Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Griffith, Hugh
Gwedd
| ← Griffith, George | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Griffith, Hugh P → |

PRIVATE HUGH GRIFFITH
Mab i Mr. Hugh Griffith a Mrs. Mary Griffith, 6 Hendrewen Road, Glanadda, ydoedd y brawd hwn. Ymunodd Hugh â'r South Wales Borderers, a chafodd yntau ei alw o fyd y gofidiau, a swn rhyfeloedd, i fyd na chlywir swn corn yn galw i frwydro. Collodd ei fywyd ym mrwydr fythgofiadwy Mons, pan yn 34 mlwydd oed.
Bendigedig byth i'r Nefoedd,
Oddi yno tarddodd hedd,
A dedwyddwch i bechadur
Oedd yn gorwedd yn ei fedd:
Anfeidroldeb ddaeth ei hunan,
At un aflan fel myfi,—
Fe amlygodd rym ei gariad,
Un prynhawn ar Galfari."