Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Parry, David John
Gwedd
| ← Owen, William Glyn | Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18 gan William John Owen (Afallon) |
Parry, Frederick → |

PRIVATE DAVID JOHN PARRY.
Wele ddarlun o fab y diweddar Mr. a Mrs. Edward Watkin Parry, 88 Highbury, Park Hill, Bangor. Perthynol i'r 8th King's Shropshires yr oedd ef, gyda pha un yr ymunodd ar doriad y rhyfel allan Awst, 1914. Aeth allan i Ffrainc, Chwefror, 1915, anfonwyd ef oddi yno i Salonica, lle y clwyfwyd ef mor fawr fel y bu farw o'i glwyfau ym mhen ychydig ddyddiau, sef Medi 30ain, 1918, yn 30 mlwydd oed.
"A yw'r angor wedi bachu
Yn y graig tu fewn i'r llen?
Fel na syfla'r un o'r seiliau
Wrth ein dwyn i'r nefoedd wen."