Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Walford, William John
| ← Thomas, Thomas | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Wilkinson, Arthur E → |

GUNNER WILLIAM JOHN WALFORD (Gwilym Menai).
Gwilym Menai ydoedd fab i Mr. a Mrs. Walford, Dean Street, Bangor, a phriod Mrs. Walford, 208 Carnarvon Road, Bangor. Pan allan yn y rhyfel mawr cafodd ei wenwyno gan nwy (gassed), a hunodd mewn Ysbyty yn Tooting, Llundain, ar y 26ain o Dachwedd, 1917, a chladdwyd ef ym mynwent Glanadda, Bangor, yn 32 mlwydd oed. Tystiolaeth pawb a'i hadnabu ydyw ei fod yn un o fechgyn siriolaf a hawddgaraf y ddinas, ac yn meddu talentau gwych, a chysegrodd ei dalent fel adroddwr i roddi mwynhad ac adeiladaeth ym mhob cyfeiriad, a chynorthwyodd lawer mewn achosion teilwng. Cyrhaeddodd binacl ei yrfa fel adroddwr trwy ennill y gamp yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn y flwyddyn 1915. Gwelir ei le yn wag iawn ar y llwyfan, yn nhy ei dad a'i fam, ond yn wacaf ar ei aelwyd ei hun gan ei briod a'i fachgen Alwyn. Dyma fel yr ysgrifennai cyfaill, "Bydd melys fy myfyr am oriau euraidd ei gwmni tra yma, ac os edwina'r blodau ar ei fedd, bydd i serch a gwlith hiraeth gadw'r adgofion hynaws am dano'n fyw gyfnod hir."