Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Roberts, Thomas John, 14 Garden Square

Oddi ar Wicidestun
Roberts, Thomas John, 18 Park Street Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Roberts, Thomas Henry

PRIVATE THOMAS JOHN ROBERTS. (2).

Dyma ddarlun o'r Morwr ieuanc a gollodd ei fywyd ar fwrdd yr "H.M.S. Good Hope," yr hon a suddwyd gan y gelynion Tachwedd 1, 1914. Mab oedd Thomas i Mr. John a Mrs. Jane Roberts, 14 Garden Square, Bangor. Yr oedd ynddo lawer o bethau canmoladwy iawn; yr oedd er yn fachgen yn aelod ffyddlon a selog o'r Royal Naval Temperance Society.

Mewn amdo gwyn o donnau,
Dan gyffro erch y lli,
Y Morwr hwn a roddwn
O Dad i'th ofal Di.

—W. J. OWEN. (Afallon.)


Nodiadau

[golygu]