Neidio i'r cynnwys

Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18/Richards, Gwilym Owen

← Prytherch, Thomas Cofeb y Dewrion (Heroes' Memorial) Bangor 1914-18

gan William John Owen (Afallon)

Roberts, Benjamin, 18 Hughes Street →

LIEUTENANT GWILYM OWEN RICHARDS.

Wele ddarlun rhagorol o fab annwyl i Mr. William Richards, Fish Merchant, a Mrs. Richards, Bodifir, Bangor. Derbyniodd Lieutenant Richards ei addysg yn ysgol enwog Friars, Bangor; wedi hynny aeth i wasanaeth y London City and Midland Bank, Colwyn Bay. Yn y flwyddyn 1915, ymunodd â'r Royal Welsh Fusiliers. Mewn ymosodiad Ebrill 22, 1918, clwyfwyd yn beryglus, fel y bu farw bore tranoeth mewn ysbyty pan yn 21 mlwydd oed.

Atgyfodiad ein Gwaredwr
Yn gonewerwr ar y bedd,
Ydyw'm sail yr atgyfodiad
Teulu Iesu yr un wedd.

Llu o'r rhai sydd heddyw'n gorwedd
Draw ym maes y rhyfel mawr,
Ond a elwir oll rhyw fore
Adref at yr Iesu Mawr.

—W. J. OWEN. (Afallon)


Nodiadau

[golygu]