Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Pritchard, William

Oddi ar Wicidestun
Pritchard, John Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Prytherch, Thomas

GUNNER WILLIE PRITCHARD.

Darlun yw hwn o fab ieuengaf Mr. a Mrs. Henry Pritchard, 43 Orme Rd., Bangor. Yr oedd ef yn cael ei alw i fyny ar doriad allan y rhyfel, Awst, 1914. Ymunodd â'r 1st Royal Garrison Artillery. Aeth allan i'r frwydr fawr, a bu mewn ymosodiadau ofnadwy hyd Meh., 1917, pan y syrthiodd yntau, ac y gadawodd fyd rhyfel, cystudd a phoen am byth, yn 23 mlwydd oed, ac y'i claddwyd ym mynwent Sains-un-Johelle.

"Cwsg, filwr, cwsg."

Nodiadau

[golygu]