Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Eaton, John

Oddi ar Wicidestun
Davies, William Richard Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Edwards, John Arthur

DRIVER JOHN EATON

Mab i'r diweddar Mr. a Mrs. John Eaton, 25 Hendrewen Road, Bangor, oedd y Driver Eaton.

Dirgelwch Rhagluniaeth.
Mewn myfyrdod dwys un diwrnod
Uwch ben cyflwr du y byd.
Drwy y rhyfel a'i effeithiau
Ocheneidiau drwyddo'i gyd.
Yna saethodd i fy meddwl
Am lywodraeth fanwl Duw,
Ar gymylau a thywyllwch
Ar y meirw, ynghyd â'r byw.
Annirnadwy yw ei lwybrau
Nid adwaenir yn y môr,
Felly hefyd trwy'r rhyfeloedd
Anhawdd deall ffyrdd yr Ior.
Ac er treiddio yn dragwyddol
I ddirgelwch Ion a'i waith,
Syndod fyddant wedi'r cyfan
I dragwyddol oesau maith.

—W. J. OWEN. (Afallon.)


Nodiadau

[golygu]