Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Wilkinson, Herbert C

Oddi ar Wicidestun
Wilkinson, Arthur E Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Williams, David

GUNNER HERBERT CROWTHER WILKINSON.

Dyma fab arall i Sergeant Major Wilkinson, Bangor. Gwasanaethodd ef ei wlad gyda'r Royal Garrison Artillery. Bu farw o'i glwyfau Tach. 7, 1918, yn 34 mlwydd oed.

Trist newyddion glywir heddyw
Drwy'r awyrgylch ar bob llaw;
Swn ofnadwy croch-fagnelau
Lanwa fronau lu a braw.

Ofni swn y llythyr gludydd
Yn dynesu at y drws;
Eto'n disgwyl, er yn ofnus,
Dyna hanes bronnau dwys.

—W. J. OWEN. (Afallon.)


Nodiadau

[golygu]