Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Jones, John Ellis
Gwedd
| ← Jones, Humphrey | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Jones, John Gwilym → |

GUNNER JOHN ELLIS JONES
Priod Mrs. Mary Jones, 367 Carnarvon Road, Glanadda, Bangor, ydoedd y cyfaill sydd a'i ddarlun uchod. Ar y 13eg o fis Mai, 1915, yr ymunodd ef â'r Royal Garrison Artillery. Pan o dan ddisgyblaeth cafodd anwyd trwm, pa un a drodd yn ddarfodedigaeth, a bu yn Ysbyty Milwrol Glanadda am rai misoedd, lle y bu farw Ionawr 9, 1919, a chladdwyd ef yng Nglanadda, Bangor, yn 38 mlwydd oed. Canodd lawer ar y penill:
"Os dof fi trwy'r anialwch,
Rhyfeddaf fyth Dy ras,
A'm henaid i lonyddwch
'R'ol ganwaith golli'r maes,
A'r maglau wedi eu torri,
A'm traed yn gwbl rydd;
Os gwelir fi fel hynny,
Tragwyddol foli a fydd.