Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Jones, William H

Oddi ar Wicidestun
Jones, William Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Jones, William Humphrey

PRIVATE WILLIAM HUGH JONES.

Dyma ddarlun o fab i Mrs. Elizabeth Jones, 49 Ambrose Street, Bangor. Cyn ymuno â'r fyddin yr oedd yng ngwasanaeth cwmni y London and North Western. Ond ar doriad allan y rhyfel clywodd sŵn y galw, ac ar unwaith, yn wirfoddol, ymunodd â'r 6th Royal Welsh Fusiliers, sef Hydref 23, 1914. Anfonwyd ef drosodd, a bu ym mrwydr y Dardanelles, bu hefyd yn yr Aifft, a gwlad Canaan. Ond gorfu iddo yntau roddi yr arfau i arall, a chladdwyd ef mewn mynwent filwrol yn agos i Beersheba, pan yn 34 mlwydd oed.

Nodiadau

[golygu]