Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Roberts, Richard S
Gwedd
| ← Roberts, David John | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Roberts, Robert → |

LANCE CORPORAL RICHARD SAMUEL ROBERTS.
Wele ddarlun o fab y diweddar Mr. a Mrs. Robert Roberts, 15 Victoria Street, Bangor, gynt o 12 Vaynol Terrace, Ebenezer. Ymunodd ef â'r Royal Welsh Fusiliers Ionawr, 1915. Pan o dan ddisgyblaeth yn y wlad hon cyfarfu â damwain dost, fel y bu yn ofynnol torri ei aelod ymaith. Bu mewn ysbyty yn Llundain a mannau eraill, ond daeth ei yrfa ef i ben Ionawr 10, 1920, ac a gladdwyd ym mynwent Llandinorwic pan yn 29 mlwydd oed.
Rwyn penderfynu mynd yn gloff
I mewn i deyrnas nef,
Yn well na chadw'm melus chwant
A cholli Ei gwmni Ef."