Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Hughes, John

Oddi ar Wicidestun
Hughes, Hugh Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Hughes, John Idwal

PRIVATE JOHN HUGHES

Mab oedd yr uchod i'r diweddar Mr. a Mrs. John Hughes, 11 Albert Street, Bangor. Ymunodd ef â'r adran honno o'r fyddin a adwaenir fel y King's Liverpool, Hydref 1916, a chollodd ei fywyd ym Mehefin 14, 1917, pan yn 40 mlwydd oed.

"Byr yw f'amser ar y ddaear
Pen y dalar sydd gerllaw;
O mor hapus fydd cael bywyd
Dedwydd yn y byd a ddaw;
Ni bydd yno wylo dagrau,
Galarnadau mam na thad;
Ofn y bedd a'i lwnc ofnadwy
O fewn trothwy Tŷ fy Nhad."


Nodiadau

[golygu]