Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Jones, Gwilym A T
Gwedd
| ← Jones, Griffith | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Jones, Hugh → |

LIEUT GWILYM ARTHUR TEGID JONES, BSc
Mab annwyl a hoff i Mr. a Mrs. L. D. Jones, 3 Edge Hill, Bangor, ydoedd yr uchod. Addysgwyd ef yn Ysgol y Garth, a bu yn ysgol enwog y Friars, oddi yno aeth i Ysgol Ganolraddol Aberdare, a Choleg y Brifysgol Bangor, lle yr enillodd y radd o B.Sc. yn y flwyddyn 1909. Bu yn Athro Gwyddoniaeth yn Ysgol Ramadegol Chelmsford, Stourbridge, a Saffron Walden. Ymunodd yn wirfoddol a gwasanaethodd gyda'r Expeditionary Force yn Ffrainc a Flanders. Cymerodd ran ym mrwydrau Vimy Ridge a Messines Ridge, ond syrthiodd mewn brwydr yn agos i Ypres Hydref 25, 1917, a chladdwyd ef y dydd canlynol yn y Gladdfa Brydeinig, pan yn 31 mlwydd oed.