dwyawr yn y tywyllwch, a chollodd o ddim ond 'i wynt a phâr o 'sgidia wrth 'neud."
"Mil arall atyn' nhw oherwydd y bai sydd arno fo," ebe Nel.
"Dwy fil,—dim ond dwy fil wedi'i cynnyg," ebe'r arwerthwr.
"Paid, Wil bach," ebe Siams, "'dydw i ddim mewn hwyl heno." A dechreuodd yr hwsmon adrodd hanes ei gyfarfyddiad â'i chwaer, ac ni fedrai gelu ei siomedigaeth am nad oedd ei fachgen gyda hi. 'Roedd yr arwerthwr, erbyn hyn, wedi disgyn oddiar ei lwyfan, a golwg euog ac edifeiriol arno. Symudodd Nel megis heb yn wybod iddi ei hun i eistedd ar y gwely wrth ochr Siams.
"Faint o hanes y bachgen gest ti ganddi hi?" gofynnai y tyrchwr.
"'Chydig iawn," ebe yntau, "ddim ond fod pobol daclus iawn wedi 'i gymyd o i'w fagu, a rheini wedi symud gannoedd o filltiroedd ymhellach. Mae o yn cael pob chware teg, a phob manteision." Ac edrychai'r hwsmon ar ei ddiwyg a'i ddwylo geirwon ei hunan, ac ofnai fod y fagwraeth daclus honno y sonnid am dani wedi gosod pellter mwy na môr y Werydd rhyngddo â'i blentyn.
"Pam na sgwenni di ato fo?" gofynnai Nel. "Ynte?" meddai wedyn, gan edrych gyda llygaid llawn o gydymdeimlad i gyfeiriad Hywel Ellis am ategiad i'r hyn awgrymai.
"Fedra i ddim 'sgwennu," ebe'r hwsmon.
"Mi 'neiff Nel sgwennu yn dy le di," ebe Lewys Dafydd.
"O'r gora," ebe'r ferch, ac ymaith a hi i chwilio am yr offer angenrheidiol.
"Tyd a phapur i minna," gwaeddai'r gwas bach; "os wyt ti yn mynd i sgwennu dros Siams, mi sgwenna inna ato fo dros y cyfarfod yma."
Cyn pen ychydig funudau 'roedd y ferch ar ei gliniau wrth y ffenestr, a Wil ar ei liniau wrth y bocs dillad yn ysgrifennu epistolau at Hywel. 'Roedd y gwasanaeth hwn yn dyfnhau ac yn dwyshau hiraeth yr hwsmon, ac yng ngwasgfa ei enaid aeth yntau hefyd ar ei liniau, heb na phin na phapur, fel y bu lawer canwaith cynt, i yrru at ei fachgen trwy route arall. Cododd Wil yn ddigon gonest pan welodd yr hwsmon ar ei liniau, oherwydd nid oedd wedi galw am bapur ond mewn 'smaldod; a chredai nad oedd yn weddus iddo ef chware ysgrifennu ar ei liniau a'r hwsmon ar ei liniau yn ei ymyl mewn cymaint ymdrech meddwl. Daliodd y ferch i ysgrifennu, ac yr oedd yr olwg ar yr hwsmon yn gymorth iddi. 'Roedd Gwen Ifan wedi dod i mewn i'r ystafell erbyn hyn, a Lewys Dafydd yn ceisio egluro'r amgylchiadau iddi hi. 'Roedd Hywel Ellis a'i ben rhwng ei ddwylaw, ac yn ymddangos fel dyn wedi mynd i ystum na fedrai ddod ohono. Cododd Nel cyn hir gan ddweyd: "Mi orffenna i y llythyr yma yfory." Cymerodd Hywel Ellis y cyfle y pryd hwnnw i godi i hwylio i fynd adre, a chododd yr hwsmon yr un pryd.
Ar ol diolch i'r tyrchwr am lywyddu, a dweyd "Nos dawch" wrth Nel, trodd Hywel Ellis at yr hwsmon, ac ebe efe wrtho: "Well i ti ddwad i ddanfon tipyn arna' i, Siams."
Dof, syr," ebe yntau, "mi fydd yn dda gin i gael dwad." Ac aeth y ddau allan i'r tywyllwch gyda'i gilydd.
PENNOD IX.
GWYNFYD SIAMS AC ERAILL.

ER cystal fuasai gan Hywel dywallt cyfrinach ei galon i glust Siams pan yn cerdded yn ei fraich dan fantell nos o Fryn Marian, nis gwnaeth. Ac am yr hwsmon, ni wyddai ef ddim o helynt meddwl ei gydymaith; yn unig gwyddai iddo gael tâl da am ei hebrwng ar ffurf ysgydwad llaw serchog a chwarter o faco; ac yr oedd yr arwyddion hynny o garedigrwydd nai y stiwart braidd yn fwy nag a fedrai ei galon ddal, a meddiannu ei hun.
Ar ol dweyd "Nos dawch," a phocedu'r ddeilen, dychwelodd tuag adre gan ddwbl ryfeddu bachgen mor glên oedd Hywel Ellis. Chwedleuai wrtho ei hun am dano; safai ambell waith yn y tywyllwch i ddotio ar yr adgof am ei garedigrwydd, ac wrth ei anwylo felly ehedodd ei feddwl gyda sydynrwydd y fellten at ei fachgen ei hun—y planhigyn bychan blanasai rhagluniaeth unwaith yn ei ardd, ond fod yr un llaw, i ryw bwrpas, wedi ei drawsblannu tros y Werydd i ardd rhywun arall. Meddyliai yn hiraethus mor felus fuasai cael eistedd dan gysgod hwnnw, a'i wylio yn tyfu ac yn ffrwytho, ac yng nghwmni y meddyliau hynny y cyrhaeddodd yn ol i'w ystafell, ac ni chafodd lonydd ganddynt nes i gwsg gerdded yn lladradaidd hyd ei obennydd i gloi pyrth y ddinas, ac i roi heddwch i'r preswylydd,
Aeth Hywel adref, ond nid yn ysgafn galon. Petrusai yn fawr a wnaethai yn iawn wrth beidio datguddio ei hun i Siams, a pharai hynny lawer o boen meddwl iddo; ond credai hefyd nad oedd raid iddo gywilyddio oherwydd yr hyn a'i cymhellai i dewi a son. Gweledigaeth ei ewyrth ac Elin barodd iddo gadw y gyfrinach iddo ei hun. Gwyddai yn dda fod llinynnau tyneraf calon Mr. Ellis, y stiwart, wedi ymgenglu, i fesur mawr, am dano ef. Yr oedd wedi ei noddi a'i feithrin ym mhob modd—gwnaeth ef yn gystal a mab iddo ei hun, ac yr oedd yna lawer o deimladau cyfatebol wedi deffro ynddo yntau dan y driniaeth. Naturiol oedd i Hywel felly ofni i'w ewyrth—pe deuai y wir berthynas i'r amlwg—edrych arno ei hun fel yn colli mab—ei unig fab—yn ei hen ddyddiau; ac yr oedd yn awyddus iawn i osgoi ei arwain i'r brofedigaeth honno.
Yr oedd yna ystyriaeth arall hefyd yn peri iddo fod yn araf i ddatguddio ei gyfrinach. Yr oedd a'i fryd ar ennill calon Elin, a'i hennill yn deg ac anrhydeddus. Ni fynnai fynd i mewn i'r ddinas gaerog honno ond trwy fwlch wedi ei wneud ei hun. Ond oherwydd fod y ferch mor eithriadol hoff o'r hwsmon, ofnai pe deallai hithau ei fod yn fab i Siams, y buasai dôr ei chalon yn agor iddo ar unwaith o led y pen, ac nid oedd yn barod i fynd i mewn ar delerau felly. O ganlyniad, er fod yna lais cryf o'i fewn yn crefu arno hysbysu ei hun, yr oedd yna leisiau ereill, fwy nag un, yn erfyn arno ymdroi tipyn cyn codi y llen. Oedi wnaeth, ac ni bu edifar ganddo. Tra bu yn oedi, daeth serch â'i llaw dyner ei hun i agor pyrth calon y ferch, a mynnodd angeu, er gwaethaf pob ymdrech o eiddo Hywel, agor pyrth y bedd i'w ewyrth. Yn ystod y cyfnod pan yr oedd y goleuni hwn dan lestr, daliodd Hywel ar bob cyfle i anwylo Siams, ac i roddi ufudd-dod llawn i lais ei natur yn ei holl ymwneud âg ef Bu yn garedig wrtho ym mhob modd, ac eithrio y byddai weithiau yn ei boeni er mwyn y pleser o weld Nel yn ei amddiffyn. Taerai y gwas bach yn fynych, gan herian ar yr hwsmon—yn enwedig os byddai y ferch o fewn clyw—mai yng nghysgod Nel yr oedd o yn cael sylw Hywel; na fuasai Hywel yn gwneud dim hefo fo oni bai fod o wedi ffeindio fod yna un ochr i galon Nel yn feddalach lawer na'r llall, ac mai'r ochr 'gosa at Siams oedd honno. Fe dyfodd y garwriaeth rhwng Hywel ac Elin yn ddistaw a naturiol 'Roedd Gwen Ifan ar y cyntaf dipyn yn bryderus, ond wedi iddi adnabod Hywel yn well, nid oedd ganddi unrhyw bryder wrth ei wylio yn ennill calon y ferch.
Daeth gyrfa bywyd Lewys Dafydd, yr hen dyrchwr, i ben yn sydyn tua'r pryd hwn. Bu farw, nid ym Mryn Marian, ond yn ei fwthyn ei hun. Gwellasai yn weddol oddiwrth effeithiau y ddamwain, a dewisodd fynd i fyw fel cynt i'w gaban yn y mynydd; ond cyn hir gafaelodd rhyw afiechyd ynddo, a bu farw heb ond ychydig o gystudd. Yn ei ewyllys gadawodd bopeth oedd ganddo i Elin, ac eithrio un canpunt adawodd i Siams fel degwm am weini wrth yr allor bob bore yng nghegin Bryn Marian.
Pan fu farw Mr. Ellis, y stiwart, daeth y fferm a brynasai, ynghyda'r stoc oedd arni, yn eiddo i Hywel, a bu y cymdogion yn ddigon caredig a meddylgar i gyhoeddi gostegion eu priodas yn hollol ddiymdroi, a thybiodd y ddeuddyn na wnaent bellach ddim yn well na chyflawni y broffwydoliaeth oedd yn cerdded trwy'r fro.
Daeth Hywel i Fryn Marian un prynhawn i ddechreu trafod tipyn ar y trefniadau, gydag Elin. Eisteddai y ddau ym mharlwr y ffrynt.
"Dacw chi, Hywel, fel y mae Siams wrthi hi," ebe'r ferch, gan edrych trwy'r ffenestr.
'Roedd yr hwsmon, yr hwn oedd yn gwisgo llaid fel dilledyn, mewn ymdrech galed yn gwthio berfâd o faip i fyny i bwt o allt. Cododd Hywel i'w weld, a daliodd i edrych arno yn hir, ond ni ddywedodd ddim.
"Hwyrach y gwelwch chi o yn ffolineb yna i," ebe hi," ond mae gin i awydd garw cael Siams i'r briodas; ma o yma, fel y gwyddoch chwi, ers blynyddoedd cyn fy ngeni i. Ydach chi yn cofio, Hywel, mai hefo fo y dois i i'ch golwg chi gynta, a mi wnes fy ngora i beidio dwad, ond mi fynnodd Siams gael 'i ffordd, wrth lwc."

Cyn i Siams sylweddoli. 'roedd y gath yn disgyn yn daclus dros ei ben ar ben y llwyth maip. [Tud. 146.]
Hywel yn plygu gan chwerthin wrth wylio yr hwsmon trwy'r ffenestr. Yr oedd wedi gorlwytho y ferfa â maip, a'r rheini fel creaduriaid byw direidas yn neidio i lawr yn gyplau, ac yn ei gwadnu hi i'r goriwaered. Siams ar ol cyrchu'r afradloniaid, yn eistedd ar fraich y ferfa am fygyn.
"Druan o Siams," ebe'r ferch wedyn, yn fawr 'i helbul bob amser, ond mae o wedi bod yn garedig ac anwyl wrtha i ar hyd fy oes. Ydach chi yn fodlon i mi ddwad i'r capel i'ch cyfarfod chi ddiwrnod y briodas yn 'i fraich o?"
"Rydw i yn fwy na bodlon," ebe yntau, "'rydw i yn falch. Mae yn well gin i am y'ch bwriad chi nag y medra i ddeyd wrthoch chi, a nag y medrwch. chitha ddirnad," a chymerodd y ferch i'w freichiau. Ymhen tipyn gofynnodd Hywel yn sydyn,—
"Ga inna neud Wil yn was priodas?" Ac ychwanegodd: "Mi wyddoch mai John Owen oeddwn i wedi fwriadu unwaith, ond mi leiciwn i yn fy nghalon gael Wil i'r briodas hefo Siams."
Ar hynny gwelent y gwas bach trwy'r ffenestr yn cerdded ar flaena 'i draed tu ol i Siams pan oedd yn eistedd ar fraich y ferfa, a chanddo gath yn ei ddwylo. Cyn i Siams sylweddoli, 'roedd y gath yn disgyn yn daclus dros ei ben ar ben y llwyth maip; ac yn ei sbonc oddiyno, cymhellodd pws nifer liosog o'r pengryniaid i 'madael o'u lle, a chychwyn yn fywiog i lawr yr allt. 'Roedd osgo bygythiol ar yr hwsmon, ac osgo anedifeiriol ar y bychan, ond daeth cyfnewidiad buan. Ni fu Wil fawr o dro yn hel y maip i gyd, a mynnodd yn y diwedd hwylio'r ferfa i ben ei thaith yn lle yr hwsmon.
"Dyna nhw," ebe Hywel, "'ro'n i yn meddwl mai fel yna bydda hi. Mae Wil wedi poeni llawer ar enaid Siams, ond y neb mae Wil yn garu mae o'n boeni. Rhaid i ni gael y ddau i'r briodas."
'Roedd llawenydd yr hwsmon a'r gwas bach pan glywsant am y trefniadau, yn ol tystiolaeth Gwen Ifan, yn warthus. "Yr oedd yn amhosibl," ebe hi, " cyfri yr un o'r ddau yn hollol sobor, ddydd na nos, am y pythefnos cyn y briodas." Ond hawdd cedd maddeu iddynt.
Gwawriodd bore'r briodas o'r diwedd, a thua hanner awr wedi naw cychwynnodd cwmni o Fryn Marian tua'r pentref. Cerddai'r briodasferch ym mraich Siams, yr hwn oedd yn diolch o'i galon fod Wil y bore hwn yn perthyn i adran arall o'r fyddin dan arweiniad Hywel. Yn y sêt fawr yn eu derbyn yr oedd Hywel a Wil, a chynulleidfa luosog o geraint a chymdogion yn llanw'r capel. Methai Siams beidio cadw ei lygad ar y gwas bach yn ystod y gwasanaeth gan ofn ei ddireidi arferol, ond yr oedd holl ystum ac agwedd y gwas priodas yn hollol briodol i'r amgylchiadau. Aeth y gwasanaeth drosodd, a chyn hir eisteddodd yr holl gwmni wrth fwrdd y wledd ym Mryn Marian. 'Roedd yno bawb yn eu hwyliau goreu, er y gallasai llygad craff ganfod arwyddion pryder ac anesmwythyd yn wyneb ac ysgogiadau y priodfab.
Ar derfyn y wledd, cododd Hywel ar ei draed, a dywedodd:
'Anwyl gyfeillion, cyn i ni godi oddiwrth y bwrdd, mi garwn i ddweyd gair. 'Rydan ni'n dau yn ddiolchgar iawn i bawb o honoch chi am gyd-lawenhau hefo ni. Gwyddech fod calon Elin a nghalon inna wedi dechra nesu at 'i gilydd ers tro, ac erbyn heddyw dyma ni yn un. Chawsom ni ddim rhwystr oddiar law neb o honoch—yn wir, mi gawsom lawer o help gan rai sydd yma (yr hwsmon a'r gwas bach yn nodio yn gyhuddol ar ei gilydd). Cyfeirio 'rydw i yn arbennig at Siams a Wil. Mae'n dyled ni i'r ddau yn fawr iawn. Rhaid i Wil aros am 'i dâl yn hir, mae arna' i ofn; ond mae gin i awydd talu i Siams 'rwan. (Wil yn dehongli hon fel proffwydoliaeth am faich o faco i'r hwsmon). Aeth Hywel rhagddo, gan edrych ym myw llygad Siams, yr hwn oedd yn eistedd gyferbyn, yr ochr arall i'r bwrdd. "'Rydw i wedi arfer dy alw di wrth yr enw Siams, a chroeso i Wil a phawb arall sydd yma dy alw di felly eto, ond rhaid i mi, bellach, ro'i enw arall arnat ti."
"Mr. Parri," ebe Wil.
Nage, nid Mr. Parri ychwaith."
Estynnodd Hywel ei ddeheulaw ar draws y bwrdd i gyfeiriad Siams, a phan gafodd afael yn neheulaw arw yr hwsmon,—"Nhad!" meddai, a cheisiodd ddweyd rhywbeth wedyn, ond methodd.
Tybiodd Wil mai smalio yr oedd, a bu bron iddo fynd dan y bwrdd gan chwerthin. Y joke ore glywodd o yn 'i fywyd, a phwy fasa'n meddwl—Hywel yn medru actio mor dda. Cafodd yr hwsmon fraw ar y cyntaf oherwydd rhywbeth oedd yn llais ac yng ngwasgiad llaw Hywel; ond wrth weld dir-dyniadau wyneb gwamal y gwas bach, tybiodd yntau ei fod yn gweld y joke, a dechreuodd chwerthin, ac ymunodd y rhan fwyaf o'r cwmni.
'Rydw i yn gweld," ebe Hywel, "fod pawb o honoch chi, a Wil yn enwedig, yn meddwl mai cellwair 'rydw i, ond y gwir ydi o, dyma nhad—Hywel 'i fachgen o ydw i."
Deallodd yr holl gwmni yn awr oddiwrth ddi-frifwch Hywel mai nid cellwair yr oedd. Sobrodd Wil gyda sydynrwydd ergyd, dechreuodd ei lygad lenwi, cododd, aeth allan, ac yn syth i'r ystabl; eisteddodd ar ymyl y preseb, a wylodd ei lawenydd i fwng y ferlen. Bu'r gwirionedd yn hwy yn gwawrio ar feddwl Siams ei hun nag ar feddwl neb arall o'r cwmni. Daeth math o hurtrwydd drosto am ennyd—edrychai yn syn a phell ar Hywel, yna gollyngodd ei ben ar y bwrdd, ond daliodd ei afael yn dyn yn llaw ei fachgen.
Y briodasferch, yn ddrylliog gan lawenydd, yn hawlio cusan gan fab Siams, fel y galwai Hywel, ac yn prysuro i'r ochr arall i hawlio yr un peth gan ei thad, ac i'w wahodd i fyw atynt yn eu cartref newydd.
CONWY:
ARGRAFFWYD GAN R. E. JONES A'I FRODYR.

Nodiadau
[golygu]- ↑ Mae bardd yn cael ei eni, nid ei wneud.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.
|
|
Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1931, ac mae felly yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi. | |