Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Pritchard, John
| ← Parry, John Henry | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Pritchard, William → |

LIEUTENANT JOHN PRITCHARD.
Collodd y brawd annwyl hwn ei rieni yn ieuanc. Brawd ydoedd i Miss Pritchard, 11 Friars Road, Bangor. Ar ddiwedd ei gwrs athrofaol disglair yng Ngholeg y Brifysgol, ymunodd â'r 13th Royal Welsh Fusiliers, Ebrill, 1915. Bu o dan ddisgyblaeth mewn gwahanol fannau, megis Llandudno, Winchester, yna anfonwyd ef drosodd i Ffrainc, lle y dyrchafwyd ef yn fuan i fod yn Lieutenant. Clwyfwyd ef yn drwm, ac anfonwyd ef drosodd i wella, a bu mewn ysbyty ym Mharis. Anfonwyd ef drosodd drachefn, a chlwyfwyd ef yr ail waith, gwellhaodd ac anfonwyd ef drosodd y drydedd waith, a chollodd ei fywyd, a chladdwyd ef yn " Bard College " Cemetery, Boesinge, Ffrainc, pan yn 23 mlwydd oed.
"Mae'n gwylied llwch y llawr,
Yn trefnu llu y nef,
Cyflawna'r cwbl oll
O'i gyngor Ef."