Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Owen, Owen John
Gwedd
| ← Mummery, John William | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Owen, Thomas → |

PRIVATE OWEN JOHN OWEN.
Dyma ddarlun o fab ieuengaf y diweddar Mr. a Mrs. Hugh Owen, 3 Fron Square, Bangor. Yng ngwasanaeth cwmni y London and North Western Railway yr oedd ef cyn ymuno, a chyda'r 4th Territorial Batt. (Welsh Regt.) yr ymunodd, ac yr aeth allan i Ffrainc, Awst, 1917. Wedi ymosodiad ym mharthau Cambrai, Tachwedd 25, yn yr un flwyddyn, daeth gair ei fod ar goll, ym mhen amser daeth gair yn hysbysu ddarfod iddo golli ei fywyd yn y frwydr uchod, pan yn 21 mlwydd oed.