Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Evans, E Gordon

Oddi ar Wicidestun
Edwards, Richard Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Foulkes, John

GUNNER EVAN GORDON EVANS

Mab i Mrs. Evans, Bodawen, Glanadda, oedd y cyfaill ieuanc hwn. Gwrandawodd ar wahoddiad y Brenin, a cherddodd yn wrol, o'i wirfodd, i warchffosydd y gyflafan fawr. Gyda'r Royal Garrison Artillery y gwasanaethai ef o Chwef., 1915 hyd Gorff., 1917, pan y collodd ei fywyd mewn ymosodiad ofnadwy yn agos i Ypres, pan yn 22 mlwydd oed. Ystyrid ef gan y swyddogion yn filwr dewr, yn ffafryn y gatrawd, yn gyfaill siriol a charedig i bawb.

Byd y galar ydyw'r ddaear,
Angau'n clwyfo, dyna'r gwir,
Cymer rai yn ieuanc ddigon
Cofir hyn gan lu yn hir.
O mor hyfryd ydyw meddwl
Wrth gefnu â'r daearol dŷ,
Mae rhyw symud mae'r preswylydd
I dŷ gwell y nefoedd fry.

—W. J. OWEN. Afallon.


Nodiadau

[golygu]