Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Bulkeley, Thomas John

Oddi ar Wicidestun
Bartley, John Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Davies, Hugh William

PRIVATE THOMAS JOHN BULKELEY.

Mae yr uchod yn ddarlun gwir ragorol o fab y diweddar Mr. William Bulkeley a Mrs. Bulkeley, 35 Tai'r Mynydd, Bangor, Ymunodd ef ym mis Awst, 1914, o fythgofiadwy fis, ac anfonwyd ef allan i Ffrainc cyn diwedd y flwyddyn. Cyn hir daeth yn ol yn dioddef oddi wrth yr oerni a'r rhew. Aeth allan drachefn ddechreu y flwyddyn 1916. Mawrth 4, 1917, mewn brwydr ofnadwy, syrthiodd pan yn 28 mlwydd oed.

"Na chais esmwythder yn y byd,
Rhaid dwyn o hyd ryw groesau,
Dioddef ddarfu'th dad a'th daid,
A dioddef raid i tithau,"


Nodiadau

[golygu]