Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Owen, Walter Glyn
Gwedd
| ← Owen, Thomas | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Owen, William Glyn → |

PRIVATE WALTER GLYN OWEN.
Bachgen ieuanc a gair da iddo gan bawb a'i hadwaenai ydoedd y cyfaill hwn, a mab Mr. a Mrs. Thomas Owen, 91 Gladstone Terrace, Bangor. Chwefror 6, 1917, yr ymunodd ef â'r King's Liverpool, y mis dilynol anfonwyd ef drosodd i Ffrainc, ac ym mis Hydref, un diwrnod ar ddeg cyn cyhoeddi cadoediad, syrthiodd yntau yn aberth, a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Sin, pan yn 21 mlwydd oed, Tachwedd 1, 1918.
"Fe fyn angau ein gorchfygu,
Dwyn i fedd pob perchen chwyth;
Trech na'r bedd ryw ddydd fydd bywyd,
Bywyd a deyrnasa byth."