Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Lewis, William R

← Lewis, Llewelyn Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Miller, Hugh →

STAFF SERGEANT WILLIAM ROBERT LEWIS.

Wele ddarlun o briod hawddgar Mrs. G. Lewis, 54 Park Hill, Bangor. Dyma un arall a ymunodd ar doriad y rhyfel, sef yn Awst, 1914. Aeth drosodd i Ffrainc Mawrth, 1916, a bu mewn brwydr yn agos i Arras, Ebrill, 1916. Anfonwyd ef adref yn wael ym mhen y mis, a bu mewn amryw Ysbytai, megis Queen Mary's Military, Whalley, a Beechwood, Newport, ac yn Sanatorium West Wales, ond i ddim pwrpas; daeth adref i Fangor, a bu farw Ebrill 9, 1918, pan yn 42 mlwydd oed.

'Cysged hûn yn dawel
Dros enyd yn y grafel,
Nes datod trefn y rhod.


Nodiadau

[golygu]