Clodforaf fì fy Arglwydd Iôn
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Clodforaf fì fy Arglwydd Iôn yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
Clodforaf fì fy Arglwydd Iôn,
O'm calon ac yn hollol;
Ei ryfeddodau rhof ar led,
Ac mae'n ddyled eu canmol.
Byddaf fi lawen yn dy glod,
Ac ynot gorfoleddaf;
I'th enw ; O Dduw ! y canaf glod,
Wyt hynod, y Goruchaf.
Gwna'r Arglwydd hefyd hyn wrth raid,
Trueiniaid fe'u hamddiffyn;
A noddfa fydd yr rhain mewn pryd,
Pan fo caledfyd arnyn
A phawb a'th edwyn, rhônt eu cred,
A'u holl ymddiried arnat;
Cans ni addewaist, Arglwydd, neb
A geisio ei wyneb atat.