Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Owen, Thomas
| ← Owen, Owen John | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Owen, Walter Glyn → |

LANCE CORPORAL THOMAS OWEN.
Dyn ieuanc hawddgar a siriol oedd y cyfaill hwn, a mab i'r diweddar Mr. a Mrs. Owen Owen, 18 Edmund Street, Hirael, Bangor. Dygwyd ef i fyny yn Saer Meini (Stone Mason), a bu yn gweithio ar Goleg y Brif Ysgol ym Mangor, a'r Adelphi Hotel, Lerpwl. Ymunodd â'r milwyr fel Royal Engineer, Mawrth 20, 1916. Wedi bod o dan ddisgyblaeth mewn gwahanol fannau, cysylltwyd ef âg adran neilltuol ohonynt. Anfonwyd ef drosodd i Ffrainc, Medi 21, 1916, a phan yn cyflawni ei ddyletswyddau yno collodd ei fywyd Awst 10, 1918, a chladdwyd ef y dydd canlynol mewn lle o'r enw Bienvillers, cydrhwng Albert ag Arras, pan yn 35 mlwydd oed.
'Collwyd brawd o blith y brodyr,
Collwyd milwr dewr dros Grist;
Llawer calon sydd dan ddolur
Yn alarus ac yn drist."