Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Williams, Hugh Harris
Gwedd
| ← Williams, David | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Williams, John James → |

PRIVATE HUGH HARRIS WILLIAMS.
Dyma ddarlun o fachgen ieuanc hoffus ac annwyl iawn gan ei rieni, Mr. a Mrs. William Williams, 10 Strand Street, Hirael, Bangor. Gyda'r King's Liverpool Regiment yr anfonwyd y cyfaill hwn i Ffrainc, Mawrth 14, 1917, ni bu yno ond ychydig ddyddiau, a thorrodd ei iechyd i lawr, ac anfonwyd ef yn ol i'r wlad hon, ac i'r Ysbyty Milwrol yn Halifax, lle y bu farw Mai 14, 1917, ac a gladdwyd ym mynwent gyhoeddus Glanadda, Bangor, y dydd Iau canlynol, yn 35 mlwydd oed.
Yn dy law, er mewn tywyllwch,
Ni bydd ofn o dan fy mron;
Er mor arw yw'r anialwch,
Teithio mlaen a wnaf yn llon.
Byth nid ofnaf
Yng nghwmpeini Brenin nef.
—W. J. OWEN. (Afallon.)