Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Jones, Thomas

Oddi ar Wicidestun
Jones, Richard John Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Jones, William

GUNNER THOMAS JONES.

Mab oedd yr un sydd a'i ddarlun uchod i Mr. a Mrs. Richard Jones, 30 Upper Garth Road, Bangor. Ymunodd â'r R.F.A., Hydref, 1916; aeth allan i'r Armagedon ofnadwy Ebrill 20, 1917. Mewn brwydr Hydref 3, 1917, yn agos i Ypres, collodd ei fywyd trwy ffrwydr-belen y gelynion, pan yn 31 mlwydd oed.

Dyma un o'i hoff emynau:

"Ar ol gofidiau dyrus daith,
A gorthrymderau filoedd,
Hyfrydol falm o nefol ryw
I'r wan, flinedig, fynwes yw
Cawn orffwys yn y nefoedd."


Nodiadau

[golygu]