Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Williams, John James
Gwedd
| ← Williams, David Richard | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Williams, Robert → |

LANCE CORPORAL JOHN JAMES WILLIAMS.
Mab oedd efe i'r diweddar Mr. a Mrs. Richard Williams, 4 Penchwintan Terrace, Bangor. Ymunodd y cyfaill hwn Awst 21, 1916, â'r 17th Manchester Regiment. Aeth allan i faes y rhyfel Mawrth y flwyddyn ganlynol, ac ym mhen y mis yr oedd yn garcharor gan y gelynion. Pan yno. cafodd Diphtheria, o'r hwn y bu farw Hydref 10, 1918, yn 29 mlwydd oed.
Arglwydd grasol, dyro gymorth
I ni wneud d'ewyllys Di,
A gwna ninnau oll yn gymwys
I'r gymdeithas ddedwydd fry."