Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Parry, John Henry
Gwedd
| ← Parry, Frederick | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Pritchard, John → |

PRIVATE JOHN HENRY PARRY.
Dyma ddarlun o fab annwyl i Mr. John Parry a Mrs. Grace Parry, Llaneilian House, Carnarvon Road, Bangor. Bu John yng ngwasanaeth y Co-operative Stores yn y ddinas hon am ddeng mlynedd cyn ymuno â'r Welsh Regiment. Aeth allan i India, cafodd y Pneumonia yno, a fu farw, a chladdwyd yng Nghladdfa Brydeinig Kirkee, India, Hydref 15, 1918, yn 25 mlwydd oed. Yn un o'i lythyrau adref dymunai ar i'w chwiorydd ddysgu y pennill canlynol:
"Er maint yw chwerw boen y byd,
Mi rof fy mryd ar Iesu,
Ac er pob cystudd trwm a loes,
Mi dreulia'm hoes i'w garu."