Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Shankland, Llewelyn ap Thomas
Gwedd
| ← Roberts, William Morris | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Thomas, Charles → |

LIEUTENANT LLEWELYN AP THOMAS SHANKLAND.
Dyma ddarlun da o fab annwyl y Parch. Thomas Shankland, M.A., a Mrs. Shankland, Brynawelon, Bangor. Addysgwyd Llewelyn yn Ysgolion y Friars, Bangor, a Chlynog Fawr yn Arfon, ac wedi hynny yng Ngholeg y Brifysgol. Pan dorrodd y rhyfel allan penderfynodd ymuno â'r O.T.C. perthynol i'r Coleg, er mwyn cyfaddasu ei hun i amddiffyn ei wlad rhag y gelynion. Hydref, 1914, ymunodd yn wirfoddol â'r fyddin, aeth allan i Ffrainc, a bu mewn amryw frwydrau poethion, a chlwyfwyd ef fwy nag unwaith, ond Tachwedd 24, 1917, clwyfwyd ef mor drwm fel y bu farw Tachwedd 27, 1917, pan yn 26 mlwydd oed. Bachgen siriol a ffraeth, gonest a gwrol.