Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Roberts, Cadwaladr Glyn

Oddi ar Wicidestun
Roberts, Benjamin, 13 Hendrewen Road Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Roberts, James

LIEUTENANT CADWALADR GLYN ROBERTS.

Darlun yw hwn o fab y Parchedig Peter Jones Roberts, a Mrs. Roberts, Bangor. Derbyniodd ei addysg yn Ysgolion Kingswood, Bath, Friars, ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol Bangor.; Yn Nhachwedd, 1914, fe ymunodd â'r Royal Welsh Fusiliers, yn fuan dyrchafwyd ef yn Lieutenant, ac ar ol brwydr Loos gwnaed ef yn Adjutant. Dyma fel yr ysgrifennai un o'i athrawon am dano: "He was a youth of more than ordinary intellectual ability, frank and lovable in disposition, and of sterling character." Ond yn y frwydr fawr gyda'r Prussian Guards mewn lle o'r enw La Boisselle, syrthiodd yntau yn aberth, Gorff. 3, 1916, pan yn 21 mlwydd oed.

"Yr Arglwydd yw fy Mugail,
O! fendigedig ffaith,
Cynhyrcha wir orfoledd
I'm henaid ar fy nhaith."


Nodiadau

[golygu]