Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Williams, David
Gwedd
| ← Wilkinson, Herbert C | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Williams, David Richard → |

PRIVATE DAVID WILLIAMS.
Yr oedd David yn fab i Mr. John a Mrs. Margaret Williams, 489 Carnarvon Road, Bangor. Yr oedd y cyfaill ieuanc hwn wedi ymfudo i Canada, a phan y torrodd y rhyfel allan clybu yntau yn y fan honno gorn y gâd yn galw i'r frwydr, ac ymunodd ar unwaith â'r 83rd Canadian Batt. Collodd ei fywyd ym mrwydr fawr a bythgofiadwy y Somme, Hydref 8, 1916, pan yn 28 mlwydd oed.
Angeu, gelyn y ddynoliaeth
Yw dy enw trwy bob gwlad,
Ti orchfygaist gadfridogion,
O'r rhai dewraf yn y gad,
Hen ac ieuanc
Syrthiant dan dy ddyrnod di.
—W. J. OWEN. (Afallon.)