Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Prytherch, Thomas

Oddi ar Wicidestun
Pritchard, William Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Richards, Gwilym Owen

PRIVATE THOMAS PRYTHERCH.

Mab i Mr. a Mrs. John Prytherch, 13 Mason Street, Bangor, oedd ef. Ar Ionawr 5, 1915, yr ymunodd ef â'r Royal Welsh Fusiliers; aeth allan i Ffrainc Rhag. 1, yr un flwyddyn. Ym mhen amser daeth drosodd yma yn dioddef oddi wrth y Trench Fever. Anfonwyd ef allan drachefn i Mesopotamia, a hynny Chwef. 8, 1917. Pan yno cafodd Sun Stroke, a bu farw, a chladdwyd ef ym mynwent Canjudide, lle heb fod ymhell iawn o Bagdad, Gor. 17, 1917, pan yn 30 mlwydd oed.

Nodiadau

[golygu]