Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Williams, Williams John, 11 Union Street
Gwedd
| ← Williams, Williams, 48 Ambrose Street | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Williams, William John, 18 Frondeg Street → |

PRIVATE WILLIAM JOHN WILLIAMS. (1)
Wele ddarlun o fab Mr. a Mrs. John Williams, 11 Union Street, Bangor. Ymunodd â'r 16th Royal Welsh Fusiliers, Rhagfyr 26, 1914, ac anfonwyd ef allan i Ffrainc ym mhen y flwyddyn, sef Rhag. 23, 1915, ac mewn ymosodiad yn Mametz Wood, Gorff. 10, 1916, collodd ei fywyd pan yn 27 mlwydd oed.
Tawel bellach ymostyngaf
I Ragluniaeth fawr y nef,
Dan ei hedyn ymgysgodaf
Nes el heibio'r storom gref;
Ior ei hunan yn ymguddfa
Yn y dymestl fawr a chwyth;
Craig yr Oesoedd fo'm diangfa
Dyna fan na syfla byth.
—W. J. OWEN. (Afallon)