Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Miller, Hugh

Oddi ar Wicidestun
Lewis, William R Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Mummery, John William

PRIVATE HUGH MILLER.

Mab annwyl a hoffus ydoedd yr uchod i'r diweddar Mr. William a Mrs. Jane Miller, 16 Park Hill, Bangor. Ymunodd Hugh, Gorff. 2, 1917, â'r Border Regiment, ac a aeth allan i Ffrainc, Mawrth 17, 1918, ond mewn brwydr boeth ym Mryn Kimel, Ebrill 10, 1918, fe syrthiodd yntau, yn 23 mlwydd oed. Yr oedd yn fachgen hoffus gan bawb, a chredwn iddo gefnu ar wlad y gâd a'i wyneb ar wlad na cheir sŵn gynnau na magnelau yn ei chyffiniau, i fro a thrigfannau mwy cydnaws lawer â'i ysbryd tawel.

Nodiadau

[golygu]