Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Roberts, David John
Gwedd
| ← Roberts, James | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Roberts, Richard S → |

CORPORAL DAVID JOHN ROBERTS.
Mab i'r diweddar Mr. a Mrs. John Edward Roberts, 87 Gladstone Terrace, Bangor, gynt o Derwen Deg, Llanberis, oedd yr uchod. Ymunodd â'r 16th Royal Welsh Fusiliers, Mawrth 1915, aeth allan i Ffrainc, ac mewn brwydr fawr a adwaenir fel brwydr Mametz Wood, Gorff. 11, 1916, collodd yntau ei fywyd, pan yn 21 mlwydd oed.
"Beth sydd drwm i edrych arno?
Blodeu'n gwywo cyn yr haf;
Syrthio'i lawr oddiar y coedydd,
Ar foreuddydd fel yn glâf;
Hyn sydd drwm, ond canmil trymach,
Gweld gŵr ieuanc hardd ei wedd,
O dalentau disglaer enwog
Ym machludo yn y bedd."