Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Jones, John Richard
Gwedd
| ← Jones, John James | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Jones, Owen Elias → |

GUNNER JOHN RICHARD JONES.
Darlun yw hwn o ail fab Mr. a Mrs. John M. Jones, Gwynfor, Friars Road, Bangor. Ymunodd y brawd hwn ar doriad y rhyfel allan gyda'r rhai cyntaf yn y ddinas â'r Royal Garrison Artillery, Awst, 1914. Anfonwyd ef allan i Ffrainc Chwef., 1916, yn nechreu Meh., 1917, daeth adref am ychydig orffwys, yna dychwelodd yn ol. Cyrhaeddodd yno ar y 24 o'r mis, ac yn blygeiniol iawn bore 25 fe'i clwyfwyd mor ddifrifol mewn brwydr yn agos i Lens, fel y bu farw y dydd canlynol, Meh. 26, 1917, a chladdwyd yr hyn oedd farwol ohono ym mynwent Choegues, yn Ffrainc, yn 28 mlwydd oed. Yr oedd yn fab ufudd, yn gyfaill cywir, ac yn gristion gloyw.