Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Jones, Richard John
Gwedd
| ← Jones, Robert | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Jones, Thomas → |

MORWR RICHARD JOHN JONES.
Priod hawddgar Mrs. Elizabeth Jones, Oxford House, High Street, Bangor, ydoedd yr uchod. Collodd ei fywyd yn suddiad yr agerlong Connemara, yr hon a suddwyd gan y gelynion, y tu allan i Greenore, nos Wener, Tach. 3, 1916. Yn ffodus cafwyd ei gorff, a dygwyd ef drosodd fore y dydd Iau canlynol i'w osod i orwedd ym Mynwent Glanadda, Bangor, yr un diwrnod. Yr oedd yn 64 mlwydd oed.
Ust! fy mhlentyn, taw, distawa,
Gwybydd di mai Fi sydd Dduw,
Ymdawela yn f'ewyllys,
Cred i'm gofal tra fo'ch byw.
Os rhaid ymladd â gelynion,
Fi, dy nerth fydd o dy blaid;
Er gwaned wyt, cei rym i sefyll
A Fi'n gymorth wrth bob rhaid."