Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Williams, Robert

Oddi ar Wicidestun
Williams, John James Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Williams, Samuel M

PRIVATE ROBERT WILLIAMS.

Mab i'r diweddar Mr. Robert Williams a Mrs. Mary Williams, 254 Carnarvon Road, Bangor, oedd yr uchod. Gyda'r Royal Welsh Fusiliers yr ymunodd yntau hefyd Chwef. 1915, ac anfonwyd ef allan Mai 5, 1916. Bu yn cymeryd rhan mewn amryw frwydrau pwysig, ond ym mrwydr Loos, Hydref 17, 1917, syrthiodd yntau pan yn 21 mlwydd oed.

"O mor hardd yw'r bywyd moesol,
Gwych, urddasol, gweddus yw;
Gwyn yw byd yr enaid hwnnw,
Sydd yn gwisgo delw Duw;
Gwaed y cymod dros yr euog,
Aberth Iawnol, Awdur hedd,
Hwn yw bywyd y credadyn
Hwn a'i cwyd i'r lan o'r bedd."


Nodiadau

[golygu]