Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Jones, William Humphrey

Oddi ar Wicidestun
Jones, William H Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Jenkins, David Llewelyn

MORWR WILLIAM HUMPHREY JONES.

Magwyd y bachgen ieuanc hawddgar ac addawol y mae ei ddarlun uchod gan ei daid a'i nain, Mr. a Mrs. Thomas Jones, 9 Tai'r Mynydd, Bangor. Yr oedd Mr. Thomas Jones yn dra adnabyddus yn y ddinas fel Ex-Sergeant Police. Bu Willie am bedair blynedd yn ysgol Genedlaethol Bangor. Collodd yntau ei fywyd trwy suddiad y Connemara, Tach. 3, 1916, pan yn 17 oed. Canodd lawer ar y pennill:

"Er nad yw'm cnawd ond gwellt,
A'm hesgyrn ddim ond clai,
Mi ganaf yn y mellt
Maddeuodd Duw fy mai.
Mae Craig yr oesoedd dan fy nhraed,
A'r mellt yn diffodd yn y gwaed."

—William Jones (Ehedydd Iâl)


Nodiadau

[golygu]