Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Bartley, John

Oddi ar Wicidestun
Cynhwysiad Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Bulkeley, Thomas John

LIEUT. JOHN BARTLEY.

Darlun yw'r uchod o John Bartley, mab i Mr. John Bartley a Mrs. Bartley, 50 Orme Road, Bangor. Mewn Swyddfa Cyfreithiwr yr oedd ef cyn ymuno ohono â'r Royal Welsh Fusiliers, Chwef. 8, 1916. Anfonwyd ef drosodd i faes y rhyfel ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn. Yno clwyfwyd ef yn beryglus, ac anfonwyd ef i'r wlad hon i wella, a bu yma am wyth mis. Wedi hynny aeth drosodd yr ail waith Ion. 7, 1918. Dyrchafwyd ef yn Lieut., ond mewn brwydr yng Nghoedwig Le Catery, collodd ei fywyd pan yn 27 oed.

"Na farna Dduw â'th reswm noeth,
Ond cred Ei addewid râd;
Tu cefn i len ragluniaeth ddoeth
Mae'n cuddio Gwyneb Tad."


Nodiadau

[golygu]