Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Roberts, Benjamin, 18 Hughes Street
Gwedd
| ← Richards, Gwilym Owen | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Roberts, Benjamin, 13 Hendrewen Road → |

PRIVATE BENJAMIN ROBERTS. (1)
Annwyl briod Mrs. Hannah Roberts, 18 Hughes Street, diweddar o'r Sailor's Institute, Bangor, yw yr uchod. Gwasanaethai cyn ymuno yn swyddfa Ystad y Penrhyn. Ymunodd â'r Royal Welsh Fusiliers; anfonwyd ef allan i Ffrainc, a chollodd ei fywyd Tachwedd 11, 1918, yn 39 mlwydd oed.
Do fe glywais son am gartref,
Cartref dedwydd iawn sydd fry;
Cartref yr henuriaid disglaer,
Cartref yr angylaidd lu.
Cartref na bydd son am ryfel,
Cartref na bydd neb yn drist,
Cartref na bydd un yn "Missing,"
Cartref annwyl Iesu Grist.
—W. J. OWEN, (Afallon.)