Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Owen, William Glyn
Gwedd
| ← Owen, Walter Glyn | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Parry, David John → |

PRIVATE WILLIAM GLYN OWEN.
Bachgen ieuanc hawddgar a siriol i Mr. a Mrs. John Owen, 29 Caellepa, Bangor, oedd yr un y mae ei ddarlun uchod. Yng ngwasanaeth y London and North Western Railway yr oedd ef cyn ymuno â'r fyddin. Aeth allan i Ffrainc gyda'r 17th Welsh Regiment, ac mewn ymosodiad mawr mewn lle yn agos i Cambrai, o'r enw Bouvlon Wood, collodd ei fywyd, pan yn 21 mlwydd oed.
"Ymdawelwch dan y croesau
A'r gofidiau ddaw i'ch rhan,
Fe ddaw'r cyfan oll i'r goleu
Goleu dwyfol yn y man."