Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Jones, William

Oddi ar Wicidestun
Jones, Thomas Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Jones, William H

LANCE CORPORAL WILLIAM JONES.

Dyma ddarlun o fab ieuengaf Mr. a Mrs. John Jones, 26 James Street, Bangor. Cyn ymuno â'r fyddin yr oedd William yn gwasanaethu ar Dining Cars y London and North Western Railway. Ymunodd â'r Royal Dublin Fusiliers; aeth drosodd i Ffrainc, a chlwyfwyd ef yn drwm yn ei fraich a'i law, a bu mewn ysbyty yn Manchester am amser yn gwella. Wedi hynny aeth allan drachefn, a syrthiodd yntau i fedd y milwr, pa un a gafodd ym mynwent Communal Extension, Aire, pan yn 25 mlwydd oed.

Safodd dros ei wlad yn wrol,
Cafodd fedd mewn estron dir;
Ond ei fywyd sydd yn aros
Ac fe erys yma'n hir.

—W. J. OWEN. (Afallon.)


Nodiadau

[golygu]