Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Jones, Owen Elias

← Jones, John Richard Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Jones, Richard →

PRIVATE OWEN ELIAS JONES.

Dyma ddarlun o fab i Mr. a Mrs. Owen Elias Jones, 19 Park Hill, Bangor. Ymunodd Owen â'r Royal Welsh Fusiliers, Awst, 1915, ac anfonwyd ef allan ym mhen chwech wythnos. Bu mewn amryw frwydrau, a chollodd ei fywyd ym mrwydr fawr y Mametz Wood, Gorff., 1916, pan yn 24 mlwydd oed.

Pan fydd stormydd oer marwolaeth,
Stormydd yr Iorddonen gref:
'N lluchio'i thonau erch i fyny
Fel mynyddoedd hyd y nef,
Ni raid ofni
Os yw'r Sylfaen ar y Graig.

—W. J. OWEN. (Afallon.}


Nodiadau

[golygu]