Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Williams, Williams, 14 Water Street
Gwedd
| ← Williams, Thomas Glyn | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Williams, Williams, 48 Ambrose Street → |

PRIVATE WILLIAM WILLIAMS (1)
Darlun yw hwn o fachgen ieuanc annwyl a hoffus, mab i Mr. a Mrs. Jeremiah Williams, 14 Water Street, Bangor. Dilyn ei alwedigaeth fel gof yr oedd Willie pan dorrodd y rhyfel allan, ac i Brymbo Steel Works yr aeth i weithio. Cymerwyd ef yn wael o'r Pneumonia, a bu farw Chwef. 26, 1919, pan newydd adael ei 20 oed, ac a gladdwyd ym mynwent Glanadda, Bangor.
Ein meddwl ni oedd cael mwynhau
Ei gwmni am flynyddau,
Ond wele heddyw dyna'r ffaith,
Galarwn yn ein dagrau.
—W. J. OWEN.(Afallon.)