Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Jones, Robert
Gwedd
| ← Jones, Evan | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Jones, Richard John → |

LANCE CORPORAL ROBERT JONES.
Darlun yw hwn o fachgen annwyl a hoffus Mrs. Jones, 26 Brick Street, Bangor. Gweithiai yn flaenorol i'r rhyfel yn Eureka Slate Works, Bangor. A'r 6th Royal Welsh Fusiliers yr ymunodd ef Awst 21, 1914. Yr oedd yn un o arwyr y Dardanelles a Gallipoli. Cafodd ymosodiad o'r Dysentery, ac anfonwyd ef drosodd i'r wlad hon, a bu mewn ysbyty yn Oxford am amser. Wedi gwella anfonwyd ef drosodd drachefn i'r Aifft, ac mewn brwydr Mawrth 26, 1917, syrthiodd, pan yn 21 mlwydd oed.
Er grym y stormydd llawenhawn
Os Iesu a adwaenom,
Cawn lanio yn y porthladd clyd
Ryw ddydd tudraw i'r afon.
—W. J. OWEN. (Afallon.)